8. Dadl ar Ddeiseb P-06-1437, 'Tyfu, nid torri, cyllid y Llyfrgell Genedlaethol, Amgueddfa Cymru a’r Comisiwn Brenhinol'

– Senedd Cymru am 3:38 pm ar 26 Mehefin 2024.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of David Rees David Rees Llafur 3:38, 26 Mehefin 2024

Eitem 8 yw'r ddadl ar ddeiseb P-06-1437, 'Tyfu, nid torri, cyllid y Llyfrgell Genedlaethol, Amgueddfa Cymru a’r Comisiwn Brenhinol'. A galwaf ar Rhianon Passmore i wneud y cynnig ar ran y pwyllgor. 

Cynnig NDM8623 Rhianon Passmore

Cynnig bod y Senedd:

Yn nodi’r ddeiseb 'P-06-1437 Tyfu, nid torri, cyllid y Llyfrgell Genedlaethol, Amgueddfa Cymru a'r Comisiwn Brenhinol' a gasglodd 12,075 o lofnodion.

Cynigiwyd y cynnig.

Photo of Rhianon Passmore Rhianon Passmore Llafur 3:38, 26 Mehefin 2024

(Cyfieithwyd)

Diolch, Ddirprwy Lywydd. Ar ran y Pwyllgor Deisebau, diolch am y cyfle i gyflwyno'r ddadl hon heddiw ar bwnc na fydd yn ddieithr i'r Aelodau yma. Cyflwynwyd y ddeiseb hon gan Susan Jane Jones-Davies, gyda 12,075 o lofnodion. Mae'r ddeiseb yn darllen: 'Tyfu, nid torri, cyllid y Llyfrgell Genedlaethol, Amgueddfa Cymru a'r Comisiwn Brenhinol'.

'Galwn ar Lywodraeth Cymru i dyfu gwariant ar sefydliadau sy’n diogelu treftadaeth a hanes Cymru—Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Amgueddfa Cymru a’r Comisiwn Brenhinol—ac nid torri’r cyllid o 10.5-22.3 y cant. Mae’r sefydliadau yma yn gwarchod  hanes a diwylliant ein cenedl, yn casglu, yn rhoi ar gadw, ac yn ei gyflwyno i bawb sy’n byw yng Nghymru. Maent hefyd yn gosod ffenest i’r byd o’n hanes unigryw.'

Ddirprwy Lywydd, mae'n bwysig nodi bod y ffigurau a ddyfynnir yn y ddeiseb hon yn seiliedig ar ddrafftiau cynharach o'r gyllideb, ac nad oedd y ffigurau terfynol mor llwm. Ond fel y noda'r deisebydd, mae pob £1 a fuddsoddir yn y sector yn arwain at werth £5 o dwf economaidd. Maent yn dadlau bod cadw'r sefydliadau sy'n cynnal ac yn tyfu ein gwlad a'n cymunedau, a chaniatáu i genedlaethau'r dyfodol adeiladu ar sylfeini cadarn llwyddiannau'r gorffennol, yr un mor bwysig ag erioed.

Mae cyllid ar gyfer y celfyddydau a diwylliant yng Nghymru wedi bod yn bwnc mawr yn fy ngwaith dros y misoedd diwethaf. Yr wythnos diwethaf, cyfarfûm ag uwch ffigyrau yn Undeb y Cerddorion, sydd wedi bod yn cynnal deiseb yn galw am weithredu nawr i achub Opera Cenedlaethol Cymru, sefydliad cenedlaethol arall o fri byd-eang sy'n gweld dyfodol llwm iawn wrth i gyllid gael ei wasgu ac wrth i dalent ddechrau llifo ymaith.

Ddydd Llun yn y Pwyllgor Deisebau, fe wnaethom ystyried deiseb arall a oedd yn ceisio diogelu cyllid ar gyfer adran iau Coleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru a'u rhaglen gerddoriaeth ieuenctid. Mae'r rhan fwyaf o'u myfyrwyr talentog ar fwrsarïau ac ar frig pyramid dilyniant sgiliau Cymru. Felly, byddwn yn ceisio trafod y ddeiseb bwysig honno maes o law hefyd.

Mae'n adeg heriol yn economaidd, Ddirprwy Lywydd, ac rydym i gyd yn ymwybodol o ba mor heriol. Mae Llywodraeth Cymru'n wynebu penderfyniadau amhosibl lle mae'r galw am gyllid yn fwy na'r pot o arian sydd ar gael. Rwy'n siŵr fod honno'n thema y byddwn yn ei chlywed yn ystod y ddadl hon heddiw. Mae'n amlwg fod cefnogaeth sylweddol iawn gan bobl Cymru i'n sefydliadau cenedlaethol, ein celfyddydau eiconig, sefydliadau cerddoriaeth a rhaglenni addysg Cymru. Dyna asgwrn cefn ein cenedl a chalon ein henw da rhyngwladol fel gwlad y gân, barddoniaeth a diwylliant—yn fyr, brand Cymru. 

Rwy'n ymwybodol o adroddiad y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus a Gweinyddiaeth Gyhoeddus sy'n craffu ar gyfrifon Amgueddfa Cymru ar gyfer 2021-22, a byddaf yn ei adael i eraill rannu'r pryderon a ddaeth i'r amlwg yn ystod y gwaith hwnnw. Edrychaf ymlaen at y ddadl heddiw ac at glywed mwy am yr heriau sy'n wynebu ein sefydliadau cenedlaethol allweddol a sut mae Llywodraeth Cymru yn gweithio i rannu'r pot yn gyfartal nawr ac yn y blynyddoedd i ddod i sicrhau bod ein llyfrgell genedlaethol a'n hamgueddfeydd cenedlaethol yn gallu ffynnu. Diolch yn fawr, Ddirprwy Lywydd.

