2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg – Senedd Cymru am 2:40 pm ar 12 Mehefin 2024.
Cwestiynau nawr gan lefarwyr y pleidiau. Tom Giffard.
Diolch yn fawr iawn, Lywydd. Gydag etholiad cyffredinol y DU ar y gorwel, roeddwn i'n meddwl y byddwn i'n edrych ar rai o bolisïau Llafur y DU ac edrych ar yr effaith y byddent yn ei chael ar ein sector addysg yng Nghymru. Ac er gwaethaf ymdrechion gorau Keir Starmer i fynd drwy ymgyrch gyfan heb gyhoeddi unrhyw beth, llwyddais i ddod o hyd i un. Byddai Llywodraeth Lafur y DU yn cymhwyso TAW i ysgolion preifat ar ddwy ochr y ffin. Fis diwethaf, ysgrifennais atoch yn gofyn pa effaith y byddai'r polisi hwn yn ei chael ar ysgolion Cymru. Yn rhyfeddol, fe ddywedoch chi wrthyf:
'Nid yw Llywodraeth Cymru wedi comisiynu unrhyw ymchwil yn y maes hwn.'
Ond dywed Keir Starmer y byddai'r polisi hwn yn cael ei weithredu cyn gynted ag y bo modd, pe bai Llafur yn ennill yr etholiad cyffredinol.
A allwch chi ddweud wrth rieni ac ysgolion a fyddai'n digwydd o fis Medi ymlaen ai peidio? A fis ar ôl imi ofyn gyntaf, pa effaith y credwch chi y byddai'r polisi hwn yn ei chael, ac a ydych chi'n derbyn y byddai'n golygu bod rhai disgyblion yn gadael y sector ysgolion preifat ac yn mynd i ysgolion gwladol?
Wel, mae'n dda eich gweld chi'n talu cymaint o sylw â hyn i faniffesto Plaid Lafur y DU. Rwy'n falch iawn fod gennym blaid sydd wedi ymrwymo i ymgyrchu dros addysg a buddsoddi mewn addysg. Fe fyddwch yn ymwybodol nad yw'r cynlluniau ar gyfer TAW wedi'u datganoli. Fe fyddant, wrth gwrs, yn effeithio arnom ni yng Nghymru. Fe wnaethoch chi gyflwyno'r cwestiwn yn gofyn a oeddem ni wedi gwneud unrhyw waith ymchwil. O ystyried y ffaith nad oes gennym Lywodraeth Lafur eto—er ein bod i gyd yn ysu am y Llywodraeth Lafur honno—rwy'n credu y byddai ychydig yn gynnar i gomisiynu gwaith ymchwil ar hynny.
Yr hyn y gallaf ei ddweud wrthych yw bod swyddogion wedi bod yn gweithio arno, felly rydym yn ymwybodol, er enghraifft, y gallai fod problemau penodol i blant sydd mewn lleoliadau anghenion dysgu ychwanegol mewn ysgolion cynradd. Ac rydym yn ymwybodol iawn o hynny. Mae hwnnw'n rhywbeth rwyf eisoes wedi'i drafod gyda Bridget Phillipson, ac os daw Llywodraeth Lafur i rym yn ystod yr wythnosau nesaf, byddaf yn cael trafodaethau gyda fy swyddog cyfatebol, nid yn unig ynglŷn â sut y bydd y cyllid hwnnw o fudd i Gymru, ond hefyd sut y bydd y polisi hwnnw'n cael ei weithredu'n ymarferol.
Wel, o edrych ar ganlyniadau'r Rhaglen Ryngwladol Asesu Myfyrwyr ar ôl 25 mlynedd o Lywodraeth Lafur, rwy'n credu mai'r peth gwaethaf a allai ddigwydd i system addysg yn Lloegr yw Llywodraeth Lafur yn San Steffan.
