Part of the debate – Senedd Cymru am 3:43 pm ar 19 Mehefin 2024.
A gaf fi ddiolch i Mark Isherwood am gyflwyno'r Bil yma? Dwi'n falch o gael y cyfle i drafod y materion pwysig y mae'n eu codi yn y Senedd, achos yn ystod y blynyddoedd diwethaf, bu cydnabyddiaeth gynyddol a hir-ddisgwyliedig o'r safle bwysig sydd gan Iaith Arwyddion Prydain yn ein cymdeithas, yn ogystal ag ymdrechion mwy penodol i'w hyrwyddo a'i gwneud yn weledol mewn bywyd cyhoeddus.
Roedd y ffaith bod sesiynau briffio dyddiol Llywodraeth Cymru ar COVID bob amser yn cael eu harwyddo yn gam cadarnhaol ymlaen yn hyn o beth, ac, fel plaid, rydym ni wedi sicrhau’n gyson bod ein holl weithgareddau cyhoeddus mawr, gan gynnwys ein cynadleddau a chyhoeddiadau maniffesto ac yn y blaen, yn darparu'n briodol ar gyfer anghenion arwyddwyr BSL.
Ond ni allwn ddibynnu ar ewyllys da sefydliadau yn unig yn hyn o beth, ac mae'r memorandwm esboniadol i'r Bil arfaethedig hwn yn gywir i nodi'r diffyg safonau BSL statudol fel bwlch amlwg yn ein fframwaith deddfwriaethol presennol. Yn ehangach, mae hyn yn enghraifft, wrth gwrs, o'r rhwystrau cymdeithasol helaeth sy'n wynebu'r gymuned fyddar yng Nghymru, ac sy'n aml yn dod i'r amlwg yn gynnar iawn yn eu bywydau.
Er enghraifft, rwy’n arbennig o bryderus ynghylch y ffaith nad oes gan Gymru unrhyw therapyddion llafar clywedol ardystiedig, sy’n darparu ymyrraeth gynnar arbenigol ar gyfer babanod a phlant byddar, i helpu sicrhau y gallant sicrhau’r un canlyniadau addysgol â’u cyfoedion sy’n clywed.
Mae goblygiadau'r diffyg cefnogaeth yn y maes yma yn amlwg. Fel y sonnir yn y memorandwm esboniadol, mae dysgwyr byddar 26 y cant yn llai tebygol o ennill graddau TGAU A* i C yn y pynciau craidd, sef Saesneg neu Gymraeg a mathemateg, na’u cyfoedion sy’n clywed. Mae dadansoddiad gan Auditory Verbal UK wedi dangos y byddai buddsoddiad o gyn lleied ag £800,000 dros y 10 mlynedd nesaf yn ddigonol i sicrhau bod pob plentyn byddar yng Nghymru yn cael y cyfle i gael mynediad i therapi llafar clywedol, a fyddai, yn ei dro, yn darparu tua £7 miliwn o fudd economaidd, drwy wella ansawdd bywyd a rhagolygon cyflogaeth, costau addysg is ac, wrth gwrs, atal anafiadau. A yw'r Aelod yn cytuno â mi, felly, y dylai mater therapi llafar clywedol fod yn faes ffocws penodol i waith y comisiynydd BSL arfaethedig?
Byddwn hefyd yn croesawu barn yr Aelod ynghylch a ddylai cylch gwaith y comisiynydd BSL hefyd gynnwys y gallu i osod ac argymell targedau i Lywodraeth Cymru ar amserlenni ar gyfer cau’r bwlch cyrhaeddiad y soniais i amdano. Mae Plaid Cymru yn croesawu'n fawr sut y byddai'r Bil arfaethedig yn rhoi dyletswydd ar Lywodraeth Cymru i ymgysylltu’n weithredol â’r gymuned fyddar mewn proses gyflawn o gydgynhyrchu ar gyfer y polisïau a’r gwasanaethau y maent yn dibynnu arnynt, drwy sefydlu grŵp cynghori BSL i rymuso’r gymuned fyddar ledled Cymru.
Mae'r RNID wedi pwysleisio mai un o'r prif bryderon sy'n cael ei godi gan y gymuned fyddar yw’r methiant i ddarparu mynediad at wasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol. Rwyf i fy hun wedi cael gwaith achos lle'r oedd un etholwr byddar wedi methu â chael modd i wneud apwyntiad gyda meddyg, ac un arall heb fodd i gyfathrebu gyda staff tra yn cael triniaeth yn yr ysbyty. Mae hyn yn peryglu eu hiechyd, yn tanseilio eu hawliau dynol a'u hurddas, ac yn enghreifftiau clir o anghydraddoldeb. A ydych chi felly'n cytuno, Mark Isherwood, y dylai mynediad i ofal iechyd a chymdeithasol gael ei wneud yn faes blaenoriaeth i'r Llywodraeth a'r grŵp cynghori BSL o dan fecanweithiau'r Bil?
Yn olaf, a yw’r Aelod hefyd yn cytuno bod y rhwystrau penodol sy'n cael eu hwynebu gan bobl fyddar yng Nghymru yn bodoli o fewn sbectrwm ehangach o anghydraddoldebau cymdeithasol sydd wedi eu gwreiddio'n ddwfn yn ein cymdeithas, ac nad oes modd mynd i’r afael â hwy yn gwbl effeithiol heblaw drwy fuddsoddi’n briodol ac yn barhaus yn ein gwasanaethau cyhoeddus? Byddai'r buddsoddiad hwnnw, wrth gwrs, yn medru bod yn ddyfnach pe bai gan San Steffan system ariannu deg ar gyfer Cymru.
Mae consensws trawsbleidiol clir ar draws y Senedd hon y gellir ac y dylid gwneud llawer mwy i ddarparu ar gyfer anghenion arwyddwyr BSL, ac i gryfhau'r fframweithiau cyfreithiol ynghylch darpariaethau perthnasol mewn bywyd cyhoeddus. Mae Plaid Cymru, felly, yn hapus i gefnogi egwyddorion y Bil hwn, ac yn barod iawn hefyd i weithio'n adeiladol ar sail drawsbleidiol er mwyn bwrw ymlaen â'r gwaith sydd angen ei wneud i gyflawni'r egwyddorion hyn. Diolch.