– Senedd Cymru am 4:13 pm ar 25 Mehefin 2024.
Eitem 5 yw'r datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig: system fwyd Cymru—cynhyrchu bwyd mewn ffordd gynaliadwy.
Diolch yn fawr, Dirprwy Lywydd. Heddiw, rwy'n falch iawn o nodi ar gyfer Aelodau'r Senedd sut y mae Llywodraeth Cymru yn cynnal sector bwyd a diod mwy cynaliadwy yn wyneb yr argyfwng hinsawdd. Ac fel y gwyddom ni, nid bygythiad pell yn y dyfodol yn unig yw newid hinsawdd y gallwn ei anwybyddu am y tro; mae'n realiti presennol i aelwydydd ac i fusnesau ledled Cymru heddiw. Yn wir, yn barod, dros y pum mlynedd diwethaf, mae Cymru wedi profi sawl digwyddiad tywydd eithafol. Rydyn ni'n gweld gwres eithafol, glaw trwm, stormydd gwynt, sychder, oerni eithafol ac eira. Mae adroddiad diweddar a gomisiynwyd gan WWF yn amcangyfrif bod newid hinsawdd yn costio degau o filiynau o bunnau i'r sector amaethyddol yng Nghymru bob blwyddyn, gydag amcangyfrif o golled o £175 miliwn yn 2018 yn unig.
Yn fyd-eang, mae sychder a thonnau gwres wedi effeithio'n niweidiol ar gadwyni cyflenwi coco, olew olewydd, reis, ffa soi, gan olygu bod llai ar gael a bod cynnydd sylweddol mewn prisiau yn y DU, sy'n rhoi pwysau ar gostau busnesau bwyd ac, yn y pen draw, ar brisiau i ddefnyddwyr.
Felly, yn wyneb yr heriau hyn, mae tuedd gynyddol, hefyd, o ddefnydd moesegol. Yn fwy nag erioed, mae'r cyhoedd yn disgwyl i gyflenwyr gofleidio arferion cynhyrchu cynaliadwy. Yn wir, mae mewnwelediad i'r farchnad yn datgelu bod un o bob tri defnyddiwr yn y DU wedi rhoi'r gorau i brynu rhai brandiau oherwydd pryderon yn ymwneud a moeseg neu gynaliadwyedd. Felly, fwy a mwy, rydyn ni'n gweld bod pobl eisiau gwario'r bunt yn eu pocedi mewn ffyrdd sydd hefyd o fudd i'r blaned.
Nawr, fel y gwyddom ni i gyd ar draws y Siambr, mae dyfodol cynaliadwy i ffermio yn allweddol i ddyfodol cynaliadwy bwyd a diod yng Nghymru. Mae'r cynllun ffermio cynaliadwy yn hanfodol i gyflawni hyn, ac mae wedi bod yn destun datganiad llafar ar wahân ychydig wythnosau yn ôl. Rhaid i'r diwydiant bwyd a diod yng Nghymru, fel rhan o'r broses cynhyrchu bwyd ar ôl giât y fferm, hefyd ymateb i'r gofynion cynaliadwyedd hyn, fel yr ydym wedi'i nodi yn ein gweledigaeth ar gyfer y diwydiant bwyd a diod.
Fel rhan o'n hymrwymiad sero net, rydym yn cefnogi busnesau i leihau eu hôl troed carbon trwy effeithlonrwydd prosesau, defnyddio adnoddau a lleihau gwastraff. Felly, yn y cyd-destun hwn heddiw, byddaf yn canolbwyntio ar roi'r wybodaeth ddiweddaraf i chi i gyd am y cymorth rydym wedi'i roi ar waith er mwyn i weithgynhyrchwyr bwyd a diod Cymru ddatgarboneiddio, gwella darpariaeth effeithiau amgylcheddol a chymdeithasol cadarnhaol, ac i ymateb i'r effeithiau hinsawdd ar gynhyrchu bwyd. Nawr, er y bydd datblygiadau polisi ar lefelau cenedlaethol a rhyngwladol yn gosod cyfeiriad y daith, bydd y farchnad ei hun hefyd yn gyrru'r diwydiant tuag at ddyfodol mwy cadarnhaol.
Er mwyn cefnogi busnesau i ddatblygu'r sgiliau sydd eu hangen arnynt i symud ymlaen ar yr agenda cynaliadwyedd, rydym wedi sefydlu rhaglenni hyfforddi wedi'u hariannu'n llawn ar gynaliadwyedd, datgarboneiddio ac addasu, wedi'u teilwra'n arbennig i'r diwydiant bwyd a diod. Mae'r rhain yn cynnwys pecynnau cymorth ymarferol ac offer hunanasesu ar-lein sydd wedi'u cynllunio i gefnogi busnesau i nodi eu cryfderau, meysydd i'w gwella, a gwendidau posibl sy'n gysylltiedig â newid hinsawdd. Mae'r canllawiau'n ymdrin â meysydd allweddol ar gyfer gwell cynaliadwyedd fel rheoli ynni, effeithlonrwydd dŵr a lleihau gwastraff, yn ogystal â phryderon cymdeithasol am ddarparu gwaith teg. Mae cymorth hefyd yn helpu busnesau i ddatblygu technegau rheoli risg ar gyfer tarfu posibl ar drydan, cyflenwad dŵr a dosbarthu, yn ogystal â digwyddiadau sy'n gysylltiedig â'r hinsawdd fel llifogydd. Nawr, mae hyn i gyd yn helpu busnesau i gyrraedd strategaethau cynaliadwyedd pwrpasol, gan eu grymuso i feithrin cydnerthedd ac i ffynnu mewn tirwedd hinsawdd sy'n gynyddol anrhagweladwy.
Mae cymorth pellach hefyd i fusnesau gryfhau eu harferion cynaliadwyedd drwy'r clwstwr cynaliadwyedd, sydd bellach yn cynnwys dros 100 o fusnesau sy'n aelodau. Mae'r clwstwr cynaliadwyedd yn hyrwyddo'r agenda cynaliadwyedd mewn digwyddiadau bwyd mawr, fel Sioe Frenhinol Cymru, gan gynnig cyfleoedd amhrisiadwy i fusnesau a'u cadwyni cyflenwi ymgysylltu a dysgu. Edrychaf ymlaen at ymweld â'r stondin fy hun yn ddiweddarach y mis nesaf.
Ar 3 Gorffennaf, byddaf yn annerch cynhadledd gynaliadwyedd Bwyd a Diod Cymru, Paratoi Cymru ar gyfer y Dyfodol, yr ydym yn ei chynnal mewn cydweithrediad â'r cadwyni cyflenwi bwyd a diod, ac yn cael ei hysgogi gan y clwstwr cynaliadwyedd. Bydd y digwyddiad yn dwyn ynghyd fusnesau bwyd a diod gydag arbenigwyr a rhanddeiliaid allweddol yn y diwydiant. Gyda'n gilydd, byddwn yn dangos y rheidrwydd masnachol i fusnesau ymateb i'r galw cyhoeddus am fwyd a diod sy'n cael eu cynhyrchu'n gyfrifol, yn gymdeithasol ac yn amgylcheddol.