Photo of Delyth Jewell Delyth Jewell Plaid Cymru 3:42, 26 Mehefin 2024

Diolch i’r Pwyllgor Deisebau am gynnal y ddadl hon. Fel y gwyddoch, mae’r pwyllgor diwylliant wedi bod yn cadw llygad ar y mater yma ers peth amser. Yn anffodus, mae hwn yn fater sydd wedi tyfu ac esblygu ers nifer o flynyddoedd bellach.

Photo of Delyth Jewell Delyth Jewell Plaid Cymru

(Cyfieithwyd)

Yn hydref 2022 edrychodd fy mhwyllgor ar effaith costau cynyddol ar ddiwylliant a chwaraeon. Roedd y sectorau hyn yn dal i adfer o'r pandemig pan ddaeth graddau costau byw cynyddol i'r amlwg. O ganlyniad i'r ymchwiliad hwnnw, fe wnaethom alw ar Lywodraeth Cymru i ddechrau trafodaethau brys i ddiogelu'r casgliadau cenedlaethol yn y llyfrgell genedlaethol. Fe wnaethom alw hefyd ar Lywodraeth Cymru i weithio gyda Whitehall i sicrhau pecyn cymorth ledled y DU i gefnogi'r sectorau diwylliant a chwaraeon mewn ymateb i bwysau costau byw. Cafodd yr awgrym olaf ei wrthod gan Lywodraeth Cymru ar y pryd.

Yn y misoedd ers hynny, mae fy mhwyllgor wedi galw'n gyson am lefelau digonol o gyllid i'n cyrff diwylliannol cenedlaethol o ganlyniad i bryderon sydd wedi'u codi gyda ni. Mae Amgueddfa Cymru wedi dweud wrthym fod angen iddi gael dwywaith y dyraniad cyfalaf sydd ganddi i wneud dim mwy na mynd drwy'r gwaith hanfodol y mae angen iddi ei wneud. Yn yr un modd, nododd y llyfrgell na fyddai treblu eu grant yn ddigon i gynnal eu hadeilad. Ddirprwy Lywydd, nid gor-ddweud yw hyn. Dyma'r realiti sy'n wynebu ein cyrff diwylliannol cenedlaethol. Fel y clywsom gan Rhianon, mae yna bryderon eraill ehangach na hyn hefyd.

Drwy gydol ein gwaith yn lleisio a mynd i'r afael â'r pryderon hyn, mae Llywodraeth Cymru wedi rhoi sicrwydd i ni y byddant yn darparu cymorth lle gallant. Mae'n amlwg, fodd bynnag, nad yw gosod y baich o ddiogelu ein casgliadau cenedlaethol ar un adran o'r Llywodraeth yn ymarferol. Dyna pam ein bod wedi galw am wneud diogelu ein casgliadau cenedlaethol yn genhadaeth drawslywodraethol. Byddai sicrhau bod ymdrech ar y cyd gan y Llywodraeth i warchod y trysorau hyn yn golygu eu bod yn cael eu diogelu nawr ac ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol. Oherwydd bod pob adran o'r Llywodraeth yn elwa o'r cyrff diwylliannol hynny—boed yn addysg gydag ysgolion yn ymweld â safleoedd ein hamgueddfeydd cenedlaethol, neu'r gwasanaeth iechyd yn defnyddio celf fel therapi i wella pobl sâl—mae gan bob adran o'r Llywodraeth ran i'w chwarae yn hyn.

Mae'n dda iawn fod yr Ysgrifennydd Cabinet newydd wedi cytuno gyda'r pwyllgor fod angen—ac rwy'n dyfynnu—mynd i'r afael â'r mater hwn nawr drwy gydweithredu ar draws y Llywodraeth, yn hytrach na chan un adran.

Mae gormod yn y fantol y gellid ei golli os nad ymdrinnir â hyn ar frys. Fel y dywedodd cyfaill ein pwyllgor, y cerddor Gwyddelig Philip King:

'mae diwylliant a'r celfyddydau yn hanfodol i'n lles ac yn werthfawr yn eu hawl eu hunain fel gweithgareddau dynol unigryw na all dim gymryd eu lle.'

Dyna pam mae diogelu mynediad at ein cyrff cenedlaethol diwylliannol mor bwysig. Ni ellir mesur gwerth yr hyn y maent yn ei ddarparu i ni, o ran llesiant, ar fantolenni: maent yn gyfoeth unigryw, amhrisiadwy sy'n catalogio ac yn ategu ein profiad o fod yn Gymry ac o fod yn ddynol. Pan gollir y dreftadaeth ddiwylliannol honno, fe'i collir am byth. 

Photo of Delyth Jewell Delyth Jewell Plaid Cymru 3:45, 26 Mehefin 2024

Gobeithiwn yn gryf y bydd y Llywodraeth yn gweithio gyda ni, gyda’n cyrff diwylliannol cenedlaethol, ac ymateb gyda’r brys sydd ei angen.

