Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau

Part of 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg – Senedd Cymru am 2:44 pm ar 12 Mehefin 2024.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Lynne Neagle Lynne Neagle Llafur 2:44, 12 Mehefin 2024

(Cyfieithwyd)

Wel, mae'n amlwg nad ydych wedi bod yn talu sylw, Tom, oherwydd pwrpas y polisi hwn yw rhyddhau cyllid mawr ei angen i fuddsoddi yn ein hysgolion. Ac mae gennym addewid yn yr etholiad cyffredinol i ddefnyddio'r cyllid hwnnw i gynyddu niferoedd yr athrawon rydym yn eu recriwtio a'u cadw. Felly, nid wyf yn poeni am y polisi hwn. Byddwn yn gweithio gyda Llywodraeth Lafur newydd i sicrhau ein bod yn sicrhau'r canlyniadau gorau posibl i blant yng Nghymru.