1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am ar 18 Mehefin 2024.
2. A wnaiff y Prif Weinidog roi diweddariad ar restrau aros GIG Cymru? OQ61278
Gwnaf. Mae'r Llywodraeth hon wedi ymrwymo i leihau'r amser y mae pobl yn aros am driniaeth. Ers mis Mawrth 2022, mae'r llwybrau ar gyfer y rhai sy'n aros ers dwy flynedd wedi gostwng 71 y cant. 22 wythnos yw'r arhosiad cyfartalog am driniaeth gofal wedi'i gynllunio bellach.
Diolch am eich ymateb, Prif Weinidog. Dirprwy Lywydd, bydd y Prif Weinidog yn gwybod bod y rhestrau aros diweddaraf yn dangos bod niferoedd yn cynyddu yng Nghymru i'r lefel uchaf a gofnodwyd erioed ar gyfer pobl sy'n ceisio triniaethau. Hefyd, Cymru, yn anffodus, sydd â'r amseroedd aros hiraf am driniaethau yn y DU, gyda dros 20,000 o gleifion yn dal i aros dros ddwy flynedd am y driniaeth sydd ei hangen arnyn nhw. Ac mae'r niferoedd hyn, wrth gwrs, yn dod wedi chwarter canrif o Lafur yn rhedeg Llywodraeth Cymru a Llafur yn rhedeg gwasanaethau iechyd yma yng Nghymru. Felly, Prif Weinidog, beth mae hyn yn ei ddweud am ddull Llafur o redeg y GIG?
Mewn gwirionedd, yr hyn yr ydym ni wedi ei weld, dros y flwyddyn neu ddwy ddiwethaf, rydym ni wedi gweld arosiadau yn lleihau. Ceir heriau sylweddol y mae pob GIG yn y DU yn eu hwynebu yn dilyn y pandemig. Rydym ni'n gwybod bod gennym ni her i ymateb iddi, ac mae'r duedd tymor hwy yn dangos bod y rhestrau hynny yn lleihau. Roedd hi'n amlwg yn siomedig y bu cynnydd cymedrol i'r niferoedd a oedd yn aros yn ystod y mis diwethaf. Ond mae'n dal i fod yn wir mai'r tueddiadau yw i'r arosiadau hir hynny leihau. Mae hefyd yn fater, wrth gwrs, yn ogystal â'r diwygio a'r gweddnewid y mae angen i ni eu gweld yn y ffordd y mae gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol yn cael eu darparu, mae hyn hefyd yn ymwneud yn rhannol ag adnoddau. Rydym ni wedi gwneud dewisiadau o fewn ein cyllidebau i roi adnoddau ychwanegol sylweddol i'r gwasanaeth iechyd—cynnydd o 4 y cant. Rydym ni hefyd yn gwybod, o ran y galw sy'n dod i mewn i'r gwasanaeth, bod angen i ni wneud mwy eto. Dyna pam mae'r dewis ar 4 Gorffennaf yn bwysig. Os bydd mwy o adnoddau yn dod i mewn i wasanaethau cyhoeddus, bydd yn gwneud gwahaniaeth am y bobl y gallwn ni eu cael i wneud y gwaith sydd ei angen, yn ogystal â thrawsnewid y ffordd y mae ein gwasanaethau yn gweithio. Dyna pam mae'r Ysgrifennydd iechyd wedi edrych, er enghraifft, ar y rhaglen ranbarthu, a chael gweithgarwch gofal wedi'i gynllunio sylweddol ac wedi'i ddiogelu. Mae'r holl bethau hynny yn gwneud gwahaniaeth. Mae'n fwy nag un peth. Rwy'n credu, gyda gwahanol bartneriaid ar draws y DU sy'n cydnabod yr angen i fuddsoddi'n briodol mewn ariannu ein system iechyd a gofal cymdeithasol, y gallwn ddarparu gwasanaeth gwell fyth ac y gallwn gael rheolaeth ar yr amseroedd aros yr wyf i'n cydnabod y mae angen ei wneud yma yng Nghymru.
