Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau

Part of 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid, y Cyfansoddiad a Swyddfa’r Cabinet – Senedd Cymru am 1:43 pm ar 19 Mehefin 2024.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Rebecca Evans Rebecca Evans Llafur 1:43, 19 Mehefin 2024

(Cyfieithwyd)

Y cyfan y mae’r dull o weithredu disgowntiau, diystyru ac esemptiadau, fel y nodir yn y Bil, yn ei wneud mewn perthynas â phwerau awdurdodau lleol yw ailddatgan y sefyllfa bresennol o ran y gallu i awdurdodau wneud newidiadau. Yn yr un modd, gall awdurdod lleol leihau atebolrwydd aelwyd i sero os yw’n credu mai dyna’r peth priodol i’w wneud. Felly, rwy'n hyderus y bydd awdurdodau lleol yn parhau â'r disgownt 25 y cant, fel y byddwn yn ei nodi mewn rheoliadau ar ôl pasio'r Bil, y gobeithiaf y caiff ei basio drwy'r Senedd gyda chefnogaeth.