– Senedd Cymru am 3:36 pm ar 12 Mehefin 2024.
Eitem 6 heddiw yw dadl ar adroddiad y Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol, 'Gweithredu, nid geiriau: creu Cymru wrth-hiliol erbyn 2030'. Galwaf ar Gadeirydd y pwyllgor i wneud y cynnig—Jenny Rathbone.
Diolch, Ddirprwy Lywydd. Dechreuodd y pwyllgor yr ymchwiliad hwn ychydig dros flwyddyn yn ôl, drwy ymgynghori â hyrwyddwyr cymunedol o bob rhan o Gymru. Fe wnaethom gyfarfod ar-lein ac wyneb yn wyneb, yn adeilad y Pierhead, yn briodol yng nghanol yr hyn a arferai gael ei alw'n Tiger Bay, un o'r cymunedau amlddiwylliannol hynaf yn y DU a'r byd. Siaradodd llawer o randdeiliaid am syrffed ar ymgyngoriadau. Nid oeddent am barhau i ailadrodd eu profiad bywyd, roeddent eisiau gweld beth oedd yn newid a pha effaith oedd eu cyngor i gyrff cyhoeddus yn ei chael. Roeddent yn glir: roeddent am i'n hymchwiliad ganolbwyntio ar weithredu a chyflawni.
Heddiw mae bron bob cymuned yng Nghymru wedi ei chyfoethogi gan bobl o wahanol rannau o'r byd, ffaith y dylem i gyd ei dathlu. Fodd bynnag, mae hiliaeth yn rhan lawer rhy gyfarwydd o brofiad bywyd o ddydd i ddydd llawer gormod o'n dinasyddion. Mae'r holl dystiolaeth a gymerwyd gennym yn cadarnhau bod cefnogaeth eang i'r nod uchelgeisiol o greu Cymru wrth-hiliol erbyn 2030. Rydym yn cytuno'n llwyr â brawddegau olaf canllawiau Llywodraeth Cymru i'r 'Cynllun Gweithredu Cymru Gwrth-hiliol':
'rydym yn dechrau drwy ymrwymo i gymryd y camau cyntaf. Oni wnawn hynny, ni fydd dim yn newid. Yn wir, mae angen gweithredu, nid geiriau erbyn hyn.'
Mae hyn yn ei gwneud yn ofynnol i Lywodraeth Cymru arwain ymdrechion i wrthsefyll yn hytrach nag ildio i wahaniaethu ar sail hil: amser i weithredu nid geiriau—teitl ein hadroddiad. Rydym yn bryderus y bydd y casgliad hwn o fwriadau da yn ei chael hi'n anodd gwneud cynnydd ystyrlon oni bai bod cymhlethdod y trefniadau llywodraethu yn cael eu symleiddio a bod rôl sefydliadau partner yn cael eu hesbonio'n well.
Felly, mae'r 'Cynllun Gweithredu Cymru Gwrth-hiliol' yn cyffwrdd yn briodol ar holl weithgareddau'r Llywodraeth, gan y gall hiliaeth effeithio ar bob agwedd ar fywydau pobl. Mae ein hadroddiad wedi ei gyfyngu i dri maes strategol—arweinyddiaeth, cydweithredu a monitro—a thair her weithredol benodol, ym maes iechyd, addysg a chyfiawnder troseddol. Nid yw'n cynnwys meysydd polisi eraill, fel tai; nid yw hynny'n golygu bod popeth yn iawn o ran hynny, ac efallai y byddwn am ddod yn ôl at y materion hynny yn nes ymlaen.
Ar arweinyddiaeth, mae'r cynllun gweithredu yn cyfleu gweledigaeth Llywodraeth Cymru ar gyfer cymdeithas wrth-hiliol. Er hynny, dywedodd gormod o sefydliadau wrthym nad oeddent yn deall sut y byddai'r cynllun yn cael ei weithredu, ac nad oeddent yn glir pwy oedd yn gyfrifol am ba gamau o dan y cynllun. Dywedodd Yusuf Ibrahim o ColegauCymru
'mae angen i arweinwyr gael eu dwyn i gyfrif mewn perthynas â "Beth a wnânt?", "Sut y gwnânt ei fesur?", a "Sut y gwyddom eu bod yn llwyddiannus?"...beth a wnawn ni am y peth os nad ydynt yn gwneud pethau'n iawn?'
Dywedodd:
'braint nid hawl yw cael gweithio yn y sector cyhoeddus, ac a dweud y gwir, os nad yw pobl yn mynd i arwain hyn yn dda, rwy'n credu bod angen inni edrych ar bwy sy'n ei arwain ar draws pob sector.'
Mae argymhellion 1 a 2 yn nodi sut yr hoffem weld Llywodraeth Cymru yn mireinio ei rôl arweinyddiaeth uwch. Mae hyn yn cynnwys culhau ac yna dileu ei fwlch cyflog ethnigrwydd ei hun erbyn 2025-26 a chynnal adolygiad cyflym o strwythurau i gefnogi'r cynllun. Ym marn y pwyllgor, mae'r strwythurau a'r trefniadau llywodraethu a sefydlwyd o dan y cynllun yn llawer rhy gymhleth ac mewn perygl o gael eu gorgynllunio. Ydy, mae Llywodraeth Cymru wedi ceisio egluro hyn, ac rydym yn ddiolchgar am hynny. Fodd bynnag, yn y dystiolaeth a gawsom roedd angen eglurder ynglŷn â phwy sy'n gyfrifol am wneud beth. Nid ydym yn gwybod eto a yw'r neges hon wedi'i deall.
Mae iechyd a mynediad at gyfieithu yn fater allweddol. Mae'n parhau i fod yn wir fod yna ddibyniaeth ar aelodau teuluol i fod yn gyfieithwyr oherwydd diffyg mynediad at gyfieithu mewn lleoliadau meddygol. Mae hyn yn gwbl annerbyniol. Clywsom enghraifft bwerus iawn gan Shanti Karupiah, yn ymddangos ar ran Coleg Brenhinol yr Ymarferwyr Cyffredinol, ac mae cyfathrebu gwael drwy aelod o'r teulu yn dangos cymaint y mae hyn yn tramgwyddo hawliau dynol unigolyn. Ni allwn ddisgwyl i blentyn gyfieithu hanes iechyd personol benywaidd, na chafodd ei gyfleu'n glir gan y fenyw dan sylw o flaen ei phlentyn yn ôl pob tebyg, ac nad oedd hi'n bosibl i'r plentyn ei gyfieithu. A'i gweithred gyflym hi yn archwilio'r unigolyn dan sylw a'i galluogodd i anfon y fenyw i'r cyfeiriad cywir. Nawr, mae methu darparu cyfieithu priodol yn tramgwyddo hawliau dynol unigolyn, ac er y mynegwyd pryderon mewn adroddiad blaenorol, mae'n amlwg nad oes digon o gynnydd wedi'i wneud.
Gyda thechnolegau modern, rhaid i Lywodraeth Cymru sicrhau mynediad teg at gyfieithu i bawb. Mae'r Llywodraeth wedi derbyn argymhelliad 6 yn llawn, ond nid yw'n glir beth yw'r amserlen ar gyfer gweithredu adroddiad HEAR 2, ac nid yw'n sôn ychwaith am y bobl allweddol, y porthorion allweddol yn hyn, ym maes iechyd, sef y derbynyddion sy'n trefnu'r apwyntiad ac y dylent allu gofyn i rywun a ydynt yn dymuno cael cyfieithydd os ydynt yn credu bod hynny'n rhywbeth y gallai fod ei angen ar y claf.
