3. Datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Ddiwylliant a Chyfiawnder Cymdeithasol: Wythnos y Ffoaduriaid: Ein cartref

– Senedd Cymru am 2:57 pm ar 18 Mehefin 2024.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of David Rees David Rees Llafur 2:57, 18 Mehefin 2024

Eitem 3 yw'r datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Ddiwylliant a Chyfiawnder Cymdeithasol, Wythnos y Ffoaduriaid: ein cartref. Galwaf ar Ysgrifennydd y Cabinet, Lesley Griffiths. 

Photo of Lesley Griffiths Lesley Griffiths Llafur 2:58, 18 Mehefin 2024

(Cyfieithwyd)

Diolch yn fawr, Dirprwy Lywydd. Rydym ni'n nodi Wythnos y Ffoaduriaid yr wythnos hon, sy'n dathlu'r cyfraniadau y mae ceiswyr lloches yn eu gwneud i Gymru. Mae Wythnos y Ffoaduriaid yn dod â phobl o bob cefndir at ei gilydd i feithrin dealltwriaeth well yn ein cymunedau ni, ac yn hybu integreiddio a chydraddoldeb i bawb. Y thema ar gyfer dathliad Wythnos y Ffoaduriaid eleni yw 'ein cartref'. Mae gan bawb eu syniadau eu hunain o'r hyn y mae cartref yn ei olygu. Efallai mai honno yw'r fan lle cawsoch eich magu neu'r fan yr ydych chi'n ymgynnull ynddi gyda'ch teulu. Mae'r rhan fwyaf o geiswyr lloches sy'n dod i Gymru wedi eu hamddifadu o'r profiadau hyn o gartref mewn ffyrdd creulon a niweidiol iawn yn aml. Nid wedi cael eu dadleoli yn ddaearyddol yn unig y maen nhw; mae'r rhan fwyaf ohonyn nhw wedi eu hamddifadu o'u teuluoedd, eu heiddo, eu gyrfaoedd a'u cysylltiadau.

Fe ddylai cartref fod yn lle yr ydych chi'n teimlo'n ddiogel ynddo hefyd a'ch bod yn cael eich gwerthfawrogi ynddo, a dyna'r hyn yr ydym ni'n ceisio ei sicrhau mewn cenedl noddfa. Er gwaethaf y golled a brofwyd gan geiswyr lloches, fe ddylem ni ganolbwyntio ar yr hyn sydd ganddyn nhw—eu doniau, eu profiadau, eu cydnerthedd a'u diwylliant. Rydym ni'n ceisio defnyddio'r asedau hynny i adeiladu dyfodol a chartref a rennir. Mae Cymru wedi arddangos dro ar ôl tro dros y ganrif ddiwethaf a mwy ei bod hi'n genedl sy'n croesawu pobl o bob cwr o'r byd. Cafodd hyn ei arddangos mewn ffordd mor bwerus yn ystod y ddwy flynedd ddiwethaf gan aelwydydd yng Nghymru sydd wedi noddi 4,300 o Wcreiniaid yn uniongyrchol ar gyfer eu dyfodiad i'r DU. Mae gan 800 o Wcreiniaid eraill fisâu ac fe allent hwythau deithio at noddwyr lletyol yng Nghymru. Mae diolch yn ddyledus i bob un o ddarparwyr llety Cartrefi i Wcráin sydd wedi bod â swyddogaeth llysgenhadon dros y weledigaeth o genedl noddfa ar ran Llywodraeth Cymru. Diolch i chi am bopeth a wnaethoch ac rydych chi'n parhau i'w wneud o ran darparu cartrefi a rhoi croeso twymgalon i Gymru.

Rydym ni'n cefnogi ac yn ariannu trefniadau cynhaliaeth ar gyfer grŵp mwy eang o geiswyr lloches drwy waith ein partneriaid ni hefyd, sef Housing Justice Cymru. Rydym ni'n awyddus i fanteisio ar frwdfrydedd a phrofiadau darparwyr llety Cartrefi i Wcráin ac estyn cyfle cynaliadwy i geiswyr lloches gael eu lletya, ni waeth o ble y daethon nhw.

Yn ogystal â llwybr noddwyr unigol Cartrefi i Wcráin, rydym ni wedi gweithredu llwybr uwch-noddwyr Llywodraeth Cymru ers mis Mawrth 2022. Ers hynny mae dros 3,300 o ddeiliaid fisa wedi dod i Gymru, gyda'r mwyafrif yn cael eu lletya i ddechrau yn ein hystad llety cychwynnol ac yna fe fyddan nhw'n symud ymlaen i gartrefi tymor hwy ledled Cymru. Mae dull tîm Cymru a weithredir gan Lywodraeth Cymru, yr awdurdodau lleol, lletywyr cartrefi ac eraill gyda'i gilydd wedi bod yn hanfodol wrth wneud llwybr yr uwch-noddwyr yn llwyddiant mor fawr.

Yn ddiweddar, fe wnaethom ni gau ein safle llety cychwynnol olaf yn sir Ddinbych, gan symud y rhai a oedd yn aros ar y safle ymlaen yn llwyddiannus. Rydym ni'n hynod falch o'r gwaith tîm sydd wedi caniatáu i gynifer o Wcreiniaid gael diogelwch yng Nghymru. Rwy'n annog pob Aelod i ddarllen adroddiad Archwilio Cymru ar y cynllun, a gyhoeddwyd ym mis Mawrth eleni, sy'n tynnu sylw at y ffordd y bu partneriaid yn cydweithio mewn amgylchiadau heriol iawn.

Rydym yn hynod falch o'n hanes o groesawu. Er hynny, mae llawer i'w wneud eto er mwyn gallu datgan bod Cymru yn genedl noddfa gyflawn. Mae angen i unigolion sy'n cyrraedd o Wcráin fod yn gallu canolbwyntio o hyd ar sicrhau cyfle cyfartal ac ymwybyddiaeth dda o newidiadau i gynlluniau Llywodraeth y DU a allai fod yn effeithio ar eu gallu nhw i aros yn y DU. Rwyf i wedi ymrwymo i ymgysylltiad parhaus â'r Wcreiniaid a Llywodraeth y DU i sicrhau y bydd y canolbwyntio hwn yn parhau.

