– Senedd Cymru am 3:24 pm ar 19 Mehefin 2024.
Diolch, James. Eitem 5 yw'r cynnig o dan Reol Sefydlog 26.91, yn ceisio cytundeb y Senedd i gyflwyno Bil Aelod, Bil Iaith Arwyddion Prydain (BSL) (Cymru). Galwaf ar Mark Isherwood i wneud y cynnig.
Diolch. Ym mis Chwefror 2021, yn ystod tymor y Senedd ddiwethaf, ac eto ym mis Rhagfyr 2022, yn ystod tymor y Senedd hon, pleidleisiodd Senedd Cymru o blaid nodi fy nghynnig am Fil
'a fyddai'n gwneud darpariaeth i annog defnyddio Iaith Arwyddion Prydain (BSL) yng Nghymru, a gwella mynediad at addysg a gwasanaethau yn BSL.'
Gydag Aelodau o bob plaid yn pleidleisio o blaid y cynnig bob tro, gan ddangos awydd clir am ddeddfwriaeth BSL o'r fath ar draws Siambr y Senedd, a chydag arwyddwyr BSL, pobl F/fyddar a chymunedau ledled Cymru yn parhau i ofyn i mi gyflwyno Bil BSL yng Nghymru, rwy'n ddiolchgar am y cyfle hwn nawr i geisio cytundeb y Senedd i gyflwyno'r Bil hwn. Yn dilyn canlyniad y bleidlais wreiddiol a wnaeth ganiatáu imi wneud hyn, gofynnwyd am ymgynghoriad cychwynnol, a chafwyd cefnogaeth sawl sefydliad ac unigolyn, yn cynnwys arwyddwyr BSL o bob rhan o Gymru, Cymdeithas Pobl Fyddar Prydain yng Nghymru, Sense, Clwb Ffilmiau Byddar, y Ganolfan Arwyddo Golwg Sain yng ngogledd Cymru, Deaf Gathering Cymru, Ein Byd Gweledol a Chlwb Byddar Llanelli, ac mae rhai ohonynt yn yr oriel gyhoeddus heddiw, felly croeso.
Ym mis Hydref 2018, cafodd galwadau eu gwneud yng nghynhadledd Clust i Wrando gogledd Cymru 2018 am ddeddfwriaeth BSL yng Nghymru, gan edrych ar Ddeddf BSL (Yr Alban) 2015 a'u cynllun BSL cenedlaethol, a gyhoeddwyd ym mis Hydref 2017, gan sefydlu grŵp cynghori cenedlaethol, yn cynnwys hyd at 10 o bobl fyddar sy'n defnyddio BSL fel eu dewis iaith neu iaith gyntaf. Pasiwyd Deddf BSL (Yr Alban) ar 17 Medi 2015, gan nodi cyfnod newydd yn ymgyrch y gymuned fyddar dros gydnabyddiaeth gyfreithiol i anghenion arwyddwyr BSL ledled y DU. Cefais fy nghalonogi pan gyflwynodd yr AS Llafur Rosie Cooper ei Bil Iaith Arwyddion Prydain yn Senedd y DU, a gyd-lofnodwyd gan yr Arglwydd Holmes Ceidwadol o Richmond, pan sicrhaodd hyn gefnogaeth Llywodraeth y DU, a phan gafodd ei basio ym mis Mawrth 2022 ac ennill Cydsyniad Brenhinol y mis canlynol.
Mae Deddf y DU yn cydnabod BSL fel iaith yng Nghymru, Lloegr a'r Alban, ac mae'n ei gwneud yn ofynnol i'r Ysgrifennydd Gwladol adrodd ar hyrwyddo a hwyluso defnydd o BSL gan adrannau Gweinidogion Llywodraeth, ac mae'n ei gwneud yn ofynnol i ganllawiau gael eu cyhoeddi mewn perthynas â BSL. Fodd bynnag, er bod Deddf y DU yn creu dyletswydd ar Lywodraeth y DU i baratoi a chyhoeddi adroddiadau BSL yn disgrifio'r hyn y mae adrannau'r Llywodraeth wedi'i wneud i hyrwyddo'r defnydd o BSL wrth gyfathrebu â'r cyhoedd, nid yw Deddf y DU yn cynnwys adrodd yn benodol ar faterion sydd wedi'u datganoli i Gymru a'r Alban. Nid yw'r Ddeddf yn ymestyn y ddyletswydd adrodd a darparu canllawiau i Lywodraethau Cymru a'r Alban. Ar 20 Chwefror eleni, amlinellodd y Gweinidog cymunedau yng Ngweithrediaeth Gogledd Iwerddon ei gynlluniau ar gyfer datblygu iaith arwyddion yng Ngogledd Iwerddon, gan gynnwys cyflwyno Bil iaith arwyddion. Dywedodd ei fod wedi ymrwymo i sicrhau bod gan aelodau'r gymuned fyddar yr un hawliau a chyfleoedd â'r rhai yn y gymuned sy'n clywed, a'u bod yn gallu cael mynediad at wasanaethau yn eu hiaith eu hunain.
Felly, os na fydd fy Bil yn mynd yn ei flaen, Cymru fydd yr unig ran o'r DU nad yw'n cael ei chynnwys mewn deddfwriaeth benodol ar gyfer BSL. Pwrpas y Bil hwn yw gwneud darpariaeth i hyrwyddo a hwyluso'r defnydd o BSL a'i ffurfiau cyffyrddol yng Nghymru, gwella mynediad at addysg, iechyd a gwasanaethau cyhoeddus yn BSL, a chefnogi cael gwared ar rwystrau sy'n bodoli i bobl fyddar a'u teuluoedd ym maes addysg, iechyd, gwasanaethau cyhoeddus, gwasanaethau cymorth ac yn y gweithle. Bil iaith yw hwn sy'n cefnogi arweiniad pobl fyddar Cymru ar holl faterion BSL yng Nghymru.
Mae'r Bil hwn yn cyd-fynd â saith nod llesiant Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015 fel y maent yn ymwneud ag anghenion hirdymor defnyddwyr BSL ac arwyddwyr o bob oedran. Byddai'r Bil hwn hefyd yn cefnogi ymrwymiadau presennol, gan gynnwys Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau'r Plentyn a'r Confensiwn ar Hawliau Pobl ag Anableddau.
O ran terminoleg, mae Cymdeithas Pobl Fyddar Prydain yn galw am ddefnyddio'r term 'arwyddwyr BSL' yn lle'r term 'defnyddwyr BSL', a byddai'r defnydd arfaethedig hwn o derminoleg yn cael ei gynnwys yn yr ymgynghoriad ar y Bil.
