2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig – Senedd Cymru am ar 19 Mehefin 2024.
5. Beth yw polisi Llywodraeth Cymru ar gynyddu faint o fywyd gwyllt sydd ar ffermydd? OQ61269
Argymhellodd yr archwiliad dwfn bioamrywiaeth gamau i gefnogi'r gwaith o gyflawni'r targed 30x30 yn ystyrlon, gan gynnwys cynllunio'r cynllun ffermio cynaliadwy i sicrhau bod ffermwyr yn cael eu gwobrwyo am ddarparu rheolaeth briodol ar safleoedd gwarchodedig, ac am gamau gweithredu sy'n gwella rhagolygon natur yn y dirwedd ehangach a chynefinoedd dŵr croyw.
Diolch. Y gylfinir yw'r rhywogaeth adar â blaenoriaeth cadwraeth uchaf yn y DU, a rhagwelir y byddant yn diflannu fel poblogaeth sy'n nythu yng Nghymru o fewn degawd os na cheir ymyrraeth. Dengys tystiolaeth y byddai adferiad y gylfinir o fudd i tua 70 o rywogaethau. Sut rydych chi'n ymateb felly i'r llythyr a anfonwyd atoch gan Ymddiriedolaeth Cadwraeth Adar Hela a Bywyd Gwyllt, elusen gadwraeth sy'n gweithio gyda ffermwyr a rheolwyr tir i gyflawni manteision bioamrywiaeth ac amgylcheddol, ac sydd ar hyn o bryd yn arwain prosiect cydweithredol Cysylltu Gylfinir Cymru, gyda'r nod o atal dirywiad y gylfinir yng Nghymru, sy'n dweud, 'Gwyddom fod gan ffermwyr ddiddordeb mewn gwella faint o fywyd gwyllt sydd ar eu ffermydd, ond credwn fod yn rhaid ei wneud ar y cyd â rhedeg busnes ffermio sy'n gynaliadwy yn ariannol ac yn darparu manteision lluosog, gan y byddai ffermwyr yn dweud wrthych na allant fod yn wyrdd os ydynt yn y coch'? A sut y byddech chi'n ymateb i'r cyflwyniad gan is-grŵp amaeth Gylfinir Cymru i'r ymgynghoriad ar y cynllun ffermio cynaliadwy, sy'n cynnwys y gofyniad ar gyfer 10 y cant o orchudd coed fesul daliad, ac y gallai'r elfen coed perthi arwain at ganlyniadau negyddol i ylfinirod?
Diolch, Mark. Ar y pwynt olaf, yn y cyfnod paratoi yr ydym yn ei wneud nawr, gallwn ystyried yr effeithiau ehangach hynny, wrth inni anelu at gyflwyno'r cynllun ffermio cynaliadwy gyda thirfeddianwyr a ffermwyr. Felly, mae'r cyfnod paratoi hwn yn rhoi cyfle inni ystyried yr effeithiau ehangach hynny.
Rydych chi'n sôn yn benodol am y partneriaid allan yno sydd wedi cyflwyno cynigion ynglŷn â sut i ddelio â hyn, wel, rydym yn awyddus i weithio gydag unrhyw un a all ein helpu i adfer y gylfinir, ac mae hynny'n cynnwys, er enghraifft, drwy'r gronfa rhwydweithiau natur. Rydym wedi darparu cyllid ar gyfer nifer o brosiectau cysylltiedig, felly, er enghraifft, yng ngogledd Cymru, dyfarnwyd swm sylweddol o arian i'r Ymddiriedolaeth Cadwraeth Adar Hela a Bywyd Gwyllt, sef £999,600 i gyflwyno prosiect Cysylltu Gylfinir Cymru. Felly, mae'r gwaith hwnnw'n mynd i'r afael â hyd at saith ardal bwysig i ylfinirod, gan gynnwys safle o ddiddordeb gwyddonol arbennig, SoDdGA, Mynydd Hiraethog, SoDdGA Migneint-Arenig-Dduallt, mynyddoedd Rhiwabon/Llantysilio a SoDdGA Minera hefyd. Ond rwy'n rhannu eich siom wrth nodi'r ffigurau diweddaraf o fynegeion arolwg adar nythu Ymddiriedolaeth Adareg Prydain, sy'n dangos dirywiad poblogaethau'r gylfinir yng Nghymru. Rydym yn cydnabod yr heriau sydd o'n blaenau, felly dyna pam ein bod am weithio'n agos gyda Gylfinir Cymru ac eraill i wneud buddsoddiad sylweddol i sicrhau eu hadferiad. Mae'r cyhoedd yn arbennig o hoff o'r rhywogaeth eiconig hon, a'r ecosystemau a'r cynefinoedd y mae'n eu defnyddio, felly gan weithio gyda'n gilydd, rwy'n gobeithio'n fawr y gallwn wneud adfer y gylfinir, a rhywogaethau eraill, yn stori lwyddiant yng Nghymru, drwy bethau fel y prosiect rhwydweithiau natur a Natur am Byth. Diolch am y cwestiwn.
