2. Datganiad a Chyhoeddiad Busnes

Part of the debate – Senedd Cymru am 2:44 pm ar 18 Mehefin 2024.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Siân Gwenllian Siân Gwenllian Plaid Cymru 2:44, 18 Mehefin 2024

Fel cadeirydd y grŵp trawsbleidiol ar ferched, dwi'n hynod siomedig na fydd dadl Cyfnod 1 Bil yr ymgeiswyr yn digwydd prynhawn ma, fel y bwriadwyd, a'i bod wedi cael ei gwthio ymlaen fis i 16 Gorffennaf. Mae hyn yn golygu, wrth gwrs, na fydd Cyfnod 2 yn gallu cychwyn yfory a bod holl amserlen y Bil yn cael ei gwthio ymlaen. Beth mae rhedeg y cloc i lawr yn mynd i olygu? Wel, mae perig y bydd yn golygu y bydd gennym ni Senedd fwy, yn cael ei hethol mewn ffordd fwy teg, ond perig gwirioneddol y bydd yna ddiffyg cydraddoldeb a diffyg amrywiaeth yn parhau fel nodwedd annerbyniol o Senedd Cymru. Diwygio anghyflawn y cawn ni os na fydd y Bil ymgeiswyr, sy'n rhan annatod o'r jig-so, yn cael ei weithredu. 

Dydy'r llythyr rydych chi wedi cyfeirio ato fo yn barod, yr un sydd wedi'i anfon at Aelodau o'r Senedd, ddim yn cyfiawnhau'r rhesymeg dros oedi'r bleidlais heddiw. Dydy'r rhesymeg ddim yn dal dŵr o gwbl. Mae adroddiadau pwyllgorau Senedd yn argymell mynd ymlaen i gam 2 a 3 ac yn galw arnoch chi i gynnal trafodaethau efo Llywodraeth Lafur newydd yn San Steffan cyn Cyfnod 4, oherwydd fe all y Llywodraeth Lafur honno greu Gorchymyn drwy'r Cyfrin Gyngor i roi pŵer i'r Senedd basio'r Bil, gan roi gweithredu y mesurau fydd ynddo fo y tu hwnt i unrhyw amheuaeth.

Mae'n rhaid i mi ofyn ai dyma'r enghraifft ddiweddaraf, tybed, o'r 'bartneriaeth' newydd ar waith. Nid dwy Lywodraeth Lafur yn gweithio law yn llaw dros Gymru ydy hyn, ond Llywodraeth Lafur wan Cymru yn derbyn yn ddof y cyfarwyddyd o Lundain.