– Senedd Cymru am ar 12 Mehefin 2024.
Eitem 7 heddiw yw dadl y Ceidwadwyr Cymreig, polisi economaidd. Galwaf ar Sam Kurtz i wneud y cynnig.
Cynnig NDM8606 Darren Millar
Cynnig bod y Senedd:
1. Yn croesawu:
a) cynllun clir a chamau dewr Llywodraeth y DU i bennu llwybr er mwyn sicrhau dyfodol diogel;
b) camau Llywodraeth y DU i leihau chwyddiant o 11.1 y cant i 2.3 y cant;
c) y ffaith mai’r DU yw’r economi sy'n tyfu gyflymaf yn y G7;
d) y bargeinion twf rhanbarthol ym mhob rhan o Gymru, sy'n sicrhau mai Cymru yw’r unig genedl Bargeinion Twf yn y DU; ac
e) porthladdoedd rhydd Llywodraeth y DU yng ngogledd a de Cymru, ynghyd â’i pharthau buddsoddi ar gyfer gweithgynhyrchu uwch.
2. Yn gresynu bod gan Gymru, o dan Lywodraeth Cymru:
a) y gyfradd gyflogaeth isaf;
b) y cyflogau canolrifol isaf; ac
c) y gyfradd uchaf o anweithgarwch economaidd yn y DU.
3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i greu amgylchedd i fusnesau fuddsoddi a chreu swyddi drwy:
a) sicrhau ffyniant bröydd ledled Cymru gyda lefelau cymesur o fuddsoddiad ym mhob rhan o’r wlad;
b) adfer rhyddhad ardrethi busnes i 75 y cant ar gyfer y sector manwerthu, lletygarwch a hamdden i gefnogi busnesau a diogelu swyddi;
c) cael gwared ar ardrethi busnes i fusnesau bach;
d) galluogi microfusnesau i dyfu gyda chynllun sbardun gan dalu yswiriant gwladol ar ran y cyflogwr ar gyfer dau gyflogai am ddwy flynedd;
e) cyflwyno 150,000 o brentisiaethau newydd yn nhymor y Senedd nesaf; ac
f) creu cynllun i roi hwb i fusnesau lleol, a'i ariannu'n llawn, er mwyn cefnogi egin fusnesau.
Diolch, Ddirprwy Lywydd. Rwy'n croesawu'r cyfle i agor y ddadl hon a gwneud y cynnig yn enw Darren Millar. Mae'n bleser siarad am economi Cymru y prynhawn yma. Mae Cymru'n genedl fenter, ac yn gartref i gymaint o arloesedd mewn cymaint o sectorau. O amaethyddiaeth i arloesedd gofal iechyd, mae entrepreneuriaid a busnesau ym mhobman yn rhoi Cymru ar y map. O Valero ac RWE i Velfrey Vineyard a Liz's Bakery yng Ngorllewin Caerfyrddin a De Sir Benfro, mae gan Gymru ehangder o fusnesau anhygoel, amrywiol a gwych ym mhob un o'n hetholaethau.
Ond nid yw bywyd bob amser wedi bod yn hawdd i'n harloeswyr. Roedd pandemig COVID-19 yn gwneud bywyd yn anodd i bob un ohonom ac fe gafodd ein busnesau eu taro'n galed gan y cyfyngiadau a roddwyd ar waith. Diolch byth, drwy'r camau a gymerwyd ar ran y wlad gan Ganghellor y Trysorlys ar y pryd, Rishi Sunak, cafodd dros 11 miliwn o swyddi eu hachub—11 miliwn o swyddi. Mae'n ffaith bod cynllun ffyrlo Llywodraeth y DU wedi achub swyddi a diogelu bywoliaeth pobl yn ystod y cyfnod anodd hwn. Fodd bynnag, ni ddaeth heb ei bris. Ochr yn ochr â'r rhyfel yn Wcráin, a arweiniodd at gynnydd mewn prisiau bwyd a thanwydd yn fyd-eang, roedd y DU angen cynllun diogel i sefydlogi ein cyllid a gostwng chwyddiant, ac rwy'n credu bod Llywodraeth y DU wedi cyflawni hynny.
Wrth gwrs, mae chwyddiant uchel wedi bod yn broblem fyd-eang dros y blynyddoedd diwethaf, gyda gwledydd fel yr Almaen, Canada a'r Eidal i gyd yn profi chwyddiant uchel. Ac fe wyddom mai teuluoedd sy'n gweithio sy'n cael eu taro galetaf gan chwyddiant, a dyna pam fod y gwaith a wnaeth Llywodraeth y DU i ostwng chwyddiant o 11.1 y cant i 2.3 y cant wedi bod mor bwysig. Mae hyn yn newyddion da. Mae'r cynllun yn gweithio. Roedd chwyddiant is yn golygu y gallai cyflogau ddal i fyny, ac yn y pen draw, y gall cyfraddau llog ostwng, gan roi mwy o arian ym mhocedi pobl weithgar ar hyd a lled Cymru.
Mae twf cyflogau yn y DU wedi bod yn fwy na chwyddiant yn gyson ers canol 2023. Yn benodol, yn ystod chwarter olaf 2023, gwelwyd cynnydd o 6.2 y cant mewn cyflogau heb gyfrif taliadau bonws, o'i gymharu â'r un cyfnod yn 2022. Parhaodd y duedd hon i mewn i ddechrau 2024, gyda thwf cyflogau'n parhau'n gryf. Rydym hefyd yn croesawu'r ffaith mai'r DU yw'r economi sy'n tyfu gyflymaf yn y G7 bellach. Mae hyn eto'n dangos bod y cynllun yn gweithio, a bod Cymru'n elwa'n uniongyrchol.
Bydd pob Aelod yn croesawu'r bargeinion twf rhanbarthol a welsom. Yn wir, Cymru yw'r unig wlad yn y DU y gellir ei galw'n genedl bargen twf, gyda bargeinion twf yn cyrraedd pob cornel o'n gwlad. Yn 2023, cyhoeddwyd dau barth buddsoddi newydd gwerth £160 miliwn yng ngogledd-ddwyrain a de-ddwyrain Cymru, ac wrth gwrs cafwyd y cyhoeddiad am y porthladd rhydd Celtaidd a phorthladd rhydd Ynys Môn. Dyrannwyd £319 miliwn pellach mewn cyllid ffyniant bro ar gyfer prosiectau ledled Cymru, gan weithio'n uniongyrchol gydag awdurdodau lleol i gyflawni prosiectau, a dod a'r pŵer a'r penderfyniadau yn nes at y bobl sy'n elwa ohonynt—mesurau economaidd cadarnhaol a fydd yn sicrhau canlyniadau cadarnhaol ar hyd a lled Cymru.
Ac eto, er gwaethaf yr holl waith cadarnhaol sydd wedi'i wneud gan Lywodraeth y DU, nid yw Cymru wedi gallu cyrraedd ei photensial oherwydd ein bod wedi cael 25 mlynedd o gamreoli economaidd gan weinyddiaethau Llafur Cymru olynol yma ym Mae Caerdydd. Nid oes ond angen inni edrych ar ystadegau Llywodraeth Cymru ei hun i weld data sy'n dangos bod economi Cymru'n tangyflawni o gymharu â'r DU gyfan. O 12 ardal economaidd y DU, mae Cymru'n olaf ond un.
Ond beth mae'r ystadegau hyn yn ei olygu i bobl Cymru? Nid rhifau haniaethol yn unig yw'r rhain—mae ganddynt ganlyniadau yn y byd go iawn i weithwyr a'u teuluoedd. Er enghraifft, Cymru sydd â'r gyfradd gyflogaeth isaf yn y DU. Ar ben hynny, os yw rhywun yn gyflogedig, gallant ddisgwyl ennill llai na'u cydweithwyr yn y DU. Pam fod y Llywodraeth hon mor barod i dderbyn bod Cymru ar waelod pob tabl cynghrair unwaith eto? Rhaid bod hyn yn ein cythruddo ni i gyd.
Ond nid oes rhaid iddi fod felly. Gall Cymru fod yn well, a gall Cymru wneud yn well. Dyma pam mae'r cynnig yn galw ar Lywodraeth Cymru i greu amgylchedd i fusnesau fuddsoddi a chreu swyddi, helpu busnesau i wneud yr hyn y maent yn ei wneud orau—creu swyddi, creu cyfoeth a chreu twf. Ni all llywodraethau greu swyddi, ond gallant greu'r amgylchedd cywir i swyddi gael eu creu. Dyna pam ein bod yn galw ar Lywodraeth Cymru i adfer rhyddhad ardrethi busnes i 75 y cant, i ddiddymu ardrethi busnes i fusnesau bach a mabwysiadu ein cynllun sbardun ar gyfer microfusnesau, gan dalu yswiriant gwladol ar ran y cyflogwr ar gyfer dau gyflogai am ddwy flynedd.
Er y bydd y mesurau hyn o fudd mawr i gwmnïau yn y tymor byr, rhaid inni feddwl yn hirdymor i fanteisio i'r eithaf ar y cyfleoedd gwych mewn ynni niwclear, gwynt, gwynt arnofiol ar y môr a phrosiectau seilwaith eraill. Dyna pam ein bod hefyd yn galw ar Lywodraeth Cymru i gefnogi 150,000 o brentisiaethau newydd dros dymor nesaf y Senedd. Y rhain fydd swyddi'r dyfodol, gan sicrhau gyrfaoedd i'n pobl ifanc a rhoi'r gallu inni gyflawni prosiectau a fydd o fudd i Gymru, a gweddill y DU, am ddegawdau i ddod.