Nawr, fel y sonioch chi, Ysgrifennydd y Cabinet, y peth gwaethaf am hyn i gyd yw'r ffaith nad yw TAW yn dreth ddatganoledig; mae'n dreth a gesglir gan y Trysorlys yn hytrach nag un a gedwir gan Lywodraeth Cymru. Ac fel y dywedwch, nid yw Llywodraeth Cymru wedi asesu effaith ei pholisi ei hun, a allai fod yn dod i rym cyn gynted â mis Medi os bydd Llafur yn ennill yr etholiad cyffredinol. Ond peidiwch â phoeni, Ysgrifennydd y Cabinet, gadewch imi gynnal yr asesiad effaith hwnnw ar eich rhan. Gadewch i mi wneud y symiau. Roedd adroddiad gan Baines Cutler Solutions Ltd yn 2018 yn rhagweld y byddai tua 25 y cant o ddisgyblion yn gadael ysgolion preifat pe bai TAW yn cael ei gymhwyso iddynt. Felly, yng Nghymru, mae pob plentyn mewn ysgol wladol yn costio £7,327 y flwyddyn, ac os yw 25 y cant o ddisgyblion ysgolion preifat yn gadael, bydd 2,460 yn rhagor o ddisgyblion yn cael eu haddysgu mewn ysgolion gwladol. Felly, y cyfanswm—[Torri ar draws.] Dylai pobl ym Mlaenau Gwent a ledled Cymru fod yn hynod bryderus am hyn, Alun. Felly, gallai cyfanswm y gost i ysgolion Cymru, Ysgrifennydd y Cabinet, olygu twll du gwerth £18 miliwn yng nghyllideb ysgolion Cymru—£18 miliwn.
Ysgrifennydd y Cabinet, a oes gan Lywodraeth Cymru £18 miliwn ychwanegol i'w wario i lenwi'r twll du hwnnw?
Wel, mae'n amlwg nad ydych wedi bod yn talu sylw, Tom, oherwydd pwrpas y polisi hwn yw rhyddhau cyllid mawr ei angen i fuddsoddi yn ein hysgolion. Ac mae gennym addewid yn yr etholiad cyffredinol i ddefnyddio'r cyllid hwnnw i gynyddu niferoedd yr athrawon rydym yn eu recriwtio a'u cadw. Felly, nid wyf yn poeni am y polisi hwn. Byddwn yn gweithio gyda Llywodraeth Lafur newydd i sicrhau ein bod yn sicrhau'r canlyniadau gorau posibl i blant yng Nghymru.
Wel, rwy'n synnu gweld Ysgrifennydd y Cabinet mor ddigyffro ac yn cefnogi polisi a allai adael ysgolion Cymru £18 miliwn yn y coch. Nawr, rydym yn gwybod bod ysgolion yn gwneud penderfyniadau anodd ar hyn o bryd gyda'u cyllidebau, gyda llawer yn diswyddo staff yr eiliad hon, a byddai'r polisi hwn yn gwneud y sefyllfa honno'n waeth. Ond beth arall fyddai effaith y polisi, Lywydd? Mae gennym lai o athrawon a dosbarthiadau mwy o faint yn ein hysgolion. Dywedodd Gweinidog Llafur yr Wrthblaid, Emily Thornberry, yn gynharach yr wythnos hon, 'Mae'n iawn—os oes rhaid i ni gael dosbarthiadau mwy o faint, mae'n rhaid i ni gael dosbarthiadau mwy o faint.' Dyna oedd ei geiriau hi. Ond nid yw'n iawn, Ysgrifennydd y Cabinet. Bydd y polisi hwn yn cael effaith negyddol go iawn ar ein pobl ifanc a'n hysgolion yng Nghymru, ac mae'n ymddangos eich bod chi a Phlaid Lafur y DU yn ddigyffro ynglŷn â hynny, oherwydd mae'n bodloni rhyw ddogma ideolegol i chi. Felly, gwyddom yn iawn beth fyddai Llywodraeth Lafur y DU yn ei olygu i ysgolion Cymru: dosbarthiadau llai a thwll du o £18 miliwn. Onid yw'n wir y byddai Llywodraeth Lafur y DU yn drychineb llwyr i Gymru?
