1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid, y Cyfansoddiad a Swyddfa’r Cabinet – Senedd Cymru am ar 19 Mehefin 2024.
6. Pa asesiad y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud o effaith toriadau cymorth cyfreithiol, fel y nodwyd yn adroddiad y Comisiwn ar Gyfiawnder yng Nghymru? OQ61275
Rydym yn cytuno â chanfyddiad y comisiwn fod toriadau i gyllid cymorth cyfreithiol yn bygwth bodolaeth cwmnïau cyfreithiol traddodiadol y stryd fawr, a bod pobl bellach yn cael eu gorfodi i gynrychioli eu hunain mewn llysoedd sifil a throseddol. Mae hyn yn aml yn arwain at ganlyniadau anghyfiawn, defnydd aneffeithlon o adnoddau llys a phwysau ychwanegol ar wasanaethau cyhoeddus eraill.
Mae'n sicr yn arafu'r broses pan fydd pobl yn gorfod cael eglurhad ynglŷn â beth sydd ynghlwm wrth broses gyfreithiol. Fel y mae'n nodi, mae hyn yn rhwystr i hawl pobl i gyfiawnder, oherwydd, hyd yn oed lle nad oes plant yn gysylltiedig â'r achos, sut mae modd i fenywod sydd heb unrhyw arian i ddefnyddio cyfreithiwr mewn achos o ysgariad wynebu rhywun a fydd yn cyflogi bargyfreithiwr drud?
Nawr, canmolodd adroddiad y comisiwn Lywodraeth Cymru am ychwanegu at y gwasanaethau cynghori i lenwi peth o'r bwlch mawr yn y cyllidebau cymorth cyfreithiol hyn, ond nododd hefyd y byddai'n llawer haws alinio gwasanaethau cynghori â chymorth cyfreithiol pe bai cyfiawnder yn cael ei ddatganoli i Gymru. Felly, efallai y gallech chi godi hynny gyda deiliaid newydd y Trysorlys ar ôl 4 Gorffennaf, lle mae'r 50 unigolyn mwyaf pwerus yn y DU. Er bod y pwerau hynny'n parhau i fod wedi'u cadw'n ôl, beth arall y gellir ei wneud i wella gwasanaethau cynghori i'r rhai sy'n wynebu anghydbwysedd pŵer yn y llysoedd ar sail y swm o arian y gallant ei wario ar gyfreithwyr?
Nododd y Comisiwn ar Gyfiawnder yng Nghymru fod mynediad at gyfiawnder, fel yr awgrymoch chi, dan fygythiad difrifol iawn yn dilyn y toriadau a gyflwynwyd o dan gymorth cyfreithiol, ac wrth gwrs, Llywodraeth y DU sy'n gyfrifol am gymorth cyfreithiol, ond rydym yn cydnabod y bwlch sy'n bodoli a'r effaith y mae hynny'n ei chael ar bobl. Felly, drwy ein cronfa gynghori sengl, gallwn ddarparu cefnogaeth, a dyrannwyd £11 miliwn tuag at hynny i sicrhau bod gan y bobl fwyaf agored i niwed mewn cymdeithas fynediad at gyngor a chymorth am ddim i'w helpu i ddatrys eu dyled budd-dal lles tai a phroblemau rheoli arian, er enghraifft.
Rwy'n gwybod bod Jenny Rathbone yn gefnogwr brwd i Ganolfan y Gyfraith Speakeasy Caerdydd, ac rwy'n credu eu bod wedi gallu cael cyllid drwy'r gronfa gynghori sengl hefyd. Rwy'n credu bod honno'n gronfa gwbl hanfodol ar gyfer cefnogi pobl, ond mae'n anodd iawn gwneud y math o newid y byddem am ei wneud, o ystyried yr effaith go ddifrifol y mae'r newidiadau wedi'i chael, a gwn fod adroddiad y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus ac adroddiad y Swyddfa Archwilio Genedlaethol wedi dweud ei bod yn anodd deall yr effaith, oherwydd nid yw'r dadansoddiad wedi'i wneud mewn gwirionedd, ond rwy'n credu bod y ddau adroddiad yn argyhoeddedig fod yr effaith wedi bod yn negyddol iawn ar bobl a'u gallu i gael mynediad at gyfiawnder.
Mi oedd y comisiwn Thomas wedi sôn am ddiffeithdiroedd cymorth cyfreithiol oedd yno nawr yn y Gymru wledig ac yn y Gymru ôl-ddiwydiannol, ac mae tystiolaeth yn dangos bod yr erydu yn y ddarpariaeth cymorth cyfreithiol sydd wedi digwydd ers y Ddeddf Cymorth Cyfreithiol, Dedfrydu a Chosbi Troseddwyr rhyw 15 mlynedd yn ôl wedi effeithio'n fwy trwm ar Gymru na llefydd eraill. Felly, yn y cyd-destun hwnnw, ydy'r Ysgrifennydd Cabinet yn siomedig bod yna addewid i adfer y toriadau o ran cymorth cyfreithiol yn maniffesto diwethaf y Blaid Lafur yn 2019, a dyw'r addewid ddim yno yn y maniffesto cyfredol? Onid yw hynny’n gwneud y ddadl dros ddatganoli’r pŵer hyd yn oed yn gryfach?
Rwy'n edrych ymlaen at gael y trafodaethau pellach hynny mewn perthynas â datganoli cyfiawnder yn y dyfodol yma yng Nghymru, a chredaf fod absenoldeb—fel y mae ar hyn o bryd—cyllid ar gyfer cymorth cyfreithiol yn sicr yn dangos un o'r rhesymau. Fodd bynnag, o ystyried yr agwedd ariannol ar fy mhortffolio, pan fydd gennym bethau pellach wedi'u datganoli i Gymru, rwy'n awyddus iawn i'w gweld wedi'u datganoli gyda'r lefel o gyllid sydd ei hangen i gynnal gwasanaeth teilwng o ganlyniad i hynny, ac mae hynny'n rhywbeth rwy'n awyddus iawn i fynd ar ei drywydd drwy'r holl drafodaethau hynny y gobeithiaf y byddwn yn eu cael yn fuan iawn gyda Llywodraeth wahanol yn y DU. Ond cefais gyfle i gyfarfod â'r Arglwydd Thomas—yr wythnos diwethaf neu'r wythnos cynt, rwy'n credu—i siarad drwy rai o'r materion hyn, ac mae'n parhau i fod yn ganmoliaethus iawn o'r gwaith a wnawn yma yng Nghymru drwy'r gronfa gynghori sengl a cheisio llenwi'r bylchau. Ond rwy'n gwybod ei fod yn ymwybodol iawn o'r bylchau lle nad oes gan bobl fynediad at gyngor ac roedd yn awyddus iawn inni barhau â'r gwaith hwnnw ac archwilio beth arall y gallem ei wneud.