Yn ogystal ag Wcráin, mae miloedd o geiswyr lloches o bob cwr o'r byd yn byw yng Nghymru. Rydym ni'n parhau i weithio yn agos iawn gyda'r Swyddfa Gartref, yr Adran Ffyniant Bro, Tai a Chymunedau a'r Weinyddiaeth Amddiffyn i sicrhau bod dinasyddion o Affganistan sy'n dod i Gymru yn cael y gefnogaeth sydd ei hangen arnyn nhw ac y maen nhw'n ei haeddu oherwydd eu bod wedi rhoi gwasanaeth i luoedd arfog y DU yn ystod eu cyfnod yn Affganistan. Rydym ni'n parhau i ariannu'r Groes Goch Brydeinig i helpu ffoaduriaid sy'n byw yng Nghymru i gael eu haduno â'u hanwyliaid trwy gynllun aduniad teulu'r DU. Mae Llywodraeth Cymru yn mabwysiadu ymagwedd sydd â hawliau plant wrth ei hanfod drwy sicrhau y gellir aduno teuluoedd yn ein cymunedau ni.

Y ni yw'r unig Lywodraeth yn y DU sy'n ariannu'r gwaith hwn. Ni all y ffoaduriaid yng Nghymru deimlo yn wirioneddol gartrefol heb eu hanwyliaid, ac fe all byw hebddyn nhw achosi salwch meddwl ac ansicrwydd ariannol. Mae hi o fudd i'n cymunedau ni ac yn fraint i ni allu cefnogi gwaith y Groes Goch Brydeinig. Rydym ni'n parhau i wthio am gynllun aduniad teuluol gyda llai o rwystrau yn ei ffordd, gan gymryd y gwersi a ddysgwyd o gynllun teuluoedd Wcráin sydd wedi cau erbyn hyn, i sicrhau y bydd teuluoedd yn cael eu haduno mor gyflym a chyn amled â phosibl.

Llywodraeth y DU sy'n gyfrifol am y system loches yng Nghymru. Eto i gyd, mae uchelgais gennym ni i wneud Cymru yn gartref croesawgar i geiswyr lloches pan fyddan nhw'n aros yma. Rydym ni wedi parhau i ddarparu cyllid i Gyngor Ffoaduriaid Cymru a'i bartneriaid i estyn ein gwasanaeth noddfa a'n gwasanaethau symud ymlaen, yn ogystal â hyrwyddo gwelliannau i brosesau lloches ar gyfer cyd-fynd â pholisïau Cymru a'n gweledigaeth ni'n fwy eang. Fe allwn i ddweud llawer mwy am brosesau lloches a deddfwriaeth. Er hynny, rwy'n ymwybodol o'r cyfnod nawr cyn yr etholiad drwy'r DU, ac efallai y bydd trafod rhai o'r pwyntiau hyn yn dwyn mwy o ffrwyth yn ddiweddarach yn y flwyddyn.

Rydym ni'n effro i'r bygythiad a achosir gan ddylanwadau o'r asgell dde eithafol a'r awyrgylch anoddefgar y gall hynny ei greu. Rydym ni wedi gweld protestiadau y tu allan i safleoedd lletya, ac rwy'n awyddus i ailadrodd nad oes lle i gasineb yng Nghymru. Fe wyddom ni y gallwn wneud rhagor i gyfleu ystyr y weledigaeth o genedl noddfa a chanfod rhagor o ffyrdd mwy effeithiol o feithrin cysylltiadau da.

Rwy'n falch fod Llywodraeth Cymru wedi gallu cefnogi Gwobrau Cenedl Noddfa eto eleni, a gynhaliwyd neithiwr. Mae'r enwebeion a'r enillwyr yn enghreifftiau ardderchog o'r cyfraniad y mae ceiswyr lloches yn ei wneud i Gymru. Straeon Cymreig yw eu straeon nhw. Ein braint ni yw rhoi cartref iddyn nhw yn ein cymdeithas ni o gymunedau, ac fe gawn ni yng Nghymru ein grymuso oherwydd ein bod ni'n gwneud hynny. Diolch.

Photo of Tom Giffard Tom Giffard Ceidwadwyr 3:04, 18 Mehefin 2024

(Cyfieithwyd)

Ysgrifennydd Cabinet, mae datganiad heddiw yn cyfeirio at ba mor llwyddiannus fu polisi Llywodraeth Cymru o ran cynorthwyo ffoaduriaid, yn enwedig y rhai sydd wedi ffoi o Wcráin, yn ystod y blynyddoedd diwethaf. Peth cyfiawn yw bod gwledydd yn helpu ffoaduriaid a cheiswyr lloches pryd bynnag y bo hynny'n bosibl, a sicrhau eu diogelwch a'u ffyniant nhw. Mae hi hefyd yn iawn ystyried eu dyfodol yn flaenoriaeth, gan gynnwys integreiddio i'r gymdeithas a datblygiad personol o ran sgiliau ac addysg. Felly, testun gofid i mi oedd na chafwyd dim yn natganiad y prynhawn yma ar bolisi Llywodraeth Cymru i sicrhau integreiddio diogel a chadarn i'n cymdeithas. A hefyd, ni chafwyd unrhyw ystyriaeth o sut y gallai'r Llywodraeth Lafur hon flaenoriaethu addysg ar gyfer yr unigolion a'r cymunedau hyn.

Rydych chi siŵr o fod yn ymwybodol, Ysgrifennydd Cabinet, bod 90 o gartrefi dros dro wedi cael eu hadeiladu yn Llanilltud Fawr yn ddiweddar ar hen safle ysgol gynradd ar gyfer cartrefu ffoaduriaid Wcreinaidd. Rydych chi'n gwybod hefyd fod gwrthwynebiad lleol cryf wedi bod i'r datblygiad ac mae grŵp gweithredu lleol wedi cael ei sefydlu gan drigolion erbyn hyn. Mae'r rhai sy'n gwrthwynebu o'r farn fod y tai nid yn unig yn edrych ond yn teimlo fel carchardai ac maen nhw wedi eu siomi gan y ffaith nad ymgynghorwyd â nhw ar y cynigion am y safle, heb unrhyw ymgysylltiad â'r gymuned leol. Yn hytrach nag ymgynghori â'r gymuned a'u dwyn ynghyd â'r broses, mae Cyngor Bro Morgannwg wedi gwario £25 miliwn ar adeiladau a fydd yn segur hyd nes y rhoddir caniatâd cynllunio ac y gwneir penderfyniadau.