Yn y digwyddiad, bydd diwydiant yn dysgu am y cyfle i gymryd rhan yn rhaglen dreialu y cynllun lleihau carbon, a ddyluniwyd i gefnogi busnesau i ddeall eu hallyriadau carbon ac i ddatblygu cynlluniau y gellir eu gweithredu i'w lleihau. Mae tua 80 o fusnesau eisoes wedi mynegi diddordeb mewn cymryd rhan, ac rydym yn annog mwy i ymuno.
Bydd dau gyfle arall yn ddiweddarach eleni. Felly, ym mis Medi, gall busnesau sydd wedi cwblhau ein cyrsiau hyfforddi fynychu'r digwyddiad carfan cynaliadwyedd a datgarboneiddio yng Nghanolfan Ymchwil Gweithgynhyrchu Uwch Cymru i rwydweithio, ymgysylltu ag arbenigwyr, ac i ymgynghori â hyfforddwyr ar eu cynnydd o ran cynaliadwyedd. Ym mis Hydref, gall busnesau yng nghynhadledd Blas Cymru/Taste Wales yn y gogledd ymweld â'r parth cynaliadwyedd bwyd a diod ac ymuno â chynrychiolwyr allweddol o fusnesau, y byd academaidd a diwydiant mewn trafodaeth ford gron i werthuso'r gefnogaeth bresennol ac i awgrymu mesurau pellach ar gyfer cynnydd. Ond nid yw ein gwaith yn gorffen yn y fan yna.
Ar hyn o bryd rydym yn nodi gofynion a bylchau trawslywodraethol i fynd i'r afael ag effeithiau newid hinsawdd ar y system fwyd yng Nghymru. Bydd y gwaith hwn yn cael ei integreiddio i bolisi addasu hinsawdd Llywodraeth Cymru ar gyfer Cymru. Fel rhan o'r fenter hon, rydym yn datblygu canllawiau uniondeb cynhwysfawr y gadwyn gyflenwi sydd wedi'u cynllunio'n benodol i gefnogi manwerthwyr annibynnol a busnesau bwyd a diod i baratoi ar gyfer gwrthsefyll newid hinsawdd.
Rydym yn gwybod pa mor gryf y gall siociau posibl newid hinsawdd fod, ac felly rydym yn helpu busnesau i gydweithio â chanolfannau arloesi bwyd. Mae hyn yn golygu, er enghraifft, y gallant ail-lunio ryseitiau, amnewid cynhwysion a allai ddod yn anghynaladwy, llai ar gael, neu hyd yn oed yn ddrytach yn y dyfodol oherwydd amrywiadau cynnyrch cnwd byd-eang disgwyliedig. Trwy hyn, ein nod yw sicrhau bod ein sector bwyd a diod yn parhau i fod yn gydnerth ac yn addasadwy yn wyneb dyfodol hinsawdd sy'n fwyfwy ansicr. A'r neges yw, Dirprwy Lywydd, y gallwn ni, gyda'n gilydd, greu dyfodol gwell, mwy diogel i fwyd a diod yng Nghymru yn wyneb yr argyfwng hinsawdd.
Yn dilyn argymhellion y Pwyllgor Newid Hinsawdd, rydym yn archwilio mandadu adrodd risgiau hinsawdd ar gyfer busnesau mawr bwyd a bwyd anifeiliaid. Ac er mwyn cyflawni Cymru sero net - cyllideb garbon 2, rydym yn datblygu cynllun datgarboneiddio cynhwysfawr i'r diwydiant gyflawni ein nodau cynaliadwyedd uchelgeisiol. Mae hyn i gyd yn dibynnu ar ein gallu i addasu, i arloesi ac i weithio gyda'n gilydd. Trwy gofleidio cynaliadwyedd, gallwn gynnig y cynhyrchion y mae'r cyhoedd eisiau eu gweld a sicrhau dyfodol ein diwydiant bwyd a diod, y busnesau a'r cadwyni cyflenwi. Bydd Llywodraeth Cymru bob amser yn uchelgeisiol yn ein gweledigaeth o dyfu diwydiant bwyd a diod cynaliadwy a diogel sy'n addas ar gyfer nawr ac ar gyfer y dyfodol hefyd. Diolch, Dirprwy Lywydd.
Diolch, Gweinidog, am eich datganiad. Mae sut i ddarparu bwyd iach, maethlon i bawb yn wyneb adnoddau sy'n crebachu, poblogaeth sy'n tyfu ac, wrth gwrs, ansicrwydd byd-eang yn her fawr ar draws y byd, yn enwedig yma yng Nghymru. Mae'n her y mae'r Ceidwadwyr Cymreig yn ddiweddar iawn, yn enwedig Peter Fox a minnau, wedi'i derbyn, ac rydym wedi cynnig atebion deddfwriaethol. Roedd cynyddu diogelwch bwyd a mynd i'r afael â thlodi bwyd a chamfaethiad yn nodau allweddol y Bil Bwyd (Cymru). Rwy'n teimlo'n drist iawn pan fydd yr Aelodau'n cyflwyno'r cynigion deddfwriaethol hyn: Sam Rowlands yn ddiweddar, gydag addysg awyr agored, Paul Davies, pan gyflwynodd awtistiaeth ac anghenion dysgu ychwanegol—rhai cyfreithiau da iawn, pe baen nhw'n cael eu gweithredu nawr ni fyddem yn cael y problemau yr ydym yn eu cael nawr.
Roedd gan Fil Bwyd (Cymru) Peter ofynion gwych, gan gynnwys: gosod dyletswydd ar Weinidogion Cymru i lunio strategaeth fwyd flynyddol i Gymru i fynd i'r afael â thlodi a chamfaethiad; sicrhau twf cynaliadwy y sector bwyd a bod cynhyrchwyr bwyd lleol cynaliadwy yn cael mynediad at gefnogaeth a chymhellion digonol—pwy allai anghytuno â hynny; ei gwneud yn ofynnol i awdurdodau lleol a gwasanaethau cyhoeddus eraill ddatblygu cynlluniau bwyd cymunedol; cryfhau caffael cyhoeddus—pwy allai anghytuno â hynny; cryfhau gofynion statudol ar labelu bwyd, megis y wlad wreiddiol a labelu bwyd sy'n cael ei fwyta gartref a bwyd sy'n cael ei fwyta mewn gwasanaethau bwyd, lleoliadau lletygarwch, lleoliadau ysbyty, lleoliadau ysgolion—pwy allai anghytuno â hynny; cael gwared ar wastraff bwyd drwy orfodi archfarchnadoedd a siopau eraill i roi bwyd diangen i elusennau a banciau bwyd—pwy allai anghytuno â hynny?