Photo of Rhys ab Owen Rhys ab Owen Plaid Cymru 3:46, 26 Mehefin 2024

Ym mis Ionawr eleni, ces i’r cyfle i ymweld â Philadelphia. Tra yno, fe es i ymweld â Delta yn Pennsylvania. Yno, roedden nhw yn parchu'r dreftadaeth Gymreig: bythynnod chwarelwyr o Ddyffryn Nantlle, capel Cymraeg a mynwent gerllaw yn llawn englynion. Penwythnos yma, fe wnes i gyfarfod ag ymwelwyr o Califfornia. Roedden nhw wrth eu bodd yn ymweld â chestyll Cymru. Mae’n hanes a’n diwylliant ni yn hollbwysig i fywyd Cymru. Fel mae’r ddeiseb yn dangos, mae’r manteision yn amlwg: o bob £1 a fuddsoddir, cawn £5 o fudd economaidd. Ond nid gormodedd yw dweud bod hyn nawr yn y fantol.

Photo of Rhys ab Owen Rhys ab Owen Plaid Cymru

(Cyfieithwyd)

Mae Amgueddfa Cymru yn wynebu toriad o 10.5 y cant, gyda chyllideb Cadw a'r Comisiwn Brenhinol yn gostwng 22 y cant. Mae Grŵp Treftadaeth Cymru wedi dweud y byddai'n

'amhosibl gweld dyfodol gweithredol i Gomisiwn Brenhinol Henebion Cymru yn dilyn toriad mor ddifrifol.'

Mae cyn-brif lyfrgellydd hynaws Llyfrgell Genedlaethol Cymru wedi dweud yn gadarn a chryf:

'Pam mae Llywodraeth Cymru wedi mynd i ryfel yn erbyn diwylliant?'

Mae Llywodraeth yr Alban eisoes yn ymwybodol iawn o'r ffaith hon, ac wedi teilwra eu polisi i adlewyrchu'r realiti hon. Cyhoeddodd y Dirprwy Brif Weinidog y llynedd y byddai'r Alban yn cynyddu ei chyllideb ddiwylliant £15.8 miliwn i gefnogi'r sector. Tra bo'r Alban yn cefnogi eu diwylliant a'u treftadaeth, rydym ni'n diberfeddu ein diwylliant ni. Nid yw'n gynaliadwy.

Rwy'n deall bod Llywodraeth Cymru mewn sefyllfa anodd. Rydym wedi profi effaith polisi economaidd y Torïaid. Mae ein setliad £700 miliwn yn llai mewn termau real, a £3 biliwn yn is na phe bai wedi tyfu yn unol â chynnyrch domestig gros ers 2010. Rwy'n deall hynny i gyd. Rwy'n deall bod yn rhaid gwneud penderfyniadau anodd. Rwy'n derbyn hynny, ond mae angen y sector hwn arnom. Fel cenedl, mae angen y sector arnom. Mae ei angen arnom yn economaidd, ond yn bwysicach fyth, mae angen inni allu dangos i'n plant a'u plant hwythau sut beth oedd Cymru, beth y gallwn ei ddysgu o'r gorffennol, i'w galluogi hwythau i ddysgu am ein hanes cyfoethog a rhannu hynny wedyn gyda gweddill y byd. Diolch yn fawr.

Photo of Heledd Fychan Heledd Fychan Plaid Cymru 3:48, 26 Mehefin 2024

Dwi’n falch o’r cyfle i gael cyfrannu i’r ddadl hon heddiw, a datgan fy nghefnogaeth ddi-amheuol i’r ddeiseb, gan ddiolch i’r rhai sydd wedi cyflwyno, hyrwyddo ac arwyddo ei chynnwys. 

Wrth gwrs, mae polisïau llymder Llywodraeth y Deyrnas Unedig a’r toriadau sydd wedi eu gwneud gan Lywodraeth Cymru yn sgil hyn wedi bod yn drychinebus i’n sefydliadau diwylliannol, a gadael sector sy’n bwysig nid yn unig o ran ein heconomi, ond o ran ein hunaniaeth fel cenedl, mewn sefyllfa argyfyngus.

Gwyddom, wrth gwrs, am y rhybuddion o ran yr adeiladau a’r risg i’r casgliadau cenedlaethol oherwydd cyflwr yr adeiladau. Ond mae risg real hefyd i’r casgliadau yn sgil y swyddi a’r arbenigedd sydd wedi eu colli. A dwi ddim yn credu bod digon o sylw wedi ei roi i hyn a’r effaith andwyol mae hyn yn barod yn ei gael ar waith Amgueddfa Cymru, Llyfrgell Genedlaethol Cymru a’r comisiwn brenhinol. Wrth reswm, mae yna nerfusrwydd o fewn y sefydliadau hyn wrth siarad yn agored am y sefyllfa. Ond mae’n glir imi, o siarad â chynifer o staff, pa mor eithafol mae’r toriadau wedi bod a pha mor bellgyrhaeddol yw’r effaith. 

Photo of Heledd Fychan Heledd Fychan Plaid Cymru 3:49, 26 Mehefin 2024

(Cyfieithwyd)

Fel y mae Aelodau eraill o'r Senedd wedi dweud heddiw, ein hamgueddfeydd cenedlaethol, ein llyfrgell genedlaethol a'r comisiwn brenhinol yw porthorion ein casgliadau cenedlaethol a'n cof cenedlaethol. Nid yn unig eu bod yn diogelu'r casgliadau ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol, maent hefyd yn dod â'r casgliadau'n fyw yma nawr, ac yn hollbwysig, maent yn eu gwneud yn berthnasol i fwy o bobl nag erioed o'r blaen drwy waith allgymorth ac addysg gwych. 