Ddirprwy Lywydd, mae Cymru yn genedl o arloeswyr gwych. Mae ein pobl yn llawn angerdd, gwaith caled ac ymrwymiad, ac felly mae'n rhaid i Lywodraeth Cymru wneud mwy i ddarparu amodau i sicrhau twf ar gyfer y dyfodol. Mae'n rhaid inni edrych ar arloesedd technolegol ar draws y byd, manteisio ar gyfleoedd ar garreg ein drws, a datblygu tirwedd sy'n annog entrepreneuriaeth ledled y wlad. Fe allwn greu'r amodau i entrepreneuriaid ffynnu, ac mae'n rhaid inni wneud hynny. Ac ar y nodyn hwnnw, rwy'n annog yr Aelodau i gefnogi'r cynnig y prynhawn yma. Diolch, Ddirprwy Lywydd.
Rwyf wedi dethol y pum gwelliant i'r cynnig. Os derbynnir gwelliant 1, caiff gwelliannau 2, 3 a 4 eu dad-ddethol. Galwaf ar Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a'r Gymraeg i gynnig yn ffurfiol welliant 1.
Gwelliant 1—Jane Hutt
Dileu popeth a rhoi yn ei le:
Cynnig bod y Senedd:
1. Yn croesawu:
a) cynllun clir Llywodraeth Cymru a amlinellir yn y ddogfen Cenhadaeth Economaidd: Blaenoriaethau ar gyfer Economi Gryfach;
b) y ffaith bod cyflogau wedi codi’n gyflymach yng Nghymru nag yn Lloegr ers 2011;
c) y ffaith bod gwaith rhanbarthol a phartneriaethau mor gadarn;
d) buddsoddiad gwerth dros £143 miliwn gan Lywodraeth Cymru mewn prentisiaethau o safon uchel;
e) y ffaith bod Gwarant i Bobl Ifanc Llywodraeth Cymru wedi cefnogi dros 27,000 o bobl ifanc;
f) y buddsoddiad sydd wedi parhau drwy Busnes Cymru a Banc Datblygu Cymru;
g) darparu gwerth dros £140m mewn rhyddhad ardrethi i fusnesau bach sy’n cefnogi trethdalwyr oddeutu 70,000 eiddo ledled Cymru bob blwyddyn; a
h) y cyfraniad o £78m sy’n golygu bod busnesau manwerthu, hamdden a lletygarwch wedi derbyn cymorth bob blwyddyn am y pum mlynedd diwethaf gyda’u biliau ardrethi annomestig.
2. Yn gresynu at y canlynol o dan Lywodraeth y DU:
a) diffyg cynllun economaidd a diwydiannol clir heb unrhyw gynlluniau gwario manwl ar ôl 2024-25, gan arwain at 14 o flynyddoedd o anrhefn;
b) bod prisiau’n parhau i godi ar gyfradd uwch, sy’n golygu mai dyma’r cynnydd mwyaf ers annibyniaeth Banc Lloegr, a’r ffaith eu bod 21.3 y cant yn uwch ym mis Ebrill nag oeddent dair blynedd cyn hynny;
c) bod gan Lywodraeth Cymru Gyllideb yn 2024-25 sy’n £3 biliwn yn is na chyllideb a fyddai wedi cynyddu yn unol â Chynnyrch Domestig Gros ers 2010; a
d) bod gan Gymru bron i £1.3 biliwn yn llai o gyllid mewn termau real yn sgil methiant Llywodraeth y DU i anrhydeddu ei hymrwymiadau a chyflwyno cyllid llawn yn lle cyllid yr UE.
3. Yn galw ar Lywodraeth bresennol y DU i gydnabod:
a) mai’r newidiadau i’r gyfradd sylfaenol gan Fanc Lloegr a phrisiau ynni is yw’r prif resymau dros y gostyngiad diweddar mewn chwyddiant;
b) bod y Swyddfa Ystadegau Gwladol wedi cadarnhau bod problemau gyda’r arolwg o’r llafurlu, sy’n parhau i effeithio ar ansawdd data o ran ystadegau’r farchnad lafur ac nad ydynt yn cyflwyno darlun cywir o’r sefyllfa yng Nghymru;
c) y niwed sylweddol a wnaed i’r Economi yn sgil mini-gyllideb drychinebus Liz Truss, sydd wedi golygu bod pobl a theuluoedd yng Nghymru yn talu morgeisi a biliau uwch; a
d) y cafodd y Gronfa Ffyniant Bro a’r Gronfa Ffyniant Gyffredin eu datblygu heb lawer o waith cynllunio ac ymgynghori ac maent wedi tanseilio datganoli.
Yn ffurfiol.
Galwaf ar Luke Fletcher i gynnig gwelliannau 2, 3, 4 a 5, a gyflwynwyd yn enw Heledd Fychan.
Gwelliant 2—Heledd Fychan
Dileu pwynt 1 a rhoi yn ei le:
Yn gresynu:
a) y difrod economaidd a wnaed i Gymru yn sgil 14 mlynedd o gyni o dan Lywodraethau Ceidwadol y DU;
b) y niwed economaidd pellach a achoswyd gan Brexit caled a mini-gyllideb honedig Liz Truss;
c) nad yw Cymru'n derbyn cyllid teg gan San Steffan, ac nad yw fformiwla Barnett yn darparu setliad ariannu sy'n adlewyrchu anghenion economaidd, ariannol neu gymdeithasol Cymru;
d) bod Llywodraethau Ceidwadol y DU yn amlwg wedi methu â chodi'r gwastad o ran Cymru, a bod y Gronfa Ffyniant Gyffredin a'r Gronfa Ffyniant Bro wedi cael eu defnyddio i ariannu prosiectau tymor byr dros benaethiaid Llywodraeth Cymru a'r Senedd; ac
e) y cyfraddau uchel o dlodi, yn enwedig tlodi plant, sydd wedi deillio yn sgil dull y Ceidwadwyr o reoli economi'r DU.
Gwelliant 4—Heledd Fychan
Dileu pwynt 3 a rhoi yn ei le:
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i greu amgylchedd i fusnesau fuddsoddi a chreu swyddi drwy:
a) sicrhau ffyniant bröydd ledled Cymru gyda lefelau cymesur o fuddsoddiad ym mhob rhan o’r wlad;
b) adfer rhyddhad ardrethi busnes i 75 y cant ar gyfer y sector manwerthu, lletygarwch a hamdden i gefnogi busnesau a diogelu swyddi;
c) gosod targedau economaidd clir a mesuradwy;
d) darparu gwell cynnig cymorth busnes a gwell cymorth cynllunio olyniaeth ar gyfer busnesau bach a chanolig domestig;
e) cyflwyno ymchwil ar drethi newydd posibl er budd busnesau;
f) darparu 150,000 o brentisiaethau newydd dros dymor nesaf y Senedd; a
g) creu cynllun i roi hwb i fusnesau lleol, a'i ariannu'n llawn, er mwyn cefnogi egin fusnesau.
Gwelliant 5—Heledd Fychan
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn galw ar Lywodraeth y DU sy'n dod i mewn i weithredu i sicrhau dyfodol economaidd Cymru drwy:
a) ceisio sicrhau bod y DU yn ailymuno â marchnad sengl ac undeb tollau'r UE, a hynny ar frys;
b) cael gwared ar fformiwla Barnett, a chyflwyno setliad cyllido teg newydd i Gymru sy'n adlewyrchu anghenion Cymru yn gywir; a
c) sicrhau bod cyfran deg o gyllid allforio'r DU yn cael ei ddarparu i Gymru, a bod cyllid i Gymru a gollwyd o ganlyniad i Brexit yn cael ei adfer.
Diolch, Ddirprwy Lywydd. Mae pa bynnag enw da hunanhonedig a oedd yn weddill gan y Torïaid o ran cymhwysedd economaidd yn deilchion ar ôl 14 mlynedd o gyni sydd wedi ehangu anghydraddoldebau cymdeithasol, ar ôl Brexit caled sydd wedi crebachu masnach mewn nwyddau dros 13 y cant, ac wrth gwrs, ar ôl mini-gyllideb drychinebus Truss, a gododd gyfraddau morgeisi i'r entrychion a dileu £30 biliwn o bwrs y wlad.
Ac yma yng Nghymru, rydym wedi ysgwyddo baich y diofalwch hwnnw. Cawsom ein hamddifadu o'r £4 biliwn sy'n ddyledus i ni o HS2, tra bo'r agenda ffyniant bro honedig wedi ein hamddifadu o bron i £1.3 biliwn. Mae hyd yn oed y cyflawniadau y mae'r Ceidwadwyr yn clochdar amdanynt yn y cynnig hwn yn dymchwel wrth graffu arnynt. Hynny yw, do, mae chwyddiant wedi lleihau o'i lefelau uchaf syfrdanol, ond mae'n anodd gweld pa glod, os o gwbl, y gall Llywodraeth y DU ei hawlio am hynny, o ystyried mai Banc Lloegr sy'n gyfrifol am reoli chwyddiant. Ac er bod chwyddiant yn gostwng, nid yw'r prisiau'n dilyn. [Torri ar draws.] Ac yn fwyaf damniol oll—na, nid wyf am dderbyn ymyriad—ac yn fwyaf damniol oll, Senedd fwyaf diweddar y DU fydd â'r anrhydedd o fod y gyntaf mewn hanes modern i fod wedi llywodraethu dros gwymp mewn incwm gwario aelwydydd a safonau byw. Mae'r Torïaid wedi creu anialwch o'r economi, ac mae ganddynt yr hyfdra i'w alw'n ffyniant. Am sarhad ar y miliynau o bobl sydd wedi'i chael hi mor anodd oddi tanynt.