Felly, Ysgrifennydd Cabinet, o ystyried ein bod yn cyflwyno cynigion deddfwriaethol synhwyrol, a wnewch chi ailystyried y gwrthwynebiad i'r mesurau arfaethedig, ac efallai y gallwn edrych ar hyn ar sail fwy trawsbleidiol? Ym mis Ebrill, cyflwynais gynnig deddfwriaethol gerbron Senedd Cymru a fyddai'n creu dyletswydd i Lywodraeth Cymru osod targedau i wella diogelwch bwyd yng Nghymru. Rwy'n ddiolchgar am y 24 pleidlais o blaid, ond ni welaf unrhyw fwriad gan Lywodraeth Cymru i gyflwyno hwn. Felly, a wnewch chi, eto, edrych ar hwnnw, edrych ar yr hyn rydyn ni wedi'i gynnig? Ac, hyd yn oed os byddwch yn cyflwyno Bil, os yw'n cynnwys llawer o'r cynigion a gyflwynwyd gennym ni, a oes ots enw pwy sydd ar y tun?
A gaf i, nawr, longyfarch ein cyflenwyr yn ystafell de a bwyty'r Aelodau, Rob, y rheolwr, a'r tîm o staff yno, yn gweithio gyda Chymdeithas y Pridd, a'n tîm yma yn adran gynaliadwyedd y Comisiwn? Maen nhw wedi cael gwobr, ac mae hynny'n wych—bod Aelodau ac ymwelwyr nawr yma, yn y Senedd hon, yn gallu bwyta bwyd cynaliadwy.
Mae ffigurau mwy diweddar a gyhoeddwyd gan Lywodraeth Cymru yn dangos bod gwerth mewnforion bwyd a diod i Gymru ar gyfer 2022 yn £797 miliwn. Mae'r data diweddaraf a dynnwyd o wybodaeth fasnach CThEF y DU yn dangos bod gwerth bwyd a diod a fewnforiwyd i Gymru ar gyfer 2023 yn £803 miliwn. Mae'r orddibyniaeth ar fewnforion yn glir, ac mae'n golygu ein bod ni, fel cenedl, bellach yn agored i ansefydlogrwydd byd-eang. Er enghraifft, mae ansefydlogrwydd ym marchnadoedd amaethyddol Wcráin yn cael ei amlygu mewn amrywiadau mewn prisiau bwyd.
Rydym hefyd yn mewnforio, gydag ôl troed carbon mawr, ffa soia, gyda dofednod bellach yn cael eu bwydo ar ffa soia wedi'i fewnforio, yn hytrach na grawn, sef y prif gynhwysyn sydd ei angen—grawn a dyfir yn lleol—ers yr Ail Ryfel Byd. Rwy'n gwybod hyn oherwydd bod fy rhieni a neiniau a theidiau yn ffermwyr dofednod. Doedden nhw ddim yn gwybod bryd hynny beth oedd ffa soia, grawn oedd y cyfan. Edrychwch ar y cynllun ffermio cynaliadwy a ddaeth allan o gytundeb cydweithio Llafur Cymru a Phlaid Cymru: cafodd ei wrthwynebu'n llwyr gan ffermwyr. Mae ffermwyr yn gwybod beth maen nhw'n ei wneud, ac rydyn ni'n ffyliaid os nad ydyn ni'n gwrando mwy arnyn nhw mwy.
Y peth arall yr wyf eisiau ei ddweud, Gweinidog, yw fy mod eisiau gweld bwyd môr a physgod ffres yn cael eu cyflwyno'n lleol fel prif fwyd cynhenid i blant mewn ysgolion. Rydyn ni'n gwybod pa mor faethlon yw bwyd môr a physgod i blant, felly pam nad ydyn ni'n eu rhoi yn ein hysbytai, a pham nad ydyn ni'n eu rhoi yn neiet ein plant? Mae angen i ni annog mwy o randiroedd. Mae cymaint o bobl bellach wedi cael llond bol o fygythiadau i'n bwyd. Maen nhw eisiau tyfu eu ffrwythau a'u llysiau eu hunain.
Mae'r cynllun ffermio cynaliadwy, gyda'r 10 y cant o dir ar gyfer coed a 10 y cant o dir ar gyfer natur, fel y gwyddoch chi, wedi cael ei wrthod—
Janet, mae angen i chi ddechrau cloi nawr, os gwelwch yn dda.
Oes, rwy'n gwybod, rwy'n gwybod. Wyddoch chi, gallwn i siarad am hyn yn hirach—
Rwy'n siŵr y gallech chi, ond does gennych chi ddim yr amser.
—ond rwy'n siŵr y byddaf yn cyfarfod â'r Ysgrifennydd Cabinet. Mae angen i ni weithio gyda'n gilydd, rwy'n credu, yn drawsbleidiol. Mae bygythiadau difrifol i'n diogeledd bwyd byd-eang. Nid yw'n ymwneud â dewis yn unig mwyach. Rwyf eisiau gweithio gyda chi ar hyn, Gweinidog, wrth symud ymlaen. Diolch.
Janet, diolch yn fawr iawn, ac a gaf i ddechrau lle rydych chi wedi gorffen? Fy null i yw gweithio gyda phobl pan fo ganddyn nhw syniadau da, a cheisio symud y rhain ymlaen. Byddaf i, fel eraill, yn talu teyrnged i waith Peter, y gwnaethoch chi dynnu sylw ato nawr, wrth gyflwyno'r ddeddfwriaeth. Ond rwy'n dweud yn syml nad dyna'r achos bob amser—. Rwyf bob amser yn disgrifio fy hun fel y deddfwr anfoddog. Nid yw bob amser yn wir fod angen deddfau i wneud i bethau ddigwydd, neu strategaethau, neu bapurau mawr sy'n glanio ar silffoedd. Mae'n ymwneud â bwrw ymlaen â'r camau sydd eu hangen arnom i sicrhau diogeledd bwyd, cydnerthedd, cynaliadwyedd ac ati.
Felly, gadewch i mi grybwyll ychydig ohonyn nhw, oherwydd rwy'n hapus i weithio gyda chi a gydag eraill ar y ffyrdd gorau ymlaen. Felly, yn gyntaf oll, o ganlyniad, mewn gwirionedd—. Nid ar ddamwain, ar gefn y dadleuon a ddigwyddodd ynghylch polisi bwyd tua adeg cyflwyno Bil Peter, y sefydlwyd y fforwm polisi bwyd, yn ôl yn 2023. Mae'r ffocws hwnnw nawr, ar draws y Llywodraeth a gyda rhanddeiliaid, ar bolisi bwyd yn parhau.
Rydym yn edrych ymlaen at gyflwyno 'Food Matters' yn fuan iawn, ac rwy'n gwybod y bydd Aelodau'r Senedd yn rhagddisgwyl, a hefyd yn cyflwyno, gobeithio, erbyn diwedd eleni—. Mae'n rhan o ymrwymiadau'r rhaglen lywodraethu i gyflwyno'r strategaeth bwyd cymunedol, ac rwy'n bwrw golwg, wyth neu naw wythnos i mewn i'r swydd hon, dros yr hyn y bydd y strategaeth bwyd cymunedol honno'n ei olygu a'r hyn na fydd yn ei olygu hefyd. Felly, nid rhyw gylch hud sy'n clymu popeth gyda'i gilydd, ond rwy'n credu y bydd y polisi 'Food Matters' yn dwyn ynghyd yr holl gamau hynny yr ydym yn eu cyflawni ar draws y Llywodraeth ac ar draws polisi. Bydd y strategaeth bwyd cymunedol, rwy'n credu, yn ychwanegu rhywbeth arwyddocaol.
