Part of 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid, y Cyfansoddiad a Swyddfa’r Cabinet – Senedd Cymru am 1:32 pm ar 19 Mehefin 2024.
Ymddiheuriadau os nad oeddwn yn glir yn fy ateb gwreiddiol. Credaf efallai fod rhywbeth wedi’i golli wrth gyfieithu yno yn yr ystyr fod Llywodraeth Cymru yn benthyca ac rydym bob amser yn ceisio benthyca’r uchafswm, ond rydym yn ceisio benthyca tuag at ein prosiectau cyfalaf cyffredinol. Felly, nid ydym yn benthyca ar gyfer prosiectau penodol; rydym yn benthyca er mwyn ein galluogi i gael cyllideb gyfalaf fwy i'w defnyddio i ariannu'r holl brosiectau a mentrau a gefnogwn o safbwynt cyfalaf. Am y rheswm hwnnw, ar gyfer y flwyddyn ariannol ddiwethaf, benthycwyd y £150 miliwn llawn gennym. Yn y pen draw, dim ond £125 miliwn y gwnaethom ei fenthyca oherwydd newidiadau diwedd blwyddyn. Ac mae'r newidiadau hwyr i'n cyllideb gyfalaf wedi ein galluogi i feddwl yn wahanol am ein hymagwedd at gyfalaf yn y blynyddoedd diwethaf beth bynnag. Felly, ar gyfer y blynyddoedd mwyaf diweddar, rwyf wedi bod yn gor-raglennu cyllideb Llywodraeth Cymru o £100 miliwn oherwydd y newidiadau diwedd blwyddyn hynny. Ac fe wnaeth hynny ein galluogi yn 2022-23 i fenthyg y £150 miliwn llawn, ac yn 2023-24, £125 miliwn. Ac roedd hynny, fel y dywedaf, mewn ymateb i'r ffaith ein bod yn cael symiau mawr o gyfalaf yn eithaf aml ar ddiwedd y flwyddyn ariannol, sy'n golygu nad oes angen inni fenthyca yn y pen draw. Felly, rydym bob amser yn bwriadu benthyca’r uchafswm; nid ydym yn benthyca ar gyfer prosiectau penodol.
Ond wedi dweud hynny, rwy'n llwyr gydnabod pwysigrwydd sicrhau bod gan y sector landlordiaid cymdeithasol cofrestredig fynediad at fenthyciadau cost isel ar gyfer datblygu. A dyna un o'r rhesymau pam ein bod wedi defnyddio llwybrau benthyca i gefnogi landlordiaid cymdeithasol cofrestredig i ddarparu mwy o gartrefi. Y llynedd, er enghraifft, rhoesom £62 miliwn o fenthyciadau cost isel i landlordiaid cymdeithasol cofrestredig ledled Cymru. Hyd yn hyn, mae £16 miliwn arall wedi'i gymeradwyo i'w gyhoeddi yn y flwyddyn ariannol hon. A bydd y cyllid benthyciadau hwn drwy gydol 2023-24 a 2024-25 yn darparu 220 o gartrefi carbon isel ychwanegol i’w gosod ar rent yn y sector cymdeithasol ac yn dod â 22 o dai gwag yn ôl i ddefnydd yn nhymor y Llywodraeth hon, yn ogystal â chyflymu’r gwaith ar saith safle adeiladu cartrefi newydd, gan ddarparu o leiaf 86 o gartrefi rhent cymdeithasol yn nhymor y Llywodraeth nesaf. Felly, rydym bob amser yn ceisio benthyca’r uchafswm a gwario ein cyfalaf yn y ffordd orau, ond wedyn hefyd, rydym yn edrych ar ffyrdd arloesol o gefnogi’r sector.