A gaf i ddatgan fy mod i'n aelod o Ymddiriedolaeth Natur Gogledd Cymru? Ddydd Gwener diwethaf cefais wahoddiad gan Ymddiriedolaeth Natur Gogledd Cymru i ymweld â safle sydd newydd ei gaffael—maent am ei ddefnyddio fel enghraifft o sut y gellir rheoli tir mewn ffordd broffidiol ar gyfer ffurfio gwarchodfa natur. Ac yna ymwelais â lle cyfagos lle'r oedd hynny eisoes yn digwydd, sy'n hyfryd i'w weld. Roedd yna gymysgedd amrywiol o goetir, ucheldir ac iseldir, lle'r oeddent yn gweithio gyda chymysgedd o gynefin, da byw a bwydydd; câi rhai eu tyfu mewn rhandiroedd a rhai mewn perllannau. A dysgais hefyd os yw tir yn cael ei reoli'n llai dwys gyda llai o wariant yn y lle cyntaf, gan weithio gyda natur, gall yr elw fod yr un faint.
Felly, sut y bydd Llywodraeth Cymru yn defnyddio'r amser o ohirio'r cynllun ffermio cynaliadwy i ddarparu gwybodaeth, cefnogaeth a chyngor i ffermwyr, gan weithio gyda'r sefydliadau hyn a safleoedd enghreifftiol, fel y gallant weld ei bod yn bosibl newid a rheoli tir yn gynhyrchiol ar gyfer ffermio a'r amgylchedd? Yn fwyaf arbennig, a allech chi roi unrhyw wybodaeth am y cynlluniau i gyflwyno a gweithredu'r cynllun adnoddau cenedlaethol integredig? Diolch.
Diolch yn fawr. Rwy'n dysgu orau drwy fod allan yn ymweld â rhai o'r prosiectau hyn, ac fe wnaethoch chi dynnu sylw at rai o'r llwyddiannau. Mae gwaith anhygoel yn digwydd sydd nid yn unig yn llwyddo i gynhyrchu cynhyrchion da, maethlon, fforddiadwy, gwerth uchel, maent hefyd yn gwneud y peth iawn o ran yr amgylchedd a newid hinsawdd a lliniaru llifogydd a llawer o bethau eraill hefyd—a bywyd gwyllt, fel roeddem yn sôn nawr, ac yn y blaen.
Felly, mae'r cyfnod paratoi a gyhoeddwyd gennym ar gyfer y cynllun ffermio cynaliadwy yn rhoi amser inni weithio drwy sut y gallwn wneud hwnnw'n waith prif ffrwd mewn gwahanol fathau o dirweddau a gwahanol fathau o ffermydd ledled Cymru, boed yn ucheldir neu'n iseldir neu'n llaeth, neu'n ffermio dwys neu lai dwys—yr holl ystod o ffermio. A bydd dysgu o rai o'r gwersi hynny'n allweddol yn fy marn i. Os caf roi diweddariad i chi, rydym wedi cadeirio'r bwrdd crwn cyntaf. Byddwn wedi cael tri chyfarfod o'r bwrdd crwn gweinidogol yn y cynllun ffermio cynaliadwy erbyn y Sioe Frenhinol. Mae grŵp lefel swyddogol yn gweithio'n galed iawn oddi tanom i gyflwyno'r dystiolaeth o'r hyn a fydd yn gweithio, ac rwy'n hyderus, pan fyddwn wedi ystyried a mireinio'r ffordd y gallwn fwrw ymlaen â hyn, y byddwn yn cyflawni'r manteision lluosog i gynhyrchiant bwyd ond hefyd i'r amgylchedd ac i newid hinsawdd a natur a bioamrywiaeth hefyd. Felly, diolch am y cwestiwn.