Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau

Part of 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg – Senedd Cymru am 2:46 pm ar 12 Mehefin 2024.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Lynne Neagle Lynne Neagle Llafur 2:46, 12 Mehefin 2024

(Cyfieithwyd)

Wel, Tom, dylech wybod popeth am dyllau duon, o ystyried bod gennym dwll du o £700 miliwn yn ein cyllideb o ganlyniad i'r ffaith ein bod wedi cael ein twyllo gan Lywodraeth Geidwadol y DU. Felly, dyna'r math o ffigurau rydym yn ymgiprys â nhw, nid y £18 miliwn rydych chi wedi'i ysgrifennu ar gefn pecyn sigaréts. Mae hwn yn bolisi a fydd yn rhyddhau cyllid ar gyfer ysgolion. Bydd yn cael ei weithredu'n ystyriol gan Lywodraeth Lafur newydd. Ac mewn perthynas â maint dosbarthiadau, rwy'n siŵr y byddwch wedi clywed Bridget Phillipson yn dweud yn glir iawn fod Emily Thornberry yn anghywir ynglŷn â'r hyn a ddywedodd.