Ysgrifennydd Cabinet, fe allai'r safle hwn nawr greu ymdeimlad gelyniaethus ymhlith y cyhoedd o ran unrhyw ffoaduriaid a allai fod yn cael eu cartrefu ynddo. Mae perygl yn bodoli bob amser o greu rhagor o dyndra pan roddir llety i ffoaduriaid. Felly, mae angen rhoi camau ar waith i sicrhau bod gan y gymuned ran yn y penderfyniadau fel na fydd y noddfa a gynigir gan Gymru yn wrthwynebus i'r rhai sy'n ceisio lloches. Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i sicrhau y bydd awdurdodau lleol yn cydymdeimlo â'r gymuned leol pan fydd yn cartrefu ffoaduriaid?

Yn ogystal â hynny, mae trafnidiaeth i ffoaduriaid a cheiswyr lloches yn gynnig hanfodol y mae llawer yn dibynnu arno i gynnal eu gweithgarwch o ddydd i ddydd. Fy nealltwriaeth i, serch hynny, yw bod y cynllun tocynnau bws croeso wedi dod i ben erbyn, ac mae llawer o geiswyr lloches yng Nghymru yn eu cael eu hunain mewn swyddi lle na allan nhw fforddio teithio iddyn nhw. Rwy'n siŵr y byddech chi'n gwerthfawrogi, Ysgrifennydd Cabinet, po anoddaf fydd hi i ffoaduriaid a cheiswyr lloches integreiddio a dod o hyd i waith, heb gymorth a darpariaeth briodol, yr amlaf y bydd problemau cymdeithasol a materion eraill fel troseddu yn digwydd, am fod pobl yn eu cael eu hunain mewn sefyllfaoedd dyrys iawn.

Mater pwysig arall yw y gall ffoaduriaid a cheiswyr lloches gael eu targedu gan rai sydd eisiau manteisio arnyn nhw wrth iddyn nhw geisio dod o hyd i incwm y tu allan i sianeli arferol. Gan eu bod nhw mewn sefyllfa mor fregus, y nhw sydd fwyaf mewn perygl, yn anffodus, o ddioddef caethwasiaeth fodern. A fyddech chi'n cytuno â mi, Ysgrifennydd Cabinet, ei bod hi'n hanfodol i drafnidiaeth gyhoeddus fod ar gael a bod darpariaeth briodol yn cael ei gwneud i helpu'r rhai sydd ag angen eu hintegreiddio yn ein cymunedau ni yng Nghymru? Pa gynigion sydd gennych chi nawr i wneud trafnidiaeth gyhoeddus yn ddewis i ffoaduriaid a cheiswyr lloches yn rhad ac am ddim?

Addysg yw'r pwynt olaf yr oeddwn i'n awyddus i'w drafod heddiw. Mae honno'n elfen hanfodol o ddatblygiad unrhyw un, ac fe ddylid sicrhau bod y safon orau bosibl ar gael, ynghyd â'r gefnogaeth briodol i'r rhai sy'n darparu'r addysg. Rydym ni'n gwybod bod llawer o ofynion ar ysgolion sy'n darparu ar gyfer ffoaduriaid a cheiswyr lloches. Mae ysgolion cynradd yn arbennig felly wedi bod dan bwysau aruthrol wrth ymdrin â'r ystod o ieithoedd sy'n cael eu siarad. Mewn rhai ysgolion, mae hyd at 44 o wahanol ieithoedd yn cael eu defnyddio, ac mae hynny'n amlwg yn cyflwyno sefyllfa anodd iawn i benaethiaid o ran sut i ailddyrannu adnoddau ar gyfer cymryd hynny i ystyriaeth. Mae'n rhaid i athrawon wynebu'r broblem hefyd fod plant yn cael eu symud weithiau ar ôl cyfnod cymharol fyr oherwydd bod eu statws nhw wedi newid. Mae ffoaduriaid a cheiswyr lloches yn dioddef amhariadau drwy'r amser yn y cyd-destun hwn, ac mae'n rhaid cynnig gwell cefnogaeth ac arweiniad i bawb sydd dan sylw.

Y gwir amdani yw nad oes gan Lywodraeth Lafur Cymru ddigon o ddata, fel mewn llawer o feysydd eraill, i'w helpu i fod â darlun cywir o'r sefyllfa a fyddai'n caniatáu i strategaethau gael eu hystyried a chanfod datrysiadau. Mae gwir angen cynyddu'r adnoddau ar gyfer helpu ysgolion i reoli hyn, er mwyn i'r rhai sy'n ymdrin â'r materion hyn o ddydd i ddydd allu gwneud felly yn y ffordd orau bosibl. Felly, Ysgrifennydd Cabinet, beth mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i sicrhau y bydd ffoaduriaid a cheiswyr lloches yn cael cynnig o gymorth ac arweiniad priodol ar gyfer eu sefyllfaoedd unigryw eu hunain, a sut mae Llywodraeth Cymru am sicrhau y bydd cyfraddau digonol o ddata yn cael eu casglu er mwyn i ysgolion a gwasanaethau cyhoeddus eraill ddeall eu sefyllfaoedd eu hunain a sut y gallan nhw helpu ym mha bynnag ffordd y gallan nhw? Diolch. 

Photo of Lesley Griffiths Lesley Griffiths Llafur 3:08, 18 Mehefin 2024

(Cyfieithwyd)

Diolch yn fawr iawn i chi am y gyfres yna o gwestiynau. Rwyf i am ddechrau gyda thrafnidiaeth, am fy mod i'n cytuno â chi bod trafnidiaeth yn fater pwysig iawn. Rydym ni'n falch iawn o'r hyn a gyfrannodd y cynllun tocynnau croeso am dros ddwy flynedd. Rwy'n cofio teithio yn ôl o Gaerdydd i Wrecsam ar drên yn dilyn busnes yn y Senedd mae'n debyg tua blwyddyn yn ôl erbyn hyn a chyfarfod â rhywun a oedd yn ffoadur ac a oedd wedi cymryd yr amser i deithio o Gaergybi i lawr i Gaerdydd. Felly, rwy'n derbyn yn llwyr nad yw at ddibenion cyflogaeth yn unig, y gwnaethoch chi gyfeirio ato'n benodol, ond ar gyfer dod yn fwy cyfarwydd â'r wlad hefyd, os hoffech chi.