Prif Weinidog, rwy'n ymwybodol o ddau brosiect GIG amlwg yn y de sy'n gweithio'n galed i leihau rhestrau aros. Y cyntaf yw'r ganolfan diagnostig a thriniaeth yn Llantrisant, a agorodd ddeufis yn unig yn ôl gyda sganiwr MRI symudol. Ychydig wythnosau yn ôl yn y Siambr hon, dywedais eu bod nhw eisoes wedi gweld dros 200 o gleifion. Ond mae'r data diweddaraf yn dangos, mewn mater o wythnosau, bod hyn bellach wedi dyblu i dros 400 o gleifion yn mynd drwy ei drysau. Yr ail yw cynllun i ddatrys amseroedd aros cataract yn gyflym, yr ydym ni'n gwybod eu bod wedi cynyddu o ganlyniad i ail-flaenoriaethu hanfodol gwasanaethau yn ystod COVID. Nawr, mae'r cynllun hwn wedi sicrhau bod yr holl arosiadau cataract tair blynedd wedi cael eu trin erbyn diwedd mis Mawrth eleni, ac mae bellach yn gweithio tuag at ddim cleifion yn aros dros ddwy flynedd erbyn diwedd y flwyddyn galendr hon. Yr hyn sydd gan y ddau brosiect hyn yn gyffredin yw eu bod nhw'n enghreifftiau o weithio rhanbarthol. Felly, Prif Weinidog, a fyddech chi'n cytuno â mi bod gweithio rhanbarthol gan fyrddau iechyd yn allweddol i leihau amseroedd aros?
Mae'n sicr yn rhan hanfodol o'r ffordd yr ydym ni'n lleihau arosiadau i'n holl etholwyr. Os edrychwch chi ar y rhaglen yr ydym ni wedi bod yn ceisio ymgymryd â hi cyn y pandemig ac wedi hynny, allwch chi ddim dychwelyd i fyd lle mae'r arbenigedd sydd ei angen yn cael ei ddiffodd. Mae angen i ni ddiogelu'r gweithgarwch gofal wedi'i gynllunio hwnnw oddi wrth safleoedd brys. A dyna pam mae Ysgrifennydd y Cabinet dros iechyd wedi bod yn buddsoddi yn y gwasanaethau hynny, gydag arian go iawn, yn ogystal â gwneud yn siŵr bod sefydliadau yn cytuno ar sut i wneud hynny gyda'i gilydd. A dyna, yn aml, yw'r her fwyaf yn ein darpariaeth. Mae llawer o glinigwyr rheng flaen eisiau gweithio mewn ffordd wahanol. Mae cael gwahanol sefydliadau i gytuno ar sut i wneud hynny yn cymryd mwy o amser. Ond mae'r ddwy enghraifft yr ydych chi wedi eu rhoi yn enghreifftiau da o le mae hynny wedi digwydd. Mae wedi cael ei gefnogi gan y Llywodraeth hon, ac mae'n fodel yr ydym ni eisiau parhau i fuddsoddi ynddo gan ein bod ni'n deall y bydd yn darparu gofal gwell a gofal cyflymach i'n holl etholwyr. Ond mae'n dangos bod hwn yn llwybr yr ydym ni eisiau parhau i fuddsoddi ynddo, ac rwy'n hyderus y bydd yn gwneud y gwahaniaeth a nododd Vikki Howells eisoes ar gyfer rhai o'i hetholwyr ac eraill ar draws y de-ddwyrain cyfan.