Roeddech chi'n sôn am Rob a'r tîm arlwyo yma. Roeddwn i'n hapus iawn i ymuno â nhw, mewn gwirionedd. Maen nhw newydd gael y wobr efydd am gynaliadwyedd. Dyw'r wobr efydd ddim yn swnio fel llawer, ond mae'n gam enfawr, a dwi'n siŵr y bydd Rob a'r tîm yn bwriadu gwneud mwy. Ond mae'r ffaith eu bod yn ceisio dod o hyd i gymaint ag y gallant yn lleol, yn ffres, yng Nghymru, a hefyd yn edrych ar yr effeithiau amgylcheddol ehangach hynny y soniais amdanyn nhw yn fy sylwadau agoriadol, fel nad ydynt yn dinoethi, boed yn fforestydd glaw mewn rhan bell o'r byd neu gynyddu cynhyrchu soia, ac ati, yn bwysig iawn.
Mae cydnerthedd bwyd, wrth gwrs, yn rhan o ddiogeledd bwyd, ac mae hynny'n rhan fawr iawn o'm sylwadau agoriadol—yr hyn y gallwn ei wneud gyda chynhyrchwyr bwyd, ffermwyr ond hefyd cynhyrchwyr bwyd yn y gadwyn gyflenwi, er mwyn meithrin y cydnerthedd hwnnw ynddyn nhw. Mae'n ymwneud a dyluniad cynnyrch amgen hefyd, gan eu bod efallai yn wynebu tarfu ar eu cadwyni cyflenwi wrth symud ymlaen. Rwy'n credu bod hyn yn dda, rydym yn meddwl yn flaengar, gan weithio gyda rhanddeiliaid i wneud i hynny ddigwydd.
Mae bwyd môr mewn gwirionedd yn enghraifft dda iawn o rai o'r heriau sydd o'n blaenau. Credwch chi fi, nid yw hwn yn bwynt gwleidyddol, ond rwy'n edrych ar draws y Siambr yma arnoch chi ac Aelodau eraill sy'n cynrychioli etholaethau'r gogledd lle mae bwyd môr a physgodfa gregyn wedi bod, mewn rhai ffyrdd, yn llwyddiant mawr dros y blynyddoedd diwethaf, ond maen nhw wedi taro rhwystrau nawr gyda rhwystrau masnach ynghylch allforion ac ati a'r beichiau sydd wedi dod. Mae angen i ni edrych ar hynny wrth symud ymlaen, byddwn yn awgrymu gyda Llywodraeth y DU yn gwrando ar lais Cymru hefyd. Ond mae hefyd yn enghraifft dda, os gallwn greu'r farchnad honno gartref—a dyna'r cwestiwn—gyda'r pris cywir ar gyfer y cynnyrch hwnnw hefyd, oherwydd roedd yr hyn roedden nhw'n ei gael yn bris uchel am eu hallforion, yna mae hynny'n beth da i'w wneud.
Mae yna lawer o faterion eraill y gwnaethoch chi gyffwrdd â nhw, Janet, ond rwy'n awyddus i weithio gyda chi a gydag eraill ar y ffordd orau ymlaen ar gyfer bwyd cynaliadwy yng Nghymru. Yr hyn rwy'n bendant yn ei gylch yw, pryd bynnag y byddaf yn siarad â chynhyrchwyr, maen nhw'n dweud wrthyf mai ein safonau amgylcheddol a chynaliadwyedd yw dilysnod llwyddiant cynhyrchu Cymru. Mewn gwirionedd, mae'r ffordd rydym yn symud ymlaen yn creu'r cydnerthedd hwnnw ar gyfer y dyfodol, pan fyddwn yn wynebu heriau hinsawdd o'r mathau rydw i wedi'u disgrifio. Diolch yn fawr iawn.
Diolch am eich datganiad, Ysgrifennydd Cabinet. Dydw i ddim yn credu bod unrhyw beth ynddo yr wyf yn anghytuno ag ef. Roeddwn i'n cyfrif wrth i chi restru'r mentrau. Roedd tua naw gweithgaredd gwahanol sy'n mynd rhagddynt ar hyn o bryd, ac yna fe wnaethoch chi grybwyll dau arall tua'r diwedd sydd efallai yn rhai o'ch uchelgeisiau chi. Mae un yn mandadu adrodd ar risg hinsawdd i fusnesau mawr bwyd a bwyd anifeiliaid. Mewn egwyddor, does gen i ddim problem o gwbl gyda hynny, ond yn amlwg mae cwestiynau ynglŷn â sut y gallai hynny weithio'n ymarferol gan osgoi ymarfer blwch ticio biwrocrataidd. Ond rwy'n siŵr y byddwch wedi ymrwymo i weithio gyda'r sector i ddatblygu hynny. Yn yr un modd wedyn, datblygu cynllun datgarboneiddio cynhwysfawr ar gyfer y diwydiant. Unwaith eto, mae hynny'n rhywbeth rwy'n credu mewn egwyddor sy'n gwbl gywir, ond mae'n rhai ystyried y manylion o ran sut y gellir gwneud hynny i weithio.
Mewn gwirionedd, teimlais fod y datganiad, er imi gytuno â llawer ohono, ychydig yn ddryslyd. Roedd yn rhestr o weithgareddau unigol sydd ar waith. Roeddwn i'n gobeithio, ar ôl gweld teitl y datganiad hwn heddiw, ein bod ni'n adeiladu tuag at strategaeth fwyd gynhwysfawr, gydlynol, gydgysylltiedig, o'r fferm i'r fforc yma yng Nghymru. Roedd yn teimlo ychydig bach fel gwn yn gwasgaru pelets, mewn gwirionedd, o ran rhestru gwahanol fentrau. Ond efallai y gall y cynllun datgarboneiddio ddod â rhai o'r edeifion hynny at ei gilydd.
Rwy'n siŵr y byddwch yn cytuno mai'r hwb mwyaf i gynaliadwyedd y sector bwyd a diod yng Nghymru fyddai caffael bwyd mwy lleol-ychwanegu gwerth, creu swyddi, lleihau milltiroedd bwyd, rhoi bwyd iachach o ansawdd uwch ar ein platiau. Felly, efallai y gallech ddweud wrthyf beth y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud yn arbennig o ran caffael bwyd lleol a'ch cynlluniau o ran twf yn y maes hwnnw, ac, law yn llaw â hynny, wrth gwrs, beth rydych chi'n ei wneud i hyrwyddo prosesu lleol a chynyddu capasiti prosesu lleol. Fe wnes i godi pryderon gyda chi yr wythnos diwethaf am Mona Dairy, wrth gwrs, yn union y math o fenter rydyn ni eisiau ei gweld yn llwyddo yng Nghymru. Yn anffodus, dydyn nhw ddim wedi llwyddo. Mae'n gadael blas drwg yn y geg, mae'n tanseilio hyder cynhyrchwyr cynradd i gefnogi'r mathau hyn o fentrau. Felly, efallai y gallech chi ymhelaethu ychydig am sut y gallwn sicrhau ein bod yn parhau i weld twf yn y potensial hwnnw.