Roedd hwnnw'n gynllun pwysig iawn ac rydym ni'n falch iawn o'r hyn a gyflawnodd. Fe gafodd ei gyflwyno yn gyflym, ac roedd yn rhan o'n hymateb ni yn y Llywodraeth i'r rhyfel yn Wcráin. Rydym ni'n credu bod tua 1 miliwn o deithiau wedi cael eu gwneud. Roedd y cynllun yn un o amodau'r pecyn cyllid brys gwerth £200 miliwn a ddarparwyd gennym ni i'r diwydiant bysiau. Felly, er ein bod ni'n llwyr gydnabod manteision hwnnw, yn anffodus fe ddaeth y cam cyntaf i ben ar ddiwedd mis Mawrth.

Wrth i mi ddod i mewn i'r portffolio, roedd fy rhagflaenydd, Jane Hutt, wedi dechrau edrych eisoes ar yr hyn y gallem ni ei ddysgu o gam cyntaf y tocyn croeso hwnnw, a'n bwriad ni yw defnyddio'r wybodaeth honno i ddatblygu cam nesaf y cynllun, i wneud hwnnw ychydig yn fwy cynaliadwy, efallai. Am iddo gael ei gyflwyno ar fyrder, efallai nad oeddem ni wedi gallu ei ystyried yn gyfannol. A'i wneud ychydig yn fwy addas i'r diben hefyd, a sicrhau bod yr adnoddau cyfyngedig sydd gennym ni'n amlwg yn canolbwyntio ar y rhai sydd â'r angen mwyaf. Felly, rydym ni'n gweithio gyda rhanddeiliaid allweddol ac, fel dywedais i, rydym ni'n bwriadu lansio cam nesaf y tocyn croeso yn ddiweddarach eleni. Yn anffodus, nid wyf i'n gallu rhoi amserlen bendant i chi ar hyn o bryd, dim ond eich sicrhau chi ein bod ni'n edrych ar hynny.

O ran addysg ac ieithoedd niferus iawn yn cael eu dysgu mewn ysgolion, rwy'n credu bod ein hysgolion yn ymdrin â hynny'n effeithiol iawn. Yn amlwg, mater i'r awdurdodau lleol yw hwnnw. Roeddwn i mewn ysgol yn fy etholaeth i'r wythnos diwethaf lle rwy'n credu bod 33 o ieithoedd, ac mae'r ysgol wedi addasu oherwydd y gefnogaeth a gawson nhw, nid yn unig oddi wrth yr awdurdod lleol, ond gan Lywodraeth Cymru hefyd.

Roeddech chi'n cyfeirio at fater ym Mro Morgannwg. Nid wyf i o'r farn fod eich dull chi o'i gyfleu yn gywir, ac mae'r Aelod lleol dros Fro Morgannwg yn cytuno â mi. Rwy'n credu ei bod hi'n bwysig iawn, pan fo unrhyw beth yn digwydd yn y ffordd y gwnaethoch chi gyfeirio ato, o ran adeiladau, neu—. Rydych chi'n siŵr o fod yn ymwybodol iawn mai mater a gedwir yn ôl gan Lywodraeth y DU yw polisi ceiswyr lloches a ffoaduriaid, a phan fydd Llywodraeth y DU wedi ceisio cartrefu ffoaduriaid neu geiswyr lloches mewn adeiladau arbennig, mae hi'n gwbl hanfodol eich bod chi'n gweithio gyda'r gymuned leol, oherwydd fel arall fe gewch chi'r anoddefgarwch hwnnw sy'n ymddangos weithiau, mae negeseuon anghywir yn mynd ar led, rydych chi'n gweld pobl yn teithio o bell i gario eu cenadwri o gasineb, ac nid ydym ni'n awyddus i weld hynny o gwbl, wir. Fel dywedais i yn fy natganiad agoriadol, nid oes lle i gasineb yma yng Nghymru.

Rwy'n clywed yr hyn yr ydych chi'n ei ddweud ynglŷn â'r data. Mae hi'n bwysig iawn ein bod ni'n ceisio sicrhau bod data yn gadarn lle bynnag y bo hynny'n bosibl. Rwy'n gwybod i swyddogion fod yn gweithio gyda'n partneriaid ni i sicrhau y gellir cryfhau dulliau o grynhoi data. Rwy'n credu bod hynny'n cynnwys popeth y gwnaethoch chi ei ofyn i mi. Diolch i chi.

Daeth Janet Finch-Saunders i’r Gadair.

Photo of Sioned Williams Sioned Williams Plaid Cymru 3:12, 18 Mehefin 2024

Diolch am y datganiad. Mae Plaid Cymru yn credu bod y pwyslais ar bwysigrwydd tai a'r cartref yn ystod Wythnos y Ffoaduriaid yn un allweddol.

