– Senedd Cymru am 4:41 pm ar 18 Mehefin 2024.
Eitem 6 yw Gorchymyn Deddf Llywodraeth Cymru 2006 (Awdurdodau Cymreig Datganoledig) (Diwygio) 2024. Galwaf ar Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg i wneud y cynnig. Lynne Neagle.
Diolch, Dirprwy Lywydd. Rwy'n cynnig y cynnig. Mae Deddf Addysg Drydyddol ac Ymchwil (Cymru) 2022 yn darparu ar gyfer sefydlu'r Comisiwn Addysg Drydyddol ac Ymchwil—y comisiwn—a diddymu Cyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru neu CCAUC. Y comisiwn fydd y corff rheoleiddio sy'n gyfrifol am ariannu, goruchwylio a rheoleiddio addysg drydyddol ac ymchwil yng Nghymru. Mae addysg drydyddol yn cwmpasu addysg uwch, addysg bellach a hyfforddiant, prentisiaethau, chweched dosbarth a dysgu cymunedol oedolion.
Mae Gorchymyn Deddf Llywodraeth Cymru 2006 (Awdurdodau Cymreig Datganoledig) (Diwygio) 2024 yn gwneud darpariaeth mewn perthynas â statws y comisiwn a CCAUC fel awdurdodau Cymreig datganoledig. Mae Adran 157A o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 yn diffinio awdurdod Cymreig datganoledig fel awdurdod cyhoeddus y mae ei swyddogaethau
'yn arferadwy yn gyfangwbl neu'n bennaf mewn perthynas â Chymru' ac yn gyfan gwbl neu'n bennaf yn swyddogaethau
'nad ydynt yn ymwneud â materion a gedwir yn ôl.'
Mae unrhyw awdurdod cyhoeddus nad yw'n bodloni amodau awdurdod Cymreig datganoledig yn awdurdod a gedwir yn ôl.
Mae awdurdodau cyhoeddus hefyd yn awdurdodau Cymreig datganoledig yn rhinwedd y ffaith eu bod wedi'u rhestru yn Atodlen 9A i'r Ddeddf. Mae cynnwys awdurdodau cyhoeddus o fewn y rhestr yn Atodlen 9A, yn hytrach na dibynnu ar y diffiniad, yn darparu rôl gadarnhaol ac yn cynyddu tryloywder mewn perthynas â nodi awdurdodau Cymreig datganoledig. Bydd y Gorchymyn ger eich bron heddiw yn diwygio Atodlen 9A i Ddeddf Llywodraeth Cymru i adlewyrchu diddymiad CCAUC a sefydlu'r comisiwn drwy ychwanegu'r comisiwn at y rhestr o awdurdodau Cymreig datganoledig a dileu CCAUC.
Hoffwn ddiolch i'r Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad am eu hystyriaeth o'r Gorchymyn drafft. Bydd yr Aelodau wedi gweld fy ymateb i'w hadroddiad. Mewn perthynas â'r pwynt technegol ar gynnwys y Senedd yn brif nodyn y drafft, mae swyddogion wedi codi hyn gyda swyddogion yn Swyddfa Cymru, ac wedi gofyn bod hyn yn dilyn Gorchmynion diweddar yn y Cyngor a'r canllawiau o fewn arfer offeryn statudol.
Gofynnodd y pwyllgor hefyd am yr wybodaeth ddiweddaraf am oblygiadau diddymu Senedd y DU. Rhoddais yr wybodaeth ddiweddaraf i'r Aelodau ar 11 Mehefin 2024 mewn perthynas â hyn. Fel y gŵyr yr Aelodau, mae'r Gorchymyn hwn wedi'i osod yn y Senedd ac yn Senedd y DU, ond ni ellir ei wneud nes ei fod wedi'i gymeradwyo gan ddau Dŷ Senedd y DU a'r Senedd. Mater i Lywodraeth y DU sy'n dod i mewn fydd cyflwyno cynnig newydd yn gofyn am gymeradwyaeth i'r Gorchymyn hwn. Byddaf yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Aelodau am hyn yn dilyn yr etholiad cyffredinol.
