Part of the debate – Senedd Cymru am 3:58 pm ar 19 Mehefin 2024.
Diolch. Efallai na fydd pobl sy’n gwylio ac yn mynychu yn yr oriel yn gwybod, ond mae’n rhaid i’r sawl sy’n agor dadl ei chloi a'i chrynhoi hefyd, felly rwyf wedi bod yn ysgrifennu llawer o nodiadau, a dyna pam nad oeddwn yn hollol barod pan wnaethoch chi alw arnaf gyntaf.
Dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet yn ei hymateb fod Llywodraeth Cymru yn ymwybodol iawn o ba mor bwysig yw’r mater hwn, a bod Cymru yn wlad sy'n credu mewn cyfiawnder cymdeithasol, ond nad oes angen y Bil. Mae hynny'n gwrth-ddweud ei hun. Mae’r bobl yn yr oriel, y bobl ledled Cymru, wedi bod yn dweud wrthym flwyddyn ar ôl blwyddyn—er enghraifft yn y grŵp trawsbleidiol ar anabledd, a gadeirir gennyf; er enghraifft yn y grŵp trawsbleidiol ar faterion pobl fyddar, a gadeirir gennyf; mewn cyfarfodydd a chynadleddau a fynychais, ac mewn mannau eraill—fod yn rhaid inni gael hyn, na allwn fod yr unig wlad yn y Deyrnas Unedig nad oes ganddi ddarpariaeth statudol yn hyn o beth, fod yn rhaid inni orfodi a gosod y dyletswyddau sydd ar waith mewn rhannau eraill o’r Deyrnas Unedig ar Weinidogion. Byddai gwneud fel arall yn frad ac yn fethiant i ddarparu cyfiawnder cymdeithasol, yn fethiant i gydnabod y rhwystrau y mae arwyddwyr BSL yn eu hwynebu, yn fethiant i ddeall eu hanghenion a gweithio gyda nhw i'w helpu i ddiwallu'r anghenion hynny.
Cyfeiriodd Ysgrifennydd y Cabinet at yr archwiliad o Iaith Arwyddion Prydain yng Nghymru gan Gymdeithas Pobl Fyddar Prydain—rwy’n ymwybodol o hynny, rwyf wedi bod yn ei fonitro’n agos ers blynyddoedd, yn ymgysylltu â Chymdeithas Pobl Fyddar Prydain ac yn holi eich rhagflaenwyr ynglŷn â hyn ers blynyddoedd. Drwy gydol y broses honno, mae Cymdeithas Pobl Fyddar Prydain wedi dweud wrthyf dro ar ôl tro—a'r Gweinidogion blaenorol hefyd, gan eu bod hwythau wedi dweud wrthyf—fod yn dal i fod angen Deddf arnynt yn ogystal. Nid yw'r archwiliad yn gwneud y tro yn lle Deddf. Dywedodd mai Cymru yw’r wlad gyntaf yn y DU i gynnwys BSL yn y cwricwlwm, ac rydym yn cymeradwyo hynny, ac rwyf i, yn y gorffennol, wedi codi cwestiynau ynglŷn â hynny'n rheolaidd, fel Aelodau o bob plaid arall. Ond fel y clywsom gan nifer o siaradwyr, mae disgyblion byddar yn parhau i fod o dan anfantais oherwydd anghydraddoldeb parhaus mewn canlyniadau, a bydd hynny’n parhau oni bai ein bod yn darparu’r ymyriadau BSL penodol sydd eu hangen i dorri’r cylch o dangyflawni ymhlith plant nad oes ganddynt anableddau dysgu fel arall, nad oes ganddynt anawsterau dysgu, ac eithrio’r rhai a grëwyd gan y rhwystrau yr ydym yn dal i ganiatáu iddynt ddigwydd, y rhwystrau yr ydym yn dal i ganiatáu iddynt eu hwynebu yn yr ysgol ac mewn mannau eraill mewn cymdeithas, ac nid yw hynny’n dderbyniol.
Cyfeiriodd at y tasglu hawliau pobl anabl, gyda dros 550 o aelodau yn y grŵp—mae 550 o aelodau’r grŵp yn edrych ar atebion cyffredinol, a phan fyddaf yn cyfarfod â nhw'n unigol, dywedant wrthyf eu bod yn pryderu bod gormod o siarad yn digwydd a bod angen inni gyflawni canlyniadau. O dan ymbarél dulliau generig a pharhau i godi ymwybyddiaeth, ni allwn fethu mynd i’r afael hefyd ag anghenion cyflwr-benodol gwahanol grwpiau demograffig a chymunedau ledled Cymru, sef arwyddwyr BSL a chymunedau byddar yn yr achos hwn.
Fel y dywedais, os na fydd y Bil hwn yn mynd rhagddo, Cymru fydd yr unig ran o’r DU nad oes ganddi ddeddfwriaeth BSL benodol. Yn drawsbleidiol, byddai hynny’n destun cywilydd, yn enwedig pan fo’r ddeddfwriaeth gyfatebol yn rhannau eraill y DU, sydd wedi’i phasio neu’n mynd drwy’r broses yn achos Gogledd Iwerddon, wedi cael cefnogaeth drawsbleidiol. Ar lefel y DU yn Nhŷ’r Cyffredin, AS Llafur a gyflwynodd hyn, ac fe'i cefnogais gyda hynny. Ac fel y dywedais, mae hwn yn Fil iaith sy'n cefnogi arweiniad gan bobl fyddar ar faterion BSL yng Nghymru. Ni waeth pa mor effeithiol ac effeithlon y gallai Ysgrifenyddion Cabinet, Gweinidogion yr wrthblaid, gweision sifil a swyddogion fod, nid oes ganddynt y wybodaeth na'r ymwybyddiaeth na'r profiad bywyd y gall pobl sy'n darparu arweiniad ar faterion pobl fyddar yng Nghymru eu darparu.
Dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet fod gan Ddeddf BSL y DU oblygiadau i feysydd datganoledig. Wel, wrth gwrs fod ganddi, oherwydd heb hynny, nid yw dyletswyddau sy'n berthnasol i Weinidogion y DU yn Lloegr yn berthnasol i Weinidogion yng Nghymru mewn perthynas â'r un materion datganoledig. Felly, mae gan arwyddwyr BSL a phobl a phlant byddar yn Lloegr ddarpariaeth a dyletswyddau wedi’u gosod ar y Llywodraeth yno yn hyn o beth i adrodd, i ddarparu canllawiau, na fyddent yn berthnasol i Weinidogion Cymru. Nid yw hynny’n fater pleidiol, byddai unwaith eto’n destun cywilydd i’r genedl hon a phob plaid yn y lle hwn.
Dywedodd Sioned Williams—