7. Dadl ar Gynnig Deddfwriaethol gan Aelod: Bil Buddion Ynni Cymunedol

– Senedd Cymru am 3:09 pm ar 26 Mehefin 2024.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of David Rees David Rees Llafur 3:09, 26 Mehefin 2024

Eitem 7 yw'r ddadl ar gynnig deddfwriaethol gan Aelod: Bil buddion ynni cymunedol. Galwaf ar Adam Price i wneud y cynnig.

Cynnig NDM8616 Adam Price

Cefnogwyd gan Rhun ap Iorwerth

Cynnig bod y Senedd:

1. Yn nodi cynnig ar gyfer Bil buddion ynni cymunedol.

2. Yn nodi mai diben y Bil hwn fyddai:

a) sicrhau bod datblygiadau ynni adnewyddadwy o fudd uniongyrchol i gymunedau lleol, a bod colli amwynder i gymunedau yn ystyriaeth allweddol wrth benderfynu a yw prosiectau seilwaith ynni mawr yn mynd rhagddynt;

b) ei gwneud yn ofynnol i elw o ddatblygiadau ynni adnewyddadwy gael ei gadw yn yr ardal leol;

c) gwneud perchnogaeth leol yn elfen orfodol ym mhob datblygiad cynhyrchu ynni;

d) gwneud y defnydd o dechnoleg adnewyddadwy yn orfodol yn yr holl adeiladau newydd, datblygiadau sylweddol ac estyniadau; ac

e) defnyddio'r holl opsiynau tir llwyd hyfyw cyn y gellir ystyried unrhyw safle maes glas, yn enwedig os bydd yn effeithio ar gynefinoedd anghysbell ac amrywiol a/neu fod mynediad a seilwaith yn gyfyngedig neu'n anfodol.

Cynigiwyd y cynnig.

Photo of Adam Price Adam Price Plaid Cymru 3:09, 26 Mehefin 2024

(Cyfieithwyd)

Diolch, Ddirprwy Lywydd. Mae’n bleser cyflwyno’r cynnig hwn, sy’n galw am ddeddfwriaeth ar ynni adnewyddadwy, ac yn enwedig gyda ffocws ar sicrhau bod cymunedau lleol yn cael y buddion mwyaf—yn economaidd, yn gymdeithasol ac yn ecolegol—o fuddsoddiadau ynni adnewyddadwy. Oherwydd credaf mai’r perygl gwirioneddol ar hyn o bryd yw bod y gorffennol yn ailadrodd ei hun yn hanes Cymru. Rydym yn ymwybodol iawn, wrth gwrs, o’r effaith a gafodd yr economi echdynnol yng ngorffennol Cymru: mae’r holl gyfoeth mwynol a gynhyrchwyd yng Nghymru, popeth a allai wneud elw, wedi’i gloddio o’r ddaear yng Nghymru, ar wahân i ddiemwntau, ac os arhoswn ychydig filiynau o flynyddoedd, mae'n debyg y bydd rheini gennym hefyd.

Ond y pwynt yw hyn: er inni dalu llawer o gost ddynol yr economi echdynnol honno, ni chawsom y budd economaidd i'r graddau llawn. Echdynnwyd yr elw o Gymru er budd eraill, ac yn anffodus, credaf ein bod yn gweld yr un model, yr un patrwm yn ailadrodd ei hun nawr gydag adnoddau naturiol Cymru yn yr unfed ganrif ar hugain, mewn perthynas ag ynni adnewyddadwy. Felly, rydym yn gweld cwmnïau mawr—cwmnïau rhyngwladol yn aml, neu'n sicr, yn eiddo i endidau allanol—yn arwain datblygiadau a'r elw hwnnw'n cael ei golli o Gymru. Yn eironig, wrth gwrs, mewn rhai achosion, maent yn fentrau sy'n eiddo i'r wladwriaeth, onid ydynt? Ond wrth gwrs, serch hynny, erys y pwynt fod yr elw hwnnw wedyn yn mynd i drethdalwyr a dinasyddion gwlad arall, yn hytrach na threthdalwyr a dinasyddion Cymru.

A'r hyn y ceisiwn ei gyflawni gyda'r cynnig hwn a'r Bil a awgrymir yw ein hysgogi i fabwysiadu model gwahanol yng Nghymru, model sydd mewn perchnogaeth leol, lle mae'r budd yn cael ei gadw yn y gymuned. A hefyd, o ran y mathau o ddatblygiadau a welwn, nad ydynt wedyn ond yn cael eu llywio gan gymhelliad i wneud elw yn unig. Felly, mae tuedd naturiol ar hyn o bryd, onid oes, i gael datblygiadau ar raddfa anferthol yn unig, datblygiadau sydd wedi'u crynhoi mewn un lle. Pam? Am mai dyna'r ffordd i sicrhau'r lefel fwyaf o elw, ac ni ddylai hynny fod yn flaenoriaeth wrth inni wneud ein penderfyniadau. Yr hyn a awgrymwn yma yw mabwysiadu model mwy dosranedig, gwasgaredig: dosranedig a gwasgaredig, datganoledig, yn ystyr ffisegol y rhwydwaith cynhyrchu ynni yr ydym am ei weld yn yr unfed ganrif ar hugain yma yng Nghymru, ond sydd hefyd yn ddosranedig ac yn wasgaredig o ran ei berchnogaeth ac o ran ei fudd hefyd, ac mae'r ddau beth yn mynd law yn llaw.