Photo of Sioned Williams Sioned Williams Plaid Cymru

(Cyfieithwyd)

Neithiwr, fe gefais i'r pleser o fod yn bresennol yng Ngwobrau Cenedl Noddfa Cyngor Ffoaduriaid Cymru. Fe hoffwn i ddweud 'da iawn chi' wrth yr enillwyr a'r enwebeion i gyd, ond rwy'n arbennig o awyddus i longyfarch y Birth Partner Project, a enillodd Wobr Cenedl Noddfa am waith rhagorol yn cefnogi menywod sy'n ceisio noddfa a fyddai fel arall yn wynebu rhoi genedigaeth heb gwmni o gwbl. Mae hi'n drueni nad oeddech chi yno, Ysgrifennydd Cabinet, nid yn unig oherwydd ei bod hi'n noson i godi calon, a oedd yn dathlu cyfraniad a chyflawniadau ceiswyr noddfa a ffoaduriaid yng Nghymru a'r rhai sy'n eu cefnogi nhw, ond hefyd am fod prif swyddog gweithredol Cyngor Ffoaduriaid Cymru, Andrea Cleaver, wedi gwneud rhai pwyntiau pwysig iawn yn ystod ei haraith am Gymru'r genedl noddfa. Roedd hi'n dweud bod yn rhaid i ddyhead clodwiw Llywodraeth Cymru i sicrhau bod Cymru yn genedl noddfa fod yn fwy na delfryd yn unig. Roedd hi'n dwyn cymhariaeth â phont—ie, mae'n gefnogol, yn groesawgar, ac agored, ond gyda rhai tyllau peryglus ynddi, y mae'n rhaid eu llenwi nhw. Roedd hi'n cyfeirio, er enghraifft, at y cyfnod rhybudd creulon ac anymarferol o 28 diwrnod cyn troi allan o lety lloches a roddir i rai sydd wedi ennill statws ffoadur, a all yn aml arwain at bwysau ofnadwy a digartrefedd hyd yn oed. Mae'r rhai sy'n byw, wrth gwrs, yn y sector rhentu preifat yng Nghymru yn mwynhau amddiffyniad hysbysiadau chwe mis o droi allan heb fai. Beth mae 'cenedl noddfa' yn ei olygu mewn gwirionedd os nad yw'r rhai sydd â chaniatâd i aros yn cael eu trin yn gyfartal a gyda thrugaredd a dealltwriaeth? Sut mae Llywodraeth Cymru yn mynd i'r afael â'r mater hwn, o ystyried mai eich cyfrifoldeb chi yw tai?

Ddoe, mewn tystiolaeth i'r Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol, fe wnaethoch chi amlygu nad yw'r Llywodraeth yn bwriadu adnewyddu cynllun y genedl noddfa erbyn hyn, er ei bod hi'n bum mlwydd oed bellach. Roedd clywed y cyfaddefiad hwn ar ddechrau Wythnos Ffoaduriaid yn peri pryder, ac roedd llawer o bobl y siaradais â nhw neithiwr yng Ngwobrau Cenedl Noddfa yn siomedig o glywed hyn hefyd. Cafodd y cynllun ei gyhoeddi yn 2019. Rwy'n siŵr y byddech chi'n cytuno bod y cyfnod a'r cyd-destun yn wahanol iawn nawr i geiswyr lloches, yn ddomestig ac yn rhyngwladol. Roedd hwnnw'n cynnwys dros 130 o ymrwymiadau i gefnogi pobl sy'n ceisio noddfa yng Nghymru. Yn yr adroddiad o gynnydd a gyhoeddwyd yn gynharach eleni, roedd y Llywodraeth yn dweud bod dros 99 y cant o'r camau hynny naill ai ar y gweill neu wedi eu cwblhau, ac y byddech chi'n ymgysylltu trwy gydol y flwyddyn eleni i ystyried sut i adnewyddu'r cynllun hwnnw. Fe eglurodd eich rhagflaenydd chi, fel Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol, mai nod y cynllun nesaf fyddai canolbwyntio yn fwy ar yr egwyddorion a fydd yn llywio penderfyniadau'r Llywodraeth hon, a fydd yn llai niferus ond â mwy o ganlyniadau a chamau gweithredu diriaethol. Felly, fe hoffwn i wybod beth sydd wedi newid, Ysgrifennydd Cabinet. Pam mai, yn eich geiriau chi i'r pwyllgor ddoe, 'diweddariad' fydd hwnnw nawr, ac nid adnewyddiad? Beth yn union yw ystyr hynny?

Mae plant ar eu pen eu hunain ymhlith aelodau mwyaf agored i niwed ein cymdeithas ni, ac mae gofyn iddyn nhw lywio ac ymgysylltu â'r broses gyfreithiol gymhleth o geisio lloches, a hynny i gyd wrth ddioddef archoll a chynnwrf. Fe all gwarcheidwaid sicrhau bod y plant yn deall ac yn gallu ymarfer eu hawliau, gan egluro'r prosesau a'r gwasanaethau, ac eiriol drostyn nhw pan fo angen. Mae galwadau am wasanaeth gwarcheidiaeth yng Nghymru wedi bod yn cael eu gwneud ers 2005, gyda'r alwad ddiweddaraf mewn adroddiad a gomisiynwyd gan Lywodraeth Cymru yn 2023. Yn ystod y bumed Senedd, fe argymhellodd pwyllgor y dylai Llywodraeth Cymru gyflwyno gwasanaeth gwarcheidiaeth yng Nghymru hefyd. Mae sefydlu cynllun fel hwn wedi bod yn ddisgwyliad amlwg hefyd gan Bwyllgor y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau'r Plentyn ers dros 20 mlynedd. Yn ei sylwadau terfynol yn 2023, roedd Pwyllgor y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau'r Plentyn yn argymell unwaith eto y dylid cyflwyno gwasanaeth o'r fath ar gyfer pob plentyn ar ei ben ei hun. Mae Cymdeithas y Plant, Sefydliad Bevan, Canolfan Gyfreithiol Plant Cymru, a'r Groes Goch Brydeinig wedi galw ar y Llywodraeth, gan ei hannog i gyflwyno gwasanaeth o'r fath, sydd ar gael i bob plentyn heb ofal oedolyn sydd eisoes yng Nghymru ac i'r rhai sy'n dod i Gymru. Rhwng 2020 a 2023, dim ond 257 o blant a oedd ar eu pen eu hunain, neu 43 y cant, a gafodd gefnogaeth benodol ar gyfer ymgysylltu â'r broses o geisio lloches. Fe allai hyn fod â manteision lawer: eiriolaeth dros y plentyn, hyrwyddo ei les mwyaf, gwella'r canlyniadau cyfreithiol iddo, nodi ac atal camfanteisio, masnachu pobl neu radicaleiddio, amddiffyn ei hawliau dynol, cefnogi integreiddio, gwella canlyniadau addysgol, ac fe fydd yna fanteision, wrth gwrs, o ran y gweithwyr proffesiynol hynny sy'n gweithio gyda'r plant ar eu pen eu hunain, fel arbedion cost ac ysgafnu llwythi gwaith.