Fel y bydd llawer o Aelodau'r Senedd yn gwybod, bûm yn gweithio i Amgueddfa Cymru cyn cael fy ethol, ac yn bersonol, cefais fy llorio gan faint a dyfnder y toriadau a wnaed yn ystod y misoedd diwethaf wrth i'r rheolwyr presennol geisio mantoli'r llyfrau. Dywed undebau fod 144 o rolau wedi'u colli, ac ar hyn o bryd mae'r rolau blaen tŷ yn cael eu hailstrwythuro mewn ffordd a fydd yn effeithio'n ddifrifol ar staff ar y graddau is ac yn gwaethygu eu telerau a'u hamodau—hyn mewn sefydliad a enillodd wobr Amgueddfa'r Flwyddyn y Gronfa Gelf yn Sain Ffagan yn 2018, gwobr fwyaf mawreddog y byd i unrhyw amgueddfa.

Photo of Heledd Fychan Heledd Fychan Plaid Cymru 3:50, 26 Mehefin 2024

Gwyddom hefyd am yr effaith ar ein llyfrgell genedlaethol, gydag aelodau blaenllaw o staff wedi gadael a gwasanaethau eisoes wedi eu cyfyngu. Mae colli'r swyddi hyn nid yn unig yn effeithio ar waith y llyfrgell, ond hefyd ar yr economi leol yng Ngheredigion. Erfyniaf, felly, ar yr Ysgrifennydd Cabinet i nid yn unig nodi'r ddeiseb hon, ond ymateb drwy gomisiynu ymchwil annibynnol o effaith y toriadau ar y sefydliadau hyn, a'r effaith nid yn unig ar y casgliadau cenedlaethol o ran eu diogelwch, ond hefyd o ran yr ymgysylltu. Gofynnaf hefyd iddi sicrhau bod y gwaith hwn yn annibynnol.

Photo of Heledd Fychan Heledd Fychan Plaid Cymru 3:51, 26 Mehefin 2024

(Cyfieithwyd)

Os ydym am lwyr werthfawrogi diwylliant, mae'n rhaid inni weithredu a sicrhau bod y toriadau'n cael eu gwrthdroi. Mae'r swm sydd ei angen yn fach iawn o gymharu â chyllideb gyffredinol Llywodraeth Cymru, ond mae'r effaith yn bellgyrhaeddol. Gadewch inni wneud y ddadl heddiw yn ddechrau ar drafodaethau pellach, nid yn ddechrau'r diwedd. Rwy'n credu ei bod yn amlwg i bob un ohonom nad yw gwneud dim yn opsiwn, ac mae cynyddu cyllid yn hanfodol os ydym am ddiogelu ein casgliadau cenedlaethol, ond hefyd y sefydliadau cenedlaethol, ar gyfer y dyfodol. Mae'n rhaid i gyllidebu seilo ddod i ben. Rydym yn gwybod bod y sefydliadau cenedlaethol hyn yn cyfrannu mor effeithiol tuag at addysg, tuag at iechyd a lles. Mae angen inni edrych yn wahanol ar gyllidebau. 

Dywedodd Raymond Williams fod diwylliant yn gyffredin, felly gadewch inni normaleiddio buddsoddi mewn diwylliant a sicrhau bod sefydliadau diwylliannol cenedlaethol ar gyfer y lliaws, nid yr ychydig. Rwy'n poeni bod ein celfyddydau a'n diwylliant yn dod yn fwyfwy elitaidd bob dydd ar adeg pan allent fod yn drawsnewidiol—trawsnewidiol wrth fynd i'r afael â thlodi plant, trawsnewidiol i'n heconomi. Mae gennych ein cefnogaeth, Ysgrifennydd y Cabinet, i frwydro am yr arian angenrheidiol, ond mae angen inni gael sgwrs ddifrifol a rhoi'r gorau i osod y celfyddydau a diwylliant yn erbyn y GIG. Maent i gyd yn hanfodol i ddyfodol Cymru.

Photo of Carolyn Thomas Carolyn Thomas Llafur 3:53, 26 Mehefin 2024

(Cyfieithwyd)

Diolch i'r deisebydd am dynnu sylw at y mater pwysig hwn ac i'r pwyllgor am ganiatáu inni ei drafod heddiw. Dangoswyd bod amgueddfeydd, llyfrgelloedd a safleoedd treftadaeth yn cefnogi addysg, cynhwysiant cymdeithasol, yn ogystal â gwella iechyd a llesiant. Maent hefyd yn helpu i hybu balchder lleol a chydlyniant cymunedol, gyda phedwar o bob pump o bobl yn dweud bod safleoedd treftadaeth yn gwneud eu tref yn lle gwell i fyw. Wrth gwrs, ceir llawer o fanteision economaidd hefyd. Canfu adroddiad gan Cadw fod ymwelwyr domestig a rhyngwladol i atyniadau treftadaeth Cymru wedi cyfrannu £1.7 biliwn amcangyfrifedig i economi Cymru.