Byddai’r Bil hefyd yn gweithio tuag at sicrhau nad yw arwyddwyr BSL yn cael eu trin yn llai ffafriol na phobl sy’n siarad Cymraeg neu Saesneg, a sicrhau bod gan gymunedau byddar lais gwirioneddol yn y gwaith o lunio a darparu gwasanaethau i sicrhau eu bod yn diwallu eu hanghenion. Nid yw'r ddeddfwriaeth bresennol yn diwallu anghenion y gymuned fyddar ac arwyddwyr BSL.
Mewn tystiolaeth a dderbyniwyd gan Bwyllgor Addysg a Diwylliant Senedd yr Alban ar Ddeddf Iaith Arwyddion Prydain (Yr Alban) 2015, dywedodd Cymdeithas Pobl Fyddar yr Alban fod Deddf Cydraddoldeb 2010
'yn rhoi hawliau i unigolion i'w hamddiffyn rhag gwahaniaethu ond nid yw'n diogelu nac yn hyrwyddo BSL fel iaith.'
Mae’r Bil hwn yn cynnig sefydlu comisiynydd BSL sydd â'r un pwerau â chomisiynwyr ieithoedd lleiafrifol eraill, megis y rhai a gyflwynwyd ar ôl Mesur y Gymraeg (Cymru) 2011; Deddf yr Iaith Aeleg (Yr Alban) 2005 a Deddf Hunaniaeth ac Iaith (Gogledd Iwerddon) 2022. Byddai hyn yn dangos neges sylweddol o gefnogaeth i gymuned arwyddwyr BSL yng Nghymru.
Byddai'r comisiynydd BSL yn llunio safonau BSL; yn sefydlu panel cynghori BSL; yn cynhyrchu adroddiadau bob pum mlynedd mewn BSL, Cymraeg a Saesneg ar sefyllfa BSL dros y cyfnod hwnnw; yn darparu canllawiau a phroses i gyrff cyhoeddus hyrwyddo a hwyluso BSL yn eu priod feysydd; ac yn sefydlu gweithdrefn ar gyfer ymchwilio i gwynion. Byddai union natur, statws a chyfrifoldebau’r comisiynydd yn cael eu datblygu ymhellach mewn cydweithrediad â rhanddeiliaid, gan gynnwys Llywodraeth Cymru, i sicrhau bod costau a buddion yn cael eu hystyried wrth i’r Bil fynd yn ei flaen.
Byddai’r Bil yn ymestyn y dyletswyddau adrodd a chanllawiau sy’n berthnasol i Lywodraeth y DU yn Lloegr i Lywodraeth Cymru yng Nghymru, ac yn gosod dyletswydd ar Lywodraeth Cymru i baratoi a chyhoeddi adroddiad BSL blynyddol sy'n disgrifio’r hyn y mae adrannau Llywodraeth Cymru wedi’i wneud i hyrwyddo a hwyluso'r defnydd o BSL.
Nod y Bil yw gosod dyletswydd ar gyrff cyhoeddus i adrodd ar eu cynnydd yn hyrwyddo a hwyluso BSL drwy gylch adrodd Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015. Byddai sicrhau bod BSL yn cael ei bwydo i mewn i gylchred llesiant cenedlaethau’r dyfodol yn ymgorffori BSL mewn fframweithiau polisi a chyfreithiol presennol yng Nghymru. Byddai hyn yn sicrhau bod adnoddau’n cael eu rhannu’n gost-effeithiol drwy ddefnyddio strwythurau presennol i greu cymdeithas decach ar gyfer arwyddwyr BSL yng Nghymru yn y tymor hir.
Mae ieithoedd arwyddion yn ieithoedd llawn gyda'u cymunedau, eu hanesion a'u diwylliannau eu hunain. Mae Ffederasiwn Pobl Fyddar y Byd, sydd â 136 o gymdeithasau cenedlaethol i bobl fyddar yn aelodau, yn pwysleisio pwysigrwydd meithrin amgylchedd ieithyddol a diwylliannol cadarnhaol, fel y gall plant byddar dyfu i fyny gydag ymdeimlad dwys o berthyn, hunaniaeth a balchder yn eu treftadaeth fyddar.
Mae BSL, yr iaith arwyddion fwyaf cyffredin yn y DU, yn iaith ystumiol gyfoethog a gweledol gyda gramadeg unigryw sy’n defnyddio siapiau dwylo, mynegiant wyneb, ystumiau ac iaith y corff i gyfleu ystyr. Mae Cymdeithas Pobl Fyddar Prydain yn datgan
'nid iaith yn unig yw BSL; mae hefyd yn borth i ddysgu...ac yn fodd i bobl Fyddar oroesi a ffynnu mewn byd sy'n clywed.'
Er i Lywodraeth Cymru gydnabod BSL fel iaith yn ei hawl ei hun yn 2004, bu galwadau ers tro byd i roi statws cyfreithiol llawn i BSL yng Nghymru. Nid yw byddardod yn anhawster dysgu, ond mae plant byddar o dan anfantais oherwydd yr annhegwch parhaus o ran canlyniad. Mae’r Gymdeithas Genedlaethol i Blant Byddar wedi nodi bod y cod anghenion dysgu ychwanegol—neu ADY—yn nodi bod plant a phobl ifanc byddar, ynghyd â phlant sy’n ddall neu sydd â nam ar eu golwg,
'yn fwy tebygol o fod ag ADY yn rhinwedd y ffaith bod y nam yn debygol o’u hatal neu eu rhwystro rhag defnyddio cyfleusterau addysgol neu hyfforddi ac mae'n debygol o alw am'— ddarpariaeth dysgu ychwanegol. Mae’r angen am ddarpariaeth BSL i deuluoedd babanod a phlant byddar hefyd wedi’i amlygu, gyda theuluoedd yn nodi mai cyfyngedig yw'r mynediad sydd ganddynt at grwpiau cymorth a theuluoedd eraill tebyg, ac na allant ddysgu BSL oni bai eu bod yn gallu fforddio’r costau uchel sy'n gysylltiedig.