Os caf droi at fonitro adrodd am ddigwyddiadau hiliol, mae'n rhyfeddol—. Gyda dros hanner ein meddygon a'n nyrsys wedi cael eu geni mewn gwlad arall, mae'n annerbyniol fod hiliaeth yn cael ei amlygu'n rhy aml o lawer yng ngweithrediadau gwasanaethau cyhoeddus o ddydd i ddydd. Cyfeiriodd y Coleg Nyrsio Brenhinol at ei arolwg cyflogaeth yn 2019, lle roedd bron i hanner yr ymatebwyr Asiaidd, a thua'r un nifer o ymatebwyr du, wedi profi bwlio gan gydweithwyr, o'i gymharu â dim ond 38 y cant o ymatebwyr gwyn, sy'n ffigur arwyddocaol yn fy marn i. A dywedodd Race Council Cymru wrthym fod llawer o bobl o gefndiroedd lleiafrifol ethnig heb hyder fod gan leoliadau addysg bolisïau effeithiol i atal bwlio hiliol neu fân-weithredoedd ymosodol a bod y rhain yn cael eu trin yn effeithiol pan fyddant yn digwydd. Mae llawer o sefydliadau addysg yng Nghymru heb bolisïau gwrth-hiliaeth na mecanweithiau uwchgyfeirio. Felly, mae argymhellion 7 a 9 yn galw ar Lywodraeth Cymru i wella'r system ar gyfer adrodd a monitro hiliaeth a digwyddiadau hiliol mewn lleoliadau gofal iechyd ac addysg. Mae Llywodraeth Cymru wedi derbyn yn llawn yr un ynglŷn ag iechyd, ond yn rhannol yn unig y derbyniwyd yr un ar addysg.
O fewn gofal iechyd, rhoddir gwybod i Datix Cymru am yr holl ddigwyddiadau hiliol a cheir dull cyson o weithredu ar draws Cymru. Ar gyfer ysgolion a cholegau, fodd bynnag, mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i archwilio mecanweithiau sydd eu hangen i gynhyrchu fformat adrodd cyson ynghylch digwyddiadau ac aflonyddu hiliol. Os yw'n bosibl cael dull Cymru gyfan o ymdrin â gofal iechyd, hoffem weld yr un peth ar gyfer ysgolion a cholegau yng Nghymru ac annog Llywodraeth Cymru i weithredu hyn, gan ddeall ar yr un pryd fod cyrff llywodraethu ysgolion yn weithredwyr annibynnol ac yn gyfrifol am ymarfer ysgolion unigol. Serch hynny, rydym yn teimlo o ddifrif y dylid cael dull Cymru gyfan o weithredu ar hiliaeth drwy ein system addysg gyfan.
Edrychaf ymlaen at glywed sylwadau pobl eraill ac ymateb y Gweinidog.
Hoffwn gofnodi fy niolch i Gadeirydd fy nghyn-bwyllgor, y tîm clercio rhagorol a'r holl dystion a wnaeth yr ymchwiliad hwn yn bosibl. Pan gyflwynodd Llywodraeth Cymru y cynllun gweithredu gwrth-hiliol hwn, er fy mod yn cefnogi'r weledigaeth o Gymru wrth-hiliol, dywedais yn glir nad oedd y cynllun yn mynd i'w gyflawni. Mae'n ymddangos nad fi'n unig oedd yn pryderu felly.
Rwyf am ei gwneud hi'n glir ar y dechrau nad wyf yn credu bod Cymru'n genedl hiliol. Rydym yn un o'r cenhedloedd mwyaf goddefgar ar y blaned, ond yn anffodus mae hiliaeth yn dal i fodoli. Nid y math agored sy'n gyffredin yn ein cenedl, ond hiliaeth strwythurol fwy cudd. Rwy'n dweud 'hiliaeth strwythurol' oherwydd fy mod yn cytuno â Reni Eddo-Lodge. Mae hi'n dewis y term hiliaeth 'strwythurol' yn hytrach na hiliaeth 'sefydliadol', am ei bod hi'n credu ei fod yn bresennol mewn gofod sy'n llawer ehangach na'n sefydliadau mwy traddodiadol. Mae hiliaeth strwythurol yn ddyrys ac nid yw pobl yn sylweddoli ei fod yno. Mae'n ymwneud â mwy na rhagfarn bersonol yn unig, ond gyda'i gilydd mae'n effeithio ar ein tueddfryd. Dyma'r math o hiliaeth sydd â phŵer i effeithio'n sylweddol ar gyfleoedd bywyd pobl. Ni yw'r wlad fwyaf goddefgar o ran hil yn y byd Saesneg ei iaith a dim ond ychydig bach ar ôl Sweden a Brasil o ran goddefgarwch. Ond pan feddyliwn fod gwir hiliaeth ond yn bodoli yng nghalonnau pobl ddrwg yn unig, pan gredwn fod hiliaeth yn ymwneud â gwerthoedd moesol, rydym yn anwybyddu'r ffaith ei fod yn ymwneud â goroesiad systemau pŵer mewn gwirionedd. Mae natur gudd hiliaeth strwythurol yn golygu ei bod yn aml yn anodd mynd i'r afael â hi.
Mae cynllun gweithredu gwrth-hiliol Llywodraeth Cymru wedi ei gwneud yn orfodol i ddysgu hanesion a phrofiadau pobl dduon, Asiaidd a lleiafrifol ethnig yn rhan o wersi hanes Cymru. Er hynny, dim ond canran fechan o athrawon sy'n dod o gefndiroedd BAME. Y llynedd, dim ond 0.2 y cant o athrawon newydd gymhwyso oedd yn ddu. Dim ond 44 o'r bron i 1,500 o athrawon newydd gymhwyso oedd â chefndir BAME. Sut y gallwn ni obeithio rhoi diwedd ar hiliaeth, gwahaniaethu, a throseddau casineb yn y pen draw, drwy addysg a dathlu amrywiaeth os nad yw ein hathrawon yn gynrychioliadol? Ond mae'n mynd yn ddyfnach na hynny. Dywedodd tystion wrth y Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol fod ysgolion ac addysgwyr i'w gweld yn anymwybodol o'u rhwymedigaethau i weithio tuag at Gymru wrth-hiliol. Ychydig dros chwarter yr athrawon oedd yn ymwybodol o'r gwaith a wnaed gan yr Athro Charlotte Williams yn y maes hwn, ac roedd llai—un o bob pum athro—yn hyderus eu bod yn deall sut y bydd gwrth-hiliaeth yn mynd i'w le yn y cwricwlwm. Nid yw'n ddigon da.
Mae Llywodraeth Cymru yn wych am gynllunio, ond yn wael iawn am gyflawni'r cynlluniau hynny. Rwy'n annog Llywodraeth Cymru i dderbyn holl argymhellion yr adroddiad hwn yn llawn, nid mewn egwyddor yn unig. Heb ddata diriaethol, targedau a phethau i'w cyflawni, ni fydd y cynllun gweithredu gwrth-hiliol yn gwneud dim i fynd i'r afael â hiliaeth strwythurol yng Nghymru. Diolch yn fawr.