Pan gyflwynwyd mynediad am ddim ar draws ein hamgueddfeydd yn 2001, dyblodd nifer yr ymwelwyr, a rhwng Ebrill 2023 a Mawrth 2024, derbyniodd Amgueddfa Cymru 1.4 miliwn o ymwelwyr drwy'r drysau ar draws pob safle. Mae ymchwil a wnaed gan Gymdeithas yr Amgueddfeydd Annibynnol, mewn cydweithrediad â Llywodraeth Cymru, yn awgrymu y byddai codi tâl am fynediad i sefydliadau'r DU yn arwain at haneru niferoedd ymwelwyr, ac nid wyf yn credu mai codi tâl am fynediad yw'r ffordd ymlaen. Ond yn sgil ymweliad diweddar gyda'n pwyllgor diwylliant â'r amgueddfa genedlaethol, rwy'n gwybod eu bod yn edrych ar ffyrdd a chymhellion eraill ar gyfer denu incwm. Ac rwy'n gwybod bod Amgueddfa Cymru wedi edrych ar hynny yn Sain Ffagan hefyd—felly, mae gennym Westy'r Vulcan newydd symud yno yn gweini cwrw wedi'i fragu'n lleol—ond mae angen i fwyafrif helaeth y cyllid ddod gan Lywodraeth Cymru.

Gwn mai'r realiti anffodus yw ein bod yn wynebu grym llawn camreoli economaidd y Torïaid. Nid wyf yn genfigennus o Weinidogion Llywodraeth Cymru sydd wedi gorfod ceisio dod o hyd i arbedion diolch i dwll du o bwysau chwyddiant. Mae'n anodd iawn penderfynu sut i dorri'r gacen gyllido pan fo'r gacen yn rhy fach yn y lle cyntaf. Mae cyni wedi bod yn gibddall, yn anflaengar ac yn ddinistriol i safleoedd treftadaeth a diwylliant a ariennir yn gyhoeddus ledled y DU. Nid wyf yn credu bod Llywodraeth y DU erioed wedi ei wneud yn flaenoriaeth, ac felly rwy'n gobeithio y gwelwn newid Llywodraeth a pholisi yn San Steffan. Diolch.

Photo of Tom Giffard Tom Giffard Ceidwadwyr 3:55, 26 Mehefin 2024

(Cyfieithwyd)

A gaf i ddiolch i'r deisebwyr am lansio'r ddeiseb i ddiogelu ein sector diwylliannol a'r gwaith a wnaiff y rhai sy'n gweithio ynddo i wneud i'n diwylliant Cymreig a'n hanes a'n cynnig Cymreig yr hyn ydyw heddiw? Rwy'n credu, ac mae cymaint o rai eraill yn y Siambr hon yn credu, a Chymru gyfan mae'n debyg, fod angen inni weithio'n galed i ddiogelu ein diwylliant Cymreig a sicrhau bod ein treftadaeth yn cael ei chadw, ei diogelu a'i datblygu i'r safon orau bosibl. Ac rydym i gyd yn ymwybodol, fel yr amlinellwyd heddiw yn y ddadl hon, o'r anawsterau y mae'r sector yn eu hwynebu yn ddiweddar.

Mae wedi dod yn amlwg nad yw Llywodraeth Lafur Cymru wedi ei flaenoriaethu'n ddigon da yn y blynyddoedd diwethaf yn y setliad cyllidebol. Fe wyddom, er enghraifft, yn y gyllideb ddiwethaf mai'r sector diwylliannol a welodd y toriad mwyaf i gyfraniadau i'w gyllideb, a gadawyd sefydliadau ar eu pen eu hunain yn rhy aml. Clywsom rybuddion, oni wnaethom, gan yr amgueddfa, y llyfrgell genedlaethol, y comisiwn brenhinol a chymaint o rai eraill a oedd yn rhybuddio am y niwed y byddai diffyg cymorth yn ei wneud. Fe wnaethant rybuddio am nenfydau'n gollwng, toeau toredig, casgliadau mewn perygl, a gwaith cynnal a chadw drud ond angenrheidiol yn cyfrannu at y pwysau sy'n wynebu ein sefydliadau cenedlaethol. Ac mae'n bechod, felly, na chafodd y rhybuddion hynny mo'u clywed na'u cefnogi mewn ffordd a fyddai wedi diogelu dyfodol ein hanes a'n diwylliant yng Nghymru.

Mae'r rheini yn y sector sy'n cynrychioli'r Gymraeg, celf a diwylliant Cymru a hanes Cymru i gyd wedi disgrifio eu dicter a'u gofid ynghylch penderfyniadau a wnaed gan Lywodraeth Lafur Cymru. Dywedodd Cymdeithas yr Iaith, er enghraifft, y bydd y toriadau'n cael effaith drychinebus ar y Gymraeg a diwylliant Cymru. Fe soniodd Amgueddfa Cymru am

'y toriad cyllid mwyaf yn hanes yr amgueddfa', ac fe'n hanogodd i beidio â bychanu'r effaith hirdymor, barhaol y byddai'r toriadau hyn yn ei chael, oherwydd, fel y gwyddom, pan fo diwylliant yn diflannu—ein treftadaeth, ein hanes—ni allwn ei gael yn ôl.

Ac o ystyried y syniad fod pob £1 yn y sector yn arwain at werth £5 o dwf economaidd, mae'n ymddangos yn benderfyniad cwbl resymol, yn fy marn i, i Lywodraeth Cymru fynd ar drywydd hyn. A phan ystyriwch fod y toriadau—rwy'n credu bod Heledd Fychan wedi gwneud y pwynt hwn—yn arbediad o 0.02 y cant i gyllideb Llywodraeth Cymru, mae'n anoddach fyth deall y rhesymeg y tu ôl i'r penderfyniadau.