Ond beth a welwn gan y Blaid Lafur? Plaid sy'n ofni ei chysgod ei hun, sydd â mwy o ddiddordeb mewn chwynnu'r chwith na chyflwyno gweledigaeth flaengar ar gyfer adnewyddu'r economi. Ymddengys hefyd fod cangen Cymru yn efelychu'r Torïaid o ran camarwain pleidleiswyr. Mae eu haddewidion etholiadol ar gyfer Cymru yn cynnwys ymrwymiad i sicrhau sefydlogrwydd a thwf economaidd. Mae hynny, yn gyfleus ddigon, yn anwybyddu'r ffaith bod datblygu economaidd wedi bod yn gyfrifoldeb i Lywodraeth Lafur Cymru ers 1999, ac yn ystod y cyfnod hwnnw, mae Cymru wedi bod yn gyson ymhlith y gwledydd a’r rhanbarthau sy’n perfformio waethaf yn y DU o ran gwerth ychwanegol gros. A Chymru sydd â’r unig economi yn y DU sy’n parhau i fod yn llai na’i lefel cyn y pandemig, a rhagwelir y bydd cynnyrch domestig gros y pen £1,100 yn is yn 2024 hefyd, o gymharu â'r lefelau cyn y pandemig.
Nawr, Ddirprwy Lywydd, ni fydd yn hawdd trwsio ein system economaidd doredig, ac fe fydd yn gymhleth, ond ym Mhlaid Cymru, credwn fod yn rhaid i'r broses gael ei llywio gan egwyddor sylfaenol tegwch. Mae’n golygu ailymuno â marchnad sengl yr UE i alluogi ein busnesau domestig i ffynnu ar y llwyfan rhyngwladol. Mae’n golygu mynnu cyfran uwch o lawer i'n hallforwyr o gyllid allforio’r DU na’r 1 y cant a gânt. Yn bwysicaf oll, mae’n golygu cael gwared ar fformiwla Barnett, sydd wedi dyddio, a defnyddio model ariannu sy’n darparu’n briodol ar gyfer ein hanghenion cymdeithasol. Ac mewn synnwyr o degwch o'r fath, rhaid i hynny hefyd gyd-fynd yn ei dro ag uchelgais rhagweithiol ar ran Llywodraeth Cymru. Mae hyn yn golygu gosod a chadw at dargedau diriaethol i gau’r bwlch cynhyrchiant rhwng Cymru a gweddill y DU. Mae'n golygu diwygio erfyn polisi di-awch yr ardrethi annomestig. Mae’n golygu darparu gwell cynllunio ar gyfer olyniaeth er mwyn cadw manteision entrepreneuriaeth yma yng Nghymru. Ac mae hefyd yn golygu dull datblygu economaidd a arweinir gan genhadaeth.
Ddirprwy Lywydd, mae'n gwbl amlwg yn yr etholiad hwn nad oes gan y Torïaid na Llafur ronyn o ddiddordeb mewn arwain sgwrs aeddfed ynglŷn â chyflwr ein heconomi. Wel, ni fydd Plaid Cymru byth yn cilio rhag cyflwyno’r atebion beiddgar i greu cenedl sy’n uchelgeisiol, yn decach ac yn llewyrchus.
Roedd datganoli i fod i adfywio'r economi a rhyddhau cyfleoedd bywyd pobl Cymru. Fodd bynnag, er y gall Cymru fod yn genedl ystwyth gydag economi ffyniannus a chyflogau uchel, mae ei hysbryd entrepreneuraidd wedi’i gadw ar dennyn, ac yn anffodus, nid yw hyn wedi digwydd.
Mae chwarter canrif o Lywodraeth Lafur Cymru wedi gadael ein heconomi yn tangyflawni a phobl Cymru ar eu colled o ganlyniad. Yn hytrach nag ildio i seirenau Llafur a Phlaid Cymru i gymryd camau a fyddai wedi hybu chwyddiant ac wedi cynhyrchu toriadau mwy yn y dyfodol, gan wneud pawb yn waeth eu byd, mae Llywodraeth Geidwadol y DU wedi cymryd y camau angenrheidiol i dorri chwyddiant o dros 11 y cant i bron i 2 y cant uwchlaw’r cyfraddau llog a osodwyd yn annibynnol gan Fanc Lloegr, gyda chyflogau real yn tyfu am yr unfed mis ar ddeg yn olynol, bron i 4 miliwn yn fwy o bobl mewn gwaith, a diweithdra ymhlith pobl ifanc i lawr 370,000 ers 2010, ac anweithgarwch economaidd yn is nag ar unrhyw adeg o dan Lywodraeth Lafur ddiwethaf y DU. Fodd bynnag, mae pwysau marw Llywodraeth Lafur Cymru wedi gadael Cymru â’r gyfradd gyflogaeth isaf, y pecynnau cyflog isaf, y cyfanswm allbwn isaf y pen o gynnyrch domestig gros, a’r cyfraddau anweithgarwch economaidd uchaf yn y DU—er bod Llywodraeth Lafur Cymru wedi cael biliynau mewn cyllid dros dro gyda'r bwriad o gau'r bwlch ffyniant yng Nghymru a rhwng Cymru a gweddill y DU.
Wrth honni nad ydynt wedi cael digon o arian ers hynny, mae'r creaduriaid druan yn ei chael hi'n anodd deall nad yw Cymru a Llywodraeth Lafur Cymru yr un peth. Byddent yn gywir, wrth gwrs, pe na bai Cymru wedi cael dros £2.5 biliwn o gyllid ffyniant bro'r DU drwy nifer o wahanol gynlluniau gyda’r nod o ledaenu ffyniant a rhoi mwy o lais i gymunedau ynglŷn â sut y caiff yr arian ei wario, gan gynnwys dros £440 miliwn drwy dri chylch o gyllid ffyniant bro ac oddeutu £585 miliwn o gyllid ffyniant cyffredin y DU. Byddent hefyd yn gywir pe na bai Llywodraeth y DU wedi buddsoddi £2 biliwn yn Network Rail a £340 miliwn ar gyfer gwelliannau i reilffyrdd Cymru rhwng 2019 a 2024, pe na bai Network Rail wedi cyhoeddi ei gynllun pum mlynedd gwerth £5.2 biliwn ar gyfer rheilffyrdd rhanbarth Cymru a'r gorllewin, sy’n cynnwys buddsoddiad o £1.9 biliwn yn llwybr Cymru a’r gororau, a phe na bai Llywodraeth y DU wedi cyhoeddi cynlluniau i uwchraddio'r rheilffyrdd yng Nghymru, gan gynnwys £1 biliwn i drydaneiddio prif linell reilffordd gogledd Cymru a £700,000 i Trafnidiaeth Cymru wneud gwaith archwilio ar gyfer uwchraddio gorsafoedd Shotton a Chaer, a chynyddu capasiti prif linell reilffordd gogledd Cymru.
Er mwyn tynnu sylw oddi wrth eu methiannau dybryd eu hunain, maent yn sôn am gyni fel polisi a ddewiswyd gan Lywodraeth Geidwadol y DU, er mai Blair a Brown oedd penseiri cyni. Pan agorodd Gordon Brown bencadlys banc buddsoddi Lehman Brothers yn Llundain yn 2004, dywedodd wrthynt:
'Hoffwn dalu teyrnged i'ch cyfraniad chi a'ch cwmni i ffyniant Prydain.'
Ar 15 Medi 2008, aeth banc Lehman Brothers i'r wal: y foment pan drodd straen ariannol byd-eang yn argyfwng rhyngwladol llwyr.
Flynyddoedd yn gynt, roedd y Gronfa Ariannol Ryngwladol wedi dweud bod system fancio’r DU yn fwy agored i ddyled eilaidd nag unrhyw le arall yn y byd.
Dywedodd y Swyddfa Archwilio Genedlaethol fod Trysorlys Mr Brown wedi cael ei rybuddio dair blynedd cyn y bu bron i Northern Rock fynd i'r wal fod angen sefydlu cynlluniau brys i ymdrin ag argyfwng bancio, ond ni wnaeth unrhyw beth yn ei gylch. Yn dilyn y cwymp ariannol, adroddodd yr awdurdod gwasanaethau ariannol fod y Llywodraeth Lafur wedi rhoi pwyslais gwleidyddol parhaus yn lle hynny ar yr angen iddynt ddefnyddio dull ysgafn o reoleiddio. Wel, y bobl a dalodd y pris. Erbyn 2010, diffyg cyllideb y DU oedd y gwaethaf yn y G20, y tu ôl i Iwerddon a Gwlad Groeg yn unig yn yr UE.
Os oes gennych ddiffyg mawr, mae rhywun yn berchen arnoch ac yn gosod y telerau, a byddent wedi gorfodi mwy o doriadau pe baem wedi dilyn y polisïau economaidd a hyrwyddid gan Lafur a Phlaid Cymru, fel a ddigwyddodd yn Iwerddon a Gwlad Groeg, ac fel a ddigwyddodd pan orfodwyd Llywodraeth Lafur y DU i fenthyg gan y Gronfa Ariannol Ryngwladol ym 1976. Rwy'n ddigon hen i gofio hynny; collodd fy nhad ei swydd ychydig flynyddoedd yn ddiweddarach. Maent yn ceisio taflu'r bai ar gyfnod byr Liz Truss wrth y llyw, gan osgoi'r realiti fod y bunt, cost benthyca a'r marchnadoedd wedi gwella cyn gynted ag y gwnaeth Rishi Sunak a Jeremy Hunt adfer sefydlogrwydd. Dim ond rhywun hurt iawn a fyddai’n honni—fel y gwnânt hwy—fod yr argyfwng costau byw presennol wedi’i greu yn San Steffan, ac mae gan 33 o wledydd Ewropeaidd, ardal yr ewro—
Mark, mae angen ichi ddirwyn i ben, os gwelwch yn dda.