Ac i fynd ar drywydd rhai o’r pwyntiau penodol: polisi’r Llywodraeth yw gwneud perchnogaeth leol, elfen o berchnogaeth leol, yn elfen orfodol o leiaf ym mhob datblygiad, ac mae wedi bod yn bolisi Llywodraeth Cymru ers 2020, ond nid yw’n orfodol, ac felly mae'n cael ei anwybyddu, a dyna pam fod gennym gymaint o ddatblygiadau heb unrhyw elfen ystyrlon o berchnogaeth leol. Ac wrth gwrs, yn Nenmarc, sydd wedi bod mor llwyddiannus wrth wreiddio datgarboneiddio mewn perchnogaeth leol, gan gyflymu’r broses drwy hynny, gan fod pobl yn cefnogi'r syniad, mae ganddynt ofyniad cyfreithiol, ac maent wedi cael un ers blynyddoedd lawer, ers 2009—fan lleiaf, yn eu hachos nhw, rwy'n credu—fod 20 y cant yn cael ei gynnig mewn perchnogaeth leol, ac yn ddiweddar, mae’r Sefydliad Materion Cymreig wedi llunio adroddiad yn dadlau o blaid trothwy tebyg o oddeutu 15 y cant o leiaf.

Ceir agweddau eraill ar y cynnig y gallaf gyfeirio atynt yn fy sylwadau clo, ond gadewch inni fachu ar y cyfle: mae gennym botensial yng Nghymru, ond gadewch inni wneud hyn mewn ffordd sy’n dysgu o’r gorffennol, nid ailadrodd ei gamgymeriadau, ac sy'n sicrhau bod Cymru a'i phobl yn cael y budd mwyaf posibl o’r cyfle hwn.

Photo of Carolyn Thomas Carolyn Thomas Llafur 3:13, 26 Mehefin 2024

(Cyfieithwyd)

Yn y bôn, rwy'n cytuno â chynsail y cynnig heddiw. Lle ceir datblygiad ynni adnewyddadwy, rwy'n credu y dylai pobl leol elwa, ac fel y dywedais yn flaenorol yn y Siambr, rwy'n credu y dylai'r elw o ynni adnewyddadwy a gynhyrchir yn lleol fynd tuag at leihau biliau ynni trigolion, ac rydym eisoes wedi gweld o fuddsoddiadau ynni adnewyddadwy sut y gall fod o fudd i gymunedau mewn ffyrdd eraill. Felly, yng ngogledd Cymru, mae gennym y tyrbinau gwynt ar y môr, ac maent yn rhoi arian tuag at gronfeydd cymunedol a weinyddir drwy'r cynghorau gwirfoddol ar gyfer gwahanol gynlluniau. Ond a ydynt yn cyrraedd ble mae eu hangen mewn gwirionedd? Dyna'r peth hefyd. Os gwelwn yr ynni hwnnw'n cael ei gynhyrchu, rydych chi'n meddwl bod angen i ni gael yr ynni hwnnw—y disgownt ar ein biliau, yn y bôn.

Rwy'n cytuno hefyd fod angen defnyddio safleoedd tir llwyd yn gyntaf. Rydym yn byw mewn argyfwng byd natur, ac yn aml, mae safleoedd gwyrdd yn cael eu datblygu gyntaf am ei bod yn rhatach ac yn haws gwneud hynny. Ond yn aml iawn, dim ond mewn rhai safleoedd y gellir cynhyrchu ynni, felly fel arfer, mae hynny i fyny ar y bryniau, ond wedyn maent yn dirweddau gwarchodedig hefyd, felly mae'n anodd iawn. Dylem sicrhau bod adeiladau newydd yn addas at y dyfodol, gan ddefnyddio paneli solar lle bynnag y bo modd, casglu dŵr glaw, deunyddiau effeithlon o ran ynni. Mae angen inni ofyn neu orfodi datblygwyr i wneud hyn. Gosod blychau gwenoliaid duon, plannu ar gyfer peillwyr—mae cymaint mwy y gallwn ei wneud.

Rwy’n deall bod angen sicrhau cydbwysedd wrth ymgymryd â phrosiectau seilwaith ar raddfa fawr. Mae gennym broblem wirioneddol gyda seilwaith ynni hefyd os ydym am gyflawni ein nodau sero net. Gwn fod yn rhaid i Lywodraeth Cymru fod yn ymwybodol o’r buddsoddiad enfawr mewn prosiectau ynni adnewyddadwy ar raddfa fawr. Mae’n debyg fod angen inni gael y cydbwysedd hwnnw, ond mae angen inni sicrhau bod gennym brosiectau ynni cymunedol sy’n helpu'r cymunedau lleol hynny. Felly, rwy'n deall yr hyn a ddywedwch yma yn llwyr, Adam. Yr allbwn a’r canlyniad gorau, am wn i, yw ein bod yn lleihau effaith amgylcheddol uniongyrchol seilwaith newydd angenrheidiol, wrth symud tuag at ddyfodol cynaliadwy, gan ystyried popeth.

