9. Dadl Plaid Cymru: Polisi cynllunio ar gyfer llinellau pŵer newydd

– Senedd Cymru am ar 12 Mehefin 2024.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Detholwyd y gwelliannau canlynol: gwelliant 1 yn enw Jane Hutt, a gwelliant 2 yn enw Darren Millar.

Photo of David Rees David Rees Llafur 5:40, 12 Mehefin 2024

Croeso nôl. Yr eitem nesaf yw dadl Plaid Cymru: polisi cynllunio ar gyfer llinellau pŵer newydd. Galwaf ar Adam Price i wneud y cynnig.

Cynnig NDM8605 Heledd Fychan

Cynnig bod y Senedd:

1. Yn cydnabod y safbwynt a ffefrir gan Lywodraeth Cymru, sef y dylid gosod llinellau pŵer newydd o dan y ddaear lle y bo'n bosibl.

2. Yn credu, lle bynnag y bo hynny'n bosibl, pan fo llinellau pŵer newydd yn cael eu gosod o dan y ddaear y dylid ei wneud drwy ddull aredig ceblau yn hytrach na chloddio ffos agored.

3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i ddiweddaru paragraff 5.7.9 o Bolisi Cynllunio Cymru:

a) i ddileu’r cafeat presennol: ‘Fodd bynnag, cydnabyddir bod angen cymryd safbwynt cytbwys o ran costau, a allai olygu bod prosiectau a fyddai’n dderbyniol fel arall, yn anhyfyw’; a

b) er mwyn sicrhau bod gosod seilwaith trawsyrru trydan newydd o dan y ddaear yn ofyniad absoliwt yn hytrach na safbwynt a ffefrir, dylai'r polisi nodi: 'dylid gosod llinellau pŵer newydd o dan y ddaear.'

Cynigiwyd y cynnig.

Photo of Adam Price Adam Price Plaid Cymru 5:41, 12 Mehefin 2024

(Cyfieithwyd)

Diolch yn fawr, Ddirprwy Lywydd. Nod y cynnig hwn yw ei gwneud yn orfodol i bob llinell ddosbarthu trydan newydd yng Nghymru gael ei gosod o dan y ddaear yn hytrach na'i drawsyrru drwy linellau uwchben. Polisi cyfredol Llywodraeth Cymru, fel y'i nodir yn 'Polisi Cynllunio Cymru', yw y dylid gosod llinellau pŵer newydd o dan y ddaear, lle bynnag y bo hynny'n bosibl. Mae'n parhau:

'Fodd bynnag, cydnabyddir bod angen cymryd safbwynt cytbwys o ran costau, a allai olygu bod prosiectau a fyddai'n dderbyniol fel arall, yn anhyfyw.'

Mae'r cafeat hwn wedi bod yn gatalydd i lif o gynigion ar gyfer llinellau peilon hir sy'n croesi rhannau helaeth o'n gwlad—yn achos fy etholaeth fy hun, ar hyd dyffrynnoedd Tywi a Theifi. Mae hynny ynddo'i hun yn dystiolaeth nad yw'r polisi presennol yn gweithio. Yr ail ddarn o dystiolaeth yw'r diffyg llinellau tanddaearol ar hyn o bryd, er mai dyna yw dewis datganedig y Llywodraeth. Mewn ateb i gwestiwn ysgrifenedig yn ddiweddar gan Cefin Campbell, yn gofyn i'r Llywodraeth roi enghreifftiau penodol lle mae ceblau trydan wedi'u gosod o dan y ddaear, dywedwyd nad oedd Llywodraeth Cymru yn ymwybodol o unrhyw enghreifftiau penodol o linellau trydan yn cael eu gosod o dan y ddaear ar hyn o bryd. Cyn belled â bod y cafeat yn bodoli, bydd datblygwyr bob amser yn manteisio arno ac yn adeiladu peilonau fel eu dewis cyntaf. Felly, mae angen i ni gael gwared ar y cafeat a'u gorfodi i osod llinellau o dan y ddaear, gan ddilyn esiampl gwledydd Ewropeaidd eraill. Ers 2008, er enghraifft, gosodwyd pob llinell bŵer 132 kV newydd yn Nenmarc o dan y ddaear, ac mae wedi elwa ar lwybr cyflymach tuag at ddatgarboneiddio, gan fod gwrthwynebiad cyhoeddus i ynni adnewyddadwy wedi bod yn llawer tawelach o ganlyniad.

Felly, ar wahân i'n helpu i ddatgarboneiddio'n gyflymach, pam arall y dylem ni yng Nghymru ddilyn esiampl Denmarc? Y rheswm mwyaf amlwg yw oherwydd nad yw ceblau tanddaearol yn difetha tirwedd rhai o ardaloedd mwyaf annwyl ac amgylcheddol sensitif ein gwlad. Mae'r nifer fawr o negeseuon e-bost y bydd Aelodau wedi'u cael i gefnogi'r cynnig hwn yn dyst i'r graddau y mae ein cyd-ddinasyddion yn teimlo'n angerddol ynglŷn â hyn. Ond mae yna fuddion eraill hefyd. Mae ceblau tanddaearol yn fwy dibynadwy, gyda llai o doriadau pŵer yn gwella gwytnwch y grid, oherwydd eu bod yn llai agored i amhariadau'n gysylltiedig â'r tywydd fel stormydd a gwyntoedd cryf—ffenomen a fydd yn dod yn bwysicach yn y dyfodol gyda mwy o dywydd eithafol wedi'i achosi gan newid hinsawdd. Mae gan geblau tanddaearol gostau cynnal a chadw is, oherwydd eu bod wedi eu diogelu rhag yr elfennau, ac mae angen llai o waith atgyweirio arnynt, ac yn aml, maent yn fwy effeithlon o ran ynni oherwydd bod llai o golledion wrth drawsyrru trydan o ganlyniad i well rheolaeth thermol.