Fe wnaethoch chi grybwyll Brexit a chytundebau masnach Torïaidd sydd, a dweud y gwir, yn tanseilio llawer o'n cynhyrchwyr bwyd a diod ar hyn o bryd. A ydych felly yn cytuno â galwadau Plaid Cymru i Gymru gael feto ar gytundebau masnach yn y dyfodol os ydym yn credu eu bod yn niweidiol i'r sector bwyd a diod yma yng Nghymru? Ac a fyddech chi'n cytuno â Phlaid Cymru eto y byddem yn well ein byd fel rhan o farchnad sengl ac undeb tollau?
Mae cadwyn gyflenwi deg a gweithredol yn hanfodol. Nid oes gennym ni hynny ar hyn o bryd, felly, unwaith eto, byddai gen i ddiddordeb mewn clywed eich meddyliau am yr angen i gryfhau pwerau'r dyfarnwr nwyddau groser i fynd i'r afael ag arferion annheg. A fyddech chi, fel Ysgrifennydd Cabinet, yn fodlon lobïo unrhyw Lywodraeth y DU sy'n dod i mewn ynghylch hyn, i helpu i wella tryloywder o fewn ein cadwyni cyflenwi? Yn yr un modd, mae prinder llafur yn rhwystr i lawer o'r sector bwyd a diod yng Nghymru a thu hwnt. Mae gwir angen i ni sicrhau bod y rhestr o alwedigaethau lle ceir prinder yn cael ei diwygio mewn ffordd sy'n cefnogi ein cynhyrchwyr yma yng Nghymru. Rwy'n mawr obeithio y byddech chi'n barod i ymrwymo i hynny hefyd. Diolch.
Diolch, Llyr. Roedd rhai pwyntiau diddorol a defnyddiol iawn yna. Yn gyntaf oll i ddweud, wrth archwilio mandad adrodd risgiau hinsawdd ar gyfer y busnesau mawr bwyd a bwyd anifeiliaid—un o argymhellion y pwyllgor newid hinsawdd—a hefyd datblygu cynllun datgarboneiddio cynhwysfawr ar gyfer y diwydiant, byddwn, wrth gwrs, yn gweithio trwy fanylion hyn gyda rhanddeiliaid. Rydyn ni eisiau gwneud hyn yn iawn. Mae'n arwydd o'r dull yr wyf yn ei fabwysiadu. Rydym am gael y polisïau hyn yn iawn i bawb a symud ymlaen gyda'n gilydd. Ond gallai hynny fod yn dipyn o ddatblygiad, os ydym yn cyrraedd y pwynt hwnnw, oherwydd mae cael adrodd ar risg hinsawdd ar gyfer y busnesau mwy, cael y cynllun datgarboneiddio gwirioneddol fentrus hwnnw, yn mynd â ni i ble mae angen i ni fod yn mynd, nid yn unig ar gyllideb garbon 2, ond byddwn yn dechrau'r gwaith ar gyllideb garbon 3 hefyd, a gwn y bydd eich pwyllgor yn cadw llygad barcud ar hyn. Felly, y math hwnnw o arloesi, ond dod â phobl gyda ni, rwy'n credu sy'n bwysig iawn.
O ran bwyd sydd wedi'i gynhyrchu'n fwy lleol—dywedais i hyn dros ddeufis yn ôl nawr, rwy'n credu; rwyf wedi colli trywydd nawr—rwyf wedi dechrau edrych yn fanwl nawr ar y strategaeth bwyd cymunedol wrth symud ymlaen. Mae hynny'n elfen rwy'n obeithiol yn ei chylch, ac rwy'n awyddus i weld faint y gallwn ni ei wneud o fewn hynny, gan gymryd lle rydyn ni'n barod, peth o'r gwaith rydyn ni wedi'i wneud yn barod, ond gweld beth arall y gellir ei wneud. Rydyn ni yng nghanol etholiad cyffredinol, os oes rhywun heb sylwi. Mae rhai cynigion yn cael eu cyflwyno mewn gwahanol faniffestos ar hyn o bryd ynglŷn â beth arall y gallwn ei wneud. Rwy wastad wedi hoffi, fel Eidalwr Cymreig—dydw i ddim yn dweud mai dyma'r ffordd ymlaen—y syniad y gallwch chi nodi o fewn caffael yr elfennau lleol a ffres, fel maen nhw'n ei wneud yn yr Eidal, yn wir, ac fel maen nhw'n ei wneud mewn rhannau o Ffrainc. Yn rhyfedd iawn, gyda llaw, fel yr wyf wedi crybwyll o'r blaen, maen nhw'n gwneud hynny o fewn rheolau presennol yr UE, ond pwy a oedd yn gwybod? Felly, rwy'n credu bod rhywbeth i'w ystyried yn y fan yna, ac rwy'n obeithiol y bydd y strategaeth bwyd cymunedol, yr wyf yn cymryd ychydig o amser nawr i'w hystyried yn fanylach, yn mynd i'n helpu gyda hynny.
Ar fater llais Cymru mewn cytundebau masnach yn y dyfodol, nid oes gennym lais, Llyr.
Does dim llais gyda ni yn y trade deals.
Dim o gwbl. Byddai'n dda cael llais. Ni waeth pwy sy'n eistedd yn y seddi uchaf hynny ar lefel y DU wrth symud ymlaen, yn enwedig mewn bwyd, nid yn unig ein prif gynhyrchwyr, ond yn y gadwyn gyflenwi bwyd ehangach, mae angen i ni gael y llais hwnnw. Dydw i ddim yn dweud feto, rwy'n dweud llais. Dyma'r math o lais yr oeddem yn arfer ei gael, yn rhyfedd, cyn i ni fynd trwy Brexit. Nawr mae angen i ni ailddyfeisio hynny a pheidio â chael ein cloi allan o'r trafodaethau hynny. Mae hynny'n wleidyddiaeth ddifrifol, aeddfed iawn. Un o'r asedau mwyaf ar gyfer masnach a diwydiant y DU, fel y maent i Gymru, yw rhai o'n cynhyrchwyr yng Nghymru, fel Halen Môn, yr ymwelais â nhw bythefnos neu dair wythnos yn ôl, rwy'n credu am y trydydd tro. Gwelais i nhw pan oedden nhw'n fach, pan oedden nhw'n llythrennol yn defnyddio dyfais Heath Robinson, gan ddod ag ef drwy Ystad y Goron ac ati. Nawr mae'n feiddgar, ac mae eu henw da ledled y byd yn wych, ond, mewn gwirionedd, mae gallu siarad drostyn nhw, a'n ffermwyr, a phawb arall, yn bwysig. Siawns nad yw hynny'n fudd i'r DU, clywed ein llais ni, a llais yr Alban, ac ati.