Gwn inni drafod gosod ceblau o dan y ddaear yn lle peilonau yr wythnos diwethaf, ac rwy'n gwybod ei fod yn fater sensitif iawn. Dylem osod seilwaith o dan y ddaear lle bynnag y bo modd, yn sicr, oherwydd yr amwynder, yr effaith a gaiff ar bobl, ond hefyd, fel y dywedais yr wythnos diwethaf, ceir ystyriaethau'n ymwneud â'r amgylchedd naturiol—os yw'n fawndir, os oes glaswelltir hynafol a ffyngau. Rwy'n glynu wrth hynny hefyd, gan fod yn rhaid inni barchu ein hamgylchedd naturiol. Mae’r rheini oll yn rhan o’r ystyriaeth. Diolch.

Photo of Delyth Jewell Delyth Jewell Plaid Cymru 3:17, 26 Mehefin 2024

Ymbweru cymunedau ydy ffocws y cynnig deddfwriaethol hwn, ac rwyf i wir yn croesawu'r ffaith bod Adam Price wedi dod â hwn ymlaen. Mae'n sôn am roi llais cryfach i gymunedau yn wyneb nid yn unig maint a phŵer y system cynllunio, ond heriau’r argyfwng hinsawdd. Achos mae cymaint o’n cymunedau yn bennu lan yn teimlo bod datblygiadau ynni yn cael eu gorfodi ar ardaloedd, yn hytrach na bod datblygiadau a phenderfyniadau’n cael eu gwneud ar y cyd gyda nhw, ac er eu budd nhw. Dyna pam mae’r cynnig yma'n sôn am yr angen i ddatblygiadau gynnig buddion uniongyrchol i’r gymuned leol, a hefyd am yr angen i elw ariannol gael ei gadw’n lleol.

Dŷn ni wedi clywed hyn yn barod gan Adam. Mae straeon ein gorffennol i’w gweld fel creithiau ar ein tirluniau ni yng Nghymru. Yn ardaloedd fel y Cymoedd, mae hanes o gwmnïau yn gwneud elw ar draul trigolion lleol. Dyna sydd yn ein cefndir ni—hanes o ecsbloetiaeth. Rhaid inni wneud yn siŵr nad ydy’r straeon hynny’n cael eu hailadrodd yn y dyfodol. Mae cyfle gennym i fuddsoddi yn ein cymunedau, ymbweru pobl leol i ddatblygu ffyrdd amgen o greu ynni a sicrhau na fydd ein tirluniau unwaith eto yn safle ar gyfer elw ac ecsbloetiaeth.

Ein hetifeddiaeth ni yw ein gwlad: y darn o dir sy’n dyst ein bod wedi mynnu byw, chwedl Gerallt. Ein dyletswydd ni ydy sicrhau ein bod yn gadael etifeddiaeth gwell i’n plant, achos eu heiddo nhw ydy’n gwlad ni, eiddo ein cymunedau lleol. Rhaid ei diogelu a’i meithrin nawr, ac am flynyddoedd i ddod i’r dyfodol. Felly, er budd ein cymunedau ni heddiw ac yn y dyfodol, rwyf wir yn gobeithio y bydd hyn yn pasio.

Photo of Samuel Kurtz Samuel Kurtz Ceidwadwyr 3:19, 26 Mehefin 2024

Diolch ichi, Adam, am ddod â'r ddadl yma heddiw.

Photo of Samuel Kurtz Samuel Kurtz Ceidwadwyr

(Cyfieithwyd)

Mae hyn yn fy nghyffroi’n fawr, gan fod cyfleoedd adnewyddadwy, yn enwedig yn fy rhan i o’r byd, ein rhan ni o’r byd yng ngorllewin Cymru, yn fy etholaeth, Gorllewin Caerfyrddin a De Sir Benfro, ac nid yn unig fy nghyffroi i ond y gymuned gyfan, gan eu bod yn gweld y cyfleoedd a ddaw nid yn unig o ran y gyflogaeth a ddaw yn sgil y prosiectau adnewyddadwy hyn i’r cymunedau, ond hefyd y budd cymunedol. Rwy'n credu bod angen archwilio’r diffiniad o ‘fudd cymunedol’ cyn unrhyw beth arall, gan ein bod wedi gweld enghreifftiau o gwmnïau ynni ledled Cymru ac ardaloedd eraill yn cyflawni eu budd cymunedol drwy roi nawdd tuag at gitiau newydd i dîm pêl-droed. Mae'n dda iawn mewn ystyr uniongyrchol o'r fath, ond beth yw'r budd hirdymor i'r gymuned? Os nad ydych yn gysylltiedig â’r clwb pêl-droed hwnnw, nid ydych yn gweld budd cymunedol—pwynt a wnaeth Luke Fletcher yn dda iawn yn y pwyllgor y bore yma.