Rwyf wedi amlinellu'r costau cychwynnol ar gyfer y Bil yn ei femorandwm esboniadol. Mae’r prif feysydd posibl o ran costau a manteision cyflwyno’r Bil yn ymwneud â: sefydlu comisiynydd a phanel cynghori Iaith Arwyddion Prydain, gyda gweinyddiaeth ategol; llunio safonau BSL; llunio canllawiau a phroses i gyrff cyhoeddus hyrwyddo a hwyluso BSL; costau ychwanegol i gyrff cyhoeddus a Llywodraeth Cymru adrodd ar eu defnydd o BSL; adroddiadau blynyddol gan Lywodraeth Cymru; sefydlu gweithdrefn ar gyfer ymchwilio i gwynion; a chynhyrchu adroddiadau ar sefyllfa BSL bob pum mlynedd. Fodd bynnag, egwyddor y Bil hwn yw buddsoddi i arbed, gan ddefnyddio mesurau atal ac ymyrryd yn fuan i leihau pwysau ariannol ar wasanaethau statudol yn nes ymlaen.
Os bydd y Senedd yn cytuno i ganiatáu imi gyflwyno’r Bil hwn heddiw, a thrwy hynny, sicrhau bod deddfwriaeth BSL benodol ar waith ym mhedair gwlad y DU, bydd fy nhîm a minnau’n gweithio gyda Llywodraeth Cymru, arwyddwyr BSL, a’r sectorau cyhoeddus, gwirfoddol a phreifat i sicrhau bod ei ddatblygiad yn cael yr effaith fwyaf sy'n bosibl ar bolisi ac yn diwallu anghenion ar sail gost-effeithiol. Rwy'n gofyn am eich cefnogaeth. Diolch yn fawr.
Galwaf ar Ysgrifennydd y Cabinet dros Ddiwylliant a Chyfiawnder Cymdeithasol, Lesley Griffiths.
Diolch, Ddirprwy Lywydd. A diolch i Mark Isherwood am gyflwyno'r ddadl Aelodau hon—gwn ei fod yn rhywbeth rydych chi wedi ymddiddori ynddo ers amser maith.
Rwy’n ymwybodol iawn o ba mor bwysig yw’r mater hwn a phwysigrwydd sicrhau mynediad llawn a chyfartal at wasanaethau a gwybodaeth i arwyddwyr Iaith Arwyddion Prydain yma yng Nghymru. Fel y dywedodd Mark Isherwood, yn ôl yn 2004, fe wnaeth Llywodraeth Cymru gydnabod BSL fel un o ieithoedd Cymru. Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i wella bywydau pobl anabl. Yn ddiweddar, fe wnaethom gomisiynu a chroesawu archwiliad o bolisïau a darpariaeth BSL yn Llywodraeth Cymru, a gyhoeddwyd gan Gymdeithas Pobl Fyddar Prydain. Mae Llywodraeth Cymru yn cydnabod yr angen i fabwysiadu ymagwedd gwbl groestoriadol at argymhellion yr archwiliad ac i ystyried sut y gellir eu rhoi ar waith yn y ffordd fwyaf effeithiol.
Rydym yn gwneud darpariaethau i hybu a hwyluso’r defnydd o BSL a’i ffurfiau cyffyrddol yng Nghymru, ac i ddileu rhwystrau a gwella mynediad at addysg, iechyd a gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru. Mae cynnydd yn cael ei wneud. Cymru yw’r wlad gyntaf yn y DU i gynnwys BSL ochr yn ochr â Saesneg, Cymraeg ac ieithoedd eraill yn y cwricwlwm. Mae hyn yn cefnogi dysgu ac addysgu ar gyfer arwyddwyr BSL byddar, yn ogystal â rhoi cyfle i ysgolion gyflwyno BSL i ddysgwyr eraill. Ni oedd y Llywodraeth gyntaf yn y DU i sicrhau bod ein cynadleddau i’r wasg COVID-19 yn cynnwys presenoldeb dehonglydd BSL/Saesneg.
Bydd cynnydd yn arwain at newid gwirioneddol a chynaliadwy. Rydym yn cydnabod pa mor bwysig yw hi i arwyddwyr BSL byddar gael llais yn y broses o lunio a darparu gwasanaethau, er mwyn sicrhau bod eu hanghenion ieithyddol a diwylliannol yn cael eu diwallu. Mae ein tasglu hawliau pobl anabl yn dod â phobl â phrofiadau bywyd, arweinwyr polisi Llywodraeth Cymru, a sefydliadau cynrychioliadol ynghyd. Mae gan 10 gweithgor thematig y tasglu dros 550 o aelodau grŵp, gan gynnwys pobl anabl, rhieni a gofalwyr, ac arweinwyr polisi. Rydym wedi bod yn edrych ar bob agwedd ar fywydau pobl anabl, a’n nod yw cael gwared ar yr annhegwch a’r rhwystrau y mae pobl anabl yn eu hwynebu bob dydd. Mae argymhellion ein gweithgor yn dangos pa mor hanfodol yw BSL i gynhwysiant a chydraddoldeb yng Nghymru.
Mae’r tasglu’n parhau i godi ymwybyddiaeth ar draws y Llywodraeth o effeithiau niweidiol allgáu pobl anabl ar gymdeithas. Bydd y cynllun gweithredu ar anabledd sydd ar y ffordd yn sicrhau bod cydraddoldeb a chynhwysiant yn cael lle canolog yn ein gweledigaeth ar gyfer Cymru, ac yn dangos sut, gyda’n gilydd, y gallwn drawsnewid cymdeithas o fod yn amgylchedd gelyniaethus i fod yn rhywle lle croesewir gwahaniaeth. Mae newid canfyddiad ac ymddygiad cymdeithas drwy bolisi yn heriol. Mae’r tasglu hawliau pobl anabl yn ceisio creu newid cadarnhaol gwirioneddol a hirdymor i bobl anabl, drwy gynllun wedi’i gydgynhyrchu, a fydd yn cefnogi cynnydd tuag at sicrhau bod pobl anabl yn cael mynediad at y gwasanaethau sydd eu hangen arnynt ledled Cymru.
Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i wella gwasanaethau gofal iechyd yng Nghymru, ac mae gwella’r ddarpariaeth ar gyfer arwyddwyr BSL byddar yn flaenoriaeth. Mae'n rhaid sicrhau nad oes unrhyw un yn cael eu gadael ar ôl wrth gyflawni nodau llesiant cenedlaethau’r dyfodol. Ar draws holl nodau llesiant Cymru, mae profiad pobl fyddar yn dangos y gellir gwneud mwy, fel y gallant gael mynediad at gyfleoedd cyflogaeth, gwneud y mwyaf o’u llesiant corfforol a meddyliol, gan gydnabod y diwylliant byddar unigryw, a’u bod yn cyflawni eu potensial.