O ran Dyfarnwr y Cod Cyflenwi Nwyddau Groser, mae yna rai opsiynau diddorol sy'n cael eu cyflwyno mewn gwahanol faniffestos ar hyn o bryd. Roeddwn i yno pan ddaeth Dyfarnwr y Cod Cyflenwi Nwyddau Groser i mewn i ddeddfwriaeth yn wreiddiol. Roedd dadleuon bryd hynny pa un a ddylid rhoi mwy o ddannedd iddo, pa un a allai ymestyn ymhellach i lawr y gadwyn gyflenwi ac ati. Nid wyf gant y cant yn sicr ynghylch hyn, ond os ydym yn mynd i wneud hyn, credaf fod angen i ni edrych arno eto fel endid y DU. Byddai gennyf ddiddordeb i gael y trafodaethau hynny gyda Gweinidogion y DU i ddweud, 'Wel, beth yw ein gwerthusiad o sut mae Dyfarnwr y Cod Cyflenwi Nwyddau Groser wedi llwyddo, a allai wneud mwy, a phe bai'n gwneud mwy, beth fyddai'r opsiynau hynny?' Rwy'n credu ei bod yn drafodaeth agored ar hyn o bryd. Rwy'n sicr yn ymwybodol o'm cyfarfod yn ddiweddar gyda chynhyrchwyr cynradd, yn enwedig ffermwyr, sy'n dweud, 'Nid ydym yn teimlo ein bod yn cael y cytundeb sydd ei angen arnom ar gyfer peth o'n cynnyrch o hyd. Mae'n ymddangos bod y gwerth ymhellach i fyny'r gadwyn na ni.' Felly, naill ai drwy Ddyfarnwr y Cod Cyflenwi Nwyddau Groser, neu rywbeth a wnaeth fy rhagflaenydd, Lesley Griffiths, gyda'r manwerthwyr—. Rwy'n cael cyfarfod cyntaf gyda nhw yn fuan o fewn y pythefnos nesaf. Rwy'n awyddus i archwilio hyn hefyd gyda nhw i ddweud, 'A allwn ni wneud hyn ar wahân i gryfhau Dyfarnwr y Cod Cyflenwi Nwyddau Groser, a oes parodrwydd yno, yn enwedig gyda'ch cynlluniau sicrwydd ac yn y blaen, i dalu'r pris uchel am yr hyn rydych chi'n gofyn i gynhyrchwyr ei wneud gyda safonau uchel lles anifeiliaid, safonau amgylcheddol uchel—a ydych chi'n mynd i drosglwyddo’r gwerth hwnnw i lawr neu a oes angen i ni ddod ato mewn ffordd wahanol fel Dyfarnwr y Cod Cyflenwi Nwyddau Groser?' Ond diolch am y cwestiynau yna.
Dydw i ddim yn anghytuno ag unrhyw beth ddywedodd Llyr o gwbl, felly fe geisiaf beidio ag ailadrodd. Rwy'n credu mai 'cynhyrchu bwyd yn gynaliadwy' yw eich teitl, ac nid dyna yn hollol oedd yn y datganiad, felly mae angen i rywun newid y teitlau.
Mae Puffin Produce wedi bod yn llwyddiannus iawn wrth gael pob archfarchnad i gymryd eu tatws a'u llysiau craidd fel blodfresych, moron, winwns, hyd yn oed cennin. Beth yw mesurau gwrthsefyll llifogydd Puffin Produce, o gofio, mewn mannau eraill ym Mhrydain, y bydd tatws yn nwydd prin iawn, ac yn rhybudd i ni i gyd?
Fel y soniodd Llyr, ein huchelgais yw cryfhau'r economi sylfaenol, felly sut mae'r 100 a mwy o aelodau o'r clwstwr cynaliadwyedd yn helpu i ysgogi tyfwyr llysiau a ffrwythau lleol o gofio nad yw sychder a thonnau poeth yn effeithio ar rannau pell y byd yn unig ond ar dde Ewrop, fel yr Eidal, hefyd? Dyma'r marchnadoedd traddodiadol yr ydym wedi cael ein llysiau a'n ffrwythau ohonyn nhw, o ystyried nad ydym yn hunangynhaliol mewn unrhyw ffordd o gwbl.
Pa fesurau y mae archfarchnadoedd yn eu cymryd i roi trefn ar eu cadwyni cyflenwi fel na welwn wyau o ogledd Cymru yn cael eu hanfon i Swydd Lincoln i'w pecynnu ac yna eu hanfon yn ôl i siopau'r gogledd? Mae hynny'n hollol hurt. Yn lle'r modelau 'mewn union bryd' sydd gan yr archfarchnadoedd, mae angen model 'rhag ofn', ac argraffnod llawer mwy cynaliadwy ar bopeth maen nhw'n ei wneud.
Mae angen i chi orffen nawr, Jenny, os gwelwch yn dda.
Yn olaf, pa gamau sy'n cael eu cymryd i ddileu bwyd wedi'i brosesu'n helaeth o ryseitiau yn y cydweithrediad hwn â chanolfannau arloesi bwyd, o ystyried nad yw'n gynaliadwy o gwbl o safbwynt iechyd i barhau i ganiatáu'r cemegau hyn? A sut fyddwch chi'n sicrhau bod y cynhyrchwyr hyn yn ymwybodol o'u cyfrifoldebau byd-eang i beidio â defnyddio cynhyrchion sydd wedi'u tyfu drwy rwygo'r goedwig law i lawr?
Diolch yn fawr iawn, Jenny—cyfres o gwestiynau da yna. O ran nid yn unig Puffin Produce ond y cynhyrchwyr ehangach a'r gadwyn gyflenwi hefyd, rwy'n credu mai dyna'n union pam y mae nifer o'r mesurau y soniais amdanyn nhw yn y datganiad agoriadol yn bwysig o safbwynt dylunio cynnyrch, i adeiladu cydnerthedd ac i ddefnyddio cynhwysion gwahanol, ac ati. Ond hefyd, ar lefel cynhyrchydd cynradd, y ffermwyr yn y caeau y mae Puffin Produce yn eu defnyddio, mae angen i ni roi'r cydnerthedd iddyn nhw hefyd, a dyna pam mewn gwirionedd mae cael y cynllun ffermio cynaliadwy yn hollol gywir ac yn iawn fel y gallwn ni i gyd symud ymlaen gyda'n gilydd yn bwysig. Oherwydd rhan o'r Cynllun Ffermio Cynaliadwy hefyd yw cynhyrchu—. Wel, mae'r 'cynaliadwy' yn y teitl yn cynnwys yr holl ystyron, ond mae'n cynnwys y cydnerthedd hwnnw i wrthsefyll newid hinsawdd. Ac a yw hynny'n golygu mewn gwahanol haenau o fewn y tir pori, a yw hynny'n golygu mewn gwahanol gnydau yr ydym yn eu defnyddio, gwahanol ffyrdd yr ydym yn diogelu ac yn gwella'r pridd, ac ati, mae pob un o'r rheini'n hanfodol i gydnerthedd gwrthsefyll newid hinsawdd. Felly mae'n rhaid i hyn fod yn rhywbeth rydyn ni'n ei wneud yr holl ffordd o'r fferm, fel roedd Llyr yn dweud, i silffoedd yr archfarchnad, reit ar hyd y gadwyn gyflenwi, ac mae hynny'n golygu dylunio cynnyrch gwahanol, mae'n golygu edrych ar gydnerthedd y tir hefyd, a phopeth yn y canol.