Nid yw'r ddadl fawr yn erbyn ceblau tanddaearol—eu bod yn debygol o fod yn fwy costus i'w hadeiladu—yn dal dŵr bellach oherwydd arloesi mawr mewn technoleg ceblau a dulliau adeiladu, a bydd fy nghyd-Aelod, Cefin Campbell, yn cyfeirio'n fanylach yn ei sylwadau i gloi at aredig ceblau heb orfod torri ffos, maes lle mae Cymru a sir Gaerfyrddin yn arwain y dechnoleg.

Mae'n dda fod y Llywodraeth wedi cyhoeddi adolygiad yn y maes hwn, ac efallai fod hynny ynddo'i hun yn gydnabyddiaeth fod angen newid y polisi. Ond os ydym eisiau atal y gosod peilonau ar raddfa fawr y mae llawer o'n gwlad yn ei wynebu ar hyn o bryd, ni allwn fforddio aros am ganlyniad yr adolygiad hwnnw. Rhaid inni weithredu nawr, a dyna pam y gobeithiaf y bydd Aelodau ar draws y Senedd yn cefnogi'r cynnig ac yn gwrthod gwelliant y Llywodraeth.

Photo of David Rees David Rees Llafur 5:45, 12 Mehefin 2024

Rwyf wedi dethol y ddau welliant i'r cynnig. Galwaf ar Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol, Tai a Chynllunio i gynnig yn ffurfiol welliant 1.

Gwelliant 1—Jane Hutt

Dileu popeth ar ôl pwynt 1 a rhoi yn ei le:

2. Yn credu, lle bynnag y bo’n ffisegol bosibl, y dylai llinellau pŵer newydd gael eu gosod o dan y ddaear mewn modd sy’n lleihau effeithiau amgylcheddol andwyol.

Cynigiwyd gwelliant 1.

Photo of David Rees David Rees Llafur

A galwaf ar Mark Isherwood i gynnig gwelliant 2, a gyflwynwyd yn enw Darren Millar.

Gwelliant 2—Darren Millar

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn galw ar Lywodraeth Cymru i sicrhau, yn unol â'r egwyddor ragofalus, y dylid cynnal asesiadau effaith ar iechyd gyda chynigion i osod llinellau pŵer newydd o dan y ddaear pan fydd eu hagosrwydd at gartrefi yn codi pryderon iechyd difrifol yn y dyfodol.

Cynigiwyd gwelliant 2.

Photo of Mark Isherwood Mark Isherwood Ceidwadwyr 5:45, 12 Mehefin 2024

(Cyfieithwyd)

Diolch. Mae gosod ceblau sy'n darparu pŵer trydanol neu delathrebu o dan y ddaear yn hytrach na'u hongian ar bolion neu dyrau yn helpu i wella dibynadwyedd y system a lleihau'r risg o doriadau trydan yn ystod gwyntoedd cryfion, stormydd mellt, eira trwm neu stormydd iâ. Mae eu gosod o dan y ddaear hefyd yn helpu i atal tanau gwyllt. Budd ychwanegol yw estheteg y dirwedd heb y llinellau pŵer. Er y gall gosod ceblau o dan y ddaear gynyddu cost gyfalaf trawsyrru a dosbarthu pŵer trydan, mae'n lleihau costau gweithredu dros oes y ceblau. Ymhellach, mae cyfrifiadau gan ddatblygwyr sy'n dangos bod cost gosod ceblau o dan y ddaear tua dwywaith y gost o osod llinellau uwchben yn anwybyddu'r costau datgomisiynu sy'n rhaid digwydd—miliynau ar draul talwyr biliau trydan y DU ar ôl 30 mlynedd—lle nad oes unrhyw gostau datgomisiynu gyda cheblau tanddaearol.

Er bod yna faterion cysylltiedig eraill i'w hystyried hefyd, megis topograffeg a daeareg, rhaid inni ystyried yr effaith ar gymunedau lleol hefyd. Er enghraifft, dywedodd cynrychiolwyr y gymuned yng Nghefn Meiriadog, Llanelwy, wrthyf y llynedd, 'Mae penderfyniadau'n cael eu gwneud ymhell o ogledd Cymru sy'n effeithio'n uniongyrchol ac yn anghymesur ar gymunedau gogledd Cymru. Mae'n ymddangos bod y penderfyniadau hynny'n ddi-drefn, yn dangos rheolaeth wael, os o gwbl, ar effeithiau cronnus, ac wedi eu harwain gan gwmnïau sy'n gwneud elw mawr iawn heb fawr o sylw i gymunedau yr effeithir arnynt heblaw'r digwyddiadau wyneb yn wyneb gorfodol a chronfeydd budd cymunedol a addewir.'