Mae gwrth-wahaniaethu a gwrth-orthrwm yn ganolog i werthoedd Llywodraeth Cymru. Rydym yn ceisio herio a goresgyn rhagfarn sefydliadol ac unigol a herio anghyfiawnder cymdeithasol. Mae gennym lawer i'w ddysgu gan arwyddwyr BSL byddar o Gymru, i ddysgu a deall eu hanes a pharhau i frwydro dros gydraddoldeb a chynrychiolaeth.
Mabwysiadwyd a chefnogwyd Deddf Iaith Arwyddion Prydain 2022 gan Lywodraeth y DU. Mae ganddi oblygiadau yng Nghymru i feysydd nad ydynt wedi’u datganoli. Fodd bynnag, fe wyddom nad yw hyn yn mynd yn ddigon pell. Mae dull cydweithredol a chynhwysol yn fwy effeithiol na deddfwriaeth, nad yw’n mynd yn ddigon pell yn aml, ac nad yw’n ymgysylltu â’r bobl gywir. Ond er fy mod yn llwyr ddeall y bwriad y tu ôl i’r Bil arfaethedig hwn, ni chredaf fod ei angen. Fe allwn ac rydym wedi gwneud cynnydd sylweddol heb Fil. Nid oedd angen Bil BSL ar Lywodraeth Cymru i gynnwys BSL yn y cwricwlwm, nac i sicrhau bod gennym ddehonglwyr BSL/Saesneg yng nghynadleddau i'r wasg Llywodraeth Cymru. Fe allwn ac fe fyddwn yn defnyddio ysgogiadau polisi i greu newid effeithiol a chydraddoldeb.
Hoffwn ddefnyddio ein hadnoddau i wneud newidiadau cadarnhaol mwy uniongyrchol i ddefnyddwyr BSL. Fe allwn ac fe fyddwn yn parhau i weithio mewn partneriaeth ag arwyddwyr BSL byddar, yn ogystal â sefydliadau partner allweddol yng Nghymru, i chwalu rhwystrau a gweithio ar y cyd tuag at Gymru gyfartal. Fe allwn ac fe fyddwn yn cydweithio i greu newid effeithiol. Gan weithio gyda'n gilydd, gallwn fod y newid rydym am ei weld. Mae strwythur unigryw Cymru yn ein galluogi i gydweithio ac ysgogi newid mewn ffyrdd na all eraill. Rydym yn agosach at ein dinasyddion, a gallant ddweud wrthym yn uniongyrchol beth sydd ei angen arnynt. Ac rwy'n fwy na pharod i gyfarfod â chi, Mark, i drafod hyn ymhellach, ac mae gennyf gryn ddiddordeb hefyd yn y trafodaethau a gawsoch gyda'r sefydliadau y cyfeirioch chi atynt yn eich araith agoriadol.
Mae Cymru yn wlad falch, yn wlad gynhwysol, ac yn wlad sy'n credu mewn cyfiawnder cymdeithasol. Mae angen cyfiawnder ieithyddol er mwyn sicrhau tegwch a chynhwysiant—i'r Gymraeg, a BSL. Mae Llywodraeth Cymru yn ymroddedig i'r gymuned fyddar sy'n defnyddio BSL yng Nghymru. Diolch.
A gaf fi ddiolch i Mark Isherwood am gyflwyno'r Bil yma? Dwi'n falch o gael y cyfle i drafod y materion pwysig y mae'n eu codi yn y Senedd, achos yn ystod y blynyddoedd diwethaf, bu cydnabyddiaeth gynyddol a hir-ddisgwyliedig o'r safle bwysig sydd gan Iaith Arwyddion Prydain yn ein cymdeithas, yn ogystal ag ymdrechion mwy penodol i'w hyrwyddo a'i gwneud yn weledol mewn bywyd cyhoeddus.
Roedd y ffaith bod sesiynau briffio dyddiol Llywodraeth Cymru ar COVID bob amser yn cael eu harwyddo yn gam cadarnhaol ymlaen yn hyn o beth, ac, fel plaid, rydym ni wedi sicrhau’n gyson bod ein holl weithgareddau cyhoeddus mawr, gan gynnwys ein cynadleddau a chyhoeddiadau maniffesto ac yn y blaen, yn darparu'n briodol ar gyfer anghenion arwyddwyr BSL.
Ond ni allwn ddibynnu ar ewyllys da sefydliadau yn unig yn hyn o beth, ac mae'r memorandwm esboniadol i'r Bil arfaethedig hwn yn gywir i nodi'r diffyg safonau BSL statudol fel bwlch amlwg yn ein fframwaith deddfwriaethol presennol. Yn ehangach, mae hyn yn enghraifft, wrth gwrs, o'r rhwystrau cymdeithasol helaeth sy'n wynebu'r gymuned fyddar yng Nghymru, ac sy'n aml yn dod i'r amlwg yn gynnar iawn yn eu bywydau.
Er enghraifft, rwy’n arbennig o bryderus ynghylch y ffaith nad oes gan Gymru unrhyw therapyddion llafar clywedol ardystiedig, sy’n darparu ymyrraeth gynnar arbenigol ar gyfer babanod a phlant byddar, i helpu sicrhau y gallant sicrhau’r un canlyniadau addysgol â’u cyfoedion sy’n clywed.
Mae goblygiadau'r diffyg cefnogaeth yn y maes yma yn amlwg. Fel y sonnir yn y memorandwm esboniadol, mae dysgwyr byddar 26 y cant yn llai tebygol o ennill graddau TGAU A* i C yn y pynciau craidd, sef Saesneg neu Gymraeg a mathemateg, na’u cyfoedion sy’n clywed. Mae dadansoddiad gan Auditory Verbal UK wedi dangos y byddai buddsoddiad o gyn lleied ag £800,000 dros y 10 mlynedd nesaf yn ddigonol i sicrhau bod pob plentyn byddar yng Nghymru yn cael y cyfle i gael mynediad i therapi llafar clywedol, a fyddai, yn ei dro, yn darparu tua £7 miliwn o fudd economaidd, drwy wella ansawdd bywyd a rhagolygon cyflogaeth, costau addysg is ac, wrth gwrs, atal anafiadau. A yw'r Aelod yn cytuno â mi, felly, y dylai mater therapi llafar clywedol fod yn faes ffocws penodol i waith y comisiynydd BSL arfaethedig?