Wel, Tom, dylech wybod popeth am dyllau duon, o ystyried bod gennym dwll du o £700 miliwn yn ein cyllideb o ganlyniad i'r ffaith ein bod wedi cael ein twyllo gan Lywodraeth Geidwadol y DU. Felly, dyna'r math o ffigurau rydym yn ymgiprys â nhw, nid y £18 miliwn rydych chi wedi'i ysgrifennu ar gefn pecyn sigaréts. Mae hwn yn bolisi a fydd yn rhyddhau cyllid ar gyfer ysgolion. Bydd yn cael ei weithredu'n ystyriol gan Lywodraeth Lafur newydd. Ac mewn perthynas â maint dosbarthiadau, rwy'n siŵr y byddwch wedi clywed Bridget Phillipson yn dweud yn glir iawn fod Emily Thornberry yn anghywir ynglŷn â'r hyn a ddywedodd.
Cwestiynau nawr gan lefarydd Plaid Cymru, Cefin Campbell.
Diolch yn fawr, Llywydd. Gan taw hwn yw'r tro cyntaf i fi fel llefarydd newydd y blaid ar addysg, gaf i ddweud fy mod yn edrych ymlaen yn fawr at gydweithio â chi ac, wrth gwrs, i sgrwtineiddio gwaith y Llywodraeth hefyd yn y sector arbennig yma.
Fy nghwestiwn cyntaf i yw hyn: fis diwethaf, fe wnaeth yr arweinydd Llafur, Keir Starmer, ymweld â Chymru, fel rhan o'i ymgyrch etholiadol. Yn ystod yr ymweliad hwn, fe wnaeth e chwe addewid i Gymru, pe bai ei blaid yn ennill yr etholiad cyffredinol. Nawr, un o'r rheini oedd recriwtio athrawon newydd mewn pynciau allweddol. Nawr, dwi ddim yn siwr os yw Starmer yn gwybod bod addysg wedi ei ddatganoli a bod Llafur wedi bod yn gyfrifol am addysg yng Nghymru ers dros 25 mlynedd. Ond er gwybodaeth iddo fe, dyma eich record chi: mae arolwg blynyddol yr NASUWT yn 2023 yn dangos bod bron i dri chwarter o athrawon Cymru dros y 12 mis diwethaf wedi ystyried gadael y proffesiwn; mae'r ystadegau diweddaraf am addysg gychwynnol athrawon yn dangos bod nifer y sawl sydd wedi cofrestru i ddilyn cyrsiau uwchradd 34 y cant yn is na'r targed a osodwyd gan Gyngor y Gweithlu Addysg ar gyfer Cymru; yn y canlyniadau PISA diweddaraf, sgoriodd Cymru 473 ar gyfer gwyddoniaeth, 466 ar gyfer mathemateg a 466 ar gyfer darllen, sef gostyngiadau sylweddol iawn, sydd, yn y drefn honno, yn 12, chwech a 10 pwynt yn is na chyfartaledd yr OECD ar gyfer gwledydd sydd yn cymryd rhan yn y cynllun. Yn y canlyniadau PISA—
Dwi wedi bod yn amyneddgar iawn, iawn, gan mai hyn yw eich cwestiwn cyntaf chi fel llefarydd addysg, felly os gallwch chi ddod i gwestiwn nawr.
Fe ddof i at y cwestiwn. Felly, yr hyn hoffwn i wybod yw sut mae Starmer yn mynd i gyflawni rhywbeth y mae Llafur Cymru wedi methu â'i wneud, sef trawsnewid ein sector addysg a'i wneud yn broffesiwn apelgar unwaith eto i athrawon.