Mae rhai o'r pethau y soniais amdanynt yn fy natganiad agoriadol yn dangos y gwaith rydym yn ei wneud a'r buddsoddiad rydym yn ei wneud trwy bethau fel y clystyrau cynaliadwyedd ac eraill, i annog yr arloesedd hwnnw mewn gwirionedd. Ac mewn gwirionedd, fe wnaethoch chi nodi'n gywir, 'Wel, sut rydyn ni'n lledaenu hynny, yr arfer gorau hwnnw, nid yn unig ymhlith y cynhyrchwyr sy'n cymryd rhan ar hyn o bryd, ond yn ehangach yn y gadwyn gyflenwi?' Dyna'n union beth y bwriedir i'r clwstwr ei wneud. Rydyn ni'n tyfu hynny. Mae'n tyfu. Mae mwy o bobl, mwy o sefydliadau'n ymuno â hwnnw. A phwrpas y clwstwr hwnnw yw nid yn unig arloesi ond dangos trwy esiampl yn union beth y gellir ei wneud, ac yna lledaenu'r arfer gorau hwnnw. Fel cyd-weithredwr da, rwy'n hoffi'r dull hwnnw: dysgu, arloesi ac yna lledaenu arfer gorau. Rydym yn canolbwyntio'n fawr ar hynny. Bydd rhai o'r digwyddiadau y soniais amdanyn nhw yn fy sylwadau agoriadol yn rhoi cyfle i ni wneud hynny hefyd, a chael mwy o bobl i gymryd rhan ynddo.
Rydych yn crybwyll, yn gwbl briodol, y dull yr oedd gennym yn draddodiadol sef rheoli 'mewn union bryd'; dysgais hynny fel myfyriwr busnes HND tua 30 mlynedd yn ôl. Nawr, mewn gwirionedd, mae angen i ni feddwl yn wahanol. Mwy o'r cydnerthedd hwnnw—fel y dywedwch chi, rhag ofn—roedd gen i ddiddordeb mawr, bu cryn dipyn o Aelodau, chi yn un, yn ddiweddar yn y digwyddiad yn y Pierhead gyda chomisiynydd cenedlaethau'r dyfodol, ac rwy'n falch eu bod wedi troi eu sylw at fwyd hefyd a'i bwysigrwydd, a'r angen i wrthsefyll nid yn unig sioc yn y dyfodol ond siociau ar hyn o bryd i'r system hefyd. Felly, Rwy'n credu bod angen i ni adeiladu hynny i mewn wrth i ni gyflwyno'r strategaeth bwyd cymunedol, wrth i ni fwrw ymlaen—oherwydd mae hi wedi bodoli rwy'n credu ers 2021—ein strategaeth sector bwyd yn gyffredinol. Mae angen i ni adnewyddu'r rhain yng ngoleuni cydnerthedd, addasu ar gyfer newid hinsawdd ac ati.
A chemegau 'am byth' (PFAS)—diolch am drafod y rhain gyda mi ychydig yn gynharach heddiw hefyd. Rwy'n credu bod angen i ni droi ein sylw at hyn. Mae'r mater o ddeietau iach, maethlon a fforddiadwy, bod pobl yn gwybod o ble mae pethau'n dod ac yn gwybod nad yw pethau'n eu niweidio, ac yn gwybod nad yw pethau'n mynd i mewn i'r gadwyn fwyd ehangach a'r system amgylcheddol hefyd, yn hanfodol. Rwy'n credu bod hon yn un o'r heriau mawr sy'n ein hwynebu ni erbyn hyn, ac rwy'n dweud fy mod wir yn edrych ymlaen at droi fy sylw at hynny ac ymgysylltu â chi ac eraill sydd â hyn ar flaen eu meddwl, oherwydd nid yw'n iawn i ni efallai wynebu perygl clir a phresennol o gemegau 'am byth' a fydd yn effeithio nid yn unig ar y genhedlaeth hon nawr, ond cenedlaethau i ddod. Mae angen i ni ymdrin â hynny ac ar draws y gadwyn gyflenwi hefyd, ac mae hynny'n golygu cynnwys y manwerthwyr, y prynwyr, y cadwyni cyflenwi, y dosbarthwyr, a siarad am sut rydym yn dylunio bwyd maethlon da.
Rwy'n croesawu'r datganiad, popeth sydd wedi cael ei ddweud, ac rwy'n credu ei bod yn bwysig iawn cael bwyd sydd wedi'i dyfu'n lleol, heb ei brosesu ar gyfer iechyd ac economi'r genedl. Hoffwn ofyn i chi am ddatgarboneiddio'r diwydiant. Felly, roeddwn i'n gweithio ar ymgyrch gyda Jo a Bleddyn o Gyfeillion y Ddaear ynghylch drysau oergell, drysau oerwyr, a chefais gyfarfod â manwerthwyr drwy Lywodraeth Cymru, ond mae'n ymddangos ei fod wedi aros yn ei unfan. Felly, meddwl oeddwn i tybed a fyddech chi'n helpu i wthio hynny ymhellach. Rydych chi'n mynd i mewn i archfarchnad ar ddiwrnod heulog cynnes a byddai'n rhewi oherwydd yr holl aer oer sy'n dod o oerwyr, ac mae'n gwastraffu cymaint o ynni. Felly, meddwl oeddwn i tybed a allech chi helpu i fynd ar drywydd hynny.
