Part of the debate – Senedd Cymru am 3:24 pm ar 19 Mehefin 2024.
Diolch. Ym mis Chwefror 2021, yn ystod tymor y Senedd ddiwethaf, ac eto ym mis Rhagfyr 2022, yn ystod tymor y Senedd hon, pleidleisiodd Senedd Cymru o blaid nodi fy nghynnig am Fil
'a fyddai'n gwneud darpariaeth i annog defnyddio Iaith Arwyddion Prydain (BSL) yng Nghymru, a gwella mynediad at addysg a gwasanaethau yn BSL.'