Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau

Part of 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid, y Cyfansoddiad a Swyddfa’r Cabinet – Senedd Cymru am 1:40 pm ar 19 Mehefin 2024.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Peter Fox Peter Fox Ceidwadwyr 1:40, 19 Mehefin 2024

(Cyfieithwyd)

Diolch, Lywydd, a phrynhawn da, Ysgrifennydd y Cabinet. Ysgrifennydd y Cabinet, yng Nghyfnod 2 Bil Cyllid Llywodraeth Leol (Cymru) yr wythnos diwethaf, ceisiais amddiffyn y disgownt un oedolyn o 25 y cant. Er yr holl broblemau tra hysbys gyda’r dreth gyngor, yr un elfen gyson gadarnhaol i gynifer o bobl oedd y sicrwydd y byddai’r disgownt un oedolyn yn helpu i gydnabod y pwysau ariannol ar lawer o bobl sy’n byw ar eu pen eu hunain. Mae llawer o’r bobl hyn, fel y gwyddom, yn aml yn wragedd gweddw neu’n wŷr gweddw a fydd yn ei chael hi'n ddigon anodd. Mae'r disgownt un oedolyn yn hollbwysig i gynifer o bobl. Gyda hyn mewn golwg, Ysgrifennydd y Cabinet, pam y pleidleisiodd Aelodau Llafur o'r Senedd yn erbyn ymgorffori’r disgownt treth gyngor un oedolyn yn y gyfraith?