Byddwn hefyd yn croesawu barn yr Aelod ynghylch a ddylai cylch gwaith y comisiynydd BSL hefyd gynnwys y gallu i osod ac argymell targedau i Lywodraeth Cymru ar amserlenni ar gyfer cau’r bwlch cyrhaeddiad y soniais i amdano. Mae Plaid Cymru yn croesawu'n fawr sut y byddai'r Bil arfaethedig yn rhoi dyletswydd ar Lywodraeth Cymru i ymgysylltu’n weithredol â’r gymuned fyddar mewn proses gyflawn o gydgynhyrchu ar gyfer y polisïau a’r gwasanaethau y maent yn dibynnu arnynt, drwy sefydlu grŵp cynghori BSL i rymuso’r gymuned fyddar ledled Cymru.
Mae'r RNID wedi pwysleisio mai un o'r prif bryderon sy'n cael ei godi gan y gymuned fyddar yw’r methiant i ddarparu mynediad at wasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol. Rwyf i fy hun wedi cael gwaith achos lle'r oedd un etholwr byddar wedi methu â chael modd i wneud apwyntiad gyda meddyg, ac un arall heb fodd i gyfathrebu gyda staff tra yn cael triniaeth yn yr ysbyty. Mae hyn yn peryglu eu hiechyd, yn tanseilio eu hawliau dynol a'u hurddas, ac yn enghreifftiau clir o anghydraddoldeb. A ydych chi felly'n cytuno, Mark Isherwood, y dylai mynediad i ofal iechyd a chymdeithasol gael ei wneud yn faes blaenoriaeth i'r Llywodraeth a'r grŵp cynghori BSL o dan fecanweithiau'r Bil?
Yn olaf, a yw’r Aelod hefyd yn cytuno bod y rhwystrau penodol sy'n cael eu hwynebu gan bobl fyddar yng Nghymru yn bodoli o fewn sbectrwm ehangach o anghydraddoldebau cymdeithasol sydd wedi eu gwreiddio'n ddwfn yn ein cymdeithas, ac nad oes modd mynd i’r afael â hwy yn gwbl effeithiol heblaw drwy fuddsoddi’n briodol ac yn barhaus yn ein gwasanaethau cyhoeddus? Byddai'r buddsoddiad hwnnw, wrth gwrs, yn medru bod yn ddyfnach pe bai gan San Steffan system ariannu deg ar gyfer Cymru.
Mae consensws trawsbleidiol clir ar draws y Senedd hon y gellir ac y dylid gwneud llawer mwy i ddarparu ar gyfer anghenion arwyddwyr BSL, ac i gryfhau'r fframweithiau cyfreithiol ynghylch darpariaethau perthnasol mewn bywyd cyhoeddus. Mae Plaid Cymru, felly, yn hapus i gefnogi egwyddorion y Bil hwn, ac yn barod iawn hefyd i weithio'n adeiladol ar sail drawsbleidiol er mwyn bwrw ymlaen â'r gwaith sydd angen ei wneud i gyflawni'r egwyddorion hyn. Diolch.
Rwy’n falch heddiw o gefnogi’r Bil Iaith Arwyddion Prydain (BSL) (Cymru) hwn, ond hefyd, yn fwyaf arbennig, rwy’n falch o allu cefnogi fy nghyd-Aelod, Mark Isherwood. Hoffwn ganmol Mark am y gwaith y mae wedi’i wneud ar faterion pobl fyddar a hawliau pobl anabl dros nifer o flynyddoedd yn y lle hwn, yn ei 20 mlynedd fel Aelod yma. Mae'n deg dweud ei fod yn hyrwyddwr yn y lle hwn, yn Senedd Cymru, ar ran y rheini sydd, ar adegau, wedi'u hymyleiddio. Mae'n hyrwyddwr o ran gadael inni ddeall y problemau sy'n eu hwynebu. Mae hon yn enghraifft wych, unwaith eto, o Mark Isherwood yn codi’r materion hyn. A hefyd, dywedwyd wrthyf unwaith fod angerdd am fater neu angerdd am bwnc yn aml yn cael ei ddangos drwy ddyfalbarhad. Mae pob un ohonom wedi eistedd yma ar adegau yn gwrando ar Mark Isherwood yn dyfalbarhau ar y materion hyn, ac mae’n glod iddo heddiw fod cynnig y Bil hwn ger ein bron.
Rwyf i fy hun wedi bod yn mynd drwy’r broses Bil Aelodau yn ddiweddar. Mae'n rhan wirioneddol bwysig o waith y Senedd hon. Yn y bôn, rydym yma i greu neu atal deddfwriaeth. Mae Biliau Aelodau'n rhan werthfawr o’r gwaith a wnawn, yn enwedig Aelodau nad ydynt ar feinciau’r Llywodraeth. Credaf fod Bil Mark yma heddiw, Bil Iaith Arwyddion Prydain (Cymru), yn haeddu’r amser a’r parch fel deddfwriaeth Aelodau.
Os caf edrych ar y Bil ei hun nawr, yn syml, mae gan y Bil hwn botensial i chwyldroi bywydau pobl fyddar ledled Cymru. Yn rhy aml o lawer, mae pobl fyddar yn wynebu rhwystrau mewn llu o feysydd, o’r system addysg i amrywiaeth o wasanaethau cyhoeddus, fel yr amlinellwyd eisoes yn y lle hwn y prynhawn yma. Hefyd, fel y mae’r memorandwm esboniadol yn amlinellu, mae gan lawer o arwyddwyr BSL byddar oedran darllen a deall is na’r cyhoedd yn gyffredinol. Nid yw hyn, wrth gwrs, yn unrhyw adlewyrchiad o gymhwysedd deallusol, ond mae'n ganlyniad uniongyrchol i allgáu ieithyddol, ac nid yw hynny'n dderbyniol.
Mae hyn nid yn unig yn cael effaith negyddol o ran mynediad at wasanaethau, gall hefyd amlygu ei hun yn y tymor hwy, yn enwedig drwy ganlyniadau fel iechyd meddwl gwael ac allgáu cymdeithasol. Dyna pam, yn bwysig, mai un o nodau craidd y Bil hwn yw nad yw pobl fyddar sy'n defnyddio Iaith Arwyddion Prydain yn cael eu trin yn llai ffafriol na phobl sy'n siarad Cymraeg neu Saesneg. Dyma nod ac uchelgais hynod ganmoladwy yn y Bil hwn.
