1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid, y Cyfansoddiad a Swyddfa’r Cabinet – Senedd Cymru am ar 19 Mehefin 2024.
1. Pa ystyriaeth mae'r Ysgrifennydd Cabinet wedi'i rhoi i ddefnyddio pwerau benthyca y Llywodraeth ar gyfer adeiladu tai cymdeithasol? OQ61284
Ystyrir benthyca fel rhan o broses y gyllideb i bennu gwariant cyfalaf cyffredinol yn hytrach nag ariannu prosiectau penodol. Mae dros £1.4 biliwn wedi’i ddyrannu i ddatblygu tai cymdeithasol y tymor hwn, a rhoddwyd dros £132 miliwn o fenthyciadau i’r sector yn 2024-25 er mwyn darparu mwy o gartrefi.
Diolch yn fawr i Ysgrifennydd y Cabinet am yr ateb yna. Mae yn fy nharo'n rhyfedd nad ydych chi wedi ystyried defnyddio'r galluoedd yma i fenthyg sydd gennych chi ar gyfer dibenion fel adeiladu tai cymdeithasol. Mi fyddwch chi'n ymwybodol fy mod i wedi codi'r cwestiwn yma yr wythnos diwethaf efo Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol, Tai a Chynllunio.
Rŵan, mae cymdeithasau tai ar hyn o bryd yn gorfod benthyg andros o lot o bres efo llog uchel iawn arno fo, ac felly yn ei chael hi'n anodd iawn i dalu'r llog yna a'r benthyciad yn ôl. Mi ydyn ni'n gwybod hefyd fod y Llywodraeth yn ei chael hi'n anodd cyrraedd y targedau o adeiladu tai cymdeithasol oherwydd y chwyddiant sydd wedi bod ym maes adeiladu tai. Felly, mi fuasai rhywbeth fel £150 miliwn yn gwneud gwahaniaeth sylweddol i'w gallu nhw i adeiladu tai yng Nghymru. Mae'n rhyfedd felly nad ydych chi wedi ystyried defnyddio hyn, yn enwedig wrth ystyried y ffaith, o ddefnyddio'r arian i adeiladu tai cymdeithasol, y byddai'n bosib talu'r benthyciad yna yn ôl efo chwyddiant mewn rhentu. Felly, o ystyried y cyd-destun yna a'r argyfwng tai sydd gennym ni, a wnewch chi ystyried defnyddio eich galluoedd chi i fenthyg arian er mwyn ei rhoi o i gymdeithasau tai neu'n uniongyrchol i adeiladu tai cymdeithasol yng Nghymru?
Ymddiheuriadau os nad oeddwn yn glir yn fy ateb gwreiddiol. Credaf efallai fod rhywbeth wedi’i golli wrth gyfieithu yno yn yr ystyr fod Llywodraeth Cymru yn benthyca ac rydym bob amser yn ceisio benthyca’r uchafswm, ond rydym yn ceisio benthyca tuag at ein prosiectau cyfalaf cyffredinol. Felly, nid ydym yn benthyca ar gyfer prosiectau penodol; rydym yn benthyca er mwyn ein galluogi i gael cyllideb gyfalaf fwy i'w defnyddio i ariannu'r holl brosiectau a mentrau a gefnogwn o safbwynt cyfalaf. Am y rheswm hwnnw, ar gyfer y flwyddyn ariannol ddiwethaf, benthycwyd y £150 miliwn llawn gennym. Yn y pen draw, dim ond £125 miliwn y gwnaethom ei fenthyca oherwydd newidiadau diwedd blwyddyn. Ac mae'r newidiadau hwyr i'n cyllideb gyfalaf wedi ein galluogi i feddwl yn wahanol am ein hymagwedd at gyfalaf yn y blynyddoedd diwethaf beth bynnag. Felly, ar gyfer y blynyddoedd mwyaf diweddar, rwyf wedi bod yn gor-raglennu cyllideb Llywodraeth Cymru o £100 miliwn oherwydd y newidiadau diwedd blwyddyn hynny. Ac fe wnaeth hynny ein galluogi yn 2022-23 i fenthyg y £150 miliwn llawn, ac yn 2023-24, £125 miliwn. Ac roedd hynny, fel y dywedaf, mewn ymateb i'r ffaith ein bod yn cael symiau mawr o gyfalaf yn eithaf aml ar ddiwedd y flwyddyn ariannol, sy'n golygu nad oes angen inni fenthyca yn y pen draw. Felly, rydym bob amser yn bwriadu benthyca’r uchafswm; nid ydym yn benthyca ar gyfer prosiectau penodol.