Mae pobl ddu, Asiaidd ac o dras ethnig lleiafrifol yng Nghymru yn wynebu heriau ac anfantais difrifol ac annerbyniol. Ac am yn rhy hir, maen nhw wedi bod yn clywed y bydd newid o ran hyn, drwy gynlluniau gweithredu a datganiadau gan Lywodraeth Cymru. Ond fe ddywedon nhw yn glir wrthym ni nad ydyn nhw'n teimlo nac yn gweld bod newid yn digwydd. Roedd hyn yn glir o'r dystiolaeth glywon ni fel pwyllgor. Er yn cytuno gyda dyheadau a nod y cynllun gweithredu gwrth hiliol, roedd yn hollol eglur bod yna fwlch gweithredu, a bod cynnydd yn rhy araf er mwyn sicrhau nad yw pobl yng Nghymru yn profi hiliaeth ac effaith rhagfarn ac anghydraddoldeb ar sail hil yn eu bywydau bob dydd.
Tra bo angen newid ar bob lefel ac ym mhob elfen o gymdeithas i sicrhau hyn, un o brif negeseuon ein hadroddiad oedd bod angen gwell arweiniad a chyllido pwrpasol a gwell gwerthuso o gynnydd gan Lywodraeth Cymru os ŷm ni moyn gweld gwir wahaniaeth. Rwy'n siomedig felly bod y Llywodraeth, er yn derbyn ein hargymhelliad i geisio sicrhau bod ei gweithlu ei hunan, er enghraifft, yn fwy amrywiol, yn dweud bod cyfyngiadau ar y gyllideb sydd ar gael i effeithio ar gyfleoedd i recriwtio. Mae'n rhaid i'r Llywodraeth wneud mwy i ddechrau wrth eu traed eu hunain wrth arwain drwy esiampl.
Mae diffyg cyllid hefyd yn cael ei weld gan sefydliadau sy'n gwbl sylfaenol i sicrhau gweithredu, fel y gymdeithas llywodraeth leol a byrddau iechyd, fel rhwystr, ac mae'n rhwystredig bod y Llywodraeth yn methu â darparu dadansoddiad o'r adnoddau sydd ar gael i gefnogi'r cynllun, yn unol â'n hargymhelliad cyntaf ni.
Dwi'n meddwl ei bod yn werth dyfynnu Ceri Harris, o fwrdd iechyd Betsi Cadwaladr, a dyma ddywedodd hi wrthym ni am yr angen am adnoddau ychwanegol i gefnogi cynllun gweithredu:
'Rydym yn disgwyl llawer gan bobl am ddim, ac felly mae angen inni werthfawrogi'r amser hwnnw. Os ydym o ddifrif ynglŷn â hyn, mae angen i chi roi eich arian ar eich gair yn hyn o beth. Ac felly os ydym am sicrhau Cymru wrth-hiliol erbyn 2030, mae angen inni gael yr adnoddau hynny... Rwyf wedi bod yn gweithio ym maes cydraddoldeb ers 20 mlynedd. Yn llythrennol, mae'n rhaid imi fegian, dwyn a benthyg arian i wneud gwahanol gynlluniau. Rwy'n talu am gynlluniau o fy mhoced fy hun am ei fod yn bwysig i mi.'
Gwelon ni fel pwyllgor yn arbennig yr angen i ffocysu yn benodol a gyrru newid cadarn ym meysydd addysg, iechyd a chyfiawnder troseddol. Hoffwn ganolbwyntio nawr am weddill yr amser sydd gen i ar yr argymhelliad olaf, sef y dylai Llywodraeth Cymru sefydlu arsyllfa cyfiawnder troseddol i Gymru a cheisio cyfleoedd pellach i gydweithio â’r byd academaidd yng nghyd-destun y cynllun gweithredu.
Y rheswm dros yr argymhelliad hwn yw un o'r arwyddion mwyaf eglur o anghydraddoldeb systemig sy'n seiliedig ar hil a hiliaeth: y ffaith bod pobl o gefndiroedd lleiafrif ethnig yn cael eu gorgynrychioli ar bob lefel o’r system cyfiawnder troseddol yng Nghymru. O'r ffigurau mwyaf diweddar sydd gennym ni, yn 2021, roedd 51 allan o bob 10,000 o bobl ddu Gymreig yn y carchar, o'i gymharu â 14 o bobl gwyn, a mwy o bobl ddu hefyd dan ofal y gwasanaethau prawf. Mae hyd dedfrydau hefyd yn hirach i bobl ddu na diffynyddion gwyn. Yn yr un modd, mae'r data cyfyngedig sydd ar gael yn cadarnhau lefel uchel o anghymesuredd yn y defnydd o stop and search gan luoedd heddlu Cymru.
Diolch i waith ymchwil arloesol a hollbwysig Dr Robert Jones o Ganolfan Llywodraethiant Cymru, mae darlun cliriach o'r anghymesuredd o ran hil yn y system gyfiawnder troseddol wedi ei amlygu ac yn tanlinellu’r angen i Lywodraeth Cymru fynd ar drywydd yr agenda gwrth-hiliaeth yn y maes hwn. Roedd yn rhaid defnyddio ceisiadau rhyddid gwybodaeth i ganfod llawer o'r wybodaeth yma, ac mae'r anawsterau yn deillio o'r ffaith nad yw'r data ar gael. Yn wir, os darllenwch chi gyfrol arbennig The Welsh Criminal Justice System: On the Jagged Edge Dr Robert Jones a'r Athro Richard Wyn Jones, rydych chi'n deall pam. Mae'n ymwneud yn gyfan gwbl â'r ffaith nad yw'r system gyfiawnder troseddol o dan ein rheolaeth.
Mae'n gwbl gywilyddus bod Yvette Cooper heddiw wedi datgan yn glir na fydd yna newid yn hyn o beth o dan Lywodraeth Lafur yn San Steffan, yn groes i gyfres hir o adroddiadau arbenigol, barn ddatganiedig y Llywodraeth a thystiolaeth a glywon ni fel pwyllgor am yr anghyfiawnder a'r niwed mae hyn yn achosi i, er enghraifft, bobl ddu, Asiaidd ac o dras ethnig lleiafrifol. Hoffwn wybod os yw'r Ysgrifennydd Cabinet yn condemnio'r sylwadau yna.
Mae'n rhaid derbyn mewn egwyddor yr angen am gefnogi a datblygu gwaith yn y maes hwn o ran casglu data, ac mae'r Llywodraeth yn derbyn hyn mewn egwyddor. Ond hoffwn ofyn, i orffen, am ddiweddariad penodol ar yr hyn mae'r Llywodraeth yn ei wneud i ddatblygu a chefnogi'r ymchwil hanfodol yma, a gofyn am ymrwymiad gan yr Ysgrifennydd Cabinet newydd, gyda newid yn y Llywodraeth yn fwy na thebygol erbyn Gorffennaf, beth fydd yr achos y bydd hi'n ei wneud i Keir Starmer ynglŷn â sicrhau y caiff pwerau plismona a chyfiawnder eu datganoli. Ydych chi'n cytuno bod y sefyllfa bresennol yn anghynaliadwy—
Sioned, rhaid i ti orffen nawr, os gwelwch yn dda.
