1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid, y Cyfansoddiad a Swyddfa’r Cabinet – Senedd Cymru am 1:40 pm ar 19 Mehefin 2024.
Cwestiynau nawr gan lefarwyr y pleidiau. Llefarydd y Ceidwadwyr Cymreig yn gyntaf, Peter Fox.
Diolch, Lywydd, a phrynhawn da, Ysgrifennydd y Cabinet. Ysgrifennydd y Cabinet, yng Nghyfnod 2 Bil Cyllid Llywodraeth Leol (Cymru) yr wythnos diwethaf, ceisiais amddiffyn y disgownt un oedolyn o 25 y cant. Er yr holl broblemau tra hysbys gyda’r dreth gyngor, yr un elfen gyson gadarnhaol i gynifer o bobl oedd y sicrwydd y byddai’r disgownt un oedolyn yn helpu i gydnabod y pwysau ariannol ar lawer o bobl sy’n byw ar eu pen eu hunain. Mae llawer o’r bobl hyn, fel y gwyddom, yn aml yn wragedd gweddw neu’n wŷr gweddw a fydd yn ei chael hi'n ddigon anodd. Mae'r disgownt un oedolyn yn hollbwysig i gynifer o bobl. Gyda hyn mewn golwg, Ysgrifennydd y Cabinet, pam y pleidleisiodd Aelodau Llafur o'r Senedd yn erbyn ymgorffori’r disgownt treth gyngor un oedolyn yn y gyfraith?
Y peth cyntaf i'w wneud yw cydnabod pwysigrwydd y disgownt un oedolyn, a rhoi sicrwydd i unrhyw un sy'n edrych ar gyfryngau cymdeithasol y Ceidwadwyr Cymreig, neu'n wir, sy'n gwylio y prynhawn yma, nad yw'r disgownt un oedolyn yn mynd i unman. Rydym wedi dweud yn gwbl glir y byddwn yn ailddatgan y disgownt un oedolyn o 25 y cant mewn rheoliadau, sef y ffordd briodol o ymdrin â disgowntiau o dan fframwaith y Bil yr ydym yn ei graffu ar hyn o bryd.
Mae hefyd yn bwysig cydnabod y pwynt fod treth gyngor unigolyn yn gyfuniad o ddau beth. Felly, mae'n ymwneud yn rhannol â'r eiddo, ond wedyn hefyd yn rhannol â meddianwyr yr eiddo hwnnw, gan ein bod yn gwbl ymwybodol, mewn llawer o amgylchiadau, y gallai pobl fod mewn eiddo gwerth uchel ond gallent fod yn un oedolyn, ar un cyflog, er enghraifft. A dyna pam mae gan oddeutu 0.5 miliwn o aelwydydd yng Nghymru fynediad at y disgownt un oedolyn, ac nid yw'n mynd i unman.
Wel, rwy'n falch eich bod wedi dweud hynny. Mae'n drueni na ellid bod wedi'i gadarnhau yng Nghyfnod 2 yr wythnos diwethaf. Ysgrifennydd y Cabinet, rwyf wedi codi mater memorandwm esboniadol y Bil gyda chi o'r blaen, lle mae’n nodi ddwywaith y bydd y Bil yn rhoi pŵer i Weinidogion ganiatáu i gynghorau ddatgymhwyso neu leihau disgowntiau. Golyga hyn y bydd gan awdurdodau lleol ddisgresiwn i barhau i gynnig disgownt un oedolyn ai peidio. Rwy'n gwybod eich bod wedi herio ar y pryd fod y memorandwm yn caniatáu’r disgresiwn hwnnw i gynghorau. Mae ar dudalen 90 yn y memorandwm, ac mae wedi’i amlygu yno mewn print trwm. Felly, Ysgrifennydd y Cabinet, gyda’r ddarpariaeth hon yn dal i fod wedi'i chynnwys yn y Bil, a allwch chi fod yn siŵr na fydd unrhyw gyngor yn cael gwared ar y disgownt treth gyngor un oedolyn o dan eich cynlluniau chi sydd i bob pwrpas yn caniatáu iddynt wneud hynny?
Y cyfan y mae’r dull o weithredu disgowntiau, diystyru ac esemptiadau, fel y nodir yn y Bil, yn ei wneud mewn perthynas â phwerau awdurdodau lleol yw ailddatgan y sefyllfa bresennol o ran y gallu i awdurdodau wneud newidiadau. Yn yr un modd, gall awdurdod lleol leihau atebolrwydd aelwyd i sero os yw’n credu mai dyna’r peth priodol i’w wneud. Felly, rwy'n hyderus y bydd awdurdodau lleol yn parhau â'r disgownt 25 y cant, fel y byddwn yn ei nodi mewn rheoliadau ar ôl pasio'r Bil, y gobeithiaf y caiff ei basio drwy'r Senedd gyda chefnogaeth.