Ond wedi dweud hynny, rwy'n llwyr gydnabod pwysigrwydd sicrhau bod gan y sector landlordiaid cymdeithasol cofrestredig fynediad at fenthyciadau cost isel ar gyfer datblygu. A dyna un o'r rhesymau pam ein bod wedi defnyddio llwybrau benthyca i gefnogi landlordiaid cymdeithasol cofrestredig i ddarparu mwy o gartrefi. Y llynedd, er enghraifft, rhoesom £62 miliwn o fenthyciadau cost isel i landlordiaid cymdeithasol cofrestredig ledled Cymru. Hyd yn hyn, mae £16 miliwn arall wedi'i gymeradwyo i'w gyhoeddi yn y flwyddyn ariannol hon. A bydd y cyllid benthyciadau hwn drwy gydol 2023-24 a 2024-25 yn darparu 220 o gartrefi carbon isel ychwanegol i’w gosod ar rent yn y sector cymdeithasol ac yn dod â 22 o dai gwag yn ôl i ddefnydd yn nhymor y Llywodraeth hon, yn ogystal â chyflymu’r gwaith ar saith safle adeiladu cartrefi newydd, gan ddarparu o leiaf 86 o gartrefi rhent cymdeithasol yn nhymor y Llywodraeth nesaf. Felly, rydym bob amser yn ceisio benthyca’r uchafswm a gwario ein cyfalaf yn y ffordd orau, ond wedyn hefyd, rydym yn edrych ar ffyrdd arloesol o gefnogi’r sector.
Yr argyfwng tai yw un o’r heriau mwyaf sy’n ein hwynebu fel cenedl, ac mae pob blwyddyn sy’n mynd heibio heb gamau gweithredu eithafol yn flwyddyn arall lle daw cartrefi’n fwy anfforddiadwy ac yn fwy anhygyrch, gwaetha'r modd. Ac er fy mod yn cytuno bod angen gweithredu ar frys i gyflymu'r gwaith o adeiladu tai cymdeithasol a thai preifat hefyd ar gyfer pobl ar incwm canolig ac isel, ni chredaf mai gadael mwy o ddyled i'n plant yw'r ffordd gywir o fynd i'r afael â'r prinder tai sydd gennym ar hyn o bryd. Rhoddodd y Ceidwadwyr Cymreig ein cynllun tai gerbron y Senedd ym mis Chwefror, ac roedd yn ymdrin â sawl agwedd, megis mesurau i gyflymu caniatâd cynllunio a defnyddio mwy na 100,000 o anheddau gwag heb eu meddiannu yng Nghymru, gan gynnwys nifer o eiddo cyhoeddus a thir sy’n eiddo i’r cyhoedd nad yw'n cael ei ddefnyddio. Dylai Llywodraeth Cymru ystyried cynllun cymorth i alluogi busnesau bach a chanolig i adeiladu tai cymdeithasol, gan ddarparu tir cyhoeddus at y diben hwn. Mae hyn yn rhywbeth sydd wedi’i hyrwyddo gan fy nghyd-Aelod uchel ei pharch Janet Finch-Saunders, yr Aelod o’r Senedd dros Aberconwy. Ar ddiwedd y 1980au, busnesau bach a chanolig oedd yn gyfrifol am 40 y cant o’r holl gartrefi a adeiladwyd ym Mhrydain, ond mae ffigurau diweddar yn 2020 yn nes at 10 y cant. Felly, a allai Ysgrifennydd y Cabinet amlinellu pa gymorth ariannol y mae Llywodraeth Cymru yn ei gynnig i adeiladwyr bach a chanolig eu maint at y diben o adeiladu mwy o dai cymdeithasol? Diolch.
Mater i fy nghyd-Aelod y Gweinidog tai fyddai hwn. Byddai ganddi fwy o fynediad at y manylion penodol sydd eu hangen arnoch. Ond credaf fod y pwynt a wnaethoch ynglŷn â thir ar gyfer tai yn berthnasol iawn. Yn 2023-24, dyfarnwyd bron i £40 miliwn o fenthyciadau i landlordiaid cymdeithasol cofrestredig, a byddant wedyn yn gallu hwyluso’r gwaith o ddarparu hyd at 2,254 o gartrefi, y bydd 82 y cant ohonynt yn gartrefi fforddiadwy. Ac mae cyfanswm o £89 miliwn wedi’i fuddsoddi yn ein cynllun tir ar gyfer tai ers ei sefydlu yn 2014-15. Mae’r cyllid hwnnw’n cael ei ailgylchu pan gaiff y benthyciadau eu had-dalu, i ddarparu ar gyfer benthyciadau newydd. Hyd yn hyn, mae £287 miliwn o fenthyciadau wedi’u gwneud, sy'n hwyluso darparu hyd at 8,000 o gartrefi newydd, gydag 81 y cant ohonynt yn fforddiadwy. Ac yn hollbwysig, hyd yma, mae’r llog a godwyd ar y benthyciadau ar gyfer tai fforddiadwy wedi bod yn 0 y cant, gyda chyfradd fasnachol wedi’i chodi ar gyfer unedau tai'r farchnad agored. Felly, fel y dywedaf, rydym yn ceisio dod o hyd i ffyrdd arloesol o gefnogi’r sector tai, ac rwy'n credu fy mod wedi rhoi un neu ddwy o enghreifftiau o’r rheini, sy’n cael eu harwain gan fy nghyd-Aelod, Ysgrifennydd y Cabinet dros dai, y prynhawn yma.