—ie, brawddeg olaf—ac yn anghyson at greu Cymru wrth-hiliol?
Jane Dodds. Na, Jane, rydych chi'n dal i fod wedi eich tawelu ar hyn o bryd. Gallwch ddechrau nawr.
Diolch yn fawr iawn. Hoffwn ddechrau drwy fynegi fy niolch i aelodau'r pwyllgor a hefyd i'r unigolion a'r sefydliadau a gymerodd ran ac a roddodd dystiolaeth mor werthfawr i mi ac i ni fel pwyllgor. Hoffwn innau hefyd gydnabod y realiti llwm fod anghydraddoldeb hiliol yn parhau yma yng Nghymru. Er gwaethaf pocedi o gynnydd, mae pobl o gefndiroedd lleiafrifol ethnig yn parhau i wynebu gwahaniaethau ym maes tai, addysg, cyflogaeth, gofal iechyd ac fel y clywsom, yn y system cyfiawnder troseddol. Mae'r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol wedi nodi meysydd lle ceir newid cadarnhaol, ond ni allwn orffwys ar ein rhwyfau. Mae cynllun gweithredu gwrth-hiliol Llywodraeth Cymru yn nodi gweledigaeth uchelgeisiol ond angenrheidiol i gyflawni Cymru wrth-hiliol erbyn 2030, gweledigaeth yr ydym i gyd yn ei chroesawu, oherwydd mae angen iddo ymwneud â datgymalu'r fframwaith hiliol sydd gan Gymru ar hyn o bryd.
Mae hunanfodlonrwydd yn parhau i fod yn elyn i gynnydd ac mae adroddiad y pwyllgor yn tynnu sylw at yr heriau aruthrol y mae angen i Lywodraeth Cymru eu goresgyn o ran arweinyddiaeth bendant, cydweithio gweithredol a monitro manwl. Felly mae'n ddigalon darllen ymateb Llywodraeth Cymru i argymhellion y pwyllgor, sy'n ymddangos fel pe bai'n ceisio bychanu ei chyfrifoldebau arwain yn ei pharodrwydd i dderbyn ein hargymhellion naill ai'n rhannol neu mewn egwyddor heb fwrw ymlaen â chamau gweithredu allweddol. Er enghraifft, mae gwrthod argymhelliad 3 yn llwyr yn gyfle a gollwyd. Drwy nodi mai'r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol yn unig sy'n gyfrifol fel y rheoleiddiwr am wella cynlluniau cydraddoldeb strategol, ymddengys bod Llywodraeth Cymru yn ymwrthod â'i rôl i sbarduno cynnydd yn rhagweithiol yn hyn o beth.
Ar ben hynny, o ran argymhelliad 4, bydd penderfyniad Llywodraeth Cymru i ddibynnu'n unig ar y casgliad o adnoddau ar llyw.cymru yn hytrach na microwefan annibynnol benodol yn cyfyngu ar hygyrchedd a gwelededd yr adnoddau hanfodol hyn ac yn rhwystro tryloywder.
Hoffwn ganolbwyntio ar y sector addysg yn fy nghyfraniad byr, ac mae'r hyn a glywsom yn parhau i fod yn dyngedfennol yn y frwydr yn erbyn anghydraddoldeb hiliol. Fel yr amlygodd y comisiynydd plant yn eu hadroddiad fis Tachwedd diwethaf, mae angen eglurder ar frys ynglŷn â'r modd y dylai ysgolion drin digwyddiadau hiliol, a diffyg cysondeb pryderus ar draws awdurdodau lleol mewn perthynas â chofnodi ac adrodd am ddigwyddiadau. Mae'r adroddiad yn paentio darlun pellach o ysgolion fel amgylcheddau gelyniaethus lle mae bwlio'n rhemp, gyda llawer o leiafrifoedd ethnig heb hyder yn effeithiolrwydd polisïau i atal bwlio hiliol a mân-weithredoedd ymosodol. Mae'r realiti hwn yn gwbl annerbyniol ac mae'n tanseilio union egwyddorion system addysg gynhwysol a theg. Mae'n peri gofid felly nad yw ymateb Llywodraeth Cymru i argymhelliad 9, sy'n galw am system genedlaethol gyson ar gyfer adrodd am ddigwyddiadau, yn dangos y brys a'r argyhoeddiad sydd ei angen i fynd i'r afael ynglŷn â'r argyfwng hwn.
Drwy wrthod yr angen am amserlenni pendant ac ymrwymiadau rhwymol, mae'r Llywodraeth yn tanseilio hyder ymhellach ac yn creu perygl o ganiatáu i'r sefyllfa hon waethygu. Felly, rwy'n annog Ysgrifennydd y Cabinet i roi sicrwydd bod Llywodraeth Cymru o ddifrif ynglŷn â mynd i'r afael â'r mater a gweithio gydag Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg. Mae angen inni edrych ar ddata hefyd, ac fel y clywsoch gan fy nghyn gyd-aelod o'r pwyllgor, Altaf Hussain, a chan Sioned Williams, hoffwn glywed mwy gan Ysgrifennydd y Cabinet ynglŷn â pha ystyriaeth y mae Llywodraeth Cymru yn ei rhoi i greu systemau cynhwysfawr i gasglu data, yn enwedig ynghylch gwaharddiadau ysgol, gan olrhain ethnigrwydd i nodi patrymau gwahaniaethu, ac adolygu ysgolion sydd â chyfraddau gwahardd uchel.
Hoffwn orffen drwy ddyfynnu'r diweddar Nelson Mandela, sydd, yn fy marn i, yn berthnasol iawn o ran y rôl y mae addysg yn ei chwarae mewn gwrth-hiliaeth: ni chaiff neb ei eni'n casáu person arall oherwydd lliw eu croen, neu eu cefndir, neu eu crefydd. Mae pobl yn dysgu casáu, ac os gallant ddysgu casáu, gellir eu dysgu i garu, gan mai cariad, yn hytrach na'i wrthwyneb, sy'n dod yn naturiol i'r galon ddynol.
Rwy'n gobeithio y bydd Llywodraeth Cymru yn dangos yr arweinyddiaeth sydd ei hangen arnom i roi camau a waith i gael gwared ar y casineb hwn. Diolch yn fawr iawn.
Hoffwn ddechrau drwy longyfarch y Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol ar ei adroddiad a'r rhai a fu'n ymwneud â'r pwyllgor yn y gwaith hwn, ac yn amlwg, y rhai a roddodd dystiolaeth. Hoffwn dynnu sylw at y gymuned Sipsiwn, Roma a Theithwyr, Ddirprwy Lywydd, oherwydd credaf fod eu lleisiau'n cael eu colli'n aml pan fyddwn yn trafod rhagfarn a gwahaniaethu. Os ydym am symud ymlaen i fod yn Gymru wrth-hiliol, mae angen inni fynd i'r afael â gwahaniaethu yn erbyn pob rhan o'n cymdeithas yma yng Nghymru, gan gynnwys cymunedau Sipsiwn, Roma a Theithwyr. Ymddengys ei bod yn dal i fod yn wir, yn anffodus, fod rhai pobl yn teimlo y gallant wahaniaethu yn erbyn y cymunedau hynny, er na fyddent yn gwahaniaethu yn erbyn lleiafrifoedd eraill. Mae angen inni fynd i'r afael â'r materion sylfaenol sy'n gwneud y realiti hwnnw'n bosibl.
