Part of 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid, y Cyfansoddiad a Swyddfa’r Cabinet – Senedd Cymru am 1:39 pm ar 19 Mehefin 2024.
Ysgrifennydd y Cabinet, cafodd nifer sylweddol o eiddo eu prynu gan Lywodraeth Cymru, ac roedd Gweinidogion yn bwriadu adeiladu ffordd liniaru’r M4, ac rwy’n siŵr y gall pawb gofio hynny. Prynwyd 30 eiddo gan y Llywodraeth mewn gwirionedd, gyda chwe eiddo ychwanegol wedi’u hetifeddu gan gorff blaenorol; nid yw'n anodd cyfrifo bod hynny'n 36 eiddo i gyd. Nawr, costiodd sbri wario Llafur ar eiddo fwy na £15.4 miliwn i Lywodraeth Cymru, ac yn y pen draw, i drethdalwyr Cymru. Fel y gŵyr pob un ohonom, cafodd y prosiect seilwaith mawr ei angen ei ddiddymu—yn anghywir, yn fy marn bersonol i—yn ôl yn 2019. Bum mlynedd ar ôl y penderfyniad hwnnw, dim ond saith eiddo ym meddiant Llywodraeth Cymru a werthwyd. Felly, o gofio bod y prosiect wedi’i ganslo, credaf y bydd y rhan fwyaf o bobl yn methu deall pam nad yw’r Llywodraeth wedi gwneud mwy i werthu'r eiddo. Felly, Ysgrifennydd y Cabinet, beth yn union yw cynlluniau'r Llywodraeth ar gyfer yr eiddo? Ac os mai’r bwriad yn wir yw gwerthu pob un ohonynt, pa gamau rhagweithiol y mae’r Llywodraeth yn eu cymryd i’w marchnata, eu gwaredu a gwneud elw er budd trethdalwyr Cymru, fel bod modd buddsoddi'r arian hwn yn rhywle arall? Diolch.