Safbwynt y Ceidwadwyr Cymreig yw bod angen diwygio polisïau cynllunio cysylltiedig yng Nghymru. Mae 'Polisi Cynllunio Cymru' yn nodi'n glir y dylid gosod ceblau o dan y ddaear, ond mae datblygwyr yn aml yn dweud nad yw hynny'n ymarferol yn ariannol. Fodd bynnag, dylid cynllunio'r holl ddatblygiadau hyn yn y lle cyntaf i gydymffurfio â 'Polisi Cynllunio Cymru'. Felly, mae angen i Weinidogion Cymru wneud ymdrech well i ddilyn eu canllawiau eu hunain, yn hytrach na chaniatáu i ddadleuon yn ymwneud â chost gyfiawnhau osgoi'r polisïau cynllunio hyn. Er mwyn hwyluso hyn ac i sicrhau ymgysylltiad rhagweithiol ag iddo ffocws gwell gyda chwmnïau ynni, mae'n amlwg fod angen cryfhau'r geiriad cysylltiedig yn 'Polisi Cynllunio Cymru'.

Felly, byddwn yn cefnogi'r cynnig hwn, gan gynnig gwelliant ychwanegol yn galw ar Lywodraeth Cymru i sicrhau, yn unol â'r egwyddor ragofalus, fod ceisiadau ar gyfer gosod llinellau pŵer newydd o dan y ddaear yn cynnwys asesiadau o effaith ar iechyd lle mae eu hagosrwydd at anheddau yn codi pryderon iechyd difrifol ar gyfer y dyfodol. Mae hyn yn adlewyrchu pryder gwirioneddol a amlygwyd gan gymunedau yr effeithir arnynt ac a godwyd, er enghraifft, gan radiograffydd MRI sydd wedi gweithio'n helaeth ym maes oncoleg pan wnaeth cwmni ynni argymell gosod ceblau tanddaearol mor agos â 3m o'u cartref. Gan gyfeirio at yr effeithiau iechyd posibl sy'n gysylltiedig ag amlygiad hirdymor i feysydd magnetig a thrydanol o amgylch y ceblau tanddaearol, roeddent yn dweud bod yn rhaid cymhwyso'r egwyddor ragofalus lle ceir gwaith ymchwil gwyddonol wedi'i gyhoeddi sy'n dangos cysylltiad parhaus rhwng llwybrau ceblau a risgiau cynyddol i iechyd. Serch hynny, rydym yn cefnogi'r cynnig.

Photo of Siân Gwenllian Siân Gwenllian Plaid Cymru 5:48, 12 Mehefin 2024

Diolch yn fawr iawn, Dirprwy Lywydd. Ddeng mlynedd yn ôl, roedd gan y National Grid fwriad i osod coridor o beilonau ar draws Ynys Môn a thros yr afon Fenai. Fe gafwyd ymgyrch gref gan bobl leol, wedi cael ei harwain gan Blaid Cymru, ac, yn y diwedd, roedd yn rhaid i'r grid dderbyn y byddai angen iddyn nhw osod y ceblau trydan o dan yr afon Fenai pe baent yn symud ymlaen efo'r cynllun, a hynny er mwyn osgoi niwed sylweddol i’r tirlun eiconaidd, ond mi oedden nhw am barhau efo peilonau ar draws yr ynys ei hun. Mae cynllun y grid ar y silff erbyn hyn, ond mi ddaeth hi'n hollol amlwg i mi bryd hwnnw, nôl yn 2014, fod angen newidiadau sylweddol i 'Polisi Cynllunio Cymru’. Does dim dwywaith bod angen cyflymu’r llwybr tuag at ynni adnewyddadwy, ac, i wneud hynny, mae'n rhaid cael cefnogaeth cymunedau, ac mae rhoi ceblau o dan y môr neu o dan y ddaear yn ffordd o liniaru pryderon am hagru tirweddau lleol.

Fel rydym ni wedi clywed, ar hyn o bryd, mae paragraff 5.7.9 'Polisi Cynllunio Cymru' yn cynnwys cafeat sy'n caniatáu i ystyriaethau cost orbwyso manteision gosod llinellau pŵer o dan y ddaear. Mae hyn yn ei hanfod yn caniatáu i bryderon ariannol gael blaenoriaeth dros ffactorau amgylcheddol, cymdeithasol ac esthetig. O ganlyniad, rydym ni yn aml yn gweld nifer fawr o beilonau uwch ein pennau ni, sy'n amharu ar ein tirweddau ac yn tynnu oddi wrth harddwch naturiol Cymru. Mae Plaid Cymru yn credu bod hyn yn wendid sylfaenol yn ein polisi cynllunio ac mae o angen ei gywiro, a hynny ar frys. Felly, dyna pam mae ein cynnig heddiw yn dadlau dros ddileu'r cafeat hwn sy'n ymwneud â chost, gan sicrhau bod ein polisïau seilwaith yn cael eu harwain gan ymrwymiad i stiwardiaeth amgylcheddol a lles cymunedol, yn hytrach na chyfrifiadau ariannol cul.

Wrth ddileu'r cafeat yma, mi fedrwn ni flaenoriaethu manteision hirdymor llinellau pŵer tanddaearol. Byddai'r newid hwn yn alinio ein polisi cynllunio â'n nodau amgylcheddol ehangach ac yn sicrhau nad ydym ni'n aberthu ein tirweddau ar gyfer arbedion ariannol tymor byr. Mi fyddai costau cychwynnol tanddaearu yn arwain at arbedion yn y tymor hir, efo llai o waith cynnal a chadw a llai o amharu ar gyflenwad. Mae llinellau sydd uwch ein pennau ni yn agored i niwed sy'n gysylltiedig â'r tywydd, yn arwain at gostau atgyweirio sylweddol yn aml iawn ac yn arwain at golli pŵer. Mae ceblau tanddaear, ar y llaw arall, yn llawer mwy gwydn ac mae yna angen llai o waith cynnal a chadw.