Diolch yn fawr iawn, Cefin, ac a gaf i eich croesawu i'ch swydd a dweud fy mod yn gobeithio y gallwn weithio gyda'n gilydd mewn ffordd adeiladol, a diolch i Heledd Fychan am y gwaith a wnaeth fel deiliad y swydd yn y maes hwn ar y fainc flaen? Gallaf eich sicrhau bod Keir Starmer yn ymwybodol iawn fod addysg wedi'i datganoli. Fel rwyf wedi'i ddweud wrth Tom Giffard, bydd gennym swm canlyniadol a fydd yn deillio o'r ymrwymiadau sydd wedi'u gwneud ynghylch recriwtio a chadw athrawon, a byddwn yn gallu cyflwyno'r gwaith hwnnw yn ein ffordd ein hunain, gan barchu datganoli, oherwydd y math o bynciau lle mae gennym brinder yma yng Nghymru—. Fel y gwyddoch yn iawn, mae gennym flaenoriaeth benodol i gael mwy o athrawon Cymraeg, yn ogystal â phynciau eraill, ac mae'n bwysig ein bod yn gallu defnyddio'r arian hwnnw mewn ffordd sy'n parchu'r anghenion sydd gennym yng Nghymru.
Rwy'n cydnabod yr heriau sydd gennym wrth recriwtio athrawon. Dyna pam ein bod yn gweithio'n rhagweithiol iawn ar sail barhaus ar recriwtio athrawon. Dyna pam ein bod wedi rhoi cymaint o gefnogaeth i lesiant y gweithlu drwy bethau fel cymorth addysg, ac rwy'n parhau â'r ddeialog gydag addysgwyr rheng flaen ynghylch beth arall y gallwn ei wneud i wneud ysgolion yn lleoedd deniadol a chroesawgar i bobl weithio ynddynt yng Nghymru.
Diolch yn fawr iawn. Edrychaf ymlaen at weld y symiau canlyniadol hynny'n dod ac at newid y lefelau cyflawniad gwael a welsom dros y 25 mlynedd diwethaf. Roeddech chi'n sôn am recriwtio athrawon, ac rydym yn gwybod bod problemau enfawr o ran recriwtio a chadw athrawon ar draws Cymru gyfan. Ni fu prinder cyhoeddiadau gan Lywodraeth Cymru i annog pobl ifanc i feddwl am yrfaoedd fel athrawon a chynorthwywyr dosbarth, ond a ydym yn gwybod i ba raddau y bu'r ymgyrchoedd hyn yn llwyddiant? Mae'r cynllun cymhelliant addysg gychwynnol i athrawon ar gyfer pynciau blaenoriaeth yn enghraifft o'r fath. Felly, gallwch ddychmygu fy siom pan glywais, yr wythnos diwethaf, mewn cwestiwn i'r Prif Weinidog, nad oes gan Lywodraeth Cymru unrhyw syniad i ba raddau y mae'r cynllun yn gweithio am nad oes gennych dystiolaeth. Nid oes gennych unrhyw ddata i ddangos a yw derbynwyr y cymhelliant cyn 2022-23 yn dal i addysgu yng Nghymru, yn addysgu yn rhywle arall, neu heb fod yn addysgu o gwbl. Nawr, mae'r cynllun hwn wedi bod ar y gweill ers tua degawd, gyda miliynau o bunnoedd eisoes wedi cael ei wario arno. Felly, Ysgrifennydd y Cabinet, sut rydych chi'n ymateb i'r methiant amlwg hwn o ran monitro a gwerthuso, ac a ydych chi'n cytuno na allwn fesur llwyddiant y cynllun hynod bwysig hwn heb ddata o'r fath?
