Caffael, Defnyddio a Gwerthu Eiddo

1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid, y Cyfansoddiad a Swyddfa’r Cabinet – Senedd Cymru am ar 19 Mehefin 2024.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of John Griffiths John Griffiths Llafur

2. Beth yw polisi Llywodraeth Cymru ar gaffael, defnyddio a gwerthu eiddo? OQ61290

Photo of Rebecca Evans Rebecca Evans Llafur 1:37, 19 Mehefin 2024

(Cyfieithwyd)

Mae gennym bolisi a strategaeth glir ar gyfer caffael, rheoli a gwaredu asedau eiddo. Y prif nod yw sicrhau'r gwerth cyffredinol mwyaf o'n hasedau. Mae ein portffolio eiddo yn adnodd pwysig ar gyfer cefnogi twf economaidd, iechyd a lles, yn ogystal â diogelu a gwella'r amgylchedd a bioamrywiaeth.

Photo of John Griffiths John Griffiths Llafur

(Cyfieithwyd)

Diolch am eich ateb, Ysgrifennydd y Cabinet. Pan fydd Llywodraeth Cymru yn cynllunio gwaith datblygu mawr, gwelliannau seilwaith mawr, er enghraifft, i'n rhwydwaith rheilffyrdd, a yw Llywodraeth Cymru yn edrych tua'r dyfodol ac yn ystyried caffael y tir cyfagos ger datblygiad o'r fath, a fyddai'n fwy defnyddiol yn dilyn y datblygiad arfaethedig? A yw Llywodraeth Cymru o’r farn fod ei phwerau prynu gorfodol yn ddigonol, neu a oes problemau'n ymwneud â’r gost a’r amser sy'n gysylltiedig â hynny? Ac a yw'r problemau hynny'n ymestyn i bartneriaid llywodraeth leol hefyd? A hoffai Ysgrifennydd y Cabinet weld gwelliannau i’r defnydd o’r pwerau hynny?

Photo of Rebecca Evans Rebecca Evans Llafur 1:38, 19 Mehefin 2024

(Cyfieithwyd)

Diolch am eich cwestiwn y prynhawn yma. Efallai ei fod yn helpu i roi cyfle imi egluro, felly, fy rôl mewn perthynas â chaffael, rheoli a gwaredu asedau eiddo. Felly, i raddau helaeth mae fy rôl yn ymwneud â'r strategaeth rheoli asedau corfforaethol, yr wyf yn gyfrifol amdani. Ac yna, wrth gwrs, fy nghyd-Aelod Ysgrifennydd y Cabinet dros yr economi sy'n gyfrifol am bortffolio economaidd Llywodraeth Cymru a'r strategaeth sy'n ymwneud â chaffael eiddo yn y cyd-destun hwnnw. Felly, efallai y byddaf yn gofyn iddo ysgrifennu at John Griffiths gyda mwy o fanylion ynglŷn â’r strategaeth ar gyfer caffael y tir ger rheilffyrdd, a’r ymagwedd at brynu gorfodol, a’r ffordd y gweithiwn gyda llywodraeth leol ar hynny, gan fod arnaf ofn nad yw hynny yn fy maes portffolio, ac rwyf am allu rhoi ateb cywir, nad wyf yn gallu ei wneud heddiw.

Photo of Natasha Asghar Natasha Asghar Ceidwadwyr 1:39, 19 Mehefin 2024

(Cyfieithwyd)

Ysgrifennydd y Cabinet, cafodd nifer sylweddol o eiddo eu prynu gan Lywodraeth Cymru, ac roedd Gweinidogion yn bwriadu adeiladu ffordd liniaru’r M4, ac rwy’n siŵr y gall pawb gofio hynny. Prynwyd 30 eiddo gan y Llywodraeth mewn gwirionedd, gyda chwe eiddo ychwanegol wedi’u hetifeddu gan gorff blaenorol; nid yw'n anodd cyfrifo bod hynny'n 36 eiddo i gyd. Nawr, costiodd sbri wario Llafur ar eiddo fwy na £15.4 miliwn i Lywodraeth Cymru, ac yn y pen draw, i drethdalwyr Cymru. Fel y gŵyr pob un ohonom, cafodd y prosiect seilwaith mawr ei angen ei ddiddymu—yn anghywir, yn fy marn bersonol i—yn ôl yn 2019. Bum mlynedd ar ôl y penderfyniad hwnnw, dim ond saith eiddo ym meddiant Llywodraeth Cymru a werthwyd. Felly, o gofio bod y prosiect wedi’i ganslo, credaf y bydd y rhan fwyaf o bobl yn methu deall pam nad yw’r Llywodraeth wedi gwneud mwy i werthu'r eiddo. Felly, Ysgrifennydd y Cabinet, beth yn union yw cynlluniau'r Llywodraeth ar gyfer yr eiddo? Ac os mai’r bwriad yn wir yw gwerthu pob un ohonynt, pa gamau rhagweithiol y mae’r Llywodraeth yn eu cymryd i’w marchnata, eu gwaredu a gwneud elw er budd trethdalwyr Cymru, fel bod modd buddsoddi'r arian hwn yn rhywle arall? Diolch.

Photo of Rebecca Evans Rebecca Evans Llafur 1:40, 19 Mehefin 2024

(Cyfieithwyd)

Wel, mae ein polisi a’n strategaeth ar gyfer cael gwared ar eiddo dros ben yn glir. Pan nad oes angen eiddo mwyach i gyflawni maes polisi, dylid ei gynnig gyntaf i adrannau eraill ac yna'n ehangach i bartneriaid yn y sector cyhoeddus cyn cael ei farchnata'n fasnachol. Ac mae hynny'n gwneud yn siŵr ein bod yn sicrhau'r gwerth gorau posibl am arian yn erbyn pob maes polisi. Felly, dyna ein dull gweithredu cyffredinol.

Ond yn benodol mewn perthynas â’r safleoedd a gaffaelwyd ar gyfer cynigion yr M4, gwn y bydd cyngor yn cael ei gyflwyno cyn bo hir i Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Ogledd Cymru a Thrafnidiaeth i’w gymeradwyo mewn perthynas â defnydd o'r eiddo hwnnw yn y dyfodol.