2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig – Senedd Cymru am ar 19 Mehefin 2024.
1. Sut y mae'r Llywodraeth yn sicrhau nad yw unrhyw brosiectau y mae'n eu hariannu'n cael effaith negyddol ar yr amgylchedd lleol? OQ61266
Diolch yn fawr am y cwestiwn hwnnw, Sioned. Mae gennym ystod o offer ar waith, gan gynnwys asesiadau effaith, i helpu i ystyried sut y gallai prosiectau effeithio ar yr amgylchedd lleol, ac ar ddinasyddion wrth gwrs. Drwy Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015, gallwn gyflawni ar gyfer pobl nawr, diogelu'r amgylchedd a gadael gwaddol cadarnhaol ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol.
Diolch. Mae Llywodraeth Cymru wedi cefnogi adeiladu car cebl ac atyniad weiren wib gwerth miliynau o bunnoedd yn Abertawe, a fyddai, yn ôl y bobl leol, yn dinistrio man gwyrdd hoff sy'n cael defnydd da yn y ddinas. Bydd y cynllun, gan Skyline Enterprises Ltd, ar Fynydd Cilfái, ac a gafodd £4 miliwn o gymorth gan Lywodraeth Cymru, hefyd yn arwain at golli bywyd gwyllt yn ôl aelodau o'r gymuned leol. Mae Mynydd Cilfái yn goetir cymunedol tawel ac mae'r rhai sy'n gwrthwynebu'r cynlluniau'n dweud y byddai'n dileu'r man gwyrdd gwerthfawr hwn mewn rhan o'r ddinas sy'n brin o fannau o'r fath. Mae'r Gymdeithas Mannau Agored, corff cadwraeth hynaf Prydain, wedi cefnogi'r ymgyrch leol i achub Mynydd Cilfái rhag effeithiau amgylcheddol niweidiol posibl y cynllun. Felly, sut mae Llywodraeth Cymru yn sicrhau na fydd eu buddsoddiad yn y prosiect hwn yn arwain at niwed i fywyd gwyllt a choetir ac yn ehangach, i argaeledd mannau gwyrdd mewn ardaloedd trefol?
Diolch, Sioned. A minnau wedi fy ngeni a fy magu yng Nhre-gŵyr, rwy'n adnabod Mynydd Cilfái a'r ardal yn dda iawn yn wir, ac rwyf wedi cerdded i fyny yno ac wedi bod yn yr ardaloedd cyfagos hefyd, pan fyddai fy meibion yn chwarae rygbi yn y gymuned gerllaw.
Mae'n bwysig fod lleisiau pobl leol yn cael eu clywed, ond o safbwynt Llywodraeth Cymru, sef eich ffocws chi yn gywir ddigon, mae'n werth ehangu ychydig ar yr hyn a wnawn gyda'n hasesiadau. Mae'n anodd imi wneud sylwadau manwl ar unrhyw gais unigol, oherwydd, yn amlwg, mae'n rhaid i hyn weithio ei ffordd drwodd a gall Ysgrifenyddion y Cabinet, ar ryw adeg, fod yn rhan o'r broses o wneud penderfyniadau ar geisiadau unigol mewn gwahanol rannau o Gymru.
Ond o ran yr asesiad effaith integredig, mae ystod eang o bynciau y gellir eu hystyried gyda hyn, fel yr amgylchedd lleol a chwestiynau am yr effaith ar fywydau pobl a allai gael eu heffeithio gan newidiadau yn yr amgylchedd lleol. Mae'n edrych arno drwy nifer o lensys, gan gynnwys bioamrywiaeth, adnoddau naturiol, cynefin a newid hinsawdd, gan gynnwys datgarboneiddio a gwrthsefyll hinsawdd. Mae'n gofyn cwestiynau am yr effaith ar gymunedau a rheoli tir yn gynaliadwy, a hefyd, hyd yn oed—er nad yn benodol o ran Mynydd Cilfái—mae'n canolbwyntio ar faterion sy'n ymwneud er enghraifft ag asesiadau effaith ar y Gymraeg, asesiadau effaith ar gydraddoldeb, hawliau plant, asesiadau economaidd-gymdeithasol, ac yn y blaen. Felly, mae'n drylwyr iawn. Mae hefyd yn edrych ar beth fydd yr effaith ar gynefinoedd, ac a yw hynny'n berthnasol yn lleol.
Fel y dywedais, ni allaf wneud sylwadau manwl ar gais penodol, ond diolch i chi am ei godi yma yn y Siambr heddiw ar ran y trigolion lleol, ac mae'n bwysig fod eu lleisiau nhw'n cael eu clywed hefyd, ar unrhyw gynllun, nid un Mynydd Cilfái yn unig, ond unrhyw un ledled Cymru.
Ysgrifennydd y Cabinet, nid y prosiectau y mae Llywodraeth Cymru yn eu hariannu'n uniongyrchol yn unig y dylem fod yn bryderus amdanynt, ond hefyd y rhai a ariennir gan grantiau a benthyciadau. Er enghraifft, mae landlord cymdeithasol cofrestredig sy'n derbyn nifer o grantiau gan Lywodraeth Cymru yn bwrw ymlaen â chynlluniau i ddinistrio cynefin unigryw, sy'n gartref i lawer o rywogaethau o fflora a ffawna prin, i adeiladu tai cymdeithasol. Er mwyn lliniaru colli cynefin, maent yn cynnig darparu llain arall o dir.