Carolyn, byddwn yn fwy na hapus. Pe gallech chi anfon nodyn i mi ar hynny, byddwn yn fwy na pharod i weld lle mae hwnnw wedi cyrraedd a rhoi hwb iddo. A sonioch chi sut y gallwn ni helpu gyda datgarboneiddio. Mae sawl ffordd; cyffyrddais â nhw yn fyr iawn, iawn yn fy sylwadau agoriadol, ond un ohonynt yw rhaglen dreialu y cynllun lleihau carbon. Mae hwn yn brosiect cyffrous iawn. Mae'n cael ei ddarparu trwy raglen ehangach yr adran fwyd, felly mae'n cynnwys y clwstwr cynaliadwyedd bwyd a diod, y datblygiad masnach a'r sgiliau ar gyfer rhaglenni llwyddiant. Mae'n gweithio gyda phartneriaid i wneud pethau fel gosod gwaelodlin ar gyfer eu hallyriadau carbon, datblygu cynlluniau lleihau carbon pwrpasol ar gyfer y busnes hwnnw. Rydym wedi cael dros 80 o ddatganiadau o ddiddordeb gan fusnesau bwyd a diod hyd yn hyn. A'r peth arall yw cydbwyso'r twf economaidd gyda lleihau carbon, a dyma'r ffordd y gallwn fod yn fwy clyfar o ran ein harloesedd a'n buddsoddiad. Gallwn ei wneud gyda'n gilydd ac, mewn gwirionedd, os ydym yn arloesi ar gadwyni cyflenwi cydnerth, yna rydym yn adeiladu cydnerthedd ynddynt rhag siociau yn y dyfodol a siociau prisiau trwy wneud hynny. Felly, mae yna ffyrdd y gallwn wneud hynny. Mae gennym hefyd gydweithrediad â'n canolfannau arloesi bwyd, gan wneud pethau fel ail-lunio ryseitiau a llawer mwy. Ond os wnewch chi anfon nodyn i mi ar yr un penodol yna, byddwn yn fwy na pharod i edrych ar sut y gallwn ni ei godi o'r lle y gwnaethoch ei adael a gweld a allwn ni ei wthio ymlaen.
Ac yn olaf, Joyce Watson.
Diolch, Dirprwy Lywydd. Effeithir ar gynaliadwyedd bwyd gan bethau fel rhyfel a newid hinsawdd, ac rydym wedi gweld rhyfel yn creu mynediad annibynadwy at fewnforion allweddol o fwyd ond hefyd tanwydd. Felly, mae'n rhaid i ni atal ein dibyniaeth ar danwydd ffosil. Ond mae newid hinsawdd wedi cynhyrchu'r gaeaf gwlypaf a gofnodwyd, materion enfawr gyda phlâu gwlithod a malwod ledled ein gwlad yma yng Nghymru, ond hefyd cynaeafau lleol o ganlyniad, oherwydd na allech blannu dim—roedd hi'n rhy oer, roedd yn rhy wlyb. Yna i'r gwrthwyneb, y gwres eithafol, gyda chnydau Ewropeaidd aflwyddiannus o saladau a phethau tebyg.
Felly, dyma rai o'r heriau. Rhai o'r atebion a'r buddsoddiad, wrth gwrs, yw'r marchnadoedd bwyd a chynnyrch wythnosol lleol, ac rwy'n aml yn mynd i un yn Hwlffordd, er enghraifft. Ond i redeg ochr yn ochr â hynny, Gweinidog, a allwn ni geisio annog rhai o'r siopau manwerthu gwag i fod yn siopau dros dro, gydag agenda ddiffiniedig o'r hyn sy'n mynd i fod yno a phryd, ac ennyn pobl i ddod draw, fel eich bod yn adfywio canol eich tref, ond rydych chi hefyd yn rhoi llwybr i fanwerthwyr i weld a fyddent yn ystyried mynd â rhywbeth mwy cynaliadwy i'r gymuned honno a nhw eu hunain yn y dyfodol? A bwyd stryd—dydyn ni ddim yn gwneud bwyd stryd yn dda iawn, yn gyffredinol. Rydym yn gwneud yn dda iawn pan fyddwn yn gwneud bwyd stryd, ond nid ydym yn ei annog. Nid yw yn ein diwylliant ac eto rydym yn cynhyrchu peth o'r bwyd gorau, boed yn gig coch, yn llysiau neu'n ffrwythau.
Joyce, diolch yn fawr iawn, ac rwy'n ymwybodol ein bod yn cael rhai cyfraniadau yma sy'n fy helpu i ysgrifennu'r strategaeth bwyd cymunedol yn y fan a'r lle. [Chwerthin.] Mae yna'r mater yma ynglŷn â sut y gallwn ni sicrhau bod y bwyd da a maethlon hwnnw ar gael ar ein strydoedd mawr, a rhywbeth i'w wneud â sut rydym ni'n defnyddio'r mannau gwag hynny hefyd. Roedd hi'n ddiddorol iawn pan oeddwn i'n ymweld â pherthnasau yn yr Eidal, yn mynd ar hyd stryd gefn, ac roedd siop dros dro wedi dod i'r amlwg yn stryd gefn tref, ac roedd yn gymysgedd o fwyd oedd yn cael ei ailgylchu o rai o'r archfarchnadoedd, ond yn fwy na hynny, roedd ganddi hefyd fwyd o randiroeddd a bwyd gan dyfwr cymunedol hefyd, ac roedd yn cael ei werthu am ostyngiad sylweddol, yn fforddiadwy iawn—roedd llawer o bobl o bob cefndir economaidd-gymdeithasol gwahanol yn mynd i mewn i'r siop yna. Roeddwn i'n chwilfrydig; es i mewn i weld beth oedd yn digwydd. Ond hefyd mae gennym ni, yn agosach at adref, bobl fel Ymddiriedolaeth Adfywio'r Meysydd Glo, y gwn i y buon nhw'n gwneud pethau lle maen nhw wedi buddsoddi mewn adeiladau gwag mewn cymunedau, a'u datblygu, nid dim ond fel canolfannau cymunedol, ond canolfannau bwyd hefyd—yn ddiddorol iawn. Rwy'n credu bod mwy yn rhan o hyn, ac rwy'n obeithiol y gellir cynnwys rhai o'r awgrymiadau a gyflwynir heddiw yn y strategaeth bwyd cymunedol honno. Felly, nid yw'n ymwneud yn unig â'r cynhyrchwyr mawr a'r cyflenwyr mawr ac ati; mae'n ymwneud â dwyn ynghyd y rhwydweithiau hynny o randiroedd, tyfwyr cymunedol, pobl yn y maes trydydd sector hwnnw sydd eisiau helpu hynny, a hefyd adfywio ein trefi a'n cymunedau. Ond yn fwy na dim, o ran yr agenda cynaliadwyedd, rhoi o flaen pobl, mewn lleoedd sy'n hygyrch iddyn nhw, ar y strydoedd lle maen nhw'n byw, bwyd da, fforddiadwy, maethlon.
Nawr, nid wyf yn credu bod yna un ateb hud sy'n gwneud hynny, ond mae yna lawer o gydymdrechu i wneud i hynny ddigwydd. Ac rwy'n credu ei fod yn cyd-fynd yn fawr iawn â rhai o'r syniadau blaengar mewn lleoedd yr ydym ni wedi'u gweld, yng Ngŵyl Fwyd y Fenni a mannau eraill ledled Cymru, ond hefyd y gwaith y mae comisiynydd cenedlaethau'r dyfodol yn edrych arno hefyd, ac mae'n rhaid i mi ddweud, syniadau a gyflwynwyd yn Siambr y Senedd hon o'r blaen gan lawer o Aelodau. Felly, gadewch i ni weld lle rydym ni'n cyrraedd ar y strategaeth bwyd cymunedol, ond rwy'n casglu syniadau heddiw wrth i ni fynd ymlaen.
Diolch i Ysgrifennydd y Cabinet.