Fel y mae'n digwydd, mae fy mam fy hun yn dysgu Iaith Arwyddion Prydain ar hyn o bryd. Mae’n cael y gwersi hynny yn Wrecsam, ac mae wedi cyrraedd pwynt penodol yn ei dysgu lle nad yw bellach yn gallu parhau â’r dysgu hwnnw, oherwydd yn Wrecsam, nid ydynt yn gallu symud ymlaen â’r lefelau dysgu uwch. Rwyf i a fy nheulu wedi gweld bod cyfle i ystyried sut rydym yn cynnwys pobl fyddar a sut y gallwn chwarae ein rhan drwy ddysgu BSL i wneud bywyd yn symlach ac yn haws i bobl fyddar, fel nad yw'r rhwystrau hynny yno.
Nid yw'n iawn nac yn deg fod pobl fyddar yn cael eu hallgáu o ormod o rannau o fywyd oherwydd eu hanabledd. Rhaid ei bod yn iawn i wleidyddion a Llywodraethau sicrhau nad yw anabledd yn allgáu pobl yn ddiangen rhag gwneud eu gorau. Credaf fod y Bil hwn yn caniatáu i ni yn y lle hwn a’r Llywodraeth gynnwys mwy o bobl nag a gaiff eu hallgáu gennym. Felly, i ailadrodd geiriau Mark pan ddyfynnodd Gymdeithas Pobl Fyddar Prydain wrth agor y ddadl yma heddiw,
'nid iaith yn unig yw BSL; mae hefyd yn borth i ddysgu...ac yn fodd i bobl Fyddar oroesi a ffynnu mewn byd sy'n clywed.'
Fe wneuthum nodyn o hynny oherwydd, i mi, mae hynny'n ddwys iawn. Mae gennym gyfle gwirioneddol y gall Cymru ei fachu â’i dwy law i wneud gwahaniaeth i’r rheini sy’n agored i niwed yn y ffordd hon yma yng Nghymru. Hoffwn annog pob Aelod i gefnogi taith y Bil hwn i’r cam nesaf. Gadewch inni roi cyfle i gynnydd. Diolch yn fawr iawn.
Diolch i Mark am ddod â’r Bil Aelod hwn ger ein bron heddiw. Dymunaf yn dda i chi gyda'r datblygiad hwn. Hoffwn wneud un neu ddau o bwyntiau o blaid y Bil a'r manteision posibl o'i gyflwyno.
Yn ddiweddar, bûm mewn cyfarfod gyda Cymorth i Fenywod Cymru, a buom yn trafod y rhwystrau sy’n atal menywod sy’n dioddef trais domestig neu sydd mewn perygl o ddioddef trais domestig rhag ceisio cymorth. Un o'r agweddau ar hynny oedd diffyg darpariaeth BSL. Mewn ymateb i ymchwiliad gan y Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol, roeddent yn dweud bod oddeutu 22 o fenywod byddar mewn perygl o gael eu cam-drin bob dydd. Fodd bynnag, maent yn parhau i wynebu rhwystrau sylweddol rhag cael mynediad at gymorth. Yn aml, mae diffyg deunydd ar gael yn BSL, ac yn aml, mae'n anodd dod o hyd i gyfieithiad ar gyfer termau'n ymwneud â thrais a chamdriniaeth.
Mae’r rhwystrau cyfathrebu hyn yn achosi rhwystrau ychwanegol i oroeswyr rhag ceisio cymorth a chefnogaeth, gan ei gwneud yn fwy anodd iddynt adael cyflawnwyr a chyrraedd diogelwch. Rhaid darparu'r adnoddau llawn fel y gellir cael cyfieithwyr ar gyfer pob gwasanaeth er mwyn sicrhau eu bod ar gael ar unwaith ac nad yw goroeswr yn gorfod aros oherwydd diffyg darpariaeth cyfieithu yn eu dewis iaith. Yn sicr, os nad yw’r Bil hwn yn gwneud unrhyw beth arall, dyma reswm pwysig dros ei gyflwyno, ac rwy'n gobeithio bod Mark ac Ysgrifennydd y Cabinet yn cytuno â mi ar hynny.
Roeddwn am godi pwynt arall mewn perthynas â Deddf cenedlaethau’r dyfodol. Mae angen i’r Bil hwn hyrwyddo a hwyluso BSL yng Nghymru, gan sicrhau cysylltiad rhwng y Bil BSL a Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015, fel bod cynlluniau BSL a gofynion adrodd yn cael eu cynnwys yn y cylch adrodd i leihau’r baich ar gyrff cyhoeddus a sicrhau aliniad. Mae'r hyn sy'n cael ei fesur yn cael ei wneud, felly mae cynnwys dyletswydd adrodd yn hollbwysig er mwyn creu diwylliant lle mae'r defnydd o BSL wedi ymwreiddio'n llawn.
Ac yn olaf, dylai darparu dehonglwyr BSL fel sydd gennym yma heddiw fod yn ffordd safonol o weithio yn y Senedd hon. Mae cydraddoldeb rhwng y Gymraeg a'r Saesneg wedi'i ymgorffori yn y gyfraith, felly beth am ychwanegu trydedd iaith yng Nghymru, sef BSL? Diolch yn fawr.
A gaf i achub ar y cyfle i ddiolch i fy nghyd-Aelod, Mark Isherwood, am gyflwyno’r Bil Iaith Arwyddion Prydain hynod bwysig hwn? Ategaf eiriau fy nghyd-Aelod, Sam Rowlands, fod Mark wedi bod yn arloeswr a chefnogwr brwd i hawliau pobl anabl. Mae ei angerdd a'i gefnogaeth i BSL wedi bod yn amlwg yma yn y Siambr hon ers degawdau.
Nod trosfwaol y Bil mawr ei angen hwn yw chwalu’r rhwystrau sy’n wynebu pobl fyddar mewn sawl agwedd ar gymdeithas. Fel y dywedodd fy nghyd-Aelod, Mark Isherwood, yn ei sylwadau agoriadol, Iaith Arwyddion Prydain yw’r iaith arwyddion fwyaf cyffredin yma yn y DU, ac mae’n helpu i adeiladu ymdeimlad o gymuned a pherthyn i bobl fyddar drwy ddefnyddio siapiau dwylo, mynegiant wyneb, ystumiau ac iaith y corff i gyfleu ystyr. Dywed Cymdeithas Pobl Fyddar Prydain nad iaith yn unig yw Iaith Arwyddion Prydain, a'i bod hefyd yn borth i ddysgu ac yn fodd i bobl fyddar oroesi a ffynnu mewn byd sy'n clywed. Mae gallu defnyddio BSL yn beth gwirioneddol wych, ac rwy'n credu'n gryf y dylid addysgu'r hanfodion o leiaf i blant yn yr ysgol. Tra byddai hyn yn creu cenhedlaeth o ddefnyddwyr BSL yn y dyfodol, dylid cynnig cyfleoedd yn fwy eang i oedolion ledled Cymru ddysgu'r sgìl hwn.