A galwaf ar Gadeirydd y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad, Mike Hedges.
Diolch yn fawr, Dirprwy Lywydd. Ystyriodd y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad y rheoliadau drafft hyn ar 10 Mehefin, ac mae ein hadroddiad ac ymateb Llywodraeth Cymru ar gael ar agenda heddiw. Mae ein hadroddiad yn cynnwys dau bwynt technegol ac un pwynt rhinweddau. Cyn i mi grynhoi ein hadroddiad technegol yn fyr, fe wnaf dynnu sylw at y datganiad ysgrifenedig a gyhoeddwyd gan yr Ysgrifennydd Cabinet yr wythnos diwethaf, sy'n ymwneud â'r un pwynt rhinweddau yn ein hadroddiad.
Fel y mae'r Ysgrifennydd Cabinet newydd amlinellu, ni ellir gwneud y Gorchymyn drafft hwn nes iddo gael ei gymeradwyo gan ddau Dŷ Senedd y DU a'r Senedd. O wybod y diddymir Senedd y DU cyn etholiad nesaf y DU, yn y datganiad nododd yr Ysgrifennydd Cabinet y bydd nawr yn fater i Lywodraeth newydd y DU gyflwyno cynnig newydd yn ceisio cymeradwyaeth dau Dŷ Senedd y DU, a bydd ystyriaeth y Senedd yn mynd rhagddo yn y cyfamser.
Roedd ein pwynt rhinweddau wedi nodi'r mater hwn a gwnaethom ofyn i Lywodraeth Cymru roi'r wybodaeth ddiweddaraf am ddyfodol y Gorchymyn drafft. Wrth ymateb yn ffurfiol i'r pwynt hwn yn ein hadroddiad, tynnodd Llywodraeth Cymru ein sylw at y datganiad ysgrifenedig a chadarnhaodd y byddai'r Aelodau'n cael gwybod am gynnydd ar y Gorchymyn unwaith y bydd Llywodraeth newydd y DU yn cael ei ffurfio ac ailddechrau busnes seneddol y DU.
Gan droi at ein pwynt adrodd technegol cyntaf, mae'r Gorchymyn yn uniaith Saesneg. Yn ein hadroddiad, rydym yn tynnu sylw at y rhesymeg a ddarperir yn y memorandwm esboniadol, sy'n nodi, gan fod y Gorchymyn yn y Cyfrin Gyngor yn ddeddfwriaeth Llywodraeth y DU, gosodir y Gorchymyn drafft gerbron y Senedd yn uniaith Saesneg.
Mae ein hail bwynt adrodd technegol yn nodi bod y prif nodyn italig ar frig y Gorchymyn drafft dim ond yn datgan bod y drafft yn cael ei osod gerbron Senedd y DU i'w gymeradwyo drwy benderfyniad gan y ddau Dŷ. Dywedodd Llywodraeth Cymru wrthym, er bod y drafft wedi'i baratoi i fod yn gyson â'r prif nodyn ar Orchmynion yn y Cyfrin Gyngor a wnaed yn flaenorol o dan adran 109 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006, mae Llywodraeth Cymru o'r farn y dylai cyfeiriad at y Senedd fod wedi'i gynnwys yn y prif nodyn fel mater o arfer da ac mae wedi gofyn i Swyddfa Cymru sicrhau bod prif nodiadau Gorchmynion drafft yn y dyfodol yn cynnwys cyfeiriad at rôl y Senedd yn y broses. Diolch.
Galwaf ar Ysgrifennydd y Cabinet i ymateb.
Diolch yn fawr, Dirprwy Lywydd. A gaf i ddiolch i Gadeirydd y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad am ei gyfraniad i'r ddadl? A gofynnaf i'r Aelodau gymeradwyo'r Gorchymyn.
Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Nac oes. Felly, derbynnir y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.