Os archwiliwn y budd cymunedol ehangach sydd ar gael i ni drwy gyflawni prosiectau adnewyddadwy, credaf fod hynny’n agor drws ar sut y gallwn fanteisio fel cymdeithas ehangach ar y cyfleoedd y mae ein hadnoddau naturiol yn eu rhoi i ni yma yng Nghymru. Rwy'n meddwl, yn enwedig yn y tywydd hwn, am yr haul gwych sydd gennym, y gwynt sy'n chwythu oddi ar arfordir sir Benfro a'r cyfleoedd sydd gennym gyda'r llanw hefyd, ar ein harfordir. Mae hwn yn gyfle cyffrous i Gymru. Sut y gallwn sicrhau ein bod yn elwa ar hynny, nid yn unig o ran cyflogaeth, ond o ran y gymuned nad ydynt yn uniongyrchol gysylltiedig â hynny?

Ac nid y prosiectau eu hunain yn unig sydd angen gweld budd cymunedol. Byddwn yn dweud yr un peth am y deunyddiau cysylltiol hefyd, y seilwaith cysylltiol. Os ydym yn sôn am brosiectau ffermydd gwynt arnofiol ar y môr yn sir Benfro, er enghraifft, mae llawer o'r ceblau sy'n dod i'r lan yn mynd drwy ardal Castell Martin a Hundleton, gan weithio'n agos iawn gyda Steve Alderman, y cynghorydd lleol yno. Mae’r gymuned yn derbyn yn llwyr fod y seilwaith hwn yn angenrheidiol, ond beth yw budd cymunedol y seilwaith cysylltiol hwnnw, yn hytrach na’r prosiect ei hun, sydd wedi’i leoli oddeutu 40 km oddi ar arfordir Cymru? Sut y gallwn glymu hynny at ei gilydd i weld y budd yn cael ei wireddu?

Pwynt arall yr hoffwn yn ei wneud wrth ddiffinio budd cymunedol, rhywbeth y credaf nad yw wedi ei archwilio'n ddigonol—ac efallai y bydd Ysgrifennydd y Cabinet yn dymuno sôn am hyn, ond credaf fod cyfle yno hefyd—yw sut mae'r grid, y gwyddom ei fod angen cryn dipyn o fuddsoddiad a gwaith uwchraddio o ran ei seilwaith, yn gallu bod yn fath o grid cylch cyfyng sy’n canolbwyntio ar y gymuned, fel bod prosiectau ynni sy’n cynhyrchu trydan mewn ardal benodol, nad yw trydan o reidrwydd yn mynd i’r grid, sydd angen y gwaith uwchraddio hwnnw i'w seilwaith, ond yn mynd i grid lleol, gan gefnogi cartrefi lleol. Os ydym yn sôn am yr angen am fwy o dai yn yr ardaloedd hyn, sut y gall yr ynni adnewyddadwy hwnnw fynd i'r tai hynny, a dileu’r effaith sydd ei hangen wrth fuddsoddi yn y grid drwy gael grid mwy lleol? Ac felly, gyda hynny, rwy'n credu'n wirioneddol fod hyn yn rhywbeth y gallwn fod yn falch ohono yma yng Nghymru, a byddaf yn sicr yn rhoi fy nghefnogaeth iddo y prynhawn yma. Diolch, Ddirprwy Lywydd.

Photo of Luke Fletcher Luke Fletcher Plaid Cymru 3:22, 26 Mehefin 2024

(Cyfieithwyd)

Mae hon, wrth gwrs, yn ddadl bwysig ac yn un i'w chroesawu, ac mae arnaf ofn fod rhywfaint o thema'n dod i'r amlwg ar feinciau Plaid Cymru wrth drafod hyn yng nghyd-destun hanes. Oherwydd dyma yw hanes Cymru, ynte, echdynnu elw o’n cymunedau, ac mae’r un peth yn digwydd nawr gydag ynni adnewyddadwy. Rwyf am sôn yn benodol am yr elfen hon yn y cynnig deddfwriaethol, gan fod creithiau echdynnu elw yn y gorffennol yn dal i'w gweld ar y cymunedau rwy'n eu cynrychioli.

Yr hyn sydd ei eisiau arnom yw sector ynni adnewyddadwy, prosiectau ynni adnewyddadwy, y gall cymunedau fod yn falch ohonynt ac elwa ohonynt. Ar hyn o bryd, mae cymunedau'n cael swm o arian mewn pot cymunedol gan ddatblygwr—pot, gyda llaw, nad yw'n ddim o gymharu â'r elw sy'n cael ei echdynnu. Mae’r arian hwnnw wedyn yn cael ei roi tuag at anghenion uniongyrchol grwpiau yn y cymunedau: parc chwarae newydd fan hyn, cit rygbi newydd fan draw. Cyfeiriodd Sam at y dadleuon a gawn ym Mhwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig ynglŷn â sut mae angen inni edrych ar hyn mewn ffordd fwy strategol. Sut rydym yn edrych ar hyn yn y tymor hir fel rhywbeth sy'n effeithio ar y gymuned er gwell?

