Part of the debate – Senedd Cymru am 3:30 pm ar 19 Mehefin 2024.
Byddai’r Bil hefyd yn gweithio tuag at sicrhau nad yw arwyddwyr BSL yn cael eu trin yn llai ffafriol na phobl sy’n siarad Cymraeg neu Saesneg, a sicrhau bod gan gymunedau byddar lais gwirioneddol yn y gwaith o lunio a darparu gwasanaethau i sicrhau eu bod yn diwallu eu hanghenion. Nid yw'r ddeddfwriaeth bresennol yn diwallu anghenion y gymuned fyddar ac arwyddwyr BSL.
Mewn tystiolaeth a dderbyniwyd gan Bwyllgor Addysg a Diwylliant Senedd yr Alban ar Ddeddf Iaith Arwyddion Prydain (Yr Alban) 2015, dywedodd Cymdeithas Pobl Fyddar yr Alban fod Deddf Cydraddoldeb 2010
'yn rhoi hawliau i unigolion i'w hamddiffyn rhag gwahaniaethu ond nid yw'n diogelu nac yn hyrwyddo BSL fel iaith.'
Mae’r Bil hwn yn cynnig sefydlu comisiynydd BSL sydd â'r un pwerau â chomisiynwyr ieithoedd lleiafrifol eraill, megis y rhai a gyflwynwyd ar ôl Mesur y Gymraeg (Cymru) 2011; Deddf yr Iaith Aeleg (Yr Alban) 2005 a Deddf Hunaniaeth ac Iaith (Gogledd Iwerddon) 2022. Byddai hyn yn dangos neges sylweddol o gefnogaeth i gymuned arwyddwyr BSL yng Nghymru.
Byddai'r comisiynydd BSL yn llunio safonau BSL; yn sefydlu panel cynghori BSL; yn cynhyrchu adroddiadau bob pum mlynedd mewn BSL, Cymraeg a Saesneg ar sefyllfa BSL dros y cyfnod hwnnw; yn darparu canllawiau a phroses i gyrff cyhoeddus hyrwyddo a hwyluso BSL yn eu priod feysydd; ac yn sefydlu gweithdrefn ar gyfer ymchwilio i gwynion. Byddai union natur, statws a chyfrifoldebau’r comisiynydd yn cael eu datblygu ymhellach mewn cydweithrediad â rhanddeiliaid, gan gynnwys Llywodraeth Cymru, i sicrhau bod costau a buddion yn cael eu hystyried wrth i’r Bil fynd yn ei flaen.
Byddai’r Bil yn ymestyn y dyletswyddau adrodd a chanllawiau sy’n berthnasol i Lywodraeth y DU yn Lloegr i Lywodraeth Cymru yng Nghymru, ac yn gosod dyletswydd ar Lywodraeth Cymru i baratoi a chyhoeddi adroddiad BSL blynyddol sy'n disgrifio’r hyn y mae adrannau Llywodraeth Cymru wedi’i wneud i hyrwyddo a hwyluso'r defnydd o BSL.
Nod y Bil yw gosod dyletswydd ar gyrff cyhoeddus i adrodd ar eu cynnydd yn hyrwyddo a hwyluso BSL drwy gylch adrodd Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015. Byddai sicrhau bod BSL yn cael ei bwydo i mewn i gylchred llesiant cenedlaethau’r dyfodol yn ymgorffori BSL mewn fframweithiau polisi a chyfreithiol presennol yng Nghymru. Byddai hyn yn sicrhau bod adnoddau’n cael eu rhannu’n gost-effeithiol drwy ddefnyddio strwythurau presennol i greu cymdeithas decach ar gyfer arwyddwyr BSL yng Nghymru yn y tymor hir.