Mae'r cynllun cenedl noddfa yn ymrwymo i ariannu awdurdodau lleol i gefnogi cynllun treialu yn y maes hwn, ond ni chafodd hwnnw ei weithredu erioed. Yn yr Alban, serch hynny, sefydlwyd gwasanaeth gwarcheidiaeth, ac fe brofodd hwnnw'n werthfawr iawn i bobl ifanc. O ystyried canfyddiadau Sefydliad Bevan hefyd, roedd y rhain yn canfod bod y sefyllfa o ran gwasanaethau cyfreithiol ar gyfer mewnfudo a lloches wedi gwaethygu yn sylweddol yng Nghymru ers mis Ionawr 2023, mae yna—wrth gwrs, fe wyddom ni, oherwydd hyn—mae plant ar eu pen eu hunain yn cael eu gadael fel mater o drefn—

Photo of Sioned Williams Sioned Williams Plaid Cymru

(Cyfieithwyd)

—heb gynrychiolaeth nac apêl. Felly, Ysgrifennydd Cabinet, a wnewch chi a'ch Llywodraeth gyflwyno gwasanaeth gwarcheidiaeth yma yng Nghymru o'r diwedd, fel sydd yn yr Alban, oherwydd ni allwch chi honni eich bod chi'n cymryd dull gweithredu o ran hawliau plant os na wnewch chi felly?

Photo of Lesley Griffiths Lesley Griffiths Llafur

(Cyfieithwyd)

Diolch i chi. Rwyf i am ddechrau—. Yn gyntaf i gyd, fe hoffwn i ddweud, ac fe soniais i am hyn yn rhan wreiddiol fy natganiad, ein bod ni'n falch iawn o gefnogi Gwobrau Cenedl Noddfa neithiwr. Fe hoffwn i longyfarch yr enillwyr a'r enwebeion i gyd hefyd. Rwy'n credu ei bod hi'n bwysig iawn ein bod ni'n eu cydnabod nhw fel hyn.

Mae'n ddrwg gen i glywed eich bod chi ac eraill wedi eich siomi gan y sylwadau a wnes i yn y pwyllgor ddoe ynghylch cynllun a gweledigaeth y genedl noddfa, ond rwy'n falch o fod â'r cyfle hwn i ddweud bod fy ymrwymiad i sicrhau bod Cymru yn genedl noddfa yn dal yn gadarn, ac mae hynny'n wir am bob Ysgrifennydd Cabinet a phob Gweinidog yn y Llywodraeth hon yng Nghymru.

Rydych chi'n gofyn, 'Beth sydd wedi newid?' Mae'n debyg mai'r hyn sydd wedi newid yw fy mod i wedi dod i mewn i bortffolio. Yn amlwg, mae'r cynllun gennym ni, a gyhoeddwyd, fel rydych chi'n dweud, yn ôl yn 2019. Mae llawer o gamau gweithredu wedi cael eu gorffen. Felly, yr hyn a ofynnais i swyddogion ei wneud oedd edrych ar yr hyn yr oedd angen i ni ei wneud. Nawr, efallai y bydd angen diwygio eto ar ddiwedd y gwaith hwn i gyd, ond ar hyn o bryd, yn fy marn i, mae'n rhaid i ni ganolbwyntio ar gyflawni. Rydym ni wedi treulio'r ddwy flynedd ddiwethaf yn cyflawni, ac rwyf i'n dymuno parhau i wneud hynny. Ond fel dywedais i, mae llawer o gamau wedi cael eu cwblhau eisoes. Mae rhai o'r camau gweithredu yn y cynllun yn rhai hirdymor, felly mae angen i ni edrych ar y rhain a gweld a oes angen iddyn nhw gael eu cynnwys. Ond rydym ni'n gweithio gyda'r trydydd sector i ystyried a oes unrhyw fylchau o ran cyflawni, ac os oes bylchau, beth sydd angen i ni ei wneud i lenwi'r bylchau hynny. Rwy'n credu ei bod hi'n bwysig iawn ein bod ni'n dal ati i siarad â phobl sydd â phrofiad bywyd o fod yn geisiwyr lloches.

Un peth yr wyf i'n ei ystyried gyda'r cynlluniau i gyd—mae llawer o gynlluniau yn y portffolio hwn, ac os edrychwch chi ar y cynllun LHDTC+, mae ganddo olrheiniwr, sydd, i mi, yn arddangos ei dryloywder. Mae'n dryloyw iawn ynglŷn â'r hyn yr ydym ni'n ei wneud gyda'r cynllun gweithredu hwnnw, ac rwyf wedi gofyn i swyddogion edrych i weld a fyddai hi'n werth dodi olrheiniwr o'r fath ar bob cynllun, gan gynnwys y genedl noddfa, i weld a fydd hynny'n helpu pawb i allu cael mynediad wedyn at yr hyn sy'n digwydd yn y cynllun. Felly'r weledigaeth, y cynllun: nid oes dim wedi newid yn hynny o beth, ond, i mi, mae'n rhaid i ni ddal ati i gyflawni hynny. Ond fe hoffwn i ddim ond tawelu meddwl pobl nad oes angen iddyn nhw gael siom o gwbl; mae'r cynllun hwnnw yno. Cyflawni yw'r hyn sy'n bwysig, ac fe fyddaf i'n gwneud yn siŵr y byddaf i'n rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i gyd-Aelodau wrth i ni fynd drwy'r darn hwn o waith.

Roeddech chi'n cyfeirio at warcheidiaeth a phlant ar eu pen eu hunain. Rwy'n credu eich bod chi wedi cyfeirio at eiriolaeth hefyd, er mwyn i ni wybod bod gan bob plentyn sydd â phrofiad o ofal yng Nghymru hawl statudol i gael eiriolaeth. Rwy'n ymwybodol o'r alwad i ddatblygu cynllun ar wahân o ran gwarcheidiaeth plant ar eu pen eu hunain, a fydda'n debyg i'r un sydd ar waith yn yr Alban. Felly, mae swyddogion wedi cyfarfod â chydweithwyr yn Llywodraeth yr Alban i drafod y cynllun, ac maen nhw'n ystyried yr adroddiad gan Gymdeithas y Plant hefyd, sydd hefyd wedi galw am hyn. Felly, yr hyn a ofynnais i swyddogion ei wneud—mae hwn yn ddarn sylweddol o waith—yw parhau gyda'r darn hwnnw o waith, gan asesu pa ddewisiadau sydd gennym ni ac anfon rhywfaint o gyngor i mi ynglŷn â hynny wedyn. Fe fydd angen i mi weithio yn agos iawn hefyd gyda'r Gweinidog Gofal Cymdeithasol os ydym ni am fod â chynllun gwarcheidiaeth o'r math hwnnw.