Er enghraifft, beth am gadw’r elw hwnnw’n lleol yn gyntaf? Beth am ddefnyddio’r elw hwnnw wedyn i fuddsoddi mewn prosiectau fel ôl-osod tai, fel mynd i'r afael â chysylltiadau trafnidiaeth, a sefydlu cysylltiadau trafnidiaeth nad oeddent yn bodoli yn y lle cyntaf hyd yn oed? Dyna lle gwelwn effaith gadarnhaol weledol ar y gymuned, ac un sy'n mynd ymhell i gefnogi ein cyllid cyhoeddus. Gallem hyd yn oed sefydlu cronfa gyfoeth sofran yn ei sgil sy’n buddsoddi mewn sgiliau, yn buddsoddi yn ein hasedau fel cenedl, gan fynd o nerth i nerth. Mae cymaint o botensial yn cael ei golli yma ar hyn o bryd, a byddwn yn gobeithio y gall Aelodau ar draws y Siambr weld budd y dull hwn o weithredu. Byddaf yn pleidleisio dros y cynnig deddfwriaethol, a hoffwn annog yr Aelodau eraill i wneud hynny.

Photo of Lee Waters Lee Waters Llafur 3:24, 26 Mehefin 2024

(Cyfieithwyd)

Hoffwn wneud ymyriad byr i danlinellu fy nghefnogaeth i’r egwyddorion y tu ôl i’r cynnig heddiw. Yn amlwg, mae arnom eisiau mwy na sbarion, ac mae arnom eisiau dysgu gwersi’r gorffennol lle mae’r model echdynnol yn gwneud niwed i Gymru. Yn amlwg, mae ein hasedau adnewyddadwy a naturiol ymhlith ein cryfderau mwyaf wrth inni geisio adfywio ein heconomi, ac mae'n hollbwysig ein bod yn cael trefn ar bethau er mwyn gwneud y mwyaf o hynny.

Wrth gwrs, mae realiti ymarferol hynny yn hynod o gymhleth. Roeddwn yn falch o ddechrau gwaith yn y Sefydliad Materion Cymreig ar nodi trywydd ar gyfer gwneud Cymru’n gwbl ddibynnol ar ynni adnewyddadwy, a thua dwy flynedd yn ôl, arwain yr archwiliad dwfn yn Llywodraeth Cymru, i edrych gyda'r diwydiant ac arbenigwyr eraill, ar lefel fanwl iawn, ar y cyfyngiadau a'r pethau sy'n creu anghytundeb. Mae’r adroddiadau hynny ar gael ar-lein ac yn werth eu darllen.

Cafwyd diweddariad yn gynharach eleni ar yr archwiliad dwfn a ddangosodd fod cynnydd sylweddol wedi’i wneud. Ond gwyddom fod angen inni sicrhau bod pob un o'r ysgogiadau gwahanol wedi'u halinio, ac ar hyn o bryd, nid ydynt. Rwyf wedi fy nghalonogi’n fawr gan y cynnig ym maniffesto Llafur ar gyfer cronfa gyfoeth sofran, ond hefyd ar gyfer datblygwr ynni gwyrdd cenedlaethol sy'n eiddo cyhoeddus. Rwy'n credu y bydd hynny'n hollbwysig, a bydd yn adeiladu ar rywfaint o’r gwaith cynnar a wnaethom o ganlyniad i’r cytundeb cydweithio â Phlaid Cymru ar greu cwmni ynni yng Nghymru.

Fe wyddom, ac rydym wedi sôn droeon yn y Siambr hon, am y rôl y mae angen i Ystad y Goron ei chwarae er mwyn sicrhau bod Cymru’n elwa o’r cyfoeth enfawr oddi ar ein glannau, ond mae’n mynd i gymryd mwy na datganiadau i wneud hynny. Mae’r ffordd y mae buddsoddiad tramor yn ysgubo i mewn yn her wirioneddol i ni, ac mae’r gallu i ymateb ar raddfa fawr i hynny yn rhywbeth y mae angen inni fynd i’r afael ag ef. Felly, ar ryw ystyr, nid Bil sydd ei angen mewn ymateb i hyn. Nid prinder pwerau yw'r broblem. Y broblem yw nad oes gennym y capasiti a'r modd a'r cyllid i allu cymryd camau ar y raddfa angenrheidiol i fachu'r cyfleoedd hyn.

Credaf ei bod yn werth tynnu sylw at rai tensiynau y mae angen inni eu cydnabod. Gwyddom fod Deddf cenedlaethau’r dyfodol yn gosod cyfrifoldeb arnom i beidio â chyfnewid buddiannau hirdymor y genhedlaeth nad yw wedi'i geni eto am ein buddiannau tymor byr ni heddiw. Fe wyddom fod prosiectau ynni—nid rhai adnewyddadwy yn unig, ond unrhyw brosiect ynni—yn wynebu gwrthwynebiad lleol sylweddol. Mae Carolyn Thomas, yn gywir ddigon, wedi tynnu sylw at rai o ganlyniadau anfwriadol cael safbwynt diysgog iawn ar osod ceblau o dan y ddaear, er enghraifft, a allai niweidio ecosystemau hynod werthfawr, sy’n mynd yn groes i’r hyn rydym am ei wneud.