I gloi, felly, mae'n hanfodol fod paragraff 5.7.9 'Polisi Cynllunio Cymru' yn cael ei newid er mwyn sicrhau bod ein polisïau seilwaith yn cyd-fynd â'n gwerthoedd amgylcheddol a chymdeithasol. Drwy gael gwared ar y cafeat sy'n seiliedig ar gost, gallwn ni flaenoriaethu manteision hirdymor llinellau pŵer tanddaearol, amddiffyn ein tirweddau, ac, yn bwysig, ennill y gefnogaeth gyhoeddus sydd ei hangen i gyflawni ein nodau hinsawdd. Felly, mae Plaid Cymru yn annog pawb, pob Aelod, i gefnogi'r cynnig yma a chymryd cam pendant tuag at ddyfodol mwy cynaliadwy a mwy apelgar yn weledol ar gyfer Gymru.

Photo of Russell George Russell George Ceidwadwyr 5:52, 12 Mehefin 2024

(Cyfieithwyd)

Fis ar ôl i mi gael fy ethol i'r Senedd hon yn 2011, gwelsom un o'r protestiadau mwyaf erioed ar risiau'r Senedd hon. Rwy'n credu efallai fod y brotest ffermio a gafwyd yn gynharach eleni yn fwy, ond roedd yn un o'r rhai mwyaf er hynny. Roedd y brotest honno'n ymwneud â dau beth: gormod o ffermydd gwynt yn cael eu hadeiladu mewn un lleoliad, a'r llall ynghylch cynlluniau i osod llinell drawsyrru 400 kV i redeg drwy fryniau a thirweddau canolbarth Cymru. Nawr, yn dilyn yr ymgyrch honno, ni wnaethant fwrw ymlaen â'r cynigion, diolch byth, ond fel y mae eraill wedi dweud, mae yna brosiectau eraill yn mynd rhagddynt mewn rhannau eraill o Gymru. Yn fy etholaeth i, mae yna gynlluniau i osod peilonau delltog mawr 132 kV i gario ceblau uwchben drwy ganol tirweddau hardd canolbarth Cymru unwaith eto.

Nawr, nid yw fy etholwyr—ac rwy'n credu fy mod yn siarad dros bobl ledled Cymru yn yr ardaloedd perthnasol—yn gwrthwynebu cynlluniau ynni adnewyddadwy. Mae hynny ymhell o fod yn wir; maent eisiau gweld ynni glân yn cael ei gynhyrchu a hynny'n agos at eu cartrefi. Yr hyn y maent yn poeni amdano yw'r seilwaith a all ddod gyda'r cynlluniau hynny. Nawr, wrth gwrs, mae yna broblemau'n ymwneud ag adeiladu gormod o ffermydd gwynt, ac mae angen lleoli cynlluniau ar safleoedd priodol, ond mae honno, rwy'n credu, yn ddadl ar gyfer diwrnod arall. Nawr, mae angen inni weld llinellau pŵer yn cael eu gosod o dan y ddaear er mwyn diogelu ein tirweddau ac i gefnogi prosiectau ynni adnewyddadwy priodol hefyd.

Mae'r angen i newid 'Polisi Cynllunio Cymru' yn hyn o beth yn fater a godais gyda'r cyn-Brif Weinidog, y Prif Weinidog presennol, a hefyd gydag Ysgrifennydd y Cabinet Julie James yn ei gwahanol swyddi a rolau. Roeddwn i'n hapus iawn i gefnogi galwadau James Evans hefyd pan gyflwynodd ddadl ynghylch y mater hwn ym mis Ebrill. Nawr, pan fyddaf yn codi'r mater gyda Gweinidogion Llywodraeth Cymru, yr ymateb a gaf—a daw hyn o Gofnod y Trafodion pan godais y mater gyda'r cyn Brif Weinidog—

'Polisi Llywodraeth Cymru yw y dylai gael ei drosglwyddo o dan y ddaear, nid uwchben y ddaear.'

Dyna'r ateb perffaith. Dyna'r ateb roeddwn eisiau ei gael, ond wrth gwrs, y gwir amdani yw nad dyna yw safbwynt 'Polisi Cynllunio Cymru'. Mae 'Polisi Cynllunio Cymru' yn mynd ymlaen i gyhoeddi'r cafeatau ynghylch cost a mabwysiadu safbwynt cytbwys ac yn y blaen. Mae angen adolygu a diweddaru 'Polisi Cynllunio Cymru' ar frys, ac yn sicr, mae angen cynnal adolygiad brys o fanteision technolegau rhwydwaith amgen, ac mae Adam Price ac eraill wedi cyfeirio at rai ohonynt. A bydd, wrth gwrs y bydd datblygwyr yn gwrthwynebu, oni fyddant, byddant yn dweud wrthym ac yn rhoi'r holl resymau pam na allant osod llinellau o dan y ddaear, oherwydd mai dyna sy'n fanteisiol iddynt yn ariannol. Ond rwy'n awgrymu mai ymateb diog yw hwnnw i osgoi'r ddadl.

Mae'r cynnig ger ein bron ni heddiw yn nodi'r gwelliant priodol sydd ei angen i 'Polisi Cynllunio Cymru' a diolch i Blaid Cymru am gyflwyno'r cynnig hwn sydd wedi'i eirio'n dda heddiw. Mae'r cynnig yn nodi, wrth gwrs, y dylid gosod seilwaith newydd o dan y ddaear—. Mae'r cynnig yn nodi y dylid gosod seilwaith newydd o dan y ddaear fel safbwynt absoliwt—

Photo of David Rees David Rees Llafur 5:56, 12 Mehefin 2024

(Cyfieithwyd)

Russell, rhaid ichi ddirwyn i ben nawr.

