Part of the debate – Senedd Cymru am 3:36 pm ar 19 Mehefin 2024.
Diolch, Ddirprwy Lywydd. A diolch i Mark Isherwood am gyflwyno'r ddadl Aelodau hon—gwn ei fod yn rhywbeth rydych chi wedi ymddiddori ynddo ers amser maith.
Rwy’n ymwybodol iawn o ba mor bwysig yw’r mater hwn a phwysigrwydd sicrhau mynediad llawn a chyfartal at wasanaethau a gwybodaeth i arwyddwyr Iaith Arwyddion Prydain yma yng Nghymru. Fel y dywedodd Mark Isherwood, yn ôl yn 2004, fe wnaeth Llywodraeth Cymru gydnabod BSL fel un o ieithoedd Cymru. Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i wella bywydau pobl anabl. Yn ddiweddar, fe wnaethom gomisiynu a chroesawu archwiliad o bolisïau a darpariaeth BSL yn Llywodraeth Cymru, a gyhoeddwyd gan Gymdeithas Pobl Fyddar Prydain. Mae Llywodraeth Cymru yn cydnabod yr angen i fabwysiadu ymagwedd gwbl groestoriadol at argymhellion yr archwiliad ac i ystyried sut y gellir eu rhoi ar waith yn y ffordd fwyaf effeithiol.
Rydym yn gwneud darpariaethau i hybu a hwyluso’r defnydd o BSL a’i ffurfiau cyffyrddol yng Nghymru, ac i ddileu rhwystrau a gwella mynediad at addysg, iechyd a gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru. Mae cynnydd yn cael ei wneud. Cymru yw’r wlad gyntaf yn y DU i gynnwys BSL ochr yn ochr â Saesneg, Cymraeg ac ieithoedd eraill yn y cwricwlwm. Mae hyn yn cefnogi dysgu ac addysgu ar gyfer arwyddwyr BSL byddar, yn ogystal â rhoi cyfle i ysgolion gyflwyno BSL i ddysgwyr eraill. Ni oedd y Llywodraeth gyntaf yn y DU i sicrhau bod ein cynadleddau i’r wasg COVID-19 yn cynnwys presenoldeb dehonglydd BSL/Saesneg.
Bydd cynnydd yn arwain at newid gwirioneddol a chynaliadwy. Rydym yn cydnabod pa mor bwysig yw hi i arwyddwyr BSL byddar gael llais yn y broses o lunio a darparu gwasanaethau, er mwyn sicrhau bod eu hanghenion ieithyddol a diwylliannol yn cael eu diwallu. Mae ein tasglu hawliau pobl anabl yn dod â phobl â phrofiadau bywyd, arweinwyr polisi Llywodraeth Cymru, a sefydliadau cynrychioliadol ynghyd. Mae gan 10 gweithgor thematig y tasglu dros 550 o aelodau grŵp, gan gynnwys pobl anabl, rhieni a gofalwyr, ac arweinwyr polisi. Rydym wedi bod yn edrych ar bob agwedd ar fywydau pobl anabl, a’n nod yw cael gwared ar yr annhegwch a’r rhwystrau y mae pobl anabl yn eu hwynebu bob dydd. Mae argymhellion ein gweithgor yn dangos pa mor hanfodol yw BSL i gynhwysiant a chydraddoldeb yng Nghymru.
Mae’r tasglu’n parhau i godi ymwybyddiaeth ar draws y Llywodraeth o effeithiau niweidiol allgáu pobl anabl ar gymdeithas. Bydd y cynllun gweithredu ar anabledd sydd ar y ffordd yn sicrhau bod cydraddoldeb a chynhwysiant yn cael lle canolog yn ein gweledigaeth ar gyfer Cymru, ac yn dangos sut, gyda’n gilydd, y gallwn drawsnewid cymdeithas o fod yn amgylchedd gelyniaethus i fod yn rhywle lle croesewir gwahaniaeth. Mae newid canfyddiad ac ymddygiad cymdeithas drwy bolisi yn heriol. Mae’r tasglu hawliau pobl anabl yn ceisio creu newid cadarnhaol gwirioneddol a hirdymor i bobl anabl, drwy gynllun wedi’i gydgynhyrchu, a fydd yn cefnogi cynnydd tuag at sicrhau bod pobl anabl yn cael mynediad at y gwasanaethau sydd eu hangen arnynt ledled Cymru.
Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i wella gwasanaethau gofal iechyd yng Nghymru, ac mae gwella’r ddarpariaeth ar gyfer arwyddwyr BSL byddar yn flaenoriaeth. Mae'n rhaid sicrhau nad oes unrhyw un yn cael eu gadael ar ôl wrth gyflawni nodau llesiant cenedlaethau’r dyfodol. Ar draws holl nodau llesiant Cymru, mae profiad pobl fyddar yn dangos y gellir gwneud mwy, fel y gallant gael mynediad at gyfleoedd cyflogaeth, gwneud y mwyaf o’u llesiant corfforol a meddyliol, gan gydnabod y diwylliant byddar unigryw, a’u bod yn cyflawni eu potensial.
Mae gwrth-wahaniaethu a gwrth-orthrwm yn ganolog i werthoedd Llywodraeth Cymru. Rydym yn ceisio herio a goresgyn rhagfarn sefydliadol ac unigol a herio anghyfiawnder cymdeithasol. Mae gennym lawer i'w ddysgu gan arwyddwyr BSL byddar o Gymru, i ddysgu a deall eu hanes a pharhau i frwydro dros gydraddoldeb a chynrychiolaeth.
Mabwysiadwyd a chefnogwyd Deddf Iaith Arwyddion Prydain 2022 gan Lywodraeth y DU. Mae ganddi oblygiadau yng Nghymru i feysydd nad ydynt wedi’u datganoli. Fodd bynnag, fe wyddom nad yw hyn yn mynd yn ddigon pell. Mae dull cydweithredol a chynhwysol yn fwy effeithiol na deddfwriaeth, nad yw’n mynd yn ddigon pell yn aml, ac nad yw’n ymgysylltu â’r bobl gywir. Ond er fy mod yn llwyr ddeall y bwriad y tu ôl i’r Bil arfaethedig hwn, ni chredaf fod ei angen. Fe allwn ac rydym wedi gwneud cynnydd sylweddol heb Fil. Nid oedd angen Bil BSL ar Lywodraeth Cymru i gynnwys BSL yn y cwricwlwm, nac i sicrhau bod gennym ddehonglwyr BSL/Saesneg yng nghynadleddau i'r wasg Llywodraeth Cymru. Fe allwn ac fe fyddwn yn defnyddio ysgogiadau polisi i greu newid effeithiol a chydraddoldeb.
Hoffwn ddefnyddio ein hadnoddau i wneud newidiadau cadarnhaol mwy uniongyrchol i ddefnyddwyr BSL. Fe allwn ac fe fyddwn yn parhau i weithio mewn partneriaeth ag arwyddwyr BSL byddar, yn ogystal â sefydliadau partner allweddol yng Nghymru, i chwalu rhwystrau a gweithio ar y cyd tuag at Gymru gyfartal. Fe allwn ac fe fyddwn yn cydweithio i greu newid effeithiol. Gan weithio gyda'n gilydd, gallwn fod y newid rydym am ei weld. Mae strwythur unigryw Cymru yn ein galluogi i gydweithio ac ysgogi newid mewn ffyrdd na all eraill. Rydym yn agosach at ein dinasyddion, a gallant ddweud wrthym yn uniongyrchol beth sydd ei angen arnynt. Ac rwy'n fwy na pharod i gyfarfod â chi, Mark, i drafod hyn ymhellach, ac mae gennyf gryn ddiddordeb hefyd yn y trafodaethau a gawsoch gyda'r sefydliadau y cyfeirioch chi atynt yn eich araith agoriadol.
Mae Cymru yn wlad falch, yn wlad gynhwysol, ac yn wlad sy'n credu mewn cyfiawnder cymdeithasol. Mae angen cyfiawnder ieithyddol er mwyn sicrhau tegwch a chynhwysiant—i'r Gymraeg, a BSL. Mae Llywodraeth Cymru yn ymroddedig i'r gymuned fyddar sy'n defnyddio BSL yng Nghymru. Diolch.