Credaf ei bod yn gwbl glir fod addysg, fel erioed, yn bwysig, ac mae Comisiynydd Plant Cymru wedi canfod bod lefel annerbyniol o fwlio yn erbyn plant o deuluoedd sy'n Sipsiwn neu'n Deithwyr, ac mae lefel y gwaharddiadau ymhell y tu hwnt i'r hyn a welwn ar gyfer gweddill y boblogaeth. Nid yw'r gymuned honno'n cael ei chynrychioli ymhlith staff addysgu, ac yn wir, nid ydynt yn cael eu cynrychioli yn y rhan fwyaf o'r adnoddau sy'n cael eu defnyddio yn yr ysgol. Mae gwaith gwirioneddol i'w wneud i addysgu plant yn gyffredinol yn ein hysgolion, fel nad yw'r plant hyn yn wynebu agweddau a gwahaniaethu o'r fath. Felly, mae llawer i'w wneud ym maes addysg os ydym am fynd i'r afael â'r sefyllfa ddiwylliannol sy'n wynebu ein cymunedau Sipsiwn, Roma a Theithwyr.
Rwy'n croesawu'r ffaith bod Llywodraeth Cymru wedi darparu cyllid ychwanegol i awdurdodau lleol yn ddiweddar i fynd i'r afael â rhai o'r materion hyn, ond yn amlwg, mae llawer iawn mwy i'w wneud o hyd. Agwedd arall ar y problemau a wynebir yw tai. Mae Deddf Tai (Cymru) 2014 yn darparu dyletswydd gyfreithiol ar awdurdodau lleol i asesu anghenion llety cymunedau Sipsiwn, Roma a Theithwyr, ond yn ddiweddar, canfu Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru fethiannau pryderus iawn yn Llywodraeth Cymru i gyflawni ei dyletswyddau ei hun yn briodol ac i sicrhau bod awdurdodau lleol yn cyflawni eu dyletswyddau nhw. Yn y flwyddyn ariannol ddiwethaf, ni wariwyd unrhyw arian o'r gronfa arian sydd gan Lywodraeth Cymru i sicrhau bod awdurdodau lleol yn darparu safleoedd ar gyfer cymunedau Sipsiwn, Roma a Theithwyr. Mae'n enghraifft arall glir, rwy'n credu, o sut rydym ni'n gwneud cam â'r bobl hyn—
A wnewch chi dderbyn ymyriad?
Gwnaf, yn sicr, Gareth.
Yn amlwg, yng ngogledd Cymru, ac rwyf wedi rhoi sylw penodol i hyn yn y gorffennol, yn sir Ddinbych, er enghraifft, mae rheolau Llywodraeth Cymru yn nodi bod yn rhaid iddo fod o fewn radiws penodol i lwybrau ffyrdd mawr, felly, yn sir Ddinbych, roedd y broblem yn ymwneud â'r ffaith mai sir Ddinbych yw'r unig awdurdod lleol yng ngogledd Cymru lle nad oes safle Sipsiwn a Theithwyr o fewn ffiniau'r sir, oherwydd yn sir Ddinbych mae gennych ardal 6 milltir i ddewis ohoni, ac nid yw hynny, mewn termau daearyddol, yn crynhoi'r sir gyfan. Felly, gan fod yr A55 yn mynd drwy ganol y sir yn y bôn, neu fwy yng ngogledd y sir, nid yw'n cynnig yr un lefel o degwch ag a fyddai wedi bod yn wir mewn siroedd eraill efallai, am mai dim ond rhan fach iawn o'r sir honno y mae'r A55 yn mynd drwyddi. Felly, yn y termau hynny, a fyddech chi'n derbyn efallai y gellid mabwysiadu dull mwy rhanbarthol weithiau i gydnabod rhai o'r gwirioneddau daearyddol yn hynny o beth, ar ryw fath o lefel logistaidd?
Na, nid wyf yn credu y byddwn, Gareth, oherwydd mae'n gyfrifoldeb, ac yn wir, fel y dywedais, mae'n ddyletswydd gyfreithiol ar bob awdurdod lleol yng Nghymru—pob awdurdod lleol—nid ar sail ranbarthol, ond pob awdurdod lleol unigol i asesu anghenion llety Sipsiwn a Theithwyr yn briodol ac i ddarparu ar eu cyfer. Rwy'n ofni mai'r hyn a welwn yn rhy aml yw stigma, gwahaniaethu a rhagfarn yn ymddangos, ac yn amlwg, nid ydym eisiau gweld hynny mewn unrhyw ran o Gymru.
Ddirprwy Lywydd, gobeithio y byddwch chi'n rhoi—
Rwyf am roi dau funud ychwanegol i chi, oherwydd fe gymerodd ddau funud.
Diolch yn fawr. Enghraifft arall, rwy'n credu—ac unwaith eto, mae'n gysylltiedig â thai—yw'r ffordd y mae'r system gynllunio'n gweithredu. Mae rhagfarn go iawn, unwaith eto, a gwahaniaethu, yn anffodus, yn y ffordd y mae ein system gynllunio yn gweithio. Ac mae hynny'n wir mewn perthynas â safleoedd mwy o faint a chyfrifoldebau awdurdodau lleol, ond hefyd safleoedd llai. Ac mae llawer o aelodau o'r gymuned Sipsiwn a Theithwyr yn berchen ar dir eu hunain, yr hoffent ei ddatblygu ar gyfer eu hanghenion tai eu hunain, a safleoedd bach ydynt. Yn aml iawn, maent yn creu llai o heriau na'r safleoedd mwy o faint, sy'n aml heb fod yn ddelfrydol ar gyfer y gymuned Sipsiwn a Theithwyr, nac yn wir i'r awdurdod lleol a chymdogion, oherwydd natur y safleoedd. Ac yn aml iawn, mae'n rhaid imi ddweud, mae'r safleoedd hynny—ac mae enghraifft yma yng Nghaerdydd, onid oes, ar Rover Way—wedi cael eu lleoli yn y llefydd mwyaf amhriodol, llefydd nad wyf yn credu yr hoffai unrhyw un ohonom fyw ynddynt, ond er hynny, mae disgwyl i gymunedau Sipsiwn a Theithwyr breswylio yno.
Felly, o ran y system gynllunio a'r safleoedd llai hynny, credaf mai un ffordd bwysig iawn ymlaen fyddai edrych ar sut mae'r system gynllunio'n gweithio, i sicrhau nad oes unrhyw ragfarn, gwahaniaethu na stigma o gwbl ynghlwm wrth weithredu'r system gynllunio honno, ac edrych ar y safleoedd llai hyn yn arbennig, oherwydd rwy'n gwybod o fy ymgysylltiad fy hun â'r gymuned Sipsiwn a Theithwyr, drwy'r grŵp trawsbleidiol ar gydraddoldeb hil a gadeirir gennyf, a hefyd o gadeirio pwyllgorau yma yn y Senedd, yn aml iawn y safleoedd llai hynny yr hoffai'r gymuned eu gweld yn cael eu datblygu a'u caniatáu ledled Cymru. Diolch yn fawr, Ddirprwy Lywydd.
Galwaf ar Ysgrifennydd y Cabinet dros Ddiwylliant a Chyfiawnder Cymdeithasol, Lesley Griffiths.
