Part of 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol, Tai a Chynllunio – Senedd Cymru am 1:37 pm ar 12 Mehefin 2024.
Ocê. Fel rŷn ni i gyd yn gwybod, mae'n trefi marchnad ni ar draws Cymru gyfan wedi dioddef yn arw iawn, iawn oherwydd Brexit, COVID, a'r argyfwng costau byw diweddar. Nawr, un model sy'n cael ei weithredu yw'r un gan Gyngor Sir Gâr, sef cynllun o'r enw Deg Tref, yn canolbwyntio ar 10 o drefi marchnad, gan gynnwys, fel roedd Joyce Watson yn cyfeirio ato, Llandeilo, a llefydd fel Llanybydder, Castellnewydd Emlyn, Sanclêr, ac yn y blaen. Ac mae yna arian Trawsnewid Trefi wedi cael ei ddefnyddio i bwrpas da, fel yr Hen Farchnad yn Llandeilo. Ond mae e hefyd wedi mynd y tu hwnt i hynny drwy gynnig arian i fusnesau bach i wella eu darpariaeth a hefyd i weddnewid adeiladau, i wneud y trefi yma'n fwy deniadol i dwristiaid ac i ymwelwyr. Felly, gaf i ofyn i chi ydych chi'n ymwybodol o'r cynllun Deg Tref yng Nghyngor Sir Gâr, ac ydych chi'n credu bod y model hwn o dargedu trefi yn rhywbeth y gallai gael ei efelychu gan awdurdodau lleol eraill ar draws Cymru?