7. Dadl Plaid Cymru: Cyllid HS2

– Senedd Cymru am 4:47 pm ar 5 Mehefin 2024.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Elin Jones Elin Jones Plaid Cymru 4:47, 5 Mehefin 2024

Y ddadl nesaf, felly, o dan eitem 7, yw dadl Plaid Cymru ar gyllid ar gyfer HS2. Dwi'n galw ar Delyth Jewell i wneud y cynnig yma. 

Cynnig NDM8594 Heledd Fychan

Cynnig bod y Senedd:

1. Yn galw ar lywodraeth nesaf y DU i ddyfarnu cyfran deg o arian HS2 i Gymru.

Cynigiwyd y cynnig.

Photo of Delyth Jewell Delyth Jewell Plaid Cymru 4:47, 5 Mehefin 2024

(Cyfieithwyd)

Diolch, Lywydd. Nid dadl am reilffordd yn unig yw hon; mae'n ymwneud â sut mae San Steffan yn diystyru anghenion a llais Cymru. Mae HS2 yn rheilffordd mewn gwlad arall yr ydym er hynny yn ei hariannu, rheilffordd nad yw'n croesi ein ffin ond sy'n costio biliynau i ni i'w rhedeg, felly rydym yn colli arian drwy wario ar rywbeth sy'n ein gwneud ni hyd yn oed yn dlotach. Dro ar ôl tro yn y Senedd hon, rydym wedi cytuno bod y sefyllfa'n anghyfiawn, na ellir ei chyfiawnhau, ac eto nid oes unrhyw beth yn newid. Ac ar ben hynny; nid yw San Steffan yn cymryd arni ei bod hi'n sylwi hyd yn oed.

Pe bai rhywle arall—yn nwyrain Ewrop neu Dde America, dyweder—rhywle pell i ffwrdd, lle byddai cenedl yn cael ei hamddifadu o arian ar gyfer ei seilwaith ei hun ond yn gorfod talu tuag at gyfoethogi ei chenedl gyfagos, byddai'n cael ei ystyried yn hurt. Byddai datganiadau barn yn cael eu hysgrifennu mewn papurau newydd, yn arswydo at dwyll mor amlwg, ac eto o dan drwynau'r papurau newydd safonol, prin y cawn ein crybwyll. Nid yw sylwebwyr yn ystyried Cymru'n genedl sy'n deilwng o'u sylw. Fel yr ysgrifennodd un o newyddiadurwyr The Guardian rai blynyddoedd yn ôl, 'Anghofiwch am Gymru, nid yw'n bwysig.'

Wel, Lywydd, mae'n bwysig iawn i ni. Mae'n fater o bwys fod ein rheilffyrdd angen eu trwsio, fod ein hunig reilffyrdd trydanol yno i gael teithwyr i Loegr yn gyflymach, y gallai'r biliynau y cawsom ein hamddifadu ohono ar gyfer HS2 fod wedi cael ei ddefnyddio i gysylltu ein cymunedau ein hunain, mae'n bwysig i ni nad yw'r Blaid Lafur na'r Torïaid wedi addo unioni hyn os byddant yn ennill grym yn San Steffan. Mae Cymru ar ei phen ei hun ymhlith cenhedloedd yr ynysoedd hyn wrth iddi dalu tuag at reilffordd nad yw'n croesi ei thir. Ni allai'r ffars o'i alw'n brosiect Cymru a Lloegr fod yn fwy amlwg. Ond dyna'r agwedd: anghofiwch am Gymru, nid yw'n bwysig iddynt.

Dro ar ôl tro, a phleidlais ar ôl pleidlais, mae'r Senedd hon wedi siarad ag un llais ac wedi dweud wrth San Steffan am ad-dalu'r arian sy'n ddyledus i ni o'r prosiect hwn, i'w ailddosbarthu ar sail realiti nid anwiredd. Ond nid yw'r cynigion hynny'n bwysig iddynt. Mae Mr Sunak a Mr Starmer yn barod iawn i anwybyddu Cymru—islaw sylw un a thu hwnt i ddiddordeb y llall, gan ein cymryd ni'n ganiataol neu ein hystyried yn ffyliaid. Dyna'r cyfan sy'n digwydd o dan system bydredig San Steffan i Gymru. Maent yn gwybod bod yr arian hwn yn ddyledus i ni, ond dywedir wrthym nad yw'n flaenoriaeth, nad yw Cymru'n flaenoriaeth. Anghofiwch Gymru, nid yw'n bwysig—dyna maent yn ei feddwl ohonom.