Diolch, Ddirprwy Lywydd. Rwy'n falch iawn o gael y cyfle i ymateb ar ran Llywodraeth Cymru mewn perthynas ag ymchwiliad 'Cynllun Gweithredu Cymru Wrth-hiliol', ac rwy'n croesawu adroddiad y Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol, 'Gweithredu, nid geiriau: creu Cymru wrth-hiliol erbyn 2030', ac rwyf wedi ystyried yr argymhellion yn ofalus iawn. Hoffwn ddiolch yn fawr iawn i fy rhagflaenydd, Jane Hutt, sydd yn y Siambr yn gwrando ar y ddadl hon, am ei hymrwymiad diwyro i'r cynllun gweithredu ac edrychaf ymlaen at barhau â'i gwaith gyda'r un angerdd i sicrhau Cymru wirioneddol wrth-hiliol.
Mae adroddiad blynyddol 2022-23 ar y cynllun gweithredu yn dangos, er efallai nad yw effaith y cynllun mor amlwg eto ym mhrofiadau bywyd pobl dduon, Asiaidd a lleiafrifol ethnig ag y byddem yn ei ddymuno, gosodwyd sylfeini strwythurol sylweddol ar gyfer newid hirdymor, a chyflawnwyd cynnydd diriaethol. Mae'r cynllun gweithredu yn sylweddol wahanol i'r rhai blaenorol, yn ei ddatblygiad a'i weithrediad. Cafodd ei gydgynhyrchu gyda phobl dduon, Asiaidd a lleiafrifol ethnig ac mae gennym strwythur llywodraethu yn ganolog iddo a fydd yn grŵp atebolrwydd allanol. Caiff hwnnw ei gadeirio ar y cyd gan yr Ysgrifennydd Parhaol a'r Athro Emmanuel Ogbonna, ac mae'n cynnwys 11 cynrychiolydd du a lleiafrifol ethnig ac wyth arbenigwr ar hil. Mae'r ffocws hwn ar brofiad bywyd yn gwneud y cynllun yn gryfach, rwy'n credu, nag unrhyw gynlluniau blaenorol i fynd i'r afael ag anghydraddoldeb hil.
Mae'r grŵp yn dwyn Llywodraeth Cymru i gyfrif yn uniongyrchol drwy gyfarfodydd y grŵp atebolrwydd allanol a rolau gweithredol mewn is-grwpiau polisi. Bydd ein fforymau rhanbarthol yn ychwanegu haen bellach o fonitro ac atebolrwydd, gan y byddant yn cysylltu Llywodraeth Cymru yn uniongyrchol ag unigolion a chymunedau lleiafrifoedd ethnig ar lawr gwlad y mae newidiadau polisi yn effeithio arnynt.
Mae ail fersiwn newydd o adroddiad 'Cynllun Gweithredu Cymru Wrth-hiliol' ar y gweill, ar gyfer 2024-26. Bydd yn mireinio nodau a chamau gweithredu presennol i gryfhau ei weithrediad a mesur effaith, ac mae'n arwydd o'r weledigaeth feiddgar o sicrhau Cymru wrth-hiliol erbyn 2030, gyda nodau a chamau gweithredu sy'n rhychwantu'r Llywodraeth gyfan. Sefydlwyd yr uned tystiolaeth gwahaniaethau ar sail hil ym mis Ionawr 2022. Mae'n datblygu fframwaith i fesur a gwerthuso effaith y cynllun gweithredu ar draws Llywodraeth Cymru a'r sector cyhoeddus ehangach mewn ffordd ystyrlon, ac rwy'n credu bod y pwynt a wnaeth Jane Dodds ynghylch—mae gwir angen iddi fod yn ymdrech ar y cyd, ac nid wyf yn credu bod hynny'n golygu ar draws y Llywodraeth yn unig; yn sicr, mae'n ymdrech ar y cyd gyda phob Gweinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet yn Llywodraeth Cymru, ond hefyd mewn cydweithrediad â'n cyrff cyhoeddus.
Mae'r uned rwyf newydd gyfeirio ati yn cynrychioli Llywodraeth Cymru ar ffrwd waith casglu data a pherfformiad cynllun gwrth-hiliol y system cyfiawnder troseddol yng Nghymru. Mae hyrwyddo mynediad at ddata cyfiawnder wedi'i ddadgyfuno yn parhau i fod yn flaenoriaeth i Lywodraeth Cymru, ac mae'r gwaith hwnnw'n ategu ac yn adeiladu ar y gwaith y cyfeiriodd Sioned Williams ato, a gyflawnwyd gan Richard Wyn Jones a Rob Jones, sydd wedi tynnu sylw at werth data tryloyw a hygyrch ar y system gyfiawnder yng Nghymru. Ar ben hynny, mae Llywodraeth Cymru wedi datblygu dangosfyrddau data rhyngweithiol i lunio a lledaenu data cyfiawnder Cymru, ac mae dangosfwrdd cyfiawnder ieuenctid wedi'i gyhoeddi gyda mwy i'w ddilyn. Mae'r dangosfyrddau hyn yn cyflwyno data sydd ar gael i'r cyhoedd gan y Weinyddiaeth Gyfiawnder mewn ffordd hygyrch ac effeithiol iawn.
Ym maes iechyd a gofal cymdeithasol, mae sefydlu bwrdd gweithredu a herio, dan gadeiryddiaeth Judith Paget, prif weithredwr GIG Cymru a chyfarwyddwr cyffredinol y grŵp iechyd a gwasanaethau cymdeithasol yma yn Llywodraeth Cymru, wedi darparu llywodraethiant ac atebolrwydd cryf a chadarn i gyflymu'r broses o weithredu'r cynllun gweithredu. Rwy'n credu bod yr arddangosiad hwn o arweinyddiaeth ar y lefel uchaf wedi sicrhau bod proffil uchel iawn i weithredoedd gwrth-hiliol. Mae'r bwrdd wedi gwahodd partneriaid a rhanddeiliaid allanol i gyflwyno'r rhwystrau a'r heriau y maent yn eu hwynebu wrth roi'r cynllun gweithredu ar waith, ac i weithredu fel cyfaill beirniadol. Mae Llywodraeth Cymru hefyd yn gweithio'n agos gyda Gofal Cymdeithasol Cymru i sicrhau amrywiaeth yn eu penodiadau cyhoeddus drwy eu hymarfer recriwtio presennol i'r bwrdd, ac mae cyfarwyddiaeth gwasanaethau cymdeithasol Llywodraeth Cymru yn adolygu aelodaeth pob grŵp rhanddeiliaid i osod disgwyliadau uchel o gynrychiolaeth o gymunedau lleiafrifoedd ethnig.