Wel, diolch am hynny. Nid yw'n rhoi hyder i mi serch hynny na fydd rhai awdurdodau yn ei ddatgymhwyso. Nawr, ni allaf ddeall pam y byddent yn breuddwydio gwneud hynny, gan ei fod mor hollbwysig, fel y mae pob un ohonom yn cytuno, yn ôl pob golwg. A dyna pam y byddai'n eironig pe byddem yn ceisio creu deddfwriaeth sy'n tanseilio rhywbeth y mae pawb ohonom yn teimlo ei fod mor werthfawr.
Ysgrifennydd y Cabinet, ymddengys bod eich cyd-aelodau ym Mhlaid Lafur y DU yn diystyru newidiadau i’r dreth gyngor yn Lloegr, gan gydnabod y cynnwrf y byddai hyn yn debygol o’i achosi. A ydych chi'n credu bod Plaid Lafur y DU wedi’i dychryn gan yr ymateb cwbl ddealladwy i’ch cynlluniau i gynyddu biliau miloedd ar filoedd o bobl ledled Cymru, a gwrthwynebiad y cyhoedd i hyn? Gwn fod eich cynlluniau’n cael eu symud ymlaen i 2028, ac rwy’n siŵr fod hynny oherwydd pwysau gan eich cyd-aelodau Llafur yn Senedd y DU yn ôl pob tebyg, ond a ydych chi yn Llafur Cymru yn ailystyried eich safbwynt, gan gydnabod yr effaith y byddai eich cynlluniau yn ei chael ar gynifer o bobl, er bod y Bil yn dal i symud yn ei flaen?
Er eglurder, nid diben diwygio'r dreth gyngor yw cynyddu biliau pobl ledled Cymru, mae'n ymwneud â sicrhau bod y dreth gyngor yn decach. Mae’r dreth gyngor ar hyn o bryd yn seiliedig ar werth eiddo ddegawdau yn ôl, a chredaf y byddai pob un ohonom yn cydnabod bod hynny’n sylfaenol annheg, a bod angen moderneiddio’r system. Ond wrth wneud hynny, rhaid inni edrych ar ffyrdd o wneud y system hyd yn oed yn decach. Felly, un o’r pethau y buom yn edrych arnynt yn ein hymgynghoriad oedd edrych nid yn unig ar gyflymder diwygio, ond hefyd ar raddfa’r diwygio. Fe wnaethom edrych, er enghraifft, ar gyflwyno bandiau uwch ar ben uchaf y gwerthoedd eiddo ar gyfer y rhai sy'n gallu ei fforddio fwyaf, ond hefyd, yn hollbwysig, band ychwanegol ar y gwaelod i sicrhau bod y bobl ar yr incwm isaf, o bosibl, sy'n byw yn yr eiddo lleiaf gwerthfawr, yn cael eu diogelu hefyd. Felly, mae a wnelo â gwneud y dreth gyngor yn decach.
Nawr, yn seiliedig ar ffigurau'r Sefydliad Astudiaethau Cyllid, a edrychodd ar y cynigion blaenorol a gyflwynwyd gennym, byddai'r rhan fwyaf o eiddo naill ai ddim yn gweld unrhyw newid go iawn yn eu biliau, a'r hyn rwy'n ei olygu yw newid o oddeutu £50 yn fwy neu'n llai y flwyddyn, neu byddent yn gweld gostyngiad yn y biliau. Felly, rwy'n credu bod hyn yn ymwneud â gwneud y dreth gyngor yn deg. Nid wyf yn credu y gallwn anwybyddu’r ffaith nad yw’n dreth flaengar, ac mae angen mynd i'r afael â hynny. Ac mewn gwirionedd, byddwn yn anghytuno bod cynnwrf wedi bod ynghylch y cynigion ar gyfer y dreth gyngor. A dweud y gwir, maent wedi cael croeso cynnes. Maent wedi cael croeso cynnes gan y sefydliadau sy'n poeni'n fawr am gyfiawnder cymdeithasol, er enghraifft Cyngor ar Bopeth, sy'n ymdrin yn ddyddiol â'r bobl sy'n ei chael hi fwyaf anodd. Maent yn cydnabod bod diwygio’r dreth gyngor yn un o’r ffyrdd y gallwn gefnogi a diogelu'r bobl fwyaf agored i niwed, a ddylai fod yn rhywbeth y mae pob un ohonom ei eisiau.
Llefarydd Plaid Cymru, Heledd Fychan.
