Part of 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid, y Cyfansoddiad a Swyddfa’r Cabinet – Senedd Cymru am 2:08 pm ar 19 Mehefin 2024.
Diolch am eich ymateb. Cafodd y swm o fenthyciad cyfalaf a ddatganolwyd ei gynyddu ddiwethaf yn 2019, gryn dipyn o amser yn ôl. Gwasanaethau cyhoeddus fel iechyd, tai, addysg a thrafnidiaeth gyhoeddus yw blociau adeiladu ein heconomi, ac nid oes unrhyw ffordd o dyfu'r economi heb ddarparu buddsoddiad priodol yn y rhain. Roedd dyled cynnyrch domestig gros ar ôl yr ail ryfel byd yn ddwbl yr hyn sydd gennym nawr, ac eto fe fenthycodd Llywodraeth Attlee filoedd—wel, cannoedd o filoedd o bunnoedd i'w fuddsoddi; miliynau—i adeiladu cannoedd o filoedd o dai, i fuddsoddi mewn tai ac iechyd, ac fe wnaethant drawsnewid y wlad, ac rydym yn dal i fedi'r manteision heddiw gyda'n gwasanaeth GIG a'n rhaglen dai cyngor. Mae gwir angen mwy o bwerau benthyca darbodus ar Gymru i wneud buddsoddiadau trawsnewidiol yn y meysydd hyn. Gyda hyn mewn golwg, Weinidog—Ysgrifennydd y Cabinet—a wnewch chi ymrwymo i ofyn am bwerau benthyca darbodus llawn gan Lywodraeth Lafur newydd yn y DU—gan unrhyw Lywodraeth newydd yn y DU? Mae'n ddrwg gennyf, roeddwn i'n rhyfygu yno.