Mae ieithoedd arwyddion yn ieithoedd llawn gyda'u cymunedau, eu hanesion a'u diwylliannau eu hunain. Mae Ffederasiwn Pobl Fyddar y Byd, sydd â 136 o gymdeithasau cenedlaethol i bobl fyddar yn aelodau, yn pwysleisio pwysigrwydd meithrin amgylchedd ieithyddol a diwylliannol cadarnhaol, fel y gall plant byddar dyfu i fyny gydag ymdeimlad dwys o berthyn, hunaniaeth a balchder yn eu treftadaeth fyddar.
Mae BSL, yr iaith arwyddion fwyaf cyffredin yn y DU, yn iaith ystumiol gyfoethog a gweledol gyda gramadeg unigryw sy’n defnyddio siapiau dwylo, mynegiant wyneb, ystumiau ac iaith y corff i gyfleu ystyr. Mae Cymdeithas Pobl Fyddar Prydain yn datgan
'nid iaith yn unig yw BSL; mae hefyd yn borth i ddysgu...ac yn fodd i bobl Fyddar oroesi a ffynnu mewn byd sy'n clywed.'
Er i Lywodraeth Cymru gydnabod BSL fel iaith yn ei hawl ei hun yn 2004, bu galwadau ers tro byd i roi statws cyfreithiol llawn i BSL yng Nghymru. Nid yw byddardod yn anhawster dysgu, ond mae plant byddar o dan anfantais oherwydd yr annhegwch parhaus o ran canlyniad. Mae’r Gymdeithas Genedlaethol i Blant Byddar wedi nodi bod y cod anghenion dysgu ychwanegol—neu ADY—yn nodi bod plant a phobl ifanc byddar, ynghyd â phlant sy’n ddall neu sydd â nam ar eu golwg,
'yn fwy tebygol o fod ag ADY yn rhinwedd y ffaith bod y nam yn debygol o’u hatal neu eu rhwystro rhag defnyddio cyfleusterau addysgol neu hyfforddi ac mae'n debygol o alw am'— ddarpariaeth dysgu ychwanegol. Mae’r angen am ddarpariaeth BSL i deuluoedd babanod a phlant byddar hefyd wedi’i amlygu, gyda theuluoedd yn nodi mai cyfyngedig yw'r mynediad sydd ganddynt at grwpiau cymorth a theuluoedd eraill tebyg, ac na allant ddysgu BSL oni bai eu bod yn gallu fforddio’r costau uchel sy'n gysylltiedig.
Rwyf wedi amlinellu'r costau cychwynnol ar gyfer y Bil yn ei femorandwm esboniadol. Mae’r prif feysydd posibl o ran costau a manteision cyflwyno’r Bil yn ymwneud â: sefydlu comisiynydd a phanel cynghori Iaith Arwyddion Prydain, gyda gweinyddiaeth ategol; llunio safonau BSL; llunio canllawiau a phroses i gyrff cyhoeddus hyrwyddo a hwyluso BSL; costau ychwanegol i gyrff cyhoeddus a Llywodraeth Cymru adrodd ar eu defnydd o BSL; adroddiadau blynyddol gan Lywodraeth Cymru; sefydlu gweithdrefn ar gyfer ymchwilio i gwynion; a chynhyrchu adroddiadau ar sefyllfa BSL bob pum mlynedd. Fodd bynnag, egwyddor y Bil hwn yw buddsoddi i arbed, gan ddefnyddio mesurau atal ac ymyrryd yn fuan i leihau pwysau ariannol ar wasanaethau statudol yn nes ymlaen.
Os bydd y Senedd yn cytuno i ganiatáu imi gyflwyno’r Bil hwn heddiw, a thrwy hynny, sicrhau bod deddfwriaeth BSL benodol ar waith ym mhedair gwlad y DU, bydd fy nhîm a minnau’n gweithio gyda Llywodraeth Cymru, arwyddwyr BSL, a’r sectorau cyhoeddus, gwirfoddol a phreifat i sicrhau bod ei ddatblygiad yn cael yr effaith fwyaf sy'n bosibl ar bolisi ac yn diwallu anghenion ar sail gost-effeithiol. Rwy'n gofyn am eich cefnogaeth. Diolch yn fawr.