Rwyf wedi bod yn ddigon ffodus yn ystod fy nghyfnod fel Gweinidog diwylliant yr wrthblaid i gyfarfod â phobl sy'n gweithio yn y sector, ac rwyf wedi gweld y gwaith sy'n digwydd y tu ôl i'r llenni gan bobl sy'n malio'n wirioneddol, a phobl sy'n wirioneddol angerddol am warchod ein diwylliant a'n treftadaeth. Mae hynny'n amlwg iawn, ac mae'r sefydliadau hynny wedi cael eu gorfodi yn ystod y blynyddoedd diwethaf i addasu'n gyflym iawn i ganllawiau, a mynd i'r afael â phroblemau'n codi o gyfyngiadau llym COVID, er enghraifft, a delio â materion mwy, a bod ar gau am gyfnod hwy, efallai, nag y byddai sectorau eraill wedi bod. Ac mae'n ymddangos yn annheg felly eu bod yn cael eu cosbi ar ôl y pandemig, ar yr union adeg y maent yn ceisio adfer ohono.

Yn amlwg mae pob sector wedi dioddef o'r argyfwng costau byw, effaith rhyfeloedd dramor, ac yn sgil COVID. Ond rwy'n credu bod y gwaith caled yn y sector hwn yn amlwg iawn, ac yn anffodus, gwobrwywyd y gwaith caled gan y sefyllfa ariannol y mae Llywodraeth Cymru wedi'i roi ynddi nawr, ac nid yw'n ymddangos yn deg i mi nad yw'r gwaith caled yn cael ei wobrwyo, nac ychwaith yn cael ei werthfawrogi fel y mae'n ei haeddu am wynebu'r anawsterau aruthrol y mae ein sefydliadau cenedlaethol yn eu hwynebu.

Felly, lle rydym ni nawr? Fe wyddom fod angen gwneud gwerth miliynau o bunnoedd o waith. Felly, mae sefydliadau cenedlaethol, atyniadau mawr, yn gwneud penderfyniadau nawr ar gyfer y dyfodol a fydd yn arwain at ganlyniadau difrifol yn y tymor hir. Ac un o'r rhai mwyaf amlwg, efallai, yw'r bygythiad i'n casgliadau cenedlaethol. Rwy'n credu bod hynny'n rhan enfawr o'r rheswm dros y ddeiseb yma heddiw. Ni allwch adnewyddu eiddo gwerthfawr ac arteffactau a chasgliadau fel y gallwch ei wneud weithiau gyda thechnolegau ac offer arall. Pan gollir y rhain, ni allwch eu cael yn ôl.

Felly, rwy'n gobeithio bod Llywodraeth Lafur Cymru yn ymwybodol iawn o hynny, ac rwy'n gobeithio y bydd y Llywodraeth Lafur hon yng Nghymru yn camu i'r adwy ac yn cefnogi'r sector, nid yn unig yn ariannol, ond gyda chefnogaeth a rheolaeth effeithiol hefyd. Felly, rwy'n gobeithio yn ymateb Ysgrifennydd y Cabinet y byddwn yn clywed yr angerdd, yn clywed yr ymrwymiad i'n diwylliant, i'n treftadaeth, fel sydd i'w weld gan y bobl sy'n gweithio yn y sector, y bobl sy'n gwerthfawrogi'r sector, a'r bobl sydd am ei weld yn ffynnu ymhell i'r dyfodol. Diolch.

Photo of Peredur Owen Griffiths Peredur Owen Griffiths Plaid Cymru 4:00, 26 Mehefin 2024

Diolch yn fawr i'r Pwyllgor Deisebau am ddod â'r ddadl yma ger bron, a diolch i'r deisebwyr am eu dygnwch yn dod â'r pwyntiau yma heddiw. Roeddwn i'n aelod o'r pwyllgor pan wnaethom ni drafod hwn i gychwyn, a dwi'n falch iawn fod y ddadl yma wedi dod yma heddiw, a dwi'n ategu beth oedd Heledd, Delyth ac eraill wedi ei ddweud ynglŷn â hyn. Ond mi fuaswn i'n licio hefyd amlygu y lleol yn beth dwi'n mynd i'w drafod heddiw, i ddangos enghraifft o beth sydd yn digwydd ar draws Cymru. 

Photo of Peredur Owen Griffiths Peredur Owen Griffiths Plaid Cymru

(Cyfieithwyd)

O ran treftadaeth yn fy rhanbarth i, un cysylltiad hanfodol â’n gorffennol yw Big Pit. Mae'n un o'r trysorau mwyaf gwerthfawr. Rhwng mis Ebrill 2023 a mis Mawrth 2024, daeth cyfanswm o 107,995 o ymwelwyr drwy'r drysau. Golyga hyn fod dros 100,000 o bobl wedi cael profiad o hanes Cymru, ac yn benodol, ein treftadaeth lofaol ym Mlaenafon. Fodd bynnag, gydag Amgueddfa Cymru yn wynebu toriad o 10.5 y cant, byddwn yn gweld amgueddfeydd ledled Cymru, gan gynnwys Big Pit, yn methu darparu ar gyfer yr un nifer o ymwelwyr mwyach, a darparu’r gwasanaeth y maent yn enwog amdano.