Mae'n bryd dod â'r anhrefn i ben. Mae economi’r Deyrnas Unedig wedi cael ei chaethiwo gan y Torïaid. Pedair blynedd ar ddeg hir o gyni, dan lywyddiaeth pum Prif Weinidog Torïaidd a saith Canghellor Torïaidd. Ond yr un peth sydd ganddynt oll yn gyffredin yw bod y mwyafrif wedi dod yn waeth eu byd oddi tanynt. Mae hynny'n ffaith. Yn ôl y Swyddfa Ystadegau Gwladol, methodd y DU dyfu o gwbl ym mis Ebrill, ac rydym ar waelod tabl y G8 o ran twf. Mae hynny'n ffaith. Heddiw, rydym yn dysgu o gyfweliad gwleidyddol ar ITV, yr un y gadawodd Rishi Sunak ddigwyddiadau D-day ar ei gyfer, fod Prif Weinidog y DU, sy'n werth £651 miliwn ei hun, yn teimlo poen ariannol teuluoedd cyffredin oherwydd, er nad yw erioed wedi defnyddio peiriant twll yn y wal, fe aeth heb deledu Sky unwaith pan oedd yn blentyn, ac mae hynny y tu hwnt i ddychan. Ac wrth i glefydau Fictoraidd erchyll sy'n gysylltiedig â thlodi—y llechau a chamfaethiad—ddechrau ymddangos unwaith eto yn ein meddygfeydd a'n hysbytai—. Am waddol—mae'r Prif Weinidog Torïaidd tila hwn yn gwneud popeth yn ei allu i wneud i'w ragflaenydd, Liz Truss, edrych fel pe bai'n wleidyddol gymwys.
Felly, rwyf am edrych ar ragor o ffeithiau. Mae cyflogau wedi codi'n gyflymach yng Nghymru nag yn Lloegr ers 2011. Mae Llywodraeth Cymru wedi buddsoddi mwy na £143 miliwn. Ac er y mesurau hyn, nawr yn 2024, mae gan Lywodraeth Cymru gyllideb sydd £3 biliwn yn is na phe bai wedi tyfu yn unol â chynnyrch domestig gros ers 2010. Yn wir, mae gan Gymru bron i £1.3 biliwn yn llai o gyllid mewn termau real oherwydd methiant Llywodraeth y DU i gadw at ei hymrwymiadau a darparu'r cyllid llawn yn lle arian yr UE. Nid yw wedi gwneud hynny, ac ers hynny, mae wedi chwalu ymddiriedaeth ei dinasyddion.
Gyda’r niwed economaidd pellach a achosir gan Brexit caled a mini-gyllideb, fe y'i gelwir, Liz Truss, mae’n ffaith drist nad yw Cymru'n cael cyllid teg gan San Steffan. Nid yw fformiwla Barnett yn darparu setliad ariannu sy’n adlewyrchu anghenion economaidd, ariannol neu gymdeithasol Cymru.
Mae Llywodraethau Ceidwadol y DU wedi—
Rhianon, a wnewch chi dderbyn ymyriad?
Mae'n ddrwg gennyf, mae gennyf ormod i fynd drwyddo, ac rwy'n siŵr y byddaf yn ateb unrhyw ymyriad yn yr hyn sydd gennyf i'w ddweud.
Mae Llywodraeth y DU wedi mynd ati'n fwriadol i ddinistrio rhwyd les y DU, a ddylai fod yno i ofalu am anghenion y rhai mwyaf agored i niwed, ac a roddodd derfyn ar deyrnasiad creulon y tloty cosbol—
Rhianon, esgusodwch fi am eiliad. Mae angen i'r Aelodau yn y Siambr fod yn dawel er mwyn i mi ac eraill allu clywed y cyfraniad gan yr Aelod. Diolch. Rhianon, parhewch.
Diolch. Cafodd teyrnasiad creulon y model tloty cosbol ei erydu a’i golli a’i ddileu oherwydd y rhwyd les gymdeithasol hon, ac mae dinistrio’r rhwyd les honno wedi sicrhau cyfraddau uchel o dlodi i ni heddiw, yn enwedig tlodi plant yng Nghymru, wrth i'r Ceidwadwyr fynd ati'n uniongyrchol i'w datgymalu. Bydd y creithiau hyn ac effeithiau tlodi difrifol yn aros gyda phob un ohonom am y dyfodol rhagweladwy, ac rwy’n dal i deimlo cywilydd ac yn arswydo bod rapporteur y Cenhedloedd Unedig ar gyfer pobl anabl a phlant wedi beirniadu Llywodraeth y DU yn hallt ar ei dewisiadau anflaengar, sydd wedi dyfnhau anghydraddoldeb yn ddifrifol ledled y DU, ac mae hynny'n ffaith. Mae lefelau prisiau bwyd yn feintiol uwch na thair blynedd yn ôl yn unig, ac yn dal i godi, yn yr un modd â biliau’r cartref ar gyfer cyfleustodau a rhent a morgeisi a dyled, TAW ar ddillad plant a nwyddau mislif, gyda chyflogau gwirioneddol prin yn uwch na'r hyn oeddent yn 2010. Ac yn wir, mae dadansoddiad gan y Resolution Foundation yn dangos bod incwm gwario gwirioneddol aelwydydd y pen yn y DU bellach yn is na hyd yn oed lefelau cyn y pandemig erbyn diwedd y llynedd. Ac mae hyn wedi arwain at orfodi Ymddiriedolaeth Trussell i ddarparu'r nifer uchaf erioed o barseli bwyd a Chyngor ar Bopeth i ddarparu cyngor ar ddyledion i'r niferoedd uchaf erioed o bobl. Ni yw'r genedl sy’n dibynnu ar fanciau bwyd y DU wrth i Lywodraeth y DU ymwrthod â’i phrif swyddogaeth, sef diogelu ei phobl. Mae aelwydydd a busnesau'n dal i wynebu’r cyfraddau llog uchaf ers dros 16 mlynedd, gan rwystro buddsoddiad busnes sydd ei angen yn daer a rhoi mwy o bwysau ar gyllid aelwydydd.
Felly, yn anffodus, i gloi, mae’n rhaid imi ddweud wrth Darren Millar fod hyd yn oed Ysgrifennydd amddiffyn y Torïaid, Grant Shapps, wedi rhoi’r gorau i’r esgus. Heddiw, fe rybuddiodd y pleidleiswyr rhag pleidleisio dros uwchfwyafrif. Yn wir, Ddirprwy Lywydd, mae'n bryd dod â'r anhrefn i ben. Mae’n bryd dechrau ailadeiladu, gan adeiladu economi Prydain ochr yn ochr â’r partneriaid yn y DU a fydd, law yn llaw ac yn unol â Llywodraeth Cymru, yn sicrhau ein bod yn gryfach gyda’n gilydd fel cenedl, fel y gallwn gyda’n gilydd, fel Teyrnas Unedig, adeiladu dyfodol gwell, cryfach a gwyrddach i holl bobl Cymru. Diolch, Ddirprwy Lywydd.
Janet Finch-Saunders. O, mae hi wedi mynd all-lein. Symudwn ymlaen. Carolyn Thomas.
Diolch. Yn y 14 mlynedd diwethaf, rydym wedi gweld Llywodraeth Dorïaidd y DU yn gwneud toriadau milain mewn termau real i flociau adeiladu twf economaidd, gan ddatgymalu gwasanaethau cyhoeddus—iechyd, gofal cymdeithasol, addysg, tai—cyflogau a chyllidebau awdurdodau lleol. Arswydais wrth weld Rishi Sunak yn dweud ei fod yn bwriadu ariannu gostyngiad mewn treth drwy doriadau pellach i wasanaethau cyhoeddus. Ni all y DU ymdopi â rhagor o gyni.
Ni allwn weld rhagor o doriadau i les ychwaith. Mae'r rhain yn cael eu defnyddio fel ychwanegiadau i bobl sy'n gweithio. Mae'r newid o gredydau treth i gredyd cynhwysol wedi bod yn ddinistriol i lawer. Rydym wedi gweld y Torïaid yn newynu Cymru o’r cyllid sydd ei angen arni, boed hynny drwy gyllidebau cyni olynol neu drwy fynd ati'n fwriadol i warafun gwerth biliynau o bunnoedd o arian HS2, cyllid ôl-UE, ac arian a ddarganfuwyd i lawr cefnau soffas o’r enw ‘arian a ddarganfuwyd o fewn cyllidebau presennol’, gyda diffyg tryloywder i’n Gweinidog cyllid.