Photo of Russell George Russell George Ceidwadwyr

(Cyfieithwyd)

—yn hytrach na safbwynt a ffafrir, a dylid gosod llinellau pŵer newydd o dan y ddaear. Felly, rwy'n cefnogi'r cynnig hwn yn llwyr ac yn angerddol heddiw ac rwy'n gobeithio y bydd Gweinidogion Llywodraeth Cymru hefyd yn cefnogi'r cynnig fel y'i cyflwynwyd.

Photo of David Rees David Rees Llafur

Galwaf ar Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol, Tai a Chynllunio, Julie James.

Photo of Julie James Julie James Llafur

(Cyfieithwyd)

Diolch, Ddirprwy Lywydd. Hoffwn ddweud nad wyf yn credu ein bod ni filltiroedd ar wahân mewn perthynas â'r cynnig hwn o gwbl. Nid oes llawer o wahaniaeth rhwng y cynnig gwreiddiol a safbwynt Llywodraeth Cymru mewn gwirionedd. Rydym ni'n ffafrio gosod ceblau trydan o dan y ddaear hefyd. Yr unig wahaniaeth go iawn yn y cynnig hwn heddiw yw ein bod yn anghytuno ynglŷn ag a yw'n briodol ei gwneud hi'n orfodol i osod pob cebl o dan y ddaear lle bynnag y bo hynny'n bosibl. Mae'n ddrwg gennyf fod braidd yn bedantig yn ei gylch, ond rydym newydd wario miliynau lawer o bunnoedd ar adfer mawndiroedd mewn gwahanol rannau o Gymru; byddai'n bosibl eu rhoi o dan y ddaear drwy'r rheini, ond byddai hynny'n fy ngofidio'n fawr ac rwy'n tybio y byddai'n destun gofid i chi hefyd.

Photo of Carolyn Thomas Carolyn Thomas Llafur 5:57, 12 Mehefin 2024

(Cyfieithwyd)

A wnaiff y Gweinidog dderbyn ymyriad?

Photo of Julie James Julie James Llafur

(Cyfieithwyd)

Wrth gwrs.

Photo of Carolyn Thomas Carolyn Thomas Llafur

(Cyfieithwyd)

Mae'n ddrwg gennyf, roeddwn i'n meddwl bod fy enw i lawr i siarad ond mae'n amlwg nad yw, felly mae camgymeriad wedi bod. Ond mae Plantlife Cymru hefyd wedi bod yn gwneud gwaith gwych ac maent wedi bod yn bryderus, gan weithio gyda'r Grid Cenedlaethol, am ffwng prin iawn sydd ar y rhestr o rywogaethau sydd mewn perygl—y rhestr o rywogaethau sydd mewn perygl yn fyd-eang, a dweud y gwir—ac roeddent yn bryderus iawn am geblau tanddaearol yno. Felly, nid mawndiroedd yn unig, ond y ffwng hwn a gweirgloddiau blodeuog hefyd. Mae gennym laswelltiroedd hynafol iawn, ac unwaith eto, mae angen inni edrych ar y rhain hefyd pan fyddwn yn gosod ceblau o dan y ddaear. Felly, rwy'n gobeithio y bydd hynny'n cael ei ystyried hefyd.

Photo of Julie James Julie James Llafur 5:58, 12 Mehefin 2024

(Cyfieithwyd)

Diolch yn fawr, Carolyn. Felly, rwy'n hapus iawn—ac rwyf wedi cael sawl sgwrs gydag Adam Price am hyn—i edrych ar sut y gallwn ni wneud yn siŵr fod llawer mwy o'n ceblau'n cael eu gosod o dan y ddaear. Ond mae yna—. Mae'n ddrwg gennyf fod yn bedantig, ond mae'r ymadrodd 'lle bynnag y bo'n bosibl' yn broblem yn y cynnig, oherwydd mae'n ffisegol bosibl ei wneud mewn lleoedd lle rwy'n credu y byddem i gyd yn cytuno nad ydym eisiau iddynt gael eu gosod. A dweud y gwir, yr hyn a wnawn—ac mae gan fy nghyd-Aelod, Jeremy Miles, grŵp sy'n edrych ar hyn yn rhagweithiol iawn, ac mae'n dilyn sgwrs a gefais gyda chi, Adam, yn ystod y Bil seilwaith—. Rwy'n awyddus iawn i weithio a chytuno ar y prif lwybrau ar gyfer gosod llinellau trawsyrru mawr o dan y ddaear, fel rhyw fath o rag-gytundeb. Mae gennym ormodedd o ymgyngoriadau cyn-gynllunio ar y gweill, sy'n bendant yn peri gofid i gymunedau ac yn y blaen. Mae gan fy nghyd-Aelod yma, Huw Irranca-Davies, nifer fawr iawn o ffermydd gwynt a pheilonau yn ei ardal, felly mae'n gyffredin ledled Cymru. Felly, nid oes gennyf unrhyw broblem athronyddol gyda'r cynnig hwn, ond rwy'n credu bod y geiriad yn broblemus, felly mae ein cynnig ni yn ei newid. Ond rwyf eisiau bod yn glir iawn gyda'r Senedd heddiw nad oes gennyf broblem sylfaenol gyda'r rhan fwyaf o'r pwyntiau a wnaed—[Torri ar draws.] Yn sicr.

