Caffael, Defnyddio a Gwerthu Eiddo

Part of 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid, y Cyfansoddiad a Swyddfa’r Cabinet – Senedd Cymru am 1:37 pm ar 19 Mehefin 2024.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Rebecca Evans Rebecca Evans Llafur 1:37, 19 Mehefin 2024

(Cyfieithwyd)

Mae gennym bolisi a strategaeth glir ar gyfer caffael, rheoli a gwaredu asedau eiddo. Y prif nod yw sicrhau'r gwerth cyffredinol mwyaf o'n hasedau. Mae ein portffolio eiddo yn adnodd pwysig ar gyfer cefnogi twf economaidd, iechyd a lles, yn ogystal â diogelu a gwella'r amgylchedd a bioamrywiaeth.