Ac fel y clywsom eisoes gan gangen Undeb y Gwasanaethau Cyhoeddus a Masnachol yn yr amgueddfa, mae Big Pit wedi gorfod lleihau ei nifer o staff blaen y tŷ; mae tywyswyr y lofa'n gorfod cyflawni dyletswyddau mewn mannau eraill yn yr amgueddfa a hyfforddi staff eraill, yn hytrach na gallu arwain teithiau o dan y ddaear; nid yw tocynnau teithiau tanddaearol ar werth ar ôl 1 p.m., ac mae ffreutur y pwll wedi colli'r rhan fwyaf o'i staff ac nid yw bellach yn gweini bwyd i ymwelwyr.

Wrth gwrs, bydd hyn nid yn unig yn cael effaith andwyol ar ein heconomi, ar swyddi pobl a’r cyfraniad ariannol y mae’r amgueddfa hon yn ei wneud i Dorfaen ac i Gymru, ond byddai hefyd yn ein gwneud yn dlotach yn ddiwylliannol. Mae’r lleoedd hyn yn borth i’n gorffennol, i’n treftadaeth, gyda llawer o’n teidiau a’n hen deidiau wedi bod yn lowyr yn y pyllau hyn. Ond heb fuddsoddiad teilwng yn y mynediad hanfodol hwn at ein treftadaeth falch ac unigryw, fe fydd yn parhau i ddirywio.

Dyna pam fod y ddeiseb hon heddiw mor bwysig. Mae hyn yn rhywbeth yr ydym ni ym Mhlaid Cymru yn ei gefnogi’n gryf. Oni bai fod Llywodraeth Cymru yn cymryd sylw priodol o'r toriadau hyn i'n diwylliant a'n celfyddydau, a hefyd yn cydnabod yr effaith y bydd yn ei chael, byddwn yn parhau i weld y sector hwn yn marw o flaen ein llygaid. Diolch yn fawr.

Photo of David Rees David Rees Llafur 4:02, 26 Mehefin 2024

Galwaf ar Ysgrifennydd y Cabinet dros Ddiwylliant a Chyfiawnder Cymdeithasol, Lesley Griffiths. 

Photo of Lesley Griffiths Lesley Griffiths Llafur

(Cyfieithwyd)

Diolch, Ddirprwy Lywydd, ac rwy’n falch iawn o ymateb ar ran Llywodraeth Cymru. Credaf fod y ddeiseb hon yn adlewyrchu'n dda pa mor bwysig yw'r sefydliadau hyn i'n cenedl. Fodd bynnag, rydym yn wynebu’r heriau ariannol mwyaf ers dechrau datganoli, heb unrhyw atebion hawdd. Felly, mae'n rhaid inni weithio gyda'n gilydd i ddiogelu ein sefydliadau cenedlaethol, ac rwy'n ddiolchgar i'r holl Aelodau am eu cefnogaeth i wneud hynny.

Rwy’n gwbl ymwybodol o’r effaith y mae gostyngiadau yn y gyllideb wedi’i chael ar Amgueddfa Cymru, y llyfrgell genedlaethol a’r comisiwn brenhinol. Wrth baratoi cyllideb eleni, bu’n rhaid i Weinidogion wneud penderfyniadau anodd i ail-siapio ein cynlluniau gwariant yn sylweddol. Yn anffodus, nid oedd gan y gyllideb a etifeddais pan ddechreuais yn y swydd unrhyw hyblygrwydd i atal toriadau i’r cyllidebau hynny. Ers dechrau yn y swydd, rwyf wedi cyfarfod â chadeiryddion, prif weithredwyr, aelodau staff, aelodau undebau llafur pob un o'r sefydliadau, ac rwyf wedi ymrwymo i'w cefnogi i ffynnu ac nid i oroesi'n unig.

Gwyddom fod eu staff medrus iawn yn allweddol yn y gwaith o ofalu am ein casgliadau cenedlaethol, ac mae'n rhaid rhoi blaenoriaeth i gadw swyddi. Rydym wedi ailflaenoriaethu cyllid a ddyrannwyd i gyflawni’r strategaeth ddiwylliant i liniaru yn erbyn colli swyddi ym mhob un o’n cyrff diwylliannol hyd braich.

Mae Amgueddfa Cymru a’r llyfrgell yn wynebu heriau sylweddol wrth gynnal a chadw eu hadeiladau hanesyddol ac eiconig. Rwyf wedi cael sicrwydd fod y casgliadau’n ddiogel ar hyn o bryd, ond fod angen cymorth ychwanegol. Blaenoriaeth Amgueddfa Cymru yw Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd. Amcangyfrifir bod angen £30 miliwn dros chwe blynedd i fynd i'r afael â phroblemau sylweddol, gan gynnwys y to. Mae angen £3 miliwn ar y llyfrgell hefyd ar gyfer ei tho a phroblemau ehangach. Rwyf i a fy swyddogion yn gweithio gyda’r ddau sefydliad ar hyn o bryd ar ddatblygu cynlluniau priodol a nodi opsiynau ariannu posibl.

Ar hyn o bryd, nid oes gennym unrhyw sicrwydd ynghylch cyllid yn y dyfodol, ond rydym yn disgwyl setliad ariannu amlflwyddyn arall. Mae ansicrwydd ynghylch ei amseriad, ac ni chawn wybod mwy tan ar ôl etholiad cyffredinol y DU. Felly, bydd unrhyw benderfyniadau ar gyllid yn y dyfodol yn ffurfio rhan o’r trafodaethau'n ymwneud â’r gyllideb a'r adolygiad o wariant blynyddol nesaf.