Photo of Adam Price Adam Price Plaid Cymru 5:59, 12 Mehefin 2024

(Cyfieithwyd)

I fod yn hollol glir ynglŷn â'r hyn rydych chi'n ei ddweud, a ydych chi'n dweud mai safbwynt y Llywodraeth nawr yw bod y cafeat sydd yn 'Polisi Cynllunio Cymru' ar hyn o bryd, sy'n dweud y byddai'n iawn i ddefnyddio llinellau uwchben os byddai gosod ceblau o dan y ddaear yn gwneud y prosiect hwnnw'n anhyfyw yn ariannol—? A ydych chi'n cytuno â ni, felly, ac eraill sydd wedi siarad, fod angen tynnu'r cafeat hwnnw allan o 'Bolisi Cynllunio Cymru' nawr?

Photo of Julie James Julie James Llafur

(Cyfieithwyd)

Nid wyf eisiau cytuno â hynny'n absoliwt, ond rwy'n deall y pwynt rydych chi'n ei wneud ac rwy'n credu bod angen inni egluro'n llawer gwell yr hyn a olygwn wrth 'anfforddiadwy'.

Mae fy nghyd-Aelod Jeremy Miles—rwy'n credu bod y Senedd eisoes wedi clywed—wedi sefydlu grŵp cynghori annibynnol, ac mae'n deillio o'r adeg pan oeddwn yn y portffolio ynni fy hun, ac maent wedi mynychu arddangosiad o aredig ceblau yn ddiweddar, ac rwy'n credu mai chi a dynnodd ein sylw ato yn y lle cyntaf. Felly, rydym eisiau dod o hyd i'r geiriad cywir sy'n caniatáu i'r prosiectau ynni fynd rhagddynt, ond sy'n gorfodi nifer fawr o'r prosiectau i osod ceblau o dan y ddaear, ac eithrio mewn llwybrau lle credwn y byddai'n niweidiol i'r amgylchedd yn y ffordd y nododd Carolyn Thomas. Ond mewn gwirionedd, rwy'n credu bod yna rai pethau mwy sylfaenol na hynny. Rwy'n credu, os edrychwch chi ar fap o Gymru a'r dopograffeg arno, nid oes cymaint â hynny o lwybrau lle gallech chi osod seilwaith mawr, felly byddaf yn gweithio gyda fy nghyd-Aelod Jeremy Miles i gytuno ar y llwybrau hynny a dod o hyd i'r ffordd orau o'i wneud. Felly, rwy'n credu y byddwn yn dod i gytundeb mewn ffordd ychydig yn wahanol, nid yn groes i athroniaeth eich cynnig, ond mewn ffordd ychydig yn wahanol.

Nid wyf yn anghytuno o gwbl nad yw cymunedau eisiau byw o dan beilonau trydan foltedd uchel—wrth gwrs nad ydynt. Serch hynny, mae llawer ohonynt yn byw yn y mannau hynny—mae llawer yn etholaeth Huw yn byw yn y mannau hynny, mae llawer yn etholaeth y Dirprwy Lywydd yn byw yn y mannau hynny. Felly, mae'n rhaid inni edrych hefyd ar rai o'r pethau hanesyddol ynglŷn â sut y gallwn newid rhywfaint o'r seilwaith hwnnw pan fydd angen iddo gael ei adnewyddu. Felly, nid wyf yn anghytuno â'r egwyddorion sylfaenol a gyflwynwyd gennych yma. Nid wyf yn hoffi'r geiriad—rwy'n dweud hynny'n blwmp ac yn blaen; nid wyf yn hoffi'r geiriad fel y mae—ond rwy'n credu bod yna rywbeth y gallwn weithio arno, lle mae'r Senedd—. Mae'n amlwg fod yna gonsensws ar draws y Siambr fod angen mwy o osod ceblau o dan y ddaear mewn mannau priodol, ond mae angen inni adael i'r grŵp cynghori annibynnol, y mae fy nghyd-Aelod yn gyfrifol amdano, wneud ei waith. Byddwn yn sicr yn diweddaru 'Polisi Cynllunio Cymru' o ganlyniad i hynny, ac mae angen inni weithio gyda'r cwmnïau ynni adnewyddadwy i sicrhau darlun mwy cydlynol i Gymru o lle mae'r ynni a sut mae'r trawsyrru'n gweithio. 

Ddirprwy Lywydd, i gwblhau'r darlun hwnnw—[Torri ar draws.] Wrth gwrs, Carolyn.

Photo of Carolyn Thomas Carolyn Thomas Llafur 6:02, 12 Mehefin 2024

(Cyfieithwyd)

A wnewch chi weithio gyda'r cyrff amgylcheddol hefyd, fel Plantlife Cymru? Diolch.

Photo of Julie James Julie James Llafur

(Cyfieithwyd)

Roeddwn i'n dod at hynny. Yn hollol, byddwn yn gweithio gyda'r holl randdeiliaid, gan gynnwys yr holl gyrff amgylcheddol, a chyda'n ffermwyr, tirfeddianwyr a phawb arall, ond mewn gwirionedd, y rhanddeiliad pwysicaf yw'r grid cenedlaethol. Rwy'n gwybod bod fy nghyd-Aelod, Jeremy Miles wedi ymgymryd â'r sgyrsiau yr oeddwn i'n eu cael gyda nhw, ac mae angen inni sicrhau bod y llinellau trawsyrru foltedd uchel iawn ar gyfer y grid cenedlaethol ei hun, sydd eu hangen yn fawr yn y canolbarth yn enwedig, oherwydd fe wyddoch nad yw'r cyflenwad trydan yn y canolbarth yr hyn yr hoffem iddo fod, yn cael eu gwneud yn y ffordd orau bosibl—[Torri ar draws.] Yn sicr, ewch amdani.