Diolch, Lywydd. Mae maniffesto etholiad cyffredinol Llafur yn cynnwys y llinell ganlynol ar bwerau dros gyllid ôl-UE:
'Bydd Llafur yn adfer y broses o wneud penderfyniadau ynghylch dyrannu cronfeydd strwythurol i gynrychiolwyr Cymru, yr Alban a Gogledd Iwerddon.'
A allai Ysgrifennydd y Cabinet egluro beth yw ei dealltwriaeth o'r term 'cynrychiolwyr' yn y cyd-destun hwn?
Fy nealltwriaeth i yw’r hyn a gyflwynodd arweinydd Plaid Lafur y DU i gynhadledd Llafur Cymru, pan ddywedodd y byddai pwerau’n cael eu hadfer i’r Senedd ac i Lywodraeth Cymru. Felly, rydym yn llwyr ddisgwyl mai ni fydd yn gwneud y penderfyniadau ynghylch dyrannu cyllid yn y dyfodol. Cyn y sefyllfa rydym ynddi bellach, lle mae adrannau Whitehall yn ceisio dosbarthu swm llai o arian ar ôl gadael yr Undeb Ewropeaidd, mae'n bwysig cydnabod ein bod wedi gweithredu o fewn y cyd-destun UE hwnnw. Roedd gennym y Comisiwn yn gosod y paramedrau yn y ffordd honno. Felly, credaf fod fframwaith ar gyfer y DU gyfan yn sicr yn rhywbeth y dylem anelu ato.
A chredaf fod gwaith da iawn wedi'i wneud gan y Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd, sy'n nodi ffordd y gallem ymdrin â chronfeydd datblygu economaidd rhanbarthol yn y dyfodol. Ac mae'n rhywbeth y gwnaethom ymwneud llawer ag ef. Cyn gadael yr Undeb Ewropeaidd, fe wnaethom waith gwrando a gwaith ymgysylltu helaeth â sefydliadau, o fyd busnes i ffermio, a chymunedau, ac ym mhob man yn y canol, i nodi sut y gallem fuddsoddi arian newydd yn y dyfodol. Ac yn anffodus, mae ymagwedd Llywodraeth y DU at ddarparu arian newydd yn lle'r cronfeydd strwythurol wedi bod yn gwbl wahanol. Ond rydym yn sicr yn ein gweld yn dychwelyd i sefyllfa lle mae gennym gyfleoedd i wneud gwahaniaeth gwirioneddol i bobl yma yng Nghymru.
Diolch am eich ymateb. Ond rwy'n siŵr y byddwch yn cytuno â mi fod terminoleg yn hollbwysig yma. Nid yw 'cynrychiolwyr' yn datgan 'Llywodraeth Cymru'. A fyddech chi'n cytuno ei bod yn anffodus nad dyna’r geiriad, a gofyn am eglurhad ar hynny? Oherwydd yn amlwg, mae pob gair yn cael ei ddadansoddi, ac nid 'cynrychiolwyr' yw'r ffordd y mae rhai pobl yn ei ddehongli, gan gynnwys Ysgrifennydd Cymru yr wrthblaid, sy'n cyflwyno gweledigaeth wahanol iawn, un lle mae Llywodraeth y DU yn parhau i arfer rheolaeth dros y ffordd y caiff cyllid ôl-UE ei wario yng Nghymru. Mae wedi dweud yn glir iawn mewn cyfweliadau nad oes ganddi unrhyw fwriad o unioni hyn. Felly, credaf fod y term 'cynrychiolwyr' yn broblematig yn eich maniffesto, oherwydd, er gwaethaf yr hyn rydych chi wedi'i ddweud heddiw, ac er yr hyn y mae'r Prif Weinidog wedi'i ddweud am yr ymrwymiadau hynny, nid dyna sydd yn y maniffesto. A gaf i ofyn, unwaith eto, am eglurhad gennych? Pwy sy'n gywir o ran y dehongliad hwnnw, ai chi a'r Prif Weinidog, neu Ysgrifennydd Gwladol yr wrthblaid? Ac os mai’r olaf yw’r ateb, pwy fydd â’r gair olaf os ceir gwahaniaeth barn ynglŷn â ble y caiff cyllid ei ddyrannu yng Nghymru? Ai Llywodraeth Lafur Cymru neu Lywodraeth Lafur y DU?