Amser maith yn ôl, mynychais gwrs BSL sylfaenol yng nghanolfan ddysgu Stryd Charles yng Nghasnewydd, a oedd yn brofiad hynod gyffrous yn ogystal â buddiol i mi. Dysgais rai pethau sylfaenol, ac rwy’n mynd i geisio dangos i chi yma yn y Senedd heddiw, yn ogystal ag i’n gwesteion gwych yma yn y Siambr, a fydd, yn ogystal â’r rheini y tu allan i’r Siambr, efallai’n gallu fy asesu. Dysgais bethau sylfaenol fel 'helo' a 'gallwch fy enwi'. [Mae'n arwyddo yn BSL.] Efallai y bydd yn rhaid ichi chwyddo i mewn ar y camera. Rwy'n cofio dweud fy enw, sef 'N-A-T-A-S-H-A', a dyna ni, mae arnaf ofn. Efallai y gallaf ddweud 'diolch' ar ddiwedd fy araith, ond dyna'r cyfan rwy'n ei gofio, fwy neu lai. Mae’n rhaid imi ganmol pob un o’r canolfannau dysgu BSL ledled Cymru a'r Deyrnas Unedig. Bu galw cyson am statws cyfreithiol llawn i BSL yma yng Nghymru, ac er bod Llywodraeth Cymru wedi cydnabod BSL fel iaith yn ei hawl ei hun ddegawd yn ôl, yn fy marn i, gellir gwneud mwy, ac fe ddylid gwneud mwy.
Mae’r Bil yma heddiw yn ceisio gwella mynediad at addysg, ymhlith meysydd eraill, i bobl fyddar, ac mae hynny’n hynod bwysig, gan y gwyddom fod gan ddysgwyr byddar gyrhaeddiad addysgol is yn gyffredinol o gymharu â’u cyfoedion sy’n clywed. Nid yn unig hynny, ond mewn gwirionedd, mae plant byddar oddeutu 26 y cant yn llai tebygol o ennill graddau A* i C mewn pynciau craidd fel Saesneg, mathemateg a gwyddoniaeth na phlant sy’n gallu clywed. Hoffwn i bob un ohonoch gofio bod gan lawer o arwyddwyr BSL byddar oedran darllen is na'r boblogaeth yn gyffredinol o ganlyniad i allgáu ieithyddol. Gall hyn, yn ei dro, arwain at allgáu cymdeithasol o ganlyniad uniongyrchol i hyn, a gall hynny effeithio'n andwyol ar gyflogaeth, addysg a gofal iechyd.
Mae problemau hefyd mewn lleoliadau iechyd mewn perthynas â BSL, gyda phrinder dehonglwyr, yn enwedig mewn gofal brys a gofal heb ei gynllunio, yn cael effaith fawr ar bobl fyddar sy’n defnyddio gwasanaethau cyhoeddus. Os gallwch feddwl am amser pan fyddwch wedi bod mewn adran ddamweiniau ac achosion brys neu wedi bod angen gofal meddygol brys, nawr ceisiwch ddychmygu bod yn fyddar ac angen cyfieithydd neu ddehonglydd BSL a chymorth ar adeg mor anodd.
Yn syml, Ddirprwy Lywydd, bydd y Bil hwn yn rhoi llais pobl fyddar wrth wraidd y broses o gynllunio a darparu gwasanaethau er mwyn sicrhau bod eu hanghenion yn cael eu diwallu mewn bywyd o ddydd i ddydd. Rwy’n falch iawn o sefyll yma heddiw i gefnogi Bil Mark Isherwood. Rwy'n gobeithio y bydd pob Aelod yma yn y Siambr a thu hwnt yn gweld y manteision enfawr a ddaw yn sgil hyn ac yn pleidleisio yn unol â hynny. Diolch.
Galwaf ar Mark Isherwood i ymateb i'r ddadl.
Diolch. Efallai na fydd pobl sy’n gwylio ac yn mynychu yn yr oriel yn gwybod, ond mae’n rhaid i’r sawl sy’n agor dadl ei chloi a'i chrynhoi hefyd, felly rwyf wedi bod yn ysgrifennu llawer o nodiadau, a dyna pam nad oeddwn yn hollol barod pan wnaethoch chi alw arnaf gyntaf.
Dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet yn ei hymateb fod Llywodraeth Cymru yn ymwybodol iawn o ba mor bwysig yw’r mater hwn, a bod Cymru yn wlad sy'n credu mewn cyfiawnder cymdeithasol, ond nad oes angen y Bil. Mae hynny'n gwrth-ddweud ei hun. Mae’r bobl yn yr oriel, y bobl ledled Cymru, wedi bod yn dweud wrthym flwyddyn ar ôl blwyddyn—er enghraifft yn y grŵp trawsbleidiol ar anabledd, a gadeirir gennyf; er enghraifft yn y grŵp trawsbleidiol ar faterion pobl fyddar, a gadeirir gennyf; mewn cyfarfodydd a chynadleddau a fynychais, ac mewn mannau eraill—fod yn rhaid inni gael hyn, na allwn fod yr unig wlad yn y Deyrnas Unedig nad oes ganddi ddarpariaeth statudol yn hyn o beth, fod yn rhaid inni orfodi a gosod y dyletswyddau sydd ar waith mewn rhannau eraill o’r Deyrnas Unedig ar Weinidogion. Byddai gwneud fel arall yn frad ac yn fethiant i ddarparu cyfiawnder cymdeithasol, yn fethiant i gydnabod y rhwystrau y mae arwyddwyr BSL yn eu hwynebu, yn fethiant i ddeall eu hanghenion a gweithio gyda nhw i'w helpu i ddiwallu'r anghenion hynny.