'Pam nad ydynt yn defnyddio'r llain arall o dir ar gyfer tai?', fe'ch clywaf yn gofyn. Oherwydd ei bod yn ddrutach i adeiladu tai yno, felly bydd yn rhaid i'r rhywogaethau prin ddod o hyd i le arall i fyw yn lle hynny. Sut y gellir caniatáu i hyn ddigwydd mewn argyfwng natur? Felly, Ysgrifennydd y Cabinet, a wnewch chi ymrwymo i sicrhau bod unrhyw sefydliad sy'n derbyn arian cyhoeddus, boed yn uniongyrchol neu ar ffurf grant neu fenthyciad gan awdurdod cyhoeddus, yn gwneud yr hyn y mae Llywodraeth Cymru yn ei ddweud, ac yn diogelu natur a bioamrywiaeth ni waeth beth yw'r pris? Diolch.
Diolch unwaith eto am y cwestiwn dilynol. Unwaith eto, ni allaf wneud sylwadau manwl ar fater sy'n lleol, a gwn eich bod yn deall hynny'n iawn. Ond byddem yn disgwyl iddynt—boed yn landlord cymdeithasol cofrestredig neu'n awdurdod lleol, neu unrhyw un arall sy'n cyflwyno cynllun a dweud y gwir—orfod mynd drwy'r broses gynllunio lawn, briodol, yr asesiadau effaith amgylcheddol llawn, priodol, ac ymgysylltu â'r gymuned hefyd, drwy ymgynghoriad a deialog briodol.
Ond ar ryw adeg, fel bob amser, Lywydd, mae'n anochel y bydd rhai o'r rhain yn cael eu codi i sylw Ysgrifenyddion y Cabinet a Llywodraeth Cymru i edrych arnynt, felly ni allaf wneud sylwadau manwl. Ond rydych chi'n iawn yn yr hyn a ddywedwch: mae angen ystyried effeithiau lluosog datblygiadau yn y cam cyn ymgynghori, yn ystod ymgynghori â chymunedau, pan ddaw ceisiadau drwodd hefyd, ac yn y pen draw, os cânt eu codi i'n sylw ni, fel y gallwn ni wneud ein hasesiad priodol hefyd, os daw unrhyw un o'r prosiectau hyn drwodd atom.
Ond rwy'n bendant fod yn rhaid clywed lleisiau cymunedau lleol ym mhob un o'r rhain. Hefyd, o'm rhan i fel Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig, mae angen inni sicrhau bod materion bioamrywiaeth, yr amgylchedd lleol a gwrthsefyll newid hinsawdd hefyd yn cael eu hystyried. Felly, diolch unwaith eto am ei godi ar ran y bobl leol. Rydych chi wedi sicrhau bod eu lleisiau'n cael eu clywed unwaith eto.
Yn fy etholaeth i, rwyf wedi gweld sut y gall y rhaglenni a'r prosiectau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cefnogi gael effaith gadarnhaol iawn ar natur ac ar bobl, wrth i bobl gael mwy o fynediad at natur a mannau gwyrdd mewn mannau lle mae'n anos dod o hyd iddynt. Un enghraifft wych yw prosiect tyfu cymunedol ysgol Hirwaun, lle daw pobl o bob oed at ei gilydd i ddysgu am dyfu eu bwyd eu hunain. Ysgrifennydd y Cabinet, beth yw eich barn am yr effaith y mae'r rhaglen Lleoedd Lleol ar gyfer Natur wedi'i chael ar natur ac ar gymunedau lleol?
Vikki, diolch am y cwestiwn hwnnw. Wrth edrych ar rai o'r anawsterau wrth farnu rhinweddau cyflwyno gwahanol bethau, rydym yn amlwg yn gwneud llawer iawn drwy gynlluniau fel Lleoedd Lleol ar gyfer Natur, ac mae'r rhain yn arbennig o effeithiol ar gyfer cymunedau lleol. Rwyf wedi eu gweld yn fy ardal fy hun, ac fe fyddwch chithau hefyd. Mae rhai o'r rhai yng Nghwm Cynon ar hyn o bryd yn debyg i'r rhai sydd gennyf i.
Bûm yn gweld y rhai yn fy ardal i, er enghraifft gorsaf dân Cwm Ogwr, lle maent wedi gweithio gyda'r gymuned leol i ddatblygu plannu o amgylch darn o dir lled-ddiffaith. Aruthrol. Mae'n golygu y gall pobl fynd i eistedd yno nawr ac ar welyau wedi'u codi, a gallant fynd â'u plant, mwynhau'r blodau, mwynhau'r arogleuon—profiad amlsynnwyr go iawn. A'r orsaf dân yw hon a darn o dir a arferai fod yn ddiffaith.
Yng Nghwm Cynon, rwy'n gwybod bod gan orsaf dân Abercynon becyn cychwynnol sy'n gwneud menter bywyd gwyllt debyg. Mae Trivallis wedi bod yn gweithio ar ardd bywyd gwyllt. Mae gan Cynon Valley Organic Adventures becyn draenio cynaliadwy ar gyfer natur y mae'n gweithio arno. Mae Eglwys St Winifred yn gweithio ar ardd i bryfed peillio, ac mae cymaint mwy. Mae Ysbyty Cwm Cynon yn gwneud gardd gloÿnnod byw. Mae ysgol gynradd Aberdâr yn gwneud gardd drefol. Mae Ysgol Gynradd Caradog yn gwneud menter bywyd gwyllt hefyd.
Mae cymaint yn digwydd, a hoffwn annog yr holl Aelodau i edrych ar eu cymuned eu hunain, a sut mae ychydig o gyllid ac ychydig o waith partneriaeth cydweithredol ar lawr gwlad, drwy'r cynllun Lleoedd Lleol ar gyfer Natur, yn mynd yn bell iawn.