Cymru yw'r wlad gyntaf yn y DU i sicrhau bod addysgu hanesion pobl dduon, Asiaidd a lleiafrifol ethnig yn orfodol yng Nghwricwlwm Cymru. Mae'n bwysig i'n haddysgwyr a'n pobl ifanc ddeall bod yr hanesion hyn yn perthyn i bob un ohonom. Mae Llywodraeth Cymru hefyd yn rhoi ystyriaeth lawn i argymhellion Comisiynydd Plant Cymru yn ei hadroddiad sbotolau ar brofiadau plant o hiliaeth mewn ysgolion uwchradd. Er enghraifft, rydym yn cryfhau ein canllawiau gwrth-fwlio statudol presennol ar gyfer ysgolion, 'Hawliau, parch, cydraddoldeb', ac rydym yn gwneud hyn drwy ddiweddaru'r canllawiau presennol i gynghori lleoliadau addysg ar sut i fynd i'r afael â bwlio ac aflonyddu sy'n gysylltiedig â rhagfarn mewn modd effeithiol, ac mae hynny'n cynnwys digwyddiadau hiliol. Mae gan ysgolion a lleoliadau addysgol rôl hanfodol i fynd ati i greu amodau gwrth-hiliol i sicrhau nad yw profiadau a chyfleoedd heddiw yn cael eu difetha gan anghydraddoldebau a hiliaeth y gorffennol.
Rwyf eisoes wedi ymateb i argymhellion y pwyllgor, ac rwyf eisiau pwysleisio ein gwaith parhaus i ddiweddaru 'Cynllun Gweithredu Cymru Wrth-hiliol'. Rydym wedi ymrwymo'n llwyr i wella iteriadau yn y dyfodol a mynd i'r afael â'r bylchau y cyfeiriodd Sioned Williams atynt, ac sydd wedi'u nodi gan y pwyllgor. Fy ffocws uniongyrchol yw cyhoeddi'r cynllun diwygiedig eleni. Bydd ein hadroddiad blynyddol nesaf yn edrych ar yr effaith a wnaed ar draws meysydd polisi gwahanol o fewn Llywodraeth Cymru. Mae cryfhau cydweithrediad gyda phartneriaid ar draws y sector cyhoeddus ehangach a'r trydydd sector yng Nghymru hefyd yn flaenoriaeth allweddol.
Mae ein diben yn glir: gwneud newidiadau ystyrlon a mesuradwy i fywydau pobl dduon, Asiaidd a lleiafrifol ethnig drwy fynd i'r afael â hiliaeth; mewn gwirionedd, i bob cymuned sy'n profi hiliaeth a rhagfarn, ac fe gyfeiriodd John Griffiths yn huawdl iawn at gymunedau Sipsiwn a Theithwyr—
A wnewch chi dderbyn ymyriad gan Sioned Williams?
Mae'n ddrwg gennyf?
A wnewch chi dderbyn ymyriad gan Sioned Williams?
A gaf i orffen hyn? Fe gyfeiriodd John Griffiths yn huawdl iawn at gymunedau Sipsiwn, Teithwyr a Roma, sy'n sicr yn wynebu hynny. Iawn, fe wnaf dderbyn ymyriad.
Sioned.
Diolch, Ysgrifennydd Cabinet. Rwyf jest eisiau mynd yn ôl at bwynt, roeddech chi'n sôn yn fanna am y gwaith ac ymdrechion Llywodraeth Cymru, a'ch swyddogion, ynghyd â phartneriaid, o fewn y glasbrintiau cyfiawnder, er enghraifft, i fynd i'r afael â'r hyn y mae'r adroddiad yn ei ddisgrifio, ond a ydych chi'n derbyn bod y trefniadau cyfansoddiadol presennol, yng ngeiriau Dr Robert Jones, yn fygythiad sylweddol i weledigaeth y cynllun gweithredu gwrth-hiliol?
Rwy'n credu ei bod yn bwysig iawn ein bod yn gweithio ar y cyd. Nid wyf yn ymwybodol o'r geiriau penodol y gwnaethoch chi gyfeirio atynt, ond credaf ei bod yn bwysig iawn ein bod yn gweithio gyda'n gilydd. Gallwch ddweud hyn am sawl agwedd ar ddatblygu polisi: ni all Llywodraeth Cymru wneud hyn ar ei phen ei hun. Ac rwy'n gobeithio fy mod wedi disgrifio ac egluro nad yw'r gwaith a wnawn ond yn digwydd ar draws y Llywodraeth yn unig; mae'n digwydd gyda'n holl gyrff cyhoeddus. Mae gan bawb ran i'w chwarae mewn perthynas â hyn. Rwyf wedi ymrwymo i fynd i'r afael â hiliaeth systemig a diwylliannol ar bob ffurf fel blaenoriaeth. Yr hyn y mae angen i ni ei wneud yw defnyddio pob dull sydd ar gael i ni. Mae angen i bob un ohonom chwarae rhan flaenllaw yn y gwaith o gael gwared ar hiliaeth yma yng Nghymru.
Galwaf yn awr ar Jenny Rathbone i ymateb i'r ddadl.
Diolch yn fawr iawn. Yn gyntaf, hoffwn ddiolch i'r clercod a'r gwasanaeth ymchwil am y gefnogaeth ardderchog a roesant i'r pwyllgor. Rwyf hefyd eisiau diolch i holl aelodau'r pwyllgor am eu hymrwymiad i gyfiawnder cymdeithasol, gan gynnwys y tri Aelod sydd wedi gadael y pwyllgor ers inni gyhoeddi'r adroddiad hwn, sef Ken Skates a Sarah Murphy, sy'n amlwg heb fod mewn sefyllfa i gyfrannu at y ddadl hon heddiw, ac Altaf Hussain, sy'n eiriolwr gwych dros wrth-hiliaeth. Rydym wedi bod yn ddiolchgar iawn am Altaf Hussain ac yn gobeithio gweithio gydag ef ar sail barhaus. Rwyf hefyd eisiau talu teyrnged i Jane Hutt, sydd wedi bod yn eiriolwr diflino dros gydraddoldeb a chyfiawnder cymdeithasol, ac sydd wedi bod yn arwain ar hyn tan yn ddiweddar iawn.
Mae Altaf Hussain yn siarad am hiliaeth strwythurol, rhywbeth dyrys nad yw pobl yn sylweddoli ei fod yno. Ydym, rydym yn un o'r gwledydd mwyaf goddefgar yn y byd gorllewinol, ddim ond ychydig bach y tu ôl i Sweden, ond nid yw hynny'n golygu nad oes rhaid i ni weithio'n galetach fyth i gyflawni'r Gymru wrth-hiliol y mae'r cynllun hwn yn ei rhagweld, oherwydd byddai peidio â gwneud hynny yn golygu peidio â chael cefnogaeth lawn yr holl dalent sydd yng Nghymru. Mae'n effeithio ar ein heconomi, ar ein haddysg a phob agwedd arall ar gydlyniant ein cymunedau, felly mae hwn yn fater gwirioneddol arwyddocaol i bob un ohonom.
Rwy'n credu bod Altaf yn tynnu sylw at fater difrifol iawn, sef y ffaith mai dim ond 0.2 y cant o'n hathrawon sy'n ddu, oherwydd, yn realistig, sut y gallwn fynd i'r afael â hiliaeth y mae plant wedi'i ddwyn i mewn i'r ysgolion, wedi'i ddysgu gan yr oedolion yn eu bywydau? Nid oes unrhyw blentyn yn cael ei eni'n hiliol. Mewn gwirionedd, maent yn hollol ddall i unrhyw wahaniaethu pan yndynt yn ddwy, tair, pedair neu bump oed, ond yn nes ymlaen, maent yn dechrau clywed a mabwysiadu agweddau pobl eraill yn eu bywydau, a dim ond yn yr ysgol y gallwn ni fynd i'r afael â hyn mewn gwirionedd. Felly, mae'n gwbl hanfodol, yn enwedig pan nad oes gan gynifer o athrawon fel proffesiwn hyder i herio hiliaeth yn yr ystafell ddosbarth, sef lle mae'n digwydd wrth gwrs.