Roedd Cymru yn fuddiolwyr net o gyllid Ewropeaidd ac nid yw’r un lefel o gyllid wedi’i darparu gan Lywodraeth y DU. Mae’r cyllid ar gyfer rhaglenni cenedlaethol megis prentisiaethau, rhaglenni ymchwil prifysgolion, seilwaith cyhoeddus megis priffyrdd, trafnidiaeth gymunedol, band eang ac arloesedd, wedi’i golli ac nid oes cyllid wedi'i ddarparu yn ei le. Rydym wedi gweld y Llywodraeth yn cynllwynio i fynd ag arian o bocedi pobl drwy ffrwydrad morgeisi a chwyddiant Liz Truss, ac o dan y Ceidwadwyr, mae’r cyfoethogion wedi mynd yn gyfoethocach a’r tlodion yn dlotach. Am y tro cyntaf ers yr ail ryfel byd, mae disgwyliad oes i fenywod wedi gostwng, a bydd 99 y cant o’r boblogaeth yn dlotach na’r genhedlaeth o’u blaenau.
Mae cyfalafiaeth y farchnad wedi arwain at gyfoeth enfawr ac amddifadedd enfawr. Rydym wedi gweld hyn gyda gwerthu'r Post Brenhinol, gan danbrisio ei asedau wrth gyhoeddi ei gyfranddaliadau, a seiffno'r fraich broffidiol a oedd yn cefnogi’r stamp un pris cyffredinol, sef rhan gwerth cymdeithasol falch, ar un adeg, y Post Brenhinol 500 mlwydd oed. Nawr, bydd yn cael ei werthu i biliwnydd a fydd am werthu rhagor o'i asedau a—[Torri ar draws.]—cyflogi staff asiantaeth—
A wnaiff yr Aelod—. A wnaiff yr Aelod ymatal rhag gweiddi, os gwelwch yn dda?
—mewn ras i'r gwaelod. Dyma enghraifft dda o sut nad yw cyfalafiaeth y farchnad yn gweithio. Roedd unwaith yn swydd dda, yn swydd i ymfalchïo ynddi, ac yn ased cymunedol. Nawr, mae'n rhaid i weithwyr post gerdded 13 milltir y dydd a dywedir wrthynt o hyd am adael post ar ôl. Mae pobl wedi blino’n lân gan fod y Torïaid wedi gwthio cynhyrchiant ac effeithlonrwydd i’r eithaf—gorfod gweithio shifftiau 12 awr, toriadau i les, toriadau i gymorth cyllid cyhoeddus. Sut y gallwch ddweud bod yr economi'n tyfu ac esgus bod popeth yn iawn am fod chwyddiant yn gostwng pan fo gennym bobl mewn tlodi mewn gwaith a miloedd yn dibynnu ar fanciau bwyd? Nid yw'n iawn, ac mae'n mynd i gymryd llawer i newid hynny.
Rydych chi'n hawlio cyfrifoldeb am y porthladd rhydd yn Ynys Môn. Wel, negodwyd hynny ar y cyd â Llywodraeth Cymru, a fynnodd, yn gwbl briodol, yr un faint o gyllid ag yr oedd porthladdoedd rhydd yn Lloegr yn ei gael, ynghyd â sicrwydd fod safonau amgylcheddol a chyflogaeth yn cael eu cyflawni. Ni fyddai hynny wedi digwydd heb ymyrraeth Llywodraeth Cymru.
Bu cyhoeddiadau am barth buddsoddi ar gyfer Wrecsam a sir y Fflint, ond dim cyllid datblygu. Roedd y parth buddsoddi i fod ar gyfer gweithgynhyrchu uwch, diwydiannau creadigol a digidol. Rwy’n pryderu bod y rhain wedi’u gollwng gan Lywodraeth y DU, ac ymddengys bod hynny'n cael ei orfodi gan y cynnig hwn, drwy ddweud eu bod yn barthau buddsoddi ar gyfer gweithgynhyrchu uwch yn unig. Mae arnom angen i'r diwydiannau creadigol a digidol gael eu cynnwys.
Dim ond cyhoeddiad arall cyn yr etholiad oedd yr £1 biliwn ar gyfer trydaneiddio rheilffordd gogledd Cymru, heb unrhyw arian datblygu i Network Rail gyflawni hyn. Gall y Ceidwadwyr geisio ailysgrifennu hanes fel y mynnant; mae trigolion ledled Cymru wedi teimlo ergyd lawn anghymhwysedd economaidd y Llywodraeth yn uniongyrchol yn eu pocedi. Mae’r DU a Chymru yn erfyn am newid, ac rwy'n edrych ymlaen at weld Llywodraeth Lafur y DU yn cyflawni hynny gyda Llywodraeth Cymru. Diolch.
Janet, fe wnawn ni geisio eto a gobeithio bod y cysylltiad yn aros yn sefydlog y tro hwn, iawn.
Diolch, Ddirprwy Lywydd. Nid wyf yn siŵr fy hun beth ddigwyddodd.
Wel, rwyf wedi clywed sylwadau a chyfraniadau diddorol yma heddiw, ond mae'n rhaid imi ganmol Sam Kurtz a Mark Isherwood am nodi'n ffeithiol ac yn gywir pa mor wael yw hi i fusnesau bach yma—wel, busnesau o bob maint, a dweud y gwir. Pan ddechreuais fel menyw fusnes flynyddoedd lawer yn ôl, o dan Lywodraeth Geidwadol y DU, cefais fy nghefnogi, bu modd imi ffynnu wedyn wrth symud ymlaen, gan dalu trethi, agor busnesau newydd eraill, cyflogi pobl; fe wnaethant hwy ffynnu hefyd. A dyna fel y dylai fod. Ond dros y 10 mlynedd diwethaf yn enwedig—. Er bod Llafur Cymru wedi bod yn euog o fod mewn grym am 26 mlynedd a pheidio â helpu busnesau, mae’n deg dweud, dros y 10 mlynedd diwethaf, nad wyf erioed wedi byw mewn cyfnod—ac rwy’n siarad â chymaint o fusnesau o bob maint, lle maent yn dweud, 'Nid yw Llywodraeth Cymru yn ein deall, nid oes ganddynt unrhyw syniad, nid ydynt yn gwybod beth sydd ei angen i redeg busnes'—. A phan welwn fusnesau'n methu yng Nghymru, ac yn dorcalonnus, yn ddiweddar, Mona Dairy—. Rydym wedi gweld cwmnïau mawr eraill—. A hyd yn oed Tata Steel, popeth a ddigwyddodd pan fyddai'r cwmni'n dweud, 'Mae angen cymorth arnom', fe gamodd Llywodraeth y DU i'r adwy a dechrau eu cefnogi, ond y cyfan a wnaeth Llywodraeth Cymru—a'r undebau—oedd ceisio defnyddio'r sefyllfa fel arf gwleidyddol. Yn lle mynd ati'n gyflym i geisio achub y busnes hwnnw, bob tro y mae busnes yn dioddef yng Nghymru, byddai’n well ganddynt neidio ar y drol na helpu’r cwmni hwnnw.
Nawr, ni ellir gwadu mai'r rheswm am hynny yw mai Llywodraeth Lafur sydd gennym yng Nghymru. Mae ffigurau brawychus wedi dangos, dros y flwyddyn ddiwethaf, ein bod wedi colli dros 63 o dafarndai, yn cau eu drysau, mwy na dwbl y dirywiad yn Lloegr, ac amcangyfrifir bod 770 o swyddi wedi’u colli yno. Yn hytrach na phenderfynu mynd i’r afael â hynny, maent yn parhau i gosbi ein busnesau bach. Maent wedi cael gwared ar ryddhad ardrethi busnes. Dywedodd Edwina Hart flynyddoedd lawer yn ôl wrthyf na fyddai byth yn cael gwared ar ardrethi busnes, ond roedd hi'n eithaf parod ar y pryd i gefnogi lefel y cymorth roeddent yn ei roi, ac edrychwch, mae hyd yn oed hynny wedi'i ddiddymu ar gyfer ein busnesau bellach. Ac mae llawer o ddadleuon wedi bod yn ddiweddar a hustyngau i wleidyddion yn yr etholiad cyffredinol. Wel, gallaf ddweud wrthych nawr, fe fydd—ac i unrhyw un sy'n gwylio hyn—fe fydd mwy o drethiant gan Lafur ar lefel y DU a Llywodraeth Cymru, ac yn fwyaf arbennig, byddant yn mynd am ein busnesau i raddau mwy, oherwydd yn rhy aml, maent yn gweld ein busnesau fel yr opsiwn hawdd. Mae Syr Keir Starmer wedi dweud yn agored mai ei lasbrint ar gyfer Llywodraeth Lafur y DU yw Cymru. Wel, mae honno'n feirniadaeth drist os yw o ddifrif yn edrych ar Lywodraeth Cymru fel enghraifft i'w hefelychu.
Trethi uwch, llai o dwf—gwyddom yng Nghymru fod y gyfradd gyflogaeth wedi plymio o dan 70 y cant, i lawr 2.8 y cant ers y flwyddyn flaenorol, a bellach dros 5 y cant yn llai na'r DU; yr Alban ar 73 y cant. Mae hyn yn arwydd o wlad â thwf economaidd marwaidd. Ynghyd â'r gyfradd gyflogaeth isaf yn y DU, mae gan Gymru hefyd y cyflogau canolrifol isaf, ac maent oddeutu £3,000 yn llai. Pam y dylai rhywun sy’n gwneud yr un swydd yng Nghymru gael £3,000 yn llai nag y byddent o dan Lywodraeth y DU yn Lloegr?