Gwyddom hefyd fod yn rhaid inni gydbwyso’r bygythiadau a wynebwn. Ddoe ddiwethaf, cyhoeddwyd ymchwil newydd yng nghyfnodolyn Nature Geoscience, a ddangosai pa mor gyflym y mae gwyddoniaeth newid hinsawdd yn datblygu a sut y gallai cynnydd bach iawn yn y tymheredd arwain at bwynt tyngedfennol, sydd wedyn yn arwain at golli llawer mwy o iâ môr, er enghraifft. Dangosodd yr astudiaeth fod pwynt tyngedfennol a nodwyd o'r newydd o ran colli—

Photo of David Rees David Rees Llafur 3:28, 26 Mehefin 2024

(Cyfieithwyd)

Bydd angen ichi ddirwyn i ben os gwelwch yn dda, Lee.

Photo of Lee Waters Lee Waters Llafur

(Cyfieithwyd)

—iâ yn yr Antarctig yn datblygu ar gyfradd lawer cyflymach nag a ragwelwyd gennym. Felly, bydd angen dod â chymunedau gyda ni, ond drwy ohirio gweithredu yn erbyn newid hinsawdd, byddwn yn rhoi’r cymunedau hynny mewn perygl llawer mwy nag y byddem yn dymuno. Mae'n bwysig ein bod yn deall y cyfaddawdau hynny, a'n bod yn eu hwynebu mewn ffordd ddoeth. Diolch.

Photo of David Rees David Rees Llafur

Galwaf ar Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a'r Gymraeg, Jeremy Miles.

Photo of Jeremy Miles Jeremy Miles Llafur

(Cyfieithwyd)

Diolch, Ddirprwy Lywydd. Hoffwn ddiolch i’r Aelodau am eu cyfraniadau i’r ddadl bwysig hon, a thynnu sylw at ein hymrwymiad cadarn i sicrhau bod cyfranogiad a pherchnogaeth gymunedol wrth wraidd ein huchelgeisiau ynni. Hoffwn wneud dau brif bwynt heddiw. Y pwynt cyntaf yw ein bod wedi ymrwymo'n llwyr i’r ymdeimlad a fynegir yn y cynnig. Mae'n rhaid i Gymru elwa, drwy fwy o gyfranogiad a pherchnogaeth leol a chymunedol, o’r pontio hanfodol i ynni adnewyddadwy. Rydym wedi mabwysiadu targed i sicrhau bod o leiaf 1.5 GW o gapasiti ynni adnewyddadwy mewn perchnogaeth leol erbyn 2035, gan adeiladu ar ein targed blaenorol o 1 GW erbyn 2030. Ac mae 97 y cant o’r targed 1 GW eisoes wedi’i gyflawni.

Yr ail bwynt yw bod angen cymysgedd o ymyriadau i gyflawni ein nodau, yn y ffordd a ddisgrifiwyd gan Lee Waters, a bod rhai canlyniadau anfwriadol os mai deddfwriaeth sylfaenol yw’r arf y byddwn yn estyn amdano yn gyntaf. Mae ynni adnewyddadwy yn sector sy’n tyfu’n gyflym ac yn newid, ac mae angen i’n polisïau fod yn hyblyg, fel y gallwn ymateb er mwyn gwneud y gorau o’r amgylchiadau newydd hynny. Rwy’n deall yr awydd i sicrhau bod trefniadau’n cael eu hymgorffori mewn deddfwriaeth sylfaenol, a gallaf ddychmygu rhyw bwynt yn y dyfodol lle gallai rhyw elfen o ddeddfwriaeth fod o gymorth. Ond mae'n rhaid i’n polisïau, yn ogystal â bod yn uchelgeisiol ac yn ymestynnol, fod yn ddigon hyblyg fel y gallwn ymateb yn gyflym ac yn hawdd i newidiadau allanol.

Mae Llywodraeth Cymru wedi bod yn cefnogi ynni cymunedol a lleol ers 15 mlynedd, ac rydym yn darparu cymysgedd o ymyriadau i helpu i gynyddu perchnogaeth gymunedol, gan gefnogi cymunedau o’r cam cysyniad hyd at gwblhau'r agweddau ariannol a chyflawni'r prosiect. Mae gennym gronfa o £12 miliwn i gynorthwyo mentrau cymunedol i wireddu eu syniadau.