Gŵyr pob un ohonom fod y rhagolygon ar gyfer cyllid cyhoeddus yn parhau i fod yn heriol, ac o'r herwydd, mae'n rhaid inni fod yn bragmatig. Rydym yn adolygu ein hymrwymiadau presennol i archwilio’r hyn y gallwn ei wneud yn wahanol i ryddhau cyllid yn y flwyddyn ariannol hon, gyda’n sefydliadau cenedlaethol, eu lleoliadau a’r casgliadau sydd yn eu gofal yn flaenoriaeth lwyr. Mae'n bwysig hefyd fod ein sefydliadau cenedlaethol yn gweithio’n fwy cydweithredol, i wneud y mwyaf o’u potensial, yn ogystal â pharhau i archwilio’r holl gyfleoedd sydd ar gael i godi arian a chreu incwm. Mae’n rhaid i Lywodraeth Cymru, fel y sefydliadau, fantoli ei chyfrifon, ond rwy’n awyddus i weithio gyda phawb yn y Siambr hon i weld beth y gallwn ei wneud.

Photo of David Rees David Rees Llafur 4:05, 26 Mehefin 2024

(Cyfieithwyd)

Weinidog, a wnewch chi dderbyn ymyriad? Mae'n ddrwg gennyf, Ysgrifennydd y Cabinet.

Photo of Heledd Fychan Heledd Fychan Plaid Cymru

(Cyfieithwyd)

Diolch yn fawr iawn am dderbyn ymyriad. A fyddech chi'n derbyn, serch hynny, fod eu gallu i gynhyrchu incwm yn cael ei gyfyngu? Rydym wedi clywed enghreifftiau o staff yn cael eu colli os yw'r ffreutur yn cau neu os na allwch groesawu cymaint o ymwelwyr. Onid oes anhawster felly, os ydych chi'n cyfyngu ar eu gallu i gynhyrchu incwm, gyda llai o staff ar gael, sut ydych chi'n disgwyl iddynt ddod yn fwy proffidiol gyda llai o staff a llai o gyfleoedd i gynhyrchu incwm?

Photo of Lesley Griffiths Lesley Griffiths Llafur 4:06, 26 Mehefin 2024

(Cyfieithwyd)

Mae'n rhaid imi ddweud, yn y cyfarfodydd a gefais, yn enwedig yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd, fod ganddynt syniadau anhygoel ynghylch codi arian a sicrhau eu bod yn manteisio i'r eithaf ar bob cyfle, ac ni chredaf eu bod yn ystyried hynny'n rhwystr; credaf eu bod wedi dod dros hynny ac yn cydnabod bod yn rhaid inni wneud pethau'n wahanol, a bod ffyrdd y gallant weithio'n wahanol i sicrhau bod hynny'n digwydd.

Mae ein blaenoriaethau drafft ar gyfer diwylliant yn nodi ein blaenoriaethau a’n huchelgeisiau ar gyfer diwylliant dros y pum mlynedd nesaf. Nid ydym wedi dal yn ôl yn ein huchelgeisiau ar gyfer y sector, ac rwy'n gobeithio bod hyn yn arwydd o fy ymrwymiad i barhau i archwilio pob cyfle i gefnogi ein sefydliadau cenedlaethol gwerthfawr. Diolch.

Photo of Rhianon Passmore Rhianon Passmore Llafur

(Cyfieithwyd)

Diolch yn fawr iawn, Ddirprwy Lywydd. Hoffwn ddiolch i Aelodau ar draws y Siambr am eu cyfraniadau, Cadeirydd y pwyllgor diwylliant, Delyth Jewell; Rhun ap Iorwerth; Heledd Fychan a Peredur Owen Griffiths am eu hapeliadau angerddol i ddiogelu a thyfu ein sefydliadau a'n hasedau cenedlaethol a’r gyllideb ddiwylliant, ac i Tom Giffard am ei sylwebaeth. Fel y dywedodd Carolyn Thomas, rwy'n credu bod cyni yn gibddall.

Felly diolch, Weinidog, am eich ymateb a’ch ymrwymiad i gydweithio yn y dirwedd anodd hon a chyn yr etholiad cyffredinol. Hoffwn ddiolch hefyd i’r Pwyllgor Busnes am roi amser ar gyfer y ddadl ar ddeiseb bwysig hon y prynhawn yma, a hoffwn ddiolch yn fawr iawn i’r deisebydd, Susan Jones-Davies, ac ymgyrchwyr angerddol eraill, am eu hymdrechion arwrol i godi ymwybyddiaeth o’r mater hwn.

Felly, a minnau ond newydd ymuno â’r Pwyllgor Deisebau, dyma gyfle cyntaf i arwain dadl o’r fath yma yn y Siambr hon, ac i glywed yr ystod o safbwyntiau ar draws y Siambr. Ond mae’r consensws yn glir: mae'n rhaid inni wneud popeth a allwn i sicrhau bod gan ein sefydliadau diwylliannol y dulliau gweithredu a’r ysgogiadau sydd eu hangen arnynt, nid yn unig i oroesi, ond i ffynnu mewn adeg o ansicrwydd, gan fod ganddynt enw da haeddiannol am y gwaith a wnânt, yma yng Nghymru ac ar draws y byd. Boed i'r gwaith hwnnw barhau, a boed i'r lle hwn barhau i'w cefnogi i wneud hynny. Diolch.

Photo of David Rees David Rees Llafur 4:08, 26 Mehefin 2024

Y cwestiwn yw: a ddylid nodi'r ddeiseb? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Na. Felly, derbynnir y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.