Photo of Russell George Russell George Ceidwadwyr

(Cyfieithwyd)

Roeddech chi'n siarad yno am y cynlluniau sydd gan y Grid Cenedlaethol a Bute Energy. Nid eu diben yw cryfhau'r rhwydwaith yng nghanolbarth Cymru, fel y nodoch chi o bosibl; eu diben yw cludo'r pŵer allan, ac efallai mai dyna un o'r pethau y mae angen mynd i'r afael â nhw hefyd.

Photo of Julie James Julie James Llafur

(Cyfieithwyd)

Felly, dyna pam ein bod ni'n gweithio—. Yn union hynny, Russell. Dyna pam ein bod yn gweithio gyda'r Grid Cenedlaethol, fel mai'r hyn sydd gennym, yn hytrach na llinellau di-dor sy'n ei groesi, yw llinell sy'n darparu'r trydan sy'n angenrheidiol i'r cymunedau hynny gael y math o wresogi trydanol, pwyntiau gwefru cerbydau trydan a'r holl bethau y gwyddom eu bod yn anodd iawn eu cael mewn rhannau o Gymru. Felly, mae'n rhaid sefydlu'r rhwydwaith trawsyrru er mwyn darparu'r ynni i'r cymunedau hynny, yn ogystal â mynd ag ef drwodd, ac nid oes llawer iawn o lwybrau lle mae'n bosibl gwneud hynny. Mae fy nghyd-Aelod Jeremy Miles wedi mynd ar drywydd y sgyrsiau hynny, ac mae'r Prif Weinidog wedi bod yn rhan o hynny hefyd; fe gawsoch chi'r cyfarfod yn ddiweddar. Felly, rydym yn awyddus iawn i sicrhau ein bod yn cael yr ateb gorau posibl i ddarparu'r ynni i'r cymunedau sydd ei angen, ond heb roi'r dechnoleg hen ffasiwn ar waith, ac i sicrhau ein bod yn cael y dechnoleg ddiweddaraf ar gyfer yr unfed ganrif ar hugain. Ac wrth gwrs, bydd 'Polisi Cynllunio Cymru' yn cael ei ddiweddaru i adlewyrchu hynny. Rydym yn awyddus iawn i wneud hynny. Rwy'n ofni na allaf gefnogi'r cynnig fel y mae wedi'i eirio heddiw, ond rwyf am fod yn glir iawn fod y Llywodraeth yn yr un lle yn union ar athroniaeth y cynnig. Mae ein cynnig ni yn ei ddiwygio fel y gallwn gael mwy o amser i feddwl amdano, dyna i gyd, ond rwyf am weithio gydag Aelodau ar draws y Siambr, gyda fy nghyd-Aelod, Gweinidog yr economi, y Prif Weinidog a phawb arall yn y Llywodraeth, i sicrhau ein bod yn cael y canlyniad gorau o ran gosod ceblau o dan y ddaear. Diolch.

Photo of Cefin Campbell Cefin Campbell Plaid Cymru

Diolch yn fawr iawn, Dirprwy Lywydd, a diolch i bawb sydd wedi cyfrannu i'r ddadl bwysig hon. Diolch i Adam am agor y ddadl, a byddaf i'n sôn mwy am y pwyntiau gododd ef mewn eiliad neu ddwy. Diolch i Mark Isherwood.

Photo of Cefin Campbell Cefin Campbell Plaid Cymru

(Cyfieithwyd)

Mark, diolch yn fawr iawn am ddadlau bod gosod ceblau o dan y ddaear yn gwella dibynadwyedd y system ac ansawdd esthetig y dirwedd, ac mae llawer o siaradwyr eraill wedi cefnogi hynny yn ogystal. Byddwn yn cefnogi eich gwelliant chi hefyd.

Photo of Cefin Campbell Cefin Campbell Plaid Cymru 6:05, 12 Mehefin 2024

Roedd Siân Gwenllian yn sôn am liniaru pryderon am anharddu cymunedau lleol. Rwy’n cytuno'n llwyr gyda hynny, a’n bod ni'n rhoi, o bosibl, y dadleuon ariannol o flaen y dadleuon dros ystyriaethau tirweddol, ac mae hynny yn rhywbeth roedd Russell George yn sôn amdano.

Photo of Cefin Campbell Cefin Campbell Plaid Cymru

(Cyfieithwyd)

Russell, roeddech chi'n siarad am hanes yn ailadrodd ei hun ers 2011, pan ddaethoch chi i'r Senedd gyntaf, a'ch bod chi nawr yn wynebu ymgyrch debyg eto yn eich etholaeth.

Weinidog—neu Ysgrifennydd y Cabinet, yn hytrach—mae'n galonogol clywed nad ydych chi'n gwrthwynebu'r cynnig a gyflwynwyd gennym mewn egwyddor, ac nad ydych chi'n wrthwynebus i'r athroniaeth. Rwy'n credu mai eich problem yw'r geiriad, felly mae hynny'n rhywbeth y gallwn ni weithio arno gyda chi yn sicr.

O ran mawndiroedd, yn amlwg byddai unrhyw osod ceblau o dan y ddaear yn sensitif i'r her honno, ond byddai peilonau hefyd. Felly, nid yw'n fater o naill ai/neu gyda hynny; mae'n fater o sicrhau bod y ddau ddull yn sensitif iawn i fawndiroedd. Hefyd, efallai nad wyf yn argyhoeddedig fod y ddadl dros aberthu ein tirwedd hardd ar allor elw a chostau yn cael ei hystyried yn gliriach gennych chi fel Llywodraeth.

