Part of 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol, Tai a Chynllunio – Senedd Cymru am 1:30 pm ar 12 Mehefin 2024.
Diolch am eich ateb. Roeddwn yn arbennig o falch o weld y grant Trawsnewid Trefi yn cael ei ddefnyddio i adnewyddu dwy neuadd farchnad hanesyddol bwysig yn fy etholaeth, Canolbarth a Gorllewin Cymru. Yn ddiweddar, mae gwaith gyda chyllid y grant hwn gan Lywodraeth Cymru a chyllid cyfalaf Ewropeaidd, a buddsoddiad cyfalaf gan Gyngor Sir Ceredigion yn achos neuadd farchnad Aberteifi, wedi ei gwneud hi'n bosibl cwblhau gwaith adfer yn neuadd farchnad Aberteifi a’r Hen Farchnad yn Llandeilo. Roedd y ddau adeilad hanesyddol yn adeiladau hynod bwysig yng nghanol y trefi hynny, ac mae'n wych eu gweld yn cael eu hadfer i gyflwr da fel y gall busnesau a chymunedau fel ei gilydd eu defnyddio. Felly, Ysgrifennydd y Cabinet, a ydych chi'n cytuno bod grant y Trawsnewid Trefi yn dangos ymrwymiad Llywodraeth Cymru i helpu busnesau bach i ffynnu yn ein trefi, a hefyd i ddarparu cyllid hanfodol i adfywio canol y trefi hynny?