Photo of John Griffiths John Griffiths Llafur 3:22, 18 Mehefin 2024

(Cyfieithwyd)

Ysgrifennydd Cabinet, roeddwn i'n falch iawn o groesawu Sefydliad Jo Cox yma i'r Senedd heddiw, ac, fel gwyddoch chi, mae'n gweithio i ddod â phobl at ei gilydd ac mae'n gweithio gydag Wythnos y Ffoaduriaid ar daith gerdded wych yn rhan o'r Great Get Together ac rwy'n credu ei bod hi'n bwysig iawn fod eu gwerthoedd yn llywio'r ffordd y mae'r Llywodraeth a sefydliadau eraill yn cael eu rhedeg, ac rwy'n falch iawn o ddweud, yng Nghasnewydd, bod rhai enghreifftiau da iawn o hynny gennym ni fel Casnewydd Fyw, fel yr ymddiriedolaeth hamdden, yn bwrw ymlaen â phrosiect Momentwm sy'n rhannol ar gyfer rhoi sgiliau beicio i ffoaduriaid a cheiswyr lloches. Ac fel clywsom ni eisoes, mae materion trafnidiaeth yn bwysig iawn o ran cael gafael ar wasanaethau, gwaith, addysg, hyfforddiant, ac ati, felly mae bod â'r beiciau ar gael, a gallu mynd ar feic a hynny mewn ffordd ddiogel yn bwysig iawn yn fy marn i. Ac maen nhw'n gweithio hefyd gyda phrosiect Gap ynglŷn â phrosiect Dyfodol Cadarnhaol Casnewydd Fyw, sy'n defnyddio chwaraeon i integreiddio ffoaduriaid a cheiswyr lloches i'n cymuned ni. Maen nhw wedi bod yn cynnal sesiynau pêl-droed wythnosol, er enghraifft, ers amser maith. Felly, tybed a fyddech chi cystal â chydnabod rhai o'r enghreifftiau hyn o arfer da, oherwydd yn ein cymunedau ni i gyd, fel Aelodau'r Senedd, fe garem ni weld y gwerthoedd hyn ar waith o ran integreiddio a rhoi'r croeso cynnes hwnnw.

Photo of Lesley Griffiths Lesley Griffiths Llafur 3:23, 18 Mehefin 2024

(Cyfieithwyd)

Diolch i chi. Ie, fe fyddwn i'n cydnabod yr achosion penodol hynny o arfer gorau, fel rydych chi'n dweud, yn gyfan gwbl. Fe ymwelais i â Chasnewydd Fyw gyda chi; roedd hwnnw'n gynllun gwahanol yr oeddem ni'n edrych arno, ond fe allwn ni weld y gwaith anhygoel y maen nhw'n ei wneud, ac mae'r integreiddio hwnnw mor bwysig os ydym ni am sicrhau bod pobl yn deall yr hyn y mae bod yn genedl noddfa yn ei olygu i ni. Mae hi'n bwysig iawn bod pobl sy'n dod yma, os ydyn nhw'n ffoi rhag erledigaeth neu ryfel, yn teimlo eu bod nhw'n gallu integreiddio yn y gymuned yn y ffordd y bydden nhw'n ei dymuno, ac rydym ni'n sicr yn dymuno iddyn nhw wneud felly. Rwy'n gwybod bod llawer o themâu yn y gwaith yr ydym ni'n ei gefnogi drwy Gyngor Ffoaduriaid Cymru. Fe geir llawer o enghreifftiau yn hynny o beth. Nid oeddwn i'n ymwybodol o'r digwyddiad yr oeddech chi'n ei noddi er cof am Jo Cox yn rhan o weithgarwch ei sefydliad hi, ond rwy'n credu, unwaith eto, bod hynny'n beth da iawn, ac mae hi'n dda iawn ein bod ni'n parhau i gydnabod y gwaith anhygoel a wnaeth Jo Cox.

'Wnes i ddim ateb cwestiwn Sioned Williams am dai, mae'n ddrwg gen i, ac rwy'n credu mai trafodaeth y mae angen i mi ei chael gyda'r Gweinidog tai yw honno, oherwydd rwyf i o'r farn ei bod hi'n bwysig iawn, fel rydych chi'n dweud, ein bod ni'n gallu amddiffyn pobl yn yr un ffordd ag yr ydym ni'n amddiffyn pobl Cymru, ein bod yn amddiffyn pobl sy'n dod yma gan chwilio am noddfa, ac fe fyddaf i'n sicr yn bwrw ymlaen â hynny.

Photo of Carolyn Thomas Carolyn Thomas Llafur 3:24, 18 Mehefin 2024

(Cyfieithwyd)

Rwy'n falch fod Cymru yn genedl noddfa, sy'n helpu i sicrhau bod pobl yn cael eu trin â charedigrwydd, dealltwriaeth ac yn cael eu helpu i fod yn rhan o'r gymuned y maen nhw'n dewis byw ynddi hi. Mae byw mewn gwlad ddieithr yn gallu bod yn unig iawn ac yn anodd, ymhell oddi wrth deulu a ffrindiau, ac mae llawer yn gorfod dysgu iaith newydd a cheisio bod yn rhan o gymuned, ac mae hynny'n arbennig o anodd wedi dioddef archoll, fel gwnaeth llawer o ffoaduriaid.