Cefais gyfle i gyfarfod â Phrif Ysgrifennydd Trysorlys yr wrthblaid y bore yma, a buom yn trafod yr hyn a fydd digwydd yn dilyn newid posibl yn Llywodraeth y DU. Beth yw'r prif feysydd blaenoriaeth yr ydym am gael trafodaethau cynnar iawn yn eu cylch? Ac roedd dyfodol cyllid yr UE, fel rydym yn dal i'w alw, yn un o'r prif bethau y mae angen inni fod yn cael y trafodaethau cynnar hynny yn eu cylch. Roeddwn yn sôn am y gwaith y mae’r Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd wedi’i wneud, ein hymagwedd at y math hwnnw o fframwaith ac ati. Felly, gan gymryd y bydd newid Llywodraeth, credaf fod angen inni gael y trafodaethau cynnar iawn hynny i roi llawer mwy o fanylion efallai, a llawer mwy o eglurder i bobl, sy’n rhywbeth y gwn fod llawer o awydd amdano.
Diolch. Felly, rydych chi'n hyderus fod 'cynrychiolwyr' yn golygu Llywodraeth Cymru, a bod Ysgrifennydd Gwladol yr wrthblaid dros Gymru yn anghywir. Dyna fy nehongliad.
Rhywbeth amlwg arall sydd ar goll mewn maniffesto sydd eisoes yn addo cyn lleied i Gymru yw ymrwymiad i gael gwared ar y fformiwla Barnett annheg sy’n ein gadael yn brin o arian flwyddyn ar ôl blwyddyn. Ceir cydnabyddiaeth fod y trefniadau ariannu hyn wedi dyddio, ond ni cheir unrhyw ymrwymiad clir. Ac mae'r mater hwn yn dod yn fwy arwyddocaol byth pan ystyriwn fod sefydliadau fel y Sefydliad Astudiaethau Cyllid wedi bod yn rhybuddio ers sawl wythnos nad yw Llywodraeth Lafur newydd y DU yn bod yn onest ynghylch goblygiadau eu hagenda ar gyfer cyllid cyhoeddus y DU. Yn wir, mae cynlluniau gwariant Llafur ar gyfer y Llywodraeth yn cyd-fynd yn llwyr â dwy o egwyddorion canolog y polisi cyllidol Torïaidd: y dylai dyled fel cyfran o’r cynnyrch domestig gros ostwng o fewn pum mlynedd, ac na fydd unrhyw gynnydd mewn trethiant. Felly, mae twll sylweddol yng nghyllid cyhoeddus y DU yn rhan annatod o agenda Llywodraeth Lafur, sydd ond yn golygu un peth: mwy o doriadau i wariant cyhoeddus.
Ysgrifennydd y Cabinet, rwy'n gwybod ein bod yn rhannu nod cyffredin o fod eisiau adfer cyllid cyhoeddus Cymru i'r lefel y dylai fod, sy’n cynnwys dyhead i weld y Senedd hon yn cael ei hariannu’n briodol yn unol ag anghenion ein poblogaeth, ond a wnewch chi ysgrifennu at arweinydd Llafur y DU fel mater o frys i ofyn am eglurder ynglŷn â sut y gallai ei doriadau gwariant effeithio ar Gymru, a galw ar ei Lywodraeth i glustnodi cyllid grant bloc Cymru drwy gydol tymor seneddol nesaf y DU?
Ni chredaf fod unrhyw un o dan unrhyw gamargraff—bydd unrhyw Lywodraeth newydd yn etifeddu sefyllfa hynod anodd, ac yn dal i ymdrin â chanlyniadau mini-gyllideb drychinebus Liz Truss, er enghraifft. Dyna un o'r rhesymau pam fy mod mor falch o weld maniffesto Llafur yn cynnwys ymrwymiad i beidio â chynnal digwyddiad cyllidol mawr heb gael rhagolygon cyfredol gan y Swyddfa Cyfrifoldeb Cyllidebol. Mae i'w weld yn amlwg i'r rhan fwyaf ohonom, ond nid yw'n amlwg i'r Ceidwadwyr, ac mae pob un ohonom yn dal i fyw gyda chanlyniadau hynny nawr.
Mae cyllid teg i Gymru yn amlwg yn mynd i barhau i fod yn flaenoriaeth lwyr i ni fel Llywodraeth Cymru. Mae’n rhywbeth y byddwn yn parhau i bwyso amdano. Ein gweledigaeth ni yw’r un a nodir yn 'Diogelu Dyfodol Cymru’, lle byddai gennym ddull newydd o ariannu y cytunir arno ar draws y DU, a fyddai, unwaith eto, yn seiliedig ar anghenion ac ati. Gwn fod mân wahaniaethau rhwng ein safbwyntiau, ond mewn gwirionedd, mae llawer o dir cyffredin rhyngom o ran y ffordd yr hoffem weld Cymru’n cael ei hariannu yn y dyfodol, a byddwn yn parhau i gyflwyno’r dadleuon hynny.