Part of 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid, y Cyfansoddiad a Swyddfa’r Cabinet – Senedd Cymru am 1:47 pm ar 19 Mehefin 2024.
Diolch, Lywydd. Mae maniffesto etholiad cyffredinol Llafur yn cynnwys y llinell ganlynol ar bwerau dros gyllid ôl-UE:
'Bydd Llafur yn adfer y broses o wneud penderfyniadau ynghylch dyrannu cronfeydd strwythurol i gynrychiolwyr Cymru, yr Alban a Gogledd Iwerddon.'
A allai Ysgrifennydd y Cabinet egluro beth yw ei dealltwriaeth o'r term 'cynrychiolwyr' yn y cyd-destun hwn?