Ond rydym wedi cael digon o'u difaterwch, o'u cael yn dweud wrthym am aros a gweld beth a gawn—'efallai' bob amser i Gymru, y lleiaf o'u pryderon bob amser, yn cael ein gwthio i'r cefn bob amser, a bob amser yn gorfod 'aros ein tro'. Nid ydym am fodloni ar aros, aros am fuddsoddiad sy'n ddyledus i ni. Rydym wedi aros ac aros yn ofer am degwch gan San Steffan. Maent yn adeiladu rheilffyrdd sy'n ein gwneud yn dlotach, ac yn codi tâl arnom am y fraint o fod yn dlawd.

Anghofiwch obeithio am y gorau gan San Steffan. Nid yw gwneud yr hyn sy'n iawn yn bwysig iddynt. Rydym wedi bod yma o'r blaen yng Nghymru, gyda'r llwybr hwn sy'n arwain i unman. Yn lle aros am degwch, mae'n bryd i ni fynnu'r hyn sy'n ddyledus i ni. Gadewch i ni anfon neges atynt yn Whitehall fod y biliynau hyn yn bwysig i Gymru a'u bod yn fater y mae'n rhaid iddynt fynd i'r afael ag ef.

Photo of Natasha Asghar Natasha Asghar Ceidwadwyr 4:52, 5 Mehefin 2024

(Cyfieithwyd)

A gaf i ddiolch i Blaid Cymru am ddod â'r ddadl hon gerbron y Siambr y prynhawn yma? Gadewch imi ddechrau drwy fod yn hollol glir. Rwyf wedi dweud hyn o'r blaen ac rwyf am ei ddweud eto heddiw: mae'r Ceidwadwyr Cymreig wedi galw ers tro ar Lywodraeth San Steffan i sicrhau bod Cymru'n cael ei chyfran o gyllid canlyniadol HS2. Rwyf wedi cael llawer o sgyrsiau gyda fy nghymheiriaid trafnidiaeth yn San Steffan ar y mater hwn ar sawl achlysur, a gwn fod rhai o fy nghymheiriaid, yn Aelodau Seneddol ac Aelodau o'r Senedd, wedi gwneud yr un peth yn union. Byddwn yn parhau i ddadlau'r achos, ac rydym wedi cefnogi cynigion blaenorol i ailddosbarthu'r prosiect rheilffyrdd fel prosiect Lloegr yn unig.

Mae'n bwysig nodi, fodd bynnag, nad ydym eisiau i'r arian ychwanegol hwn fynd yn syth i gyfrif banc Llywodraeth Cymru, gan ein bod i gyd yn gwybod pa mor ddi-hid ydynt ynghylch gwario arian trethdalwyr. Yn lle hynny, credwn y dylid rhoi'r arian yn uniongyrchol i Network Rail, sydd mewn sefyllfa well i fuddsoddi'n ddoeth yn ein seilwaith trafnidiaeth, ac rwy'n hyderus na fyddant yn gwastraffu'r arian ar brosiectau porthi balchder. Er ein bod ni'n credu bod HS2—

Photo of Carolyn Thomas Carolyn Thomas Llafur 4:53, 5 Mehefin 2024

(Cyfieithwyd)

A wnewch chi dderbyn ymyriad?

Photo of Carolyn Thomas Carolyn Thomas Llafur

(Cyfieithwyd)

Ond Network Rail sy'n gyfrifol am y seilwaith rheilffyrdd, felly—

Photo of Natasha Asghar Natasha Asghar Ceidwadwyr

(Cyfieithwyd)

I raddau, ond fel y gwyddoch, Carolyn, oherwydd rwy'n gwybod eich bod yn angerddol iawn am drafnidiaeth, mae gan lawer o'r rheilffyrdd gysylltiadau rhwng Network Rail a Trafnidiaeth Cymru, a dyna lle bydd yr arian yn mynd.

Er ein bod yn credu y dylid ailddosbarthu HS2 ac y dylai Cymru weld arian ychwanegol o ganlyniad, ni ellir gwadu bod ein gwlad yn elwa o benderfyniad Llywodraeth Geidwadol y DU i gael gwared ar y llwybr Birmingham i Fanceinion yn y cynllun rheilffordd. O ganlyniad, cyhoeddodd Llywodraeth y DU y byddai'n buddsoddi £1 biliwn i drydaneiddio prif reilffordd gogledd Cymru, a fydd yn rhoi rhannau o'r wlad o fewn awr i Fanceinion. Byddai