Rwy'n croesawu bod llawer wedi cael ei wneud yn y gogledd gyda'r cyllid cyfyngedig, o ran ymestyn unedau mân anafiadau yn ein hysbytai cymunedol, canolfan orthopedig newydd sy'n cael ei hadeiladu eleni, ac mae gennym ni'r ysgol feddygol yn y gogledd. Ond mae'n bwysig cydnabod bod rhestrau aros yn cynyddu yn Lloegr nawr a bod angen cyllid digonol ar ein GIG ledled y DU gyfan os yw'n mynd i oroesi. Cyn 2010, o dan Lafur y DU, cynyddodd y cyllid ar gyfer y GIG yn unol ag angen, sef 5.4 y cant bob blwyddyn, gyda rhestrau aros sy'n llawer llai nag y maen nhw ar hyn o bryd. Ond mewn degawd o gyni cyllidol o dan y Torïaid, hyd at y pandemig, gostyngodd hyn yn sylweddol ac roedd yn cynnwys pedair blynedd pan ostyngodd gwariant y pen yn y GIG mewn gwirionedd, gan achosi diffyg twf i fuddsoddiad. Felly, mae methiant i fuddsoddi mewn adeiladau, technoleg a'r gweithlu wedi datblygu, gan achosi problemau hirdymor. Ni allwn adael i'n GIG fethu. A fyddai'r Prif Weinidog yn cytuno bod Llywodraeth y DU wedi bod yn gofyn yn barhaus i'r GIG wneud mwy gyda llai fel ei fod bellach yn gwario llai ar ofal iechyd na gwledydd datblygedig eraill? Diolch i'w degawd o ddirywiad, mae angen i ni wneud rhywbeth nawr i fuddsoddi ynddo ar gyfer y dyfodol.
Mae'r Aelod yn iawn i dynnu sylw at effaith ddiymwad 14 mlynedd o gyni cyllidol. Ni allwch chi osgoi realiti'r dewisiadau hynny gan Lywodraeth y DU i gael gwared ar gyllid—nid yn unig yr effaith y mae wedi ei chael ar y gwasanaeth iechyd gyda meysydd heb eu diogelu, ond yr holl rannau eraill o wariant cyhoeddus sy'n cael effaith uniongyrchol ar alw yn y gwasanaeth iechyd—[Torri ar draws.]
Prif Weinidog, hoffwn wrando ar y cwestiynau a hoffwn wrando ar yr atebion. Mae gormod o Aelodau yn y Siambr sydd eisiau cyfathrebu rhwng ei gilydd, yn hytrach na gwrando ar yr ymatebwyr. A gawn ni roi amser i'r Prif Weinidog ymateb os gwelwch yn dda? Bydd eraill yn cael cyfle i ofyn cwestiynau pan fyddaf yn eu galw.
Diolch. Mae'n sicr yn wir hefyd, yn ystod y cyfnod diwethaf o Lywodraeth Lafur yn y DU, bod gwariant iechyd wedi cynyddu'n sylweddol gyflymach nag y mae wedi ei wneud gydag arweinyddiaeth y Ceidwadwyr ledled y DU. Mae hyn yn arwain at ganlyniadau gwirioneddol i'r dewisiadau y gallwn ni eu gwneud. Er gwaethaf hynny, yn ein cyllideb ddiwethaf, fe wnaethom ni fuddsoddi mwy na 4 y cant o gyllid ychwanegol yma ar gyfer GIG Cymru. Mae hynny yn cymharu â llai nag 1 y cant yn Lloegr. Hyd yn oed gyda gostyngiad o £700 miliwn i werth termau real ein cyllideb, rydym ni'n parhau i flaenoriaethu'r gwasanaeth iechyd gwladol. Rwy'n credu, gyda gwahanol arweinyddiaeth ledled y DU i ddadwneud y 14 mlynedd o anhrefn y Ceidwadwyr, y gallwn ni wneud hyd yn oed mwy dros ein gwasanaeth iechyd gwladol yma yng Nghymru. Mae'r Aelod yn tynnu sylw yn briodol at y ffaith y bydd gwahaniaeth ar lefel y DU yn gwneud gwahaniaeth i'r hyn y gallwn ni ei wneud yma yng Nghymru.