Wrth gwrs, mae anweithgarwch economaidd wedi bod yn elfen gyson, ond ar ôl 25 mlynedd o Lafur Cymru, mae cyfradd anweithgarwch economaidd o 28.1 y cant, i fyny 2.7 y cant ers y flwyddyn flaenorol, o gymharu â Lloegr, yn peri cryn bryder. Er gwaethaf fy mhwyslais blaenorol ar rôl hollbwysig busnesau bach yng Nghymru, yn enwedig gyda thwristiaeth yn cyflogi 12 y cant o’n gweithlu, ac yn cyfrannu oddeutu, wel, mwy na £2.4 biliwn o ran y gadwyn fwyd a phopeth, mae Llafur Cymru wedi parhau i fod yn benderfynol o ddinistrio rhan ddynamig o economi Cymru. Maent yn bwriadu cyflwyno treth dwristiaeth, a fydd—. Wel, mae eisoes yn cael effeithiau negyddol. Dywed adroddiadau wrthym fod pobl eisoes wedi clywed rhybuddion llwm am dreth dwristiaeth, ac maent eisoes yn dechrau meddwl am fynd i rywle arall. Yn Aberconwy, mae twristiaeth a lletygarwch yn rhan enfawr o’r mewnbwn economaidd, ac athrawiaeth Llafur Cymru yw cynyddu’r baich ariannol ar unigolion a busnesau fel ei gilydd. Nawr, mewn cyferbyniad, mae Llywodraeth y DU—
Janet, mae angen ichi ddirwyn i ben, os gwelwch yn dda.
—yn defnyddio ei hysgogiadau, ei phwerau a’i chyllid i ryddhau twf economaidd. Rydym wedi gweld parth buddsoddi Wrecsam a sir y Fflint, porthladd rhydd Ynys Môn, Wylfa Newydd, cronfa ffyniant, cyllid ffyniant bro. I unrhyw un sy'n gwylio, os byddwch yn pleidleisio dros Lafur ar 4 Gorffennaf, mae arnaf ofn y dylech ddisgwyl mwy o ddirywiad mewn busnesau a disgwyl mwy o ddirywiad yn ein dyfodol economaidd. Diolch.
Mae’n bleser cymryd rhan yn y ddadl hon y prynhawn yma, a dylem ddweud yn blwmp ac yn blaen fod economi Cymru mewn cyflwr truenus, yn anffodus. Ac nid lladd ar Gymru yw hynny; dyna'r realiti. Heddiw, ar ôl 25 mlynedd o Lywodraeth Lafur, mae Cymru ar ei hôl hi o gymharu â’r DU ar ystod eang o fetrigau. Mae sicrhau twf yn anodd gyda chyfraddau llog uchel, ond mae economi Cymru wedi crebachu 1 y cant ers 2018, tra bo economi Lloegr wedi tyfu 2 y cant ers hynny, ac mae cyfradd cynhyrchiant Cymru yn dal yn is na'r rhan fwyaf o ranbarthau eraill. Mae gennym y gyfradd anweithgarwch economaidd uchaf yn y DU, y gyfradd gyflogaeth isaf a’r cyflogau canolrifol isaf.
Rydym wedi clywed Aelodau Llafur yn beio eu hoff fwch dihangol, Liz Truss, am y ffaith bod economi Cymru mewn trafferth, ond nid mini-gyllideb 2022 sydd ar fai am yr ystadegau digalon hyn. Mae ein heconomi yn y cyflwr hwn oherwydd 25 mlynedd o anllythrennedd economaidd Llafur Cymru, ac nid oes ond angen ichi edrych ar enghreifftiau o’r tro diwethaf i Lafur fod mewn Llywodraeth yn y DU, pan werthodd Gordon Brown ein haur am bris gostyngol, a llythyr Liam Byrne pan adawodd Llafur y Llywodraeth yn 2010, yn dweud nad oedd arian ar ôl, a’r materion a grybwyllodd Mark Isherwood ynghylch Llafur yn gwybod am broblemau Northern Rock mor bell yn ôl â 2005. Rwy’n cofio pan ddechreuodd hynny ym mis Ionawr 2008 a phobl yn ciwio y tu allan i fanciau i lawr y stryd i geisio tynnu eu harian allan am fod y banciau wedi diffygdalu ar y bobl. Mae honno’n sefyllfa druenus i fod ynddi, pan fo'r banciau’n diffygdalu ar y bobl, am fod pobl yn ymddiried mewn banciau i weithredu er eu budd gorau. Dyna oedd y sefyllfa druenus o dan Lafur, a dylem gofio’r digwyddiadau diweddar hynny wrth benderfynu pwy ddylai eich Llywodraeth nesaf fod.
Serch hynny, nid oes gan fy etholwyr ddiddordeb mewn gwrthgyhuddiadau, yr hyn y maent eisiau ei wybod yw beth mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i sicrhau bod eu cyflogau'n codi, i sicrhau bod ganddynt fynediad at gyflogaeth o ansawdd uchel yn eu hardal, i sicrhau eu bod yn gweld busnesau yn eu cymunedau'n ffynnu. Wrth gwrs, arweiniodd cyfyngiadau symud COVID-19 at ddirwasgiad byd-eang difrifol, gyda gostyngiad digynsail mewn cynnyrch domestig gros. Ond fe wnaeth rhai llongau oroesi’r storm yn well nag eraill, gyda gwelliant araf mewn twf, cynhyrchiant a buddsoddiad, a llwyddodd y DU i oroesi’r storm yn well na’r rhan fwyaf o wledydd yr UE—cofiwch yr Eidal, er enghraifft. Dim ond saith gwlad a ymadferodd o ran y buddsoddiad uniongyrchol tramor sy’n allweddol i dwf, ac mae’r Deyrnas Unedig yn un o’r rhain, o flaen yr Unol Daleithiau, yr Almaen, Tsieina a Japan.
Mae twf y DU hefyd wedi bod uwch na thwf yr Almaen yn gyson ers y pandemig, ond o dan gapteiniaeth Mark Drakeford a Vaughan Gething yng Nghymru, mae ein heconomi yn dal i fod yn farwaidd. Mae’r gwynt yn cael ei dynnu o’n hwyliau gan y penderfyniadau economaidd gwael. Mae gwerth gros y pen yng Nghymru ar hyn o bryd yn llai na thri chwarter cyfartaledd y DU; mae anweithgarwch economaidd yn 28 y cant, o gymharu â chyfartaledd y DU o 22 y cant; mae cyflogaeth yn 68.9 y cant, o gymharu â chyfartaledd y DU o 74.3 y cant. Mae economi Cymru, fel ein modurwyr, yn symud ar gyflymder malwen, ac mae’r gwahaniaethau hyn yn tyfu’n barhaus. Mae pobl y wlad hon yn haeddu gwell.
Mae angen i Lywodraeth Cymru nodi’r amodau economaidd er mwyn i’n heconomi ffynnu, ac mae codi'r gwastad yng ngogledd Cymru drwy fuddsoddi mewn seilwaith, fel y mae Llywodraeth Cymru wedi’i wneud gyda metro de Cymru, yn hanfodol. Dangosodd adroddiad gan PricewaterhouseCoopers fod cynhyrchiant yng Nghymru yn cael ei gynnal gan Gaerdydd yn unig, gyda’r ffigurau yn y gogledd yn arbennig o enbyd. Mae Llywodraeth y DU wedi gorfod mynd i’r afael â’r mater, gyda £2.5 biliwn o gyllid ffyniant bro i Gymru, lle mae cymunedau fel fy un i yn y gogledd wedi cael eu hesgeuluso gan Lywodraeth Cymru.
Gellid dadlau am y pwnc hwn am ddyddiau, ond hoffwn gloi fy sylwadau drwy ailadrodd fy ngalwad ar Lywodraeth Cymru i adfer rhyddhad ardrethi busnes i 75 y cant ar gyfer manwerthu, lletygarwch a hamdden, a diddymu ardrethi busnes ar gyfer busnesau bach, a fyddai’n mynd rywfaint o’r ffordd i roi hwb i fusnesau sy’n ei chael hi’n anodd, yn gwrthdroi’r duedd o ddiweithdra cymharol uwch ac yn gwella cyfraddau goroesi ein busnesau, sef y trydydd isaf ymhlith holl wledydd y DU, fel y gallwn ddechrau gwella'r sefyllfa.
Hoffwn ychwanegu troednodyn at fy sylwadau drwy ddweud mai’r broblem fwyaf a oedd gennym pan oeddem yn aelodau o’r Undeb Ewropeaidd oedd na allem ostwng cyfraddau llog islaw 5 y cant ar faterion banciau bwyd a nwyddau mislif o dan ddeddfwriaeth yr UE, ac mae'n rhyddid a enillwyd gennym drwy Brexit, a alluogodd y Deyrnas Unedig i weithredu o fewn economi rydd heb faich deddfwriaeth Ewropeaidd, a oedd yn atal cyfraddau TAW rhag cael eu gostwng. Dyna’r rheswm pam na chafwyd rhyddhad ardrethi ar nwyddau mislif cyn 2016, a dyna’r rheswm pam fod prisiau wedi gostwng dros y cyfnod hwnnw, am ein bod wedi rhyddhau ein hunain o faich economaidd yr Undeb Ewropeaidd wrth bleidleisio dros Brexit yn 2016, ac mae'n rhaid inni ddathlu hynny a gwneud y gorau o hynny i Gymru. Diolch.
Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a’r Gymraeg nawr i gyfrannu—Jeremy Miles.