Rwy'n gofidio bod etholiadau yn cael eu defnyddio i hollti cymdeithas, i ennyn casineb yn lle caredigrwydd, i annog pobl i droi eu cefnau ar y gymuned a chyfathrachu, yn enwedig pan fo pobl yn gorfod ymgodymu gyda'r argyfwng costau byw, apwyntiadau iechyd a phrinder tai safonol. Felly, Ysgrifennydd Cabinet, pa ymateb a fyddech chi'n ei roi i hyn wrth gyhoeddi'r newyddion am ystyr wirioneddol bod yn genedl noddfa? Diolch i chi.

Photo of Lesley Griffiths Lesley Griffiths Llafur 3:25, 18 Mehefin 2024

(Cyfieithwyd)

Diolch i chi. Rwyf i newydd sôn wrth John Griffiths mai dianc rhag erledigaeth y mae ceiswyr lloches yn ei wneud bron yn ddi-feth. Maen nhw'n aml yn ceisio ailgysylltu ag aelodau o'u teuluoedd. Rwy'n credu mai'r hyn sy'n wirioneddol bwysig, a honno yw cenadwri bwysicaf Wythnos Ffoaduriaid yn fy marn i, yw bod y geiriau yr ydym ni'n eu defnyddio yn bwysig. Nid yw pobl yn anghyfreithlon, nid ystadegau moel ydyn nhw. Mae gan bob unigolyn ei stori o archoll, ac rwy'n siŵr ein bod ni i gyd yn ein cymorthfeydd ac yn ein hetholaethau a'n rhanbarthau ni wedi cwrdd â phobl sy'n llawn gofid ac yn gwbl anobeithiol. Fel rydych chi'n dweud, mae ymadael â'ch cynefin lle rydych chi'n deall ac yn ymwybodol o bopeth, a'ch anwyliaid chi yno, a'ch swydd chi yno, i fod mewn gwlad nad oes rhai hyd yn oed wedi clywed amdani o'r blaen yn beth anodd iawn i ddygymod ag ef. Felly, rydych chi'n iawn o ran caredigrwydd a thosturi. Rwy'n credu bod hynny'n bwysig iawn. Rwy'n mynd yn ôl at fy ateb cynharach i Tom Giffard ynglŷn â sut mae hi mor bwysig bod ein rhanddeiliaid, ein partneriaid yn ymgysylltu â chymunedau er mwyn i ni osgoi'r anoddefgarwch milain hwnnw yr ydym ni, yn anffodus, yn clywed amdano.

Photo of Jenny Rathbone Jenny Rathbone Llafur 3:27, 18 Mehefin 2024

(Cyfieithwyd)

Fe gefais innau'r fraint hefyd o fod yn bresennol yng Ngwobrau Cenedl Noddfa gyda Sioned Williams, ac fe hoffwn i ddiolch i Gyngor Ffoaduriaid Cymru, Undeb Rygbi Cymru a Chymdeithas Tai Wales & West, a oedd yn brif noddwyr yr hyn a fydd yn garreg filltir bwysig yn y calendr cymdeithasol, yn fy marn i. Rwy'n credu bod cymaint gennym ni i fod yn falch ohono. Rwy'n myfyrio ar eiriau Carolyn Thomas am effaith yr etholiad cyffredinol a rhai o'r sylwadau mwy gwenwynig, ond rwy'n credu bod cymaint gennym ni i fod yn falch ohono a bod yn hyderus o'i herwydd, o ystyried pa mor effeithiol yr ydym ni wedi bod wrth fynd yn genedl amlddiwylliannol. Felly, bardd cenedlaethol Cymru yw Hanan Issa, bardd Cymreig-Iracaidd hynod o dalentog; a chadeirydd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg, a oedd yn cyflwyno'r wobr i ddysgwr Cymraeg y flwyddyn, yw Joseff Gnagbo, sy'n geisiwr lloches o'r Traeth Ifori yn wreiddiol; ac fe aeth y brif wobr i'r Birth Partner Project sy'n sefydliad cenedl noddfa, sy'n sicrhau nad oes unrhyw un sy'n geisiwr lloches yng Nghaerdydd yn rhoi genedigaeth mewn unigrwydd. Roeddwn i'n meddwl tybed a fyddech chi'n siarad ag Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd ynglŷn â sut y gallem ni ehangu'r prosiect hwn i Abertawe, Wrecsam a Chasnewydd, oherwydd yn y mannau hynny y mae'r prif boblogaethau lle bydd ceiswyr lloches yn cael eu cartrefu i ddechrau, ac fe fyddai hi'n rhagorol pe byddem ni'n sicrhau bod—. Nid wyf i'n dymuno i unrhyw fenyw, a bod yn onest, fod ar ei phen ei hun heb rywun i sefyll wrth ei hymyl yn ei hamser mwyaf agored i niwed, a phe gallem ni sicrhau bod y gwaith rhagorol sy'n cael ei wneud gan Laura Santana a llawer o wirfoddolwyr eraill yn cael ei ehangu ledled Cymru, fe fyddai hwnnw'n ganlyniad ardderchog.

Photo of Lesley Griffiths Lesley Griffiths Llafur 3:29, 18 Mehefin 2024

(Cyfieithwyd)

Byddai, yn hollol. Fe fyddwn i'n hapus iawn i siarad ag Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol. Rwy'n credu bod y pwynt rydych chi'n ei wneud ynghylch na ddylai unrhyw fenyw fod yn rhoi genedigaeth ar ei phen ei hun yn un pwysig iawn, ac fe wnes i sôn, mae dod i'r wlad hon a glanio mewn gwlad ddieithr lle nad ydych chi'n adnabod unrhyw un, a chwithau'n feichiog, dyna haen arall o anawsterau y mae'n rhaid i chi eu hwynebu. Felly, roeddwn i'n falch iawn pan welais i'r enillwyr, i weld mai'r cynllun hwnnw oedd wedi dod i'r brig, ac fe fyddaf i'n hapus iawn, fel rwy'n dweud, i gynnal trafodaeth ar gyfer ystyried sut i ehangu hyd at y tair prif ardal arall o wasgaru sef Casnewydd, Abertawe a Wrecsam, oherwydd nid yng Nghaerdydd yn unig y mae hyn yn digwydd, lle mae menywod yn wynebu anawsterau o'r fath. Felly, byddaf, fe fyddaf i'n sicr yn hapus i wneud felly.