Mae ein canllawiau ar berchnogaeth leol yn berthnasol i bob datblygiad ynni newydd. Mae hwn yn fframwaith i sicrhau bod prosiectau'n cael eu cynllunio a'u cyflwyno mewn cytgord â'r bobl a'r lleoedd y cânt eu lleoli ynddynt. Mae Ynni Cymru yn rhoi cyfle gwirioneddol i ehangu cynhyrchiant ynni adnewyddadwy lleol a chymunedol yng Nghymru. Bydd hyn yn helpu i gyflawni ein targed o sicrhau bod 100 MW o ynni adnewyddadwy newydd yn cael ei gynhyrchu gan gyrff cyhoeddus a grwpiau cymunedol erbyn 2026. Mae grantiau eisoes wedi’u hymrwymo i helpu grwpiau cymunedol i gyflymu’r prosiectau hyn. Y perygl gyda’r cynnig deddfwriaethol hwn yw na fydd yn mynd i’r afael â’r ffaith bod rhai rhwystrau ymarferol i berchnogaeth leol, gan gynnwys, weithiau, y capasiti a’r awydd weithiau, y bydd rhai grwpiau busnesau lleol ac unigolion yn eu rhannu gyda ni o ran eu gallu i gymryd perchnogaeth ar yr asedau hyn, ac mae'n rhaid ystyried hynny yn y dull cyffredinol. Y perygl a wynebwn gyda deddfwriaeth fel y mae, o ran ei bod yn mandadu perchnogaeth leol, yw y gallwn atal y buddsoddiad hanfodol sydd ei angen arnom ac a fydd o fudd i bob cymuned.

Roeddwn yng nghynhadledd Global Offshore Wind yr wythnos diwethaf yn trafod y ffordd y mae ynni gwynt ar y môr yn gyfle economaidd a allai fod yn drawsnewidiol, yn ogystal â chyfle ynni glân—newid a fyddai’n cefnogi iechyd economaidd cymunedau ledled Cymru, ac rydym am i Gymru allu arwain y gwaith hwnnw. Ac mae perygl y gallai deddfwriaeth o’r math hwn lesteirio’r nod hwnnw, er mor anfwriadol.

Y gwaith y gall Banc Datblygu Cymru ei wneud i helpu prosiectau i sicrhau perchnogaeth leol, rôl Trydan Gwyrdd Cymru—dyma ddwy enghraifft o’r math o gymysgedd o ymyriadau sydd ar y gweill gan y Llywodraeth, yn ogystal ag annog buddsoddiad mewn sgiliau, swyddi, y gadwyn gyflenwi ac mewn bioamrywiaeth. Rydym am ddenu’r math hwnnw o fuddsoddiad sy’n cefnogi ein holl gymunedau yng Nghymru.

Mae’r cynnig a drafodwn heddiw yn ceisio canolbwyntio, yn gwbl ddealladwy, ar gadw budd ac elw yng Nghymru, ac rwy’n deall yr hyn y mae Aelodau ar feinciau Plaid Cymru wedi’i ddweud heddiw. Ond mae'r ymyriadau rwyf newydd eu rhestru eisoes yn ein helpu i gyflawni hynny. Mae angen inni fonitro’r ymyriadau hynny a’u hadolygu’n barhaus.

Gan droi'n gryno at y cynigion ar gyfer mandadu'r defnydd o ynni adnewyddadwy mewn adeiladau newydd, yn ddiweddar, rydym wedi diwygio'r rheoliadau perthnasol a arweiniodd at welliannau sylweddol ym mherfformiad adeiladau newydd o ran allyriadau carbon. Ein gweledigaeth yw newid adeiladau i ddefnyddio dŵr poeth a gwres carbon isel. Bydd ymgynghoriad sy'n cynnwys y cynigion technegol llawn yn cael ei gyhoeddi yn nes ymlaen eleni, ac mae gennym raglen ôl-osod er mwyn optimeiddio a rhaglen Cartrefi Clyd, sy’n cefnogi ein sector tai.

Photo of Jeremy Miles Jeremy Miles Llafur 3:33, 26 Mehefin 2024

Dirprwy Lywydd, i grynhoi, mae perchnogaeth gymunedol wrth wraidd ein polisi ynni adnewyddadwy ac mae'n elfen hanfodol o'n cynllun cyffredinol i fanteisio ar fuddsoddiadau ynni gwyrdd. Rwy'n credu bod deddfwriaeth fel hyn yn gallu bod yn arf rhy lawdrwm i gyflawni hyn ac mae peryg o gyfyngu ar y buddsoddiad sydd ei angen ar ein cymunedau ni a'n hamgylchedd ni. Mae angen y cymysgedd cywir o ymyriadau arnom ni. Mae ein dull ni o gefnogi perchnogaeth trwy dargedau uchelgeisiol, annog cymunedau a datblygwyr i weithio gyda'i gilydd a hyrwyddo perchnogaeth Gymreig drwy Trydan Gwyrdd Cymru ac Ynni Cymru eisoes yn darparu canlyniadau. Fe wnawn ni gadw'r polisïau hyn o dan drosolwg, wrth gwrs, ond dyma ran o'n hateb 'gwnaed yng Nghymru' ni i gyfranogiad a pherchnogaeth gymunedol.

