Adeiladu Tai Cymdeithasol

Part of 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid, y Cyfansoddiad a Swyddfa’r Cabinet – Senedd Cymru am 1:34 pm ar 19 Mehefin 2024.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Gareth Davies Gareth Davies Ceidwadwyr 1:34, 19 Mehefin 2024

(Cyfieithwyd)

Yr argyfwng tai yw un o’r heriau mwyaf sy’n ein hwynebu fel cenedl, ac mae pob blwyddyn sy’n mynd heibio heb gamau gweithredu eithafol yn flwyddyn arall lle daw cartrefi’n fwy anfforddiadwy ac yn fwy anhygyrch, gwaetha'r modd. Ac er fy mod yn cytuno bod angen gweithredu ar frys i gyflymu'r gwaith o adeiladu tai cymdeithasol a thai preifat hefyd ar gyfer pobl ar incwm canolig ac isel, ni chredaf mai gadael mwy o ddyled i'n plant yw'r ffordd gywir o fynd i'r afael â'r prinder tai sydd gennym ar hyn o bryd. Rhoddodd y Ceidwadwyr Cymreig ein cynllun tai gerbron y Senedd ym mis Chwefror, ac roedd yn ymdrin â sawl agwedd, megis mesurau i gyflymu caniatâd cynllunio a defnyddio mwy na 100,000 o anheddau gwag heb eu meddiannu yng Nghymru, gan gynnwys nifer o eiddo cyhoeddus a thir sy’n eiddo i’r cyhoedd nad yw'n cael ei ddefnyddio. Dylai Llywodraeth Cymru ystyried cynllun cymorth i alluogi busnesau bach a chanolig i adeiladu tai cymdeithasol, gan ddarparu tir cyhoeddus at y diben hwn. Mae hyn yn rhywbeth sydd wedi’i hyrwyddo gan fy nghyd-Aelod uchel ei pharch Janet Finch-Saunders, yr Aelod o’r Senedd dros Aberconwy. Ar ddiwedd y 1980au, busnesau bach a chanolig oedd yn gyfrifol am 40 y cant o’r holl gartrefi a adeiladwyd ym Mhrydain, ond mae ffigurau diweddar yn 2020 yn nes at 10 y cant. Felly, a allai Ysgrifennydd y Cabinet amlinellu pa gymorth ariannol y mae Llywodraeth Cymru yn ei gynnig i adeiladwyr bach a chanolig eu maint at y diben o adeiladu mwy o dai cymdeithasol? Diolch.