Y Comisiwn Annibynnol ar Ddyfodol Cyfansoddiadol Cymru

Part of 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid, y Cyfansoddiad a Swyddfa’r Cabinet – Senedd Cymru am 2:12 pm ar 19 Mehefin 2024.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Cefin Campbell Cefin Campbell Plaid Cymru 2:12, 19 Mehefin 2024

(Cyfieithwyd)

Ysgrifennydd y Cabinet, mae pum mis wedi mynd heibio ers i'r Comisiwn Annibynnol ar Ddyfodol Cyfansoddiadol Cymru gyhoeddi ei adroddiad terfynol, ac mae mwy na thri mis ers i Lywodraeth Cymru gyhoeddi ei hymateb i adroddiad y comisiwn, yn derbyn ei holl argymhellion, yn unigol ac fel pecyn. Nawr, roedd y comisiwn yn glir iawn ynghylch y brys i weithredu'r argymhellion hyn, ond ni chlywsom air pellach gennych chi am hyn ers wythnosau bellach, felly rwy'n pryderu efallai nad ydych chi'n rhoi'r camau sydd eu hangen ar waith mor gyflym ag sy'n angenrheidiol. Nawr, fe wyddom wrth gwrs fod aelodau blaenllaw o'ch plaid wedi diystyru cyflawni argymhellion y comisiwn a hynny'n gyson ac yn glir, gan gynnwys argymhellion ynghylch datganoli plismona a chyfiawnder, y rheilffyrdd ac Ystad y Goron, ac ar gyllid tecach i Gymru. Felly, o ystyried bod penaethiaid eich plaid yn Llundain mor elyniaethus tuag atynt, a wnewch chi amlinellu, os gwelwch yn dda, sut yn union y mae Llywodraeth Cymru yn gweithio i weithredu argymhellion y comisiwn cyfansoddiadol ar gryfhau ein democratiaeth, diogelu datganoli a sicrhau pwerau pellach i Gymru, a'r amserlenni rydych chi'n gweithio o'u mewn?