Diolch. Mae data'n bwysig iawn, ac rwyf wedi bod yn glir iawn ynglŷn â hynny gyda swyddogion. Ni allwch newid polisi heb gael data effeithiol. Yn amlwg, roeddwn yn y Siambr ar gyfer eich trafodaeth gyda'r Prif Weinidog, ac fe wnaethoch chi gyflwyno cwestiwn tebyg i mi. Roedd yr ateb a roddais yn egluro bod athrawon, dros y ddwy flynedd diwethaf, yn dal i fynd drwy'r broses honno. Felly, rydym wedi newid y broses fel ei bod yn ymwneud â mwy na mynd ar gwrs hyfforddi i ddysgu sut i fod yn athro; mae'n ymwneud â mynd drwy'r statws athro cymwysedig, y statws sefydlu. Felly, bydd y garfan gyntaf o bobl yn cwblhau eu hastudiaethau ar ddiwedd y flwyddyn hon, a bydd myfyrwyr rhan-amser yn cwblhau eu hastudiaethau nhw y flwyddyn nesaf. Fe wneuthum gydnabod yn yr ateb a roddais i chi fod yna ddiffyg data cyn hynny a'ch hysbysu ein bod yn gweithio gyda Chyngor y Gweithlu Addysg ar gytundeb rhannu data i geisio cael y data hwnnw. Felly, pan fyddwn wedi cwblhau'r gwaith hwnnw, byddaf yn hapus iawn i ddarparu'r data i chi.
Diolch yn fawr iawn. Rwy'n edrych ymlaen at dderbyn y data hwnnw.
Gan gadw at y thema o ddenu mwy o bobl i'r proffesiwn, rwy'n bwriadu sôn nawr am y cyrsiau tystysgrif addysg i raddedigion, y cyrsiau TAR. Fel rydyn ni'n gwybod, ein prifysgolion sydd yn darparu'r cyrsiau hyn. Rydyn ni wedi gweld enghraifft yn ddiweddar o'r bygythiad i gyrsiau tebyg i hyn, gyda Phrifysgol Aberystwyth yn cyhoeddi bod cyrsiau hyfforddi athrawon yno yn dod i ben o fis Medi ymlaen. Mae hyn, wrth gwrs, yn codi llawer o bryderon yn y sector a thu hwnt. Nid yn unig ei fod yn achosi problemau i lawer yng nghanolbarth Cymru a fyddai wedi mynd i Brifysgol Aberystwyth i astudio TAR, ond mae hefyd yn lleihau'r cyfleoedd i'r rhai fyddai wedi hyfforddi i fod yn athrawon cyfrwng Cymraeg yn ogystal. Felly, gan ystyried hyn i gyd, beth yw'ch ymateb i'r newyddion bod y cwrs TAR ym Mhrifysgol Aberystwyth yn dod i ben? Beth mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu gwneud ynglŷn â'r ffaith hyn? A fyddwn ni'n gweld mwy o gwtogi, o bosibl, yn y sector? Ac, yn olaf, pa asesiad mae'r Gweinidog yn bwriadu ei wneud o ran cyrraedd y nod o greu miliwn o siaradwyr Cymraeg, gan ystyried y gostyngiad posibl yn y nifer sy'n hyfforddi i fod yn athrawon? Diolch.
Diolch. Mewn perthynas â'r sefyllfa yn Aberystwyth, a gaf i ddweud y bydd Cefin Campbell yn ymwybodol iawn fod gennym system annibynnol i achredu addysg gychwynnol i athrawon yng Nghymru? Rwy'n credu bod hynny'n bwysig iawn—fod gennym system sy'n gosod y safonau uchaf posibl i sicrhau, os bydd rhywun yn mynd i astudio'r cwrs hwnnw, eu bod yn cael profiad da iawn. Ni lwyddodd Aberystwyth i gael ei hailachredu a dewisodd beidio ag apelio. Roedd honno'n broses a oedd yn annibynnol ar y Llywodraeth. Fy nealltwriaeth i yw bod tua 21 o fyfyrwyr wedi cofrestru i astudio'r cwrs yn Aberystwyth y flwyddyn nesaf, ac rydym wedi gweithio gyda'r brifysgol i sicrhau bod lleoedd priodol mewn mannau eraill ar gyfer y myfyrwyr hynny. Mae'n bwysig dweud hefyd fod pob prifysgol yng Nghymru sy'n cynnig cwrs hyfforddiant cychwynnol i athrawon yn cynnig darpariaeth drwy gyfrwng y Gymraeg a'r Saesneg, felly er ein bod wedi colli lleoedd yn Aberystwyth, gallaf eich sicrhau y gall pobl ddysgu drwy gyfrwng y Gymraeg mewn mannau eraill.