Cwestiynau Heb Rybudd gan Arweinwyr y Pleidiau

Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:52 pm ar 2 Gorffennaf 2024.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Rhun ap Iorwerth Rhun ap Iorwerth Plaid Cymru 1:52, 2 Gorffennaf 2024

(Cyfieithwyd)

Mae hanes gwleidyddol Cymru ers bron i 30 mlynedd yn un o ddweud 'ie': 'ie' i gael ein Senedd ein hunain ym 1997, 'ie' mawr i roi dannedd go iawn iddo yn 2011. 'Ie' gan ein bod ni wedi gweld y gallwn ni gyflawni cymaint mwy o gael yr arfau i wneud y gwaith. Cyn yr etholiad cyffredinol ddydd Iau, mae Plaid Cymru yn dweud 'ie' i gyllid canlyniadol HS2 a allai drawsnewid seilwaith trafnidiaeth yng Nghymru. Rydym ni'n dweud 'ie' i ddatganoli plismona a chyfiawnder i roi system gyfiawnder fwy effeithiol i Gymru. Mae'n 'ie' gennym ni ar ddatganoli Ystad y Goron i wneud y gorau o'n hadnoddau naturiol. Mae'n 'ie' ar bob un o'r rhain, oherwydd mae gennym ni agwedd o allu gwneud, cred nad dyma'r gorau y gall pethau fod i Gymru. Ond er gwaethaf y ffaith, ar yr holl faterion hynny, bod hyd yn oed Aelodau Llafur yng Nghymru yn y Senedd hon yn cytuno â ni, pam mae Syr Keir Starmer mor benderfynol o ddweud 'na' wrth bob un ohonyn nhw a 'na' i Gymru yn 2024?