Felly, i fynd yn ôl i lle dechreuodd Adam—

Photo of Cefin Campbell Cefin Campbell Plaid Cymru 6:06, 12 Mehefin 2024

—rŷn ni i gyd wedi cael toreth o e-byst yn ddiweddar sydd yn dangos cymaint yw cryfder y pryder sydd gan gymunedau ledled Cymru am y peilonau. Yn wir, yng Nghanolbarth a Gorllewin Cymru, o Lanymddyfri i Landdewi Brefi, o Landrindod i Landyfaelog, yr un yw'r alwad, sef fod rhaid claddu'r ceblau dan ddaear. Trwy wneud hyn, byddwn ni fel Senedd yn cymryd safiad cadarn i warchod harddwch naturiol ac ecolegol ein tirweddau unigryw.

Fel amlygwyd gan Adam Price, mae polisi presennol y Llywodraeth yn parhau yn ddiffygiol gan adael i'r egwyddor bwysig hon gael ei diystyru gan ystyriaethau cyllidol.

Photo of Cefin Campbell Cefin Campbell Plaid Cymru 6:07, 12 Mehefin 2024

(Cyfieithwyd)

Ychydig fisoedd yn ôl, mynychais arddangosiad gan ATP Cable Plough o Bencader, cwmni sy'n arwain y byd. Mae'n amlwg fod datblygiadau yn nhechnoleg aredig ceblau wedi gwneud gosod ceblau tanddaearol yn fwy ymarferol a chosteffeithiol nag erioed o'r blaen. Mae'r dull hwn yn caniatáu ar gyfer gosod ceblau tanddaearol heb fawr ddim difrod i wyneb y tir, gan leihau'r effaith amgylcheddol a chost prosiectau. At hynny, mae manteision economaidd hirdymor gosod ceblau tanddaearol yn sylweddol, fel y clywsom eisoes. Mae hyn yn hanfodol wrth inni ragweld y bydd y galw am drydan bron â bod yn treblu erbyn 2050. Bydd buddsoddi mewn seilwaith cadarn a dibynadwy nawr yn ein harbed rhag costau uwch a mwy o aflonyddwch yn y dyfodol.

Nawr, rwy'n datgan diddordeb. Rwy'n byw yn nyffryn Tywi, lle o harddwch naturiol eithriadol, gyda bryngaerau hynafol, cestyll a adeiladwyd gan dywysogion Cymreig, adeiladau hanesyddol ac afon Tywi ddolennog. Nawr, bob tro y cerddaf i'r Garn Goch ger Bethlehem, rwy'n edrych i lawr ar y golygfeydd syfrdanol o'm cwmpas a chaf fy atgoffa o linell gan y bardd John Ruskin:

'Mae natur yn paentio i ni, dydd ar ôl dydd, lluniau o harddwch anfeidrol'.

Nawr, mae'r bobl sy'n byw yn y cymunedau hyn yn trysori'r golygfeydd digyffwrdd hyn cymaint a chânt eu mwynhau gan y miloedd sy'n ymweld bob blwyddyn. Nawr, os credwn fod Duw wedi creu'r Ddaear hardd hon, nid oes gan ddyn na dynes hawl i'w cham-drin. Rwy'n glir yn fy argyhoeddiad fod cost ychwanegol gosod ceblau tanddaearol yn bris bach iawn i'w dalu am ddiogelu'r dirwedd unigryw hon nid yn unig yn sir Gaerfyrddin, ond ym mhob rhan o Gymru.

Photo of Cefin Campbell Cefin Campbell Plaid Cymru 6:09, 12 Mehefin 2024

I gloi, mae'r cynnig hwn yn adlewyrchu'n hymrwymiad i atebion arloesol i sicrhau dyfodol cynaliadwy.

Photo of Cefin Campbell Cefin Campbell Plaid Cymru

(Cyfieithwyd)

A dyma'r paragraff olaf: mae Plaid Cymru'n credu bod gosod ceblau o dan y ddaear nid yn unig yn ddymunol, ond yn hanfodol. Rhaid inni symud y tu hwnt i arferion hen ffasiwn a chroesawu polisïau sy'n adlewyrchu ein hymrwymiad i stiwardiaeth amgylcheddol a llesiant cymunedol. Rwy'n annog Llywodraeth Cymru i gamu ymlaen, i gamu i'r adwy ac ymrwymo i ddyfodol lle mae ein seilwaith yn gwella yn hytrach nag amharu ar harddwch ac anian Cymru. I aralleirio Gaylord Nelson, sylfaenydd Diwrnod y Ddaear, efallai mai'r prawf eithaf ar ein cydwybod a'n crebwyll yw pa mor barod ydym ni i aberthu rhywbeth heddiw ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol, na fydd eu geiriau o ddiolch yn cael eu clywed. Diolch.

Photo of David Rees David Rees Llafur 6:10, 12 Mehefin 2024

Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig heb ei ddiwygio? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Oes. Felly, gohiriaf y bleidlais ar yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.

Gohiriwyd y pleidleisio tan y cyfnod pleidleisio.

Photo of David Rees David Rees Llafur 6:10, 12 Mehefin 2024

A dyma ni wedi cyrraedd y cyfnod pleidleisio. Oni bai fod tri Aelod yn dymuno i mi ganu'r gloch, symudaf yn syth i'r cyfnod pleidleisio.