Diolch, Lywydd. Mae economi’r DU mewn argyfwng. Dyna pam mai dyma un o etholiadau cyffredinol pwysicaf y DU ers degawdau. Ac er gwaethaf ymdrechion bron yn chwerthinllyd y grŵp Ceidwadol i ystumio’r ystadegau—a gwelsom enghreifftiau gwych o ysgrifennu creadigol yma heddiw—y gwir amdani yw bod y DU wedi bod yn un o’r economïau datblygedig sy’n perfformio waethaf ers amser hir, o ran chwyddiant uchel a thwf gwan. Ac mae'r 14 mlynedd diwethaf o anhrefn Torïaidd wedi erydu safonau byw, gyda phrisiau ynni a bwyd uchel yn effeithio'n anghymesur ar bobl ar incwm isel a grwpiau difreintiedig eraill.
Ni allwn ddiystyru’r ffaith, fel y ceisiant hwy ei wneud, fod costau byw wedi cynyddu’n eithriadol ledled y DU yn ystod 2021 a 2022, ac effaith y gyllideb fach drychinebus gan Liz Truss. Ac mae sawl siaradwr—pob un siaradwr ar feinciau'r Ceidwadwyr—wedi codi heddiw i amddiffyn y gyllideb honno, a bydd pobl Cymru yn edrych ar y ddadl hon ac yn myfyrio ar hynny. Bu’r gyllideb honno’n drychinebus i Gymru. Cyrhaeddodd cyfradd flynyddol chwyddiant 11.1 y cant ym mis Hydref 2022—yn uwch nag y bu ers 41 o flynyddoedd. Mae yna Aelodau ar y meinciau hynny nad oeddent yn fyw pan oedd mor uchel â hynny yn y gorffennol.
A wnewch chi dderbyn ymyriad?
Yn sicr.
Rwy’n ddiolchgar i’r Gweinidog am dderbyn ymyriad. A allwch chi enwi gwlad yng ngorllewin Ewrop sydd heb ddioddef chwyddiant tebyg, cyfraddau llog tebyg neu waeth diweithdra na’r Deyrnas Unedig? Os na allwch, yna yn amlwg, mae hynny'n dangos nad problem i'r DU yn unig yw hon, mae'n broblem Ewropeaidd ac yn broblem orllewinol y mae pawb wedi'i dioddef. A ni bellach yw'r economi sy'n tyfu gyflymaf yn y G7 yn y chwarter diwethaf. Mae hynny’n ffaith.
Wel, mae’r Aelod yn anghyfrifol iawn gyda’r dystiolaeth ryngwladol yn ei gyfraniad—[Torri ar draws.] Mae’r Aelod yn anghyfrifol iawn a’r gwir amdani yw bod y gyllideb honno, y maent i gyd wedi’i hamddiffyn heddiw—maent i gyd wedi amddiffyn cyllideb Liz Truss—wedi dinistrio cyllid pobl. Ac mae'n parhau i effeithio ar ein cymunedau mwyaf difreintiedig. Dim ond 45 diwrnod oedd hyd ei chyfnod yn y swydd, ond mae’r pwysau ar gostau byw pobl yn parhau hyd heddiw: 1.6 miliwn o aelwydydd, y mae eu morgeisi cyfradd sefydlog yn dod i ben yn 2024 yn wynebu costau morgais sylweddol uwch; mae prisiau rhentu hefyd wedi codi i’r entrychion; yn ôl arolwg gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol a gyhoeddwyd fis diwethaf, nododd 55 y cant o oedolion yn y DU gynnydd yn eu costau byw o gymharu â’r mis blaenorol; mae elusennau banciau bwyd, elusennau sy'n rhoi cyngor ar ddyledion oll yn adrodd am gynnydd yn y galw; darparodd Ymddiriedolaeth Trussell dros 3 miliwn o barseli bwyd argyfwng ledled y DU yn ystod y flwyddyn ddiwethaf—y lefel uchaf erioed, y lefel uchaf erioed o dan y Ceidwadwyr; a’r mis diwethaf, helpodd Cyngor ar Bopeth fwy na 47,000 o bobl gyda chyngor ar ddyledion ledled y DU. Nid arwydd o economi sy’n codi’r gwastad yw hyn, nac o ffyniant cyffredin.
Mae’r Llywodraeth Dorïaidd hon yn y DU wedi parhau i roi polisïau tymor byr, cynlluniau peilot a phrosiectau porthi balchder i ni, yn hytrach na chynlluniau mwy hirdymor. Mae'r newid diddiwedd i Weinidogion y DU a fflyd o ddulliau economaidd sy'n newid yn barhaus wedi creu ansicrwydd trychinebus ar draws ein heconomi. Ac mae i’r grŵp Ceidwadol osod cynnig o’r math hwn yn chwerthinllyd ac yn dweud wrthym cyn lleied y maent yn amgyffred realiti bywyd i bobl yn y wlad hon, lle mae ganddynt arweinydd a all honni ei fod yn deall y caledi a grëwyd gan ei Lywodraeth ei hun am ei fod wedi mynd heb deledu Sky yn blentyn. Mae'n echrydus. [Torri ar draws.]
Ac yn yr hinsawdd hon a grëwyd gan y Ceidwadwyr, mae Llywodraeth Cymru wedi—. Mae ein cyllideb yn 2024-25 £3 biliwn yn is—[Torri ar draws.]
Mae angen imi glywed Ysgrifennydd y Cabinet yn ei ymateb, ac rwy’n gobeithio bod grŵp y Ceidwadwyr hefyd eisiau clywed cynnwys yr ymateb.
Tri biliwn o bunnoedd yn is yw effaith Llywodraeth y DU ar gyllideb Llywodraeth Cymru. O'r blaen, arferai cronfeydd yr UE ariannu cyflogadwyedd, sgiliau, arloesedd, cymorth busnes a phrentisiaethau, cronfeydd yr addawodd y Torïaid roi arian yn eu lle, ac maent wedi torri’r addewid hwnnw, gan adael diffyg o £1.3 biliwn yn y cronfeydd ffyniant bro a ffyniant cyffredin, sy’n golygu bod gan Gymru lai o reolaeth dros lai o arian, gan danseilio datganoli'n weithredol.
Er gwaethaf hyn oll, mae’r bwlch mewn cyfraddau cyflogaeth rhwng Cymru a’r DU wedi gweld gwelliant amlwg yn ystod datganoli. Mae'r gwelliant yn y gyfradd gyflogaeth wedi bod yn arbennig o arwyddocaol i fenywod yng Nghymru. Mae’r gyfradd gyflogaeth hefyd wedi gwella yng ngorllewin Cymru a’r Cymoedd, ardaloedd a gafodd fudd penodol o’r lefelau uchaf o gymorth ariannol a oedd ar gael drwy gyfrwng tri chylch olynol o gronfeydd strwythurol Ewropeaidd, yr amddifadwyd Cymru ohonynt gan wleidyddion Ceidwadol. [Torri ar draws.]
Rwyf wedi bod yn glir mai fy nhri maes blaenoriaeth yw cynyddu—.
Os gwelwch yn dda, gadewch i’r Gweinidog barhau yn ei gyfraniad i’ch dadl. Rydych chi eisiau i’r Gweinidog ymateb i’ch dadl, felly gadewch i ni ei glywed yn siarad, os gwelwch yn dda.
Rydym yn parhau i gefnogi ein busnesau yng Nghymru. Mae Busnes Cymru yn parhau i gefnogi entrepreneuriaid—
Na, gadewch inni beidio â dechrau eto, ar ôl imi ddweud y drefn wrthych. A gawn ni glywed gweddill y cyfraniad mewn tawelwch, os gwelwch yn dda?
Diolch, Lywydd. Mae Busnes Cymru yn parhau i gefnogi entrepreneuriaid a busnesau bach a chanolig ym mhob rhan o’r wlad; mae dros £140 miliwn mewn rhyddhad ardrethi busnesau bach yn cefnogi talwyr ardrethi ar oddeutu 70,000 eiddo ledled Cymru bob blwyddyn; £78 miliwn ychwanegol i ddarparu cymorth am y bumed flwyddyn yn olynol i fusnesau manwerthu, hamdden a lletygarwch; Banc Datblygu Cymru yn helpu busnesau i dyfu a buddsoddi. [Torri ar draws.] Mae cronfa fusnes Cymru yn buddsoddi £216 miliwn i gefnogi 474 o fusnesau a chreu a diogelu bron i 9,000 o swyddi. Byddwn yn parhau i gefnogi a gweithio gyda busnesau ledled Cymru.
Bydd y Llywodraeth Lafur hon yn parhau i wneud popeth yn ein gallu i gefnogi economi ddeinamig a fydd yn cefnogi gobeithion a dyheadau ein pobl ifanc, gan wneud Cymru y lle gorau yn y DU i fuddsoddi ac i weithio ynddo. Ar yr ochr hon i’r Siambr, rydym yn gweithio’n galed ac yn gobeithio bod y 14 blynedd faith ddiwethaf o gamreoli’r Torïaid yn dod i ben, a hynny heb fod eiliad yn rhy fuan. Rydym am weld Llywodraeth yn San Steffan a fydd yn gweithio gyda Llywodraeth Lafur Cymru a chyda’n Senedd; Llywodraeth Lafur yn y DU sy’n gweld potensial Cymru, yn hytrach na’n difrïo’n gyson; Llywodraeth Lafur a chanddi gynllun difrifol ar gyfer yr economi; a Llywodraeth Lafur sy’n bartner i’r Llywodraeth Lafur Gymreig hon i wireddu’r uchelgeisiau sydd gennym ar gyfer Cymru fel cenedl o ffyniant ac undod.
Peter Fox nawr i ymateb i'r ddadl.