Mae'n rhaid i hyn newid, ac fe all newid, oherwydd roeddem yn arfer gweld llawer iawn o gasineb at fenywod a thrais ar sail rhywedd o ran yr iaith yr oedd pobl yn ei defnyddio mewn ysgolion. Mae llawer llai o gasineb at fenywod nawr, oherwydd mae pawb wedi cydnabod bod hwnnw'n rhywbeth y mae angen inni fynd i'r afael ag ef. Ond yn amlwg mae'n rhaid inni newid holl ddiwylliant ein haddysgu a'n dysgu os ydym am elwa ar fanteision y cwricwlwm newydd, yn enwedig o ran perthnasoedd, gwerthoedd a moeseg y mae'n rhaid inni eu croesawu os ydym am gyflawni Cymru wrth-hiliol.
Siaradodd Jane Dodds hefyd am bwysigrwydd mynd i'r afael â dioddefaint plant a dyfynnodd y dystiolaeth a nodwyd yn adroddiad y comisiynydd plant ynghylch bwlio a mân-weithredoedd ymosodol. Yn amlwg, mae gwir angen i Ysgrifennydd y Cabinet dros gyfiawnder cymdeithasol drafod gydag Ysgrifennydd y Cabinet dros addysg sut yr awn i'r afael â hyn. Hunanfodlonrwydd yw gelyn cynnydd, ac mae gwir angen inni fynd i'r afael â hyn.
Rwy'n falch iawn fod John Griffiths wedi siarad am gymunedau Sipsiwn, Teithwyr a Roma. Rydych chi'n eiriolwr gwych dros weithredu ar wahaniaethu yn erbyn y gymuned sydd â'r canlyniadau gwaethaf o ran cyrhaeddiad addysgol a'r nifer uchaf o waharddiadau, fel y nodwyd hefyd gan y comisiynydd plant. Mae'n rhaid i ni weithredu ar hyn. Ni ddylai unrhyw blentyn gael ei wahardd o'r ysgol, oherwydd mae hwnnw'n llwybr hollol sicr i mewn i'r system cyfiawnder troseddol ar lefel ysgol uwchradd, neu i'r llwybr iechyd meddwl. Felly, ni allwn barhau fel hyn.
Ar dai, mae'n rhaid inni ddod yn ôl at hyn. Rwy'n nodi adroddiad Gareth Davies, ac rwy'n siŵr y byddwn eisiau edrych yn ofalus ac yn fforensig i weld pam nad oes gan sir Ddinbych safle Teithwyr. Ni all ymwneud yn unig â'r A55 yn—[Torri ar draws.] Nid wyf yn siŵr fod gennyf amser.
Fe roddaf amser i chi, peidiwch â phoeni.
Roeddwn yn tynnu sylw at fater a gododd yn yr etholaeth yn Llanelwy yn 2018. Fe wnaethant geisio gwneud cynnydd o ran ceisio cael hynny, ac fe fyddwn yn eich annog i wneud ymchwil ar beth o'r gweithgarwch lleol. Fel yr Aelod etholaethol dros Lanelwy, fy swydd i yw bod yma i gynrychioli barn fy etholwyr, a dyna rwy'n ceisio tynnu sylw ato, a bod realiti ddaearyddol sir Ddinbych yn gwneud hynny'n her. Nid yw'n ymwneud â'r mater. Mae'r pwynt rwy'n ceisio ei wneud yn un mwy ymarferol a logistaidd.
Mae angen inni edrych ar hyn yn fforensig, naill ai yn y Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol neu yn y Pwyllgor Llywodraeth Leol a Thai, oherwydd ni allwn barhau fel hyn, yn peidio â gwario'r arian a ddyrannwyd i fynd i'r afael ag anghenion tai'r gymuned benodol hon.
Rwy'n canmol Sioned am ymgyrchu dros gydraddoldeb ers 20 mlynedd. Yn bendant, mae'n rhaid inni roi ein harian ar ein gair, yn enwedig mewn perthynas â thai. Ond rwy'n ddiolchgar iawn i Sioned am godi mater pwysig arall nad oedd gennyf amser i'w grybwyll yn fy sylwadau cynharach, yn ymwneud â gwahaniaethu systematig a gorgynrychiolaeth lleiafrifoedd ethnig yn y system cyfiawnder troseddol, ar bob lefel o'r system cyfiawnder troseddol, sy'n wirioneddol frawychus ac sy'n gysylltiedig â lefel y gwaharddiadau y soniais amdanynt yn gynharach. Mae gwahardd yn basbort pendant naill ai i salwch meddwl neu'r system cyfiawnder troseddol, oherwydd yn y bôn, rydych chi'n troi plant o'r ysgol ac yn dweud, 'Nid oes dyfodol i chi'. Ac mae tystiolaeth ac ystadegau Dr Robert Jones yno i bawb eu gweld, felly ni all neb ddweud nad oeddem yn gwybod.
Hoffwn dynnu sylw at argymhelliad 10, sy'n ymwneud â'r angen i sefydlu arsyllfa i ddwyn ynghyd holl ymchwil pob un o'r naw prifysgol, oherwydd ym mhob un ohonynt mae pobl yn gwneud gwaith sy'n gysylltiedig â chyfiawnder troseddol, ac mae'n ymddangos i mi fod angen dangosfwrdd lle gallwn gyfeirio at y dystiolaeth orau sydd ar gael ar y pwnc pwysig hwn.
Lesley Griffiths, roeddech chi'n glir iawn, ac fe roesoch chi dystiolaeth dda, fod yna bobl ar lefel uchel iawn yn arwain ar y grŵp gorchwyl a gorffen, ac yn arwain ar y gwasanaethau iechyd, a'ch bod yn talu sylw arbennig i bwyntiau'r comisiynydd plant, a sut yr awn i'r afael â hawliau pob grŵp yn ein cymdeithas a'u parchu. Rwy'n siŵr ein bod i gyd yn falch o glywed y bydd eich adroddiad blynyddol nesaf yn edrych ar effaith, oherwydd dyna'n union yr hoffem ei weld, a dyna y dywedodd ein rhanddeiliaid wrthym yr hoffent ei weld. Felly, rydym yn edrych ymlaen yn fawr at hwnnw, a'i rannu a thrafod rhai o'r heriau a fydd yn sicr o godi.
I gloi, hoffwn bwysleisio teitl ein hadroddiad, sef 'Gweithredu, nid geiriau'. Nid oes unrhyw beth yn anochel am gynnydd. Mae'n galw am waith caled, dewrder a phenderfyniad. Rydym i gyd yn cefnogi'r nod. Rydym i gyd yn cefnogi'r nod, ar draws pob plaid. Ond mae angen i Lywodraeth Cymru gynllunio'r llwybr y mae gofyn i ni ei ddilyn. Os ydym am gyflawni hyn erbyn 2030, sy'n llai na chwe blynedd i ffwrdd, bydd angen i bob un ohonom fod yn weithgar, nid yn oddefol, yn yr ymdrech hon.
Y cwestiwn yw: a ddylid nodi adroddiad y pwyllgor? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Nac oes. Felly, derbynnir y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.