Part of 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid, y Cyfansoddiad a Swyddfa’r Cabinet – Senedd Cymru am 1:35 pm ar 19 Mehefin 2024.
Mater i fy nghyd-Aelod y Gweinidog tai fyddai hwn. Byddai ganddi fwy o fynediad at y manylion penodol sydd eu hangen arnoch. Ond credaf fod y pwynt a wnaethoch ynglŷn â thir ar gyfer tai yn berthnasol iawn. Yn 2023-24, dyfarnwyd bron i £40 miliwn o fenthyciadau i landlordiaid cymdeithasol cofrestredig, a byddant wedyn yn gallu hwyluso’r gwaith o ddarparu hyd at 2,254 o gartrefi, y bydd 82 y cant ohonynt yn gartrefi fforddiadwy. Ac mae cyfanswm o £89 miliwn wedi’i fuddsoddi yn ein cynllun tir ar gyfer tai ers ei sefydlu yn 2014-15. Mae’r cyllid hwnnw’n cael ei ailgylchu pan gaiff y benthyciadau eu had-dalu, i ddarparu ar gyfer benthyciadau newydd. Hyd yn hyn, mae £287 miliwn o fenthyciadau wedi’u gwneud, sy'n hwyluso darparu hyd at 8,000 o gartrefi newydd, gydag 81 y cant ohonynt yn fforddiadwy. Ac yn hollbwysig, hyd yma, mae’r llog a godwyd ar y benthyciadau ar gyfer tai fforddiadwy wedi bod yn 0 y cant, gyda chyfradd fasnachol wedi’i chodi ar gyfer unedau tai'r farchnad agored. Felly, fel y dywedaf, rydym yn ceisio dod o hyd i ffyrdd arloesol o gefnogi’r sector tai, ac rwy'n credu fy mod wedi rhoi un neu ddwy o enghreifftiau o’r rheini, sy’n cael eu harwain gan fy nghyd-Aelod, Ysgrifennydd y Cabinet dros dai, y prynhawn yma.