Photo of Adam Price Adam Price Plaid Cymru

Rwy'n ddiolchgar i bawb sydd wedi cyfrannu at y ddadl. Buaswn i'n dechrau trwy ddweud hyn: rwy'n credu bod yr Aelodau sydd wedi siarad o'r meinciau cefn wedi dangos y perygl os nad ŷn ni yn deddfu. Hynny yw, bydd yna fwy eto o bwyslais dim ond ar safleoedd tir glas yn hytrach na defnyddio safleoedd mwy addas—byddai yna fethiant, a dyna'r pwynt yr oedd Carolyn yn gwneud. Ac wrth gwrs, mae angen, o ran y grid—dŷn ni yn gryf iawn o blaid tanddaearu, ond mae eisiau osgoi, wrth gwrs, tanddaearu mewn llefydd lle byddai hynny yn broblemus, a does neb o blaid hynny nac yn annog hynny. Mi fydd dal sefyllfa gyda ni lle bydd datblygiadau gyda ni yn lleol, ond dŷn ni'n methu cael y mynediad hyd yn oed—heb sôn am yr elw—at y trydan, oherwydd bod gyda ni system grid hen ffasiwn, a dweud y gwir, sydd wedi cael ei adeiladu ar gyfer y ganrif ddiwethaf, yn hytrach na'r math o smart grids lleol sydd yn caniatáu i ddatblygwyr lleol gael eu trydan nhw i mewn i ddefnydd lleol.

Ac wedyn, wrth gwrs, y thema o ecsbloetio—unwaith eto, buaswn i'n dweud wrth y Gweinidog, ond bai ein bod ni'n deddfu, mae'r datblygwyr yma wastad yn mynd i anwybyddu eich anogaeth ar gyfer perchnogaeth leol. Mae'n ffantastig bod Ynni Cymru yno er mwyn annog pobl leol i sefydlu cwmnïau cymunedol, ond nid yw datblygwyr mawr, oni bai bod rheidrwydd deddfwriaethol arnyn nhw, yn mynd i wrando. A buaswn i'n dweud, o ran y risg o ran deddfu i greu isafswm o berchnogaeth leol—bod yna risg ein bod ni'n colli buddsoddiad. Wel, mae Denmarc yn awgrymu fel arall—hynny yw, gwlad sydd wedi llwyddo i'r uchelfannau o ran datgarboneiddio, ac eto wedi gwneud hynny mewn ffordd gymysg. Hynny yw, mae yna ddatblygiadau mawr yn bodoli yn Nenmarc hefyd, ond maen nhw wedi gwneud hynny mewn model sydd hefyd yn rhoi pwyslais mawr yn llwyddiannus ar berchnogaeth leol, ac wedi gwneud hynny trwy ddeddfu.

Rhan arall, wrth gwrs, o ddeddfu—a dwi'n derbyn, efallai, mai, yn rhannol, defnyddio'r pwerau is-ddeddfwriaethol sydd yna'n barod—ydy creu'r rheidrwydd i roi solar ar y to, yn sicr mewn adeiladau newydd. Mae'r Undeb Ewropeaidd, yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, wedi deddfu i'w gwneud hi'n ofynnol i chi gael solar ar do unrhyw adeilad newydd neu unrhyw estyniad. Mae'r un peth wedi digwydd yn yr Alban ac mewn nifer o wledydd. Pam nag ŷn ni'n gwneud hynny fel pecyn yng Nghymru? A dyna pam mae deddfu yn rhan o'r ateb. Dwi'n derbyn y pwynt roedd Lee Waters yn ei wneud—dyw e ddim yr ateb i gyd. Dwi'n meddwl, gyda Great British Energy, a chyda'r national wealth fund, mae'n gallu mynd un o ddwy ffordd, achos pan wnaeth y faner yna godi uwchben y pyllau glo yn ein hardal ni— 

Photo of Adam Price Adam Price Plaid Cymru 3:37, 26 Mehefin 2024

(Cyfieithwyd)

'Mae'r pwll glo hwn bellach yn cael ei reoli ar ran y bobl'—.

Photo of Adam Price Adam Price Plaid Cymru

Yn anffodus, mewn blynyddoedd wedi hynny, gwnaethon ni ffeindio mas nad oedd y penderfyniadau yn cael eu gwneud er budd pobl leol. Felly, mae perchnogaeth gyhoeddus yn rhan o'r ateb, ond mae'n rhaid bod y berchnogaeth hynny hefyd wedi'i gwreiddio yma yng Nghymru. Mae'n rhaid i ni gael ein cronfa cyfoeth ein hunain. Mae'n dda bod Trydan Gwyrdd Cymru yno, ond, yn sicr, dyna'r cerbyd ar gyfer sicrhau y dyfodol gorau posib i Gymru, nid dibynnu ar sefydliadau o'r tu allan, boed yn y sector gyhoeddus neu'r sector breifat.

Photo of David Rees David Rees Llafur 3:38, 26 Mehefin 2024

Y cwestiwn yw: a ddylid nodi'r cynnig? Oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Oes. Felly, gohiriaf y bleidlais ar yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio. 

Gohiriwyd y pleidleisio tan y cyfnod pleidleisio.