Diolch, Lywydd. Hoffwn ddiolch i fy nghyd-Aelod, Sam Kurtz, am agor y ddadl hon, a phawb ohonoch sydd wedi cymryd rhan. Mae’n ddadl y bu’n rhaid ei chael, gan fod angen i bobl Cymru wybod pa mor ddrwg yw pethau yma, ac ar ôl 25 mlynedd o reolaeth Lafur, cyn lleied sydd wedi’i gyflawni ar yr economi gan Lafur Cymru a’u partneriaid achlysurol, Plaid Cymru. Yn wir, y negeseuon a glywsom gan Lafur heddiw, mae hi bron fel pe baent yn byw mewn bydysawd cyfochrog, heb gydnabod, neu’n hytrach, heb ganolbwyntio ar beth yw'r problemau yng Nghymru.
Ond Sam, diolch i chi am agor. Fe wnaethoch chi dynnu sylw at sut mae Cymru yn gartref i fenter ac arloesedd, sut mae gennym ystod eang o fusnesau gwych yma, ac fe wnaethoch ein hatgoffa o’r pwysau y maent wedi ei wynebu yn sgil COVID, ac yna, wrth gwrs, y pethau a ddilynodd, fel Wcráin, a sut yr ymatebodd Llywodraeth y DU i hynny gyda'r cynllun ffyrlo, gan ddiogelu 11 miliwn o swyddi—pethau mawr. Down yn ôl at sefyllfa lle rydym yn gweld twf yma—y twf cyflymaf yn y G7—a chyfraddau chwyddiant is.
Luke, fe wnaethoch chi ymroi i ymosod ar Lywodraeth y DU gyda’r un hen rethreg, ac ni welech fanteision codi’r gwastad. Rwy’n croesawu’r ffaith ei fod wedi cydnabod bod chwyddiant bellach yn gostwng oherwydd cynllun Llywodraeth y DU. Fe wnaeth ladd ar Lafur hefyd, rhywbeth yr oedd angen iddo ei wneud yn gwbl briodol, ond rhaid inni ei atgoffa bod Plaid Cymru wedi cynnal Llafur gyda’r gyllideb sawl gwaith dros y 25 mlynedd diwethaf, felly rydych chi'n rhan o'r sefyllfa a achoswyd yma.
Tynnodd Mark Isherwood sylw at y ffaith y dylai datganoli fod wedi helpu Cymru i ffynnu, ond mae 25 mlynedd o Lafur Cymru wedi gadael ein gwlad yn tangyflawni. Mae cyflogau wedi bod yn codi yma ers yr 11 mis diwethaf bellach, oherwydd cynllun y DU, ac fe wnaeth daflu goleuni ar fethiannau Llafur a pherfformiad hanesyddol Llafur y DU.
Nid oedd Rhianon Passmore am gydnabod y gwelliannau a gyflwynwyd gan Lywodraeth y DU. Roedd ei ffocws ar Loegr eto—byth ffocws ar Gymru, byth ffocws ar y wlad hon, y wlad rydym i gyd i fod yn ei chynrychioli. Gadewch inni ganolbwyntio ar Loegr a cheisio taflu goleuni ar eu problemau nhw, lle dylech fod yn taflu goleuni ar broblemau eich Llywodraeth eich hun, sy’n perfformio mor wael. Ac fe wnaeth Carolyn yr un peth. Y rhethreg arferol, gan anwybyddu'r problemau real hynny. Fe gyfeiriaf at y—[Torri ar draws.] O, mae'n ddrwg gennyf, gallwch, yn sicr.
Os yw’r Aelod yn caniatáu i chi wneud, wrth gwrs y cewch chi, Carolyn Thomas.
Diolch. Ond fe soniais fod Llywodraeth Cymru wedi cydweithio â Llywodraeth y DU ar y porthladdoedd rhydd, y parthau buddsoddi a’r byrddau uchelgais. Mae hynny'n gadarnhaol iawn.
Wel, rwy’n croesawu hynny, ydw, Carolyn. Rwy’n ymddiheuro am beidio â chydnabod eich bod yn cydnabod gwaith da Llywodraeth y DU. Ond roedd yn ddiddorol, roeddwn i'n gwylio darllediad gwleidyddol Llafur Cymru y diwrnod o'r blaen, ac roeddwn i'n synnu'n fawr nad oedd yna Gymry ynddo. Roedd yn siarad am Saeson. Roedd gormod o gywilydd gan Gymru i gyfweld â’u dinasyddion Cymreig eu hunain, sydd wedi profi’r hyn y mae Llafur Cymru yn ei wneud iddynt yn y wlad hon, felly fe ddaethant o hyd i Saeson i lenwi eu hamser gwylio, ac roedd hynny’n warthus.
Tynnodd Janet sylw unwaith eto at ba mor anodd yw hi i fusnesau bach, a sut yr effeithiwyd arnynt, a nododd yn gwbl glir nad yw Llywodraeth Cymru yn deall busnes—63 o dafarndai’n cau, er enghraifft, eu drysau ar gau am byth yng Nghymru. Ac unwaith eto, nododd Gareth gyflwr truenus yr economi yma, a sut mae wedi crebachu 1 y cant ers 2018, ac fe’n hatgoffodd o’r llythyr enwog gan Liam Byrne pan oedd Llafur yn rheoli ddiwethaf—mae’n ddrwg gennym, mae’r arian i gyd wedi mynd. Ond mae'n dangos meddylfryd Llafur, nad oes ots ganddynt sut maent yn gwario arian pobl eraill a byddant yn ei adael i fynd ac yn gadael i ni lanhau'r llanast ymhen ychydig flynyddoedd.
Weinidog, roeddwn yn siomedig oherwydd fe ddywedoch chi fod economi’r DU mewn argyfwng, ond unwaith eto, roeddwn wedi gobeithio fel Gweinidog y byddech chi’n sôn—mae’n ddrwg gennyf, Ysgrifennydd y Cabinet—sut oedd gennych gynllun priodol, cynllun ar gyfer twf, ond prin y sonioch chi am dwf a phwysigrwydd creu cyfoeth a chreu arloesedd, bron fel pe baech chi’n gwadu’r 25 mlynedd o anweithgarwch. Ac fe ddywedoch chi ar y diwedd eich bod yn gwneud popeth yn eich gallu—popeth yn eich gallu—ac y byddwch yn parhau i wneud hynny, i hybu'r economi yng Nghymru, ond mae 25 mlynedd wedi mynd heibio. Nid ydych wedi ei wneud. Ni yw'r rhan o'r DU sy'n perfformio waethaf. Felly, beth yw'r esgus? [Torri ar draws.]
Lywydd, gallwn ddadlau cymaint ag y dymunwn—gallwn ddadlau cymaint ag y dymunwn—ond mae’n amlwg fod gan Lywodraeth y DU strategaeth glir ar gyfer llwyddiant sy’n gweithio. Rydym yn gweld chwyddiant yn gostwng i ychydig dros 2 y cant. Gennym ni y mae'r economi sy'n tyfu gyflymaf yn y G7. Gallai Llywodraeth y DU weld y cyfleoedd i Gymru. Fe wnaethant gymryd yr awenau a gweithio gyda Llywodraeth Cymru a chynghorau i greu bargeinion dinesig a bargeinion twf ledled Cymru, ac rydym eisoes wedi gweld—. Byddwn yn gweld porthladdoedd rhydd ac rydym yn gweld parthau buddsoddi. Rydym wedi gweld cronfeydd codi’r gwastad a ffyniant cyffredin yn gweithio i gymunedau ledled Cymru. Mae'n amlwg fod Llywodraeth Geidwadol y DU wedi creu'r offer i helpu Cymru i fod y gorau y gall fod, gan greu'r amodau ar gyfer twf yn y dyfodol.
Mae arnom angen hynny mor ddirfawr, gan ein bod ar hyn o bryd yn gweld mai Cymru sydd â’r gyfradd gyflogaeth isaf, y cyflogau canolrifol isaf a’r gyfradd anweithgarwch economaidd uchaf yn y DU. Rydym yn gweld busnesau bach yn dioddef o ddiffyg cymorth, rydym yn gweld treth dwristiaeth a chyfyngiadau ar fusnesau twristiaeth, ac ni ddylai fod fel hyn. Mae arnom angen i Gymru ffynnu’n iawn, i fod yn uchelgeisiol gyda chynllun clir ar gyfer twf economaidd. Rydym eisiau i’n pobl ifanc—mae angen iddynt gael gobaith, mae angen iddynt gael mynediad at swyddi da a chyflogau da er mwyn iddynt allu byw a gweithio yng Nghymru, magu eu teuluoedd yma, anelu at sicrhau cartref a dyfodol cadarnhaol. Dylai’r pethau hyn fod yn rhywbeth y dylai’r Llywodraeth Lafur hon fod eisiau ei gyflawni, ond yn anffodus, nid ydynt yn deall pwysigrwydd twf a chreu cyfoeth. Maent wedi eu hamddifadu o feddwl arloesol. Mae’r diffyg dyhead hwn gan y llywodraeth yn gwneud cam â’r wlad hon, a bydd yn gwneud cam â chenedlaethau’r dyfodol. Rwy’n annog yr Aelodau i anwybyddu’r gwelliannau enbyd a gyflwynwyd gan Lafur a Phlaid Cymru a chefnogi ein gwelliannau ni, sy’n adrodd y stori go iawn.
Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig heb ei ddiwygio? Oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Oes, mae yna wrthwynebiad. Felly, fe wnawn ni ohirio'r pleidleisio ar yr eitem yma tan y cyfnod pleidleisio.