Cyfeiriodd Ysgrifennydd y Cabinet at yr archwiliad o Iaith Arwyddion Prydain yng Nghymru gan Gymdeithas Pobl Fyddar Prydain—rwy’n ymwybodol o hynny, rwyf wedi bod yn ei fonitro’n agos ers blynyddoedd, yn ymgysylltu â Chymdeithas Pobl Fyddar Prydain ac yn holi eich rhagflaenwyr ynglŷn â hyn ers blynyddoedd. Drwy gydol y broses honno, mae Cymdeithas Pobl Fyddar Prydain wedi dweud wrthyf dro ar ôl tro—a'r Gweinidogion blaenorol hefyd, gan eu bod hwythau wedi dweud wrthyf—fod yn dal i fod angen Deddf arnynt yn ogystal. Nid yw'r archwiliad yn gwneud y tro yn lle Deddf. Dywedodd mai Cymru yw’r wlad gyntaf yn y DU i gynnwys BSL yn y cwricwlwm, ac rydym yn cymeradwyo hynny, ac rwyf i, yn y gorffennol, wedi codi cwestiynau ynglŷn â hynny'n rheolaidd, fel Aelodau o bob plaid arall. Ond fel y clywsom gan nifer o siaradwyr, mae disgyblion byddar yn parhau i fod o dan anfantais oherwydd anghydraddoldeb parhaus mewn canlyniadau, a bydd hynny’n parhau oni bai ein bod yn darparu’r ymyriadau BSL penodol sydd eu hangen i dorri’r cylch o dangyflawni ymhlith plant nad oes ganddynt anableddau dysgu fel arall, nad oes ganddynt anawsterau dysgu, ac eithrio’r rhai a grëwyd gan y rhwystrau yr ydym yn dal i ganiatáu iddynt ddigwydd, y rhwystrau yr ydym yn dal i ganiatáu iddynt eu hwynebu yn yr ysgol ac mewn mannau eraill mewn cymdeithas, ac nid yw hynny’n dderbyniol.
Cyfeiriodd at y tasglu hawliau pobl anabl, gyda dros 550 o aelodau yn y grŵp—mae 550 o aelodau’r grŵp yn edrych ar atebion cyffredinol, a phan fyddaf yn cyfarfod â nhw'n unigol, dywedant wrthyf eu bod yn pryderu bod gormod o siarad yn digwydd a bod angen inni gyflawni canlyniadau. O dan ymbarél dulliau generig a pharhau i godi ymwybyddiaeth, ni allwn fethu mynd i’r afael hefyd ag anghenion cyflwr-benodol gwahanol grwpiau demograffig a chymunedau ledled Cymru, sef arwyddwyr BSL a chymunedau byddar yn yr achos hwn.
Fel y dywedais, os na fydd y Bil hwn yn mynd rhagddo, Cymru fydd yr unig ran o’r DU nad oes ganddi ddeddfwriaeth BSL benodol. Yn drawsbleidiol, byddai hynny’n destun cywilydd, yn enwedig pan fo’r ddeddfwriaeth gyfatebol yn rhannau eraill y DU, sydd wedi’i phasio neu’n mynd drwy’r broses yn achos Gogledd Iwerddon, wedi cael cefnogaeth drawsbleidiol. Ar lefel y DU yn Nhŷ’r Cyffredin, AS Llafur a gyflwynodd hyn, ac fe'i cefnogais gyda hynny. Ac fel y dywedais, mae hwn yn Fil iaith sy'n cefnogi arweiniad gan bobl fyddar ar faterion BSL yng Nghymru. Ni waeth pa mor effeithiol ac effeithlon y gallai Ysgrifenyddion Cabinet, Gweinidogion yr wrthblaid, gweision sifil a swyddogion fod, nid oes ganddynt y wybodaeth na'r ymwybyddiaeth na'r profiad bywyd y gall pobl sy'n darparu arweiniad ar faterion pobl fyddar yng Nghymru eu darparu.
Dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet fod gan Ddeddf BSL y DU oblygiadau i feysydd datganoledig. Wel, wrth gwrs fod ganddi, oherwydd heb hynny, nid yw dyletswyddau sy'n berthnasol i Weinidogion y DU yn Lloegr yn berthnasol i Weinidogion yng Nghymru mewn perthynas â'r un materion datganoledig. Felly, mae gan arwyddwyr BSL a phobl a phlant byddar yn Lloegr ddarpariaeth a dyletswyddau wedi’u gosod ar y Llywodraeth yno yn hyn o beth i adrodd, i ddarparu canllawiau, na fyddent yn berthnasol i Weinidogion Cymru. Nid yw hynny’n fater pleidiol, byddai unwaith eto’n destun cywilydd i’r genedl hon a phob plaid yn y lle hwn.
Dywedodd Sioned Williams—
Mark, bydd yn rhaid i chi ddod i ben nawr, rydym wedi mynd drwy amser ychwanegol i chi.
O'r gorau. Wel, diolch i Blaid Cymru am gadarnhau eu cefnogaeth. Fe ofynnodd hi nifer o gwestiynau ac rwy'n credu fy mod yn cytuno â'r holl bwyntiau a godwyd gennych, ac rwy'n credu y byddai'r rhan fwyaf ohonynt yn cael eu cynnwys mewn unrhyw ymgynghoriad a fyddai'n dilyn pe byddem yn cael cytundeb i fwrw ymlaen. Dywedodd Sam yn gwbl briodol fod gan y Bil botensial i chwyldroi bywydau pobl fyddar ledled Cymru. Peredur, diolch am godi'r mater a godwyd gan Cymorth i Fenywod Cymru—mae hyn yn rhwystr arall sy'n wynebu menywod sy'n dioddef trais a cham-drin domestig, os nad oes ganddynt ddarpariaeth BSL pan fo'n brif iaith iddynt. Dywedodd Natasha Asghar fod angen inni helpu i adeiladu ymdeimlad o gymuned a pherthyn a phorth i ddysgu i bawb—yn y cyd-destun hwn, arwyddwyr BSL a'r cymunedau y maent yn byw ac yn bodoli ynddynt.
Felly, rwy'n annog pawb i anghofio gwleidyddiaeth bleidiol ar y mater hwn—nid yw'n rhan o unrhyw etholiad yn y DU. Bûm yn galw am hyn, fel y gwnaeth pobl eraill ledled Cymru yr effeithir arnynt gan hyn, ers cymaint o amser. Gadewch inni adael iddo ddigwydd. Gadewch inni gytuno i fwrw ymlaen â hyn, a gadewch inni ddechrau caniatáu i arwyddwyr BSL ledled Cymru gael llais go iawn wrth gynllunio'r ddeddfwriaeth a fydd yn dechrau eu helpu i ddiwallu'r anghenion sydd ganddynt yn well, a'r hawliau a ddylai fod ganddynt mewn Cymru fodern yn yr unfed ganrif ar hugain. Diolch yn fawr.
Y cwestiwn yw: a ddylid y derbyn y cynnig? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Oes. Felly, gohiriaf y bleidlais ar yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.