Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau

Part of 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg – Senedd Cymru am 2:51 pm ar 12 Mehefin 2024.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Cefin Campbell Cefin Campbell Plaid Cymru 2:51, 12 Mehefin 2024

(Cyfieithwyd)

Diolch yn fawr iawn. Edrychaf ymlaen at weld y symiau canlyniadol hynny'n dod ac at newid y lefelau cyflawniad gwael a welsom dros y 25 mlynedd diwethaf. Roeddech chi'n sôn am recriwtio athrawon, ac rydym yn gwybod bod problemau enfawr o ran recriwtio a chadw athrawon ar draws Cymru gyfan. Ni fu prinder cyhoeddiadau gan Lywodraeth Cymru i annog pobl ifanc i feddwl am yrfaoedd fel athrawon a chynorthwywyr dosbarth, ond a ydym yn gwybod i ba raddau y bu'r ymgyrchoedd hyn yn llwyddiant? Mae'r cynllun cymhelliant addysg gychwynnol i athrawon ar gyfer pynciau blaenoriaeth yn enghraifft o'r fath. Felly, gallwch ddychmygu fy siom pan glywais, yr wythnos diwethaf, mewn cwestiwn i'r Prif Weinidog, nad oes gan Lywodraeth Cymru unrhyw syniad i ba raddau y mae'r cynllun yn gweithio am nad oes gennych dystiolaeth. Nid oes gennych unrhyw ddata i ddangos a yw derbynwyr y cymhelliant cyn 2022-23 yn dal i addysgu yng Nghymru, yn addysgu yn rhywle arall, neu heb fod yn addysgu o gwbl. Nawr, mae'r cynllun hwn wedi bod ar y gweill ers tua degawd, gyda miliynau o bunnoedd eisoes wedi cael ei wario arno. Felly, Ysgrifennydd y Cabinet, sut rydych chi'n ymateb i'r methiant amlwg hwn o ran monitro a gwerthuso, ac a ydych chi'n cytuno na allwn fesur llwyddiant y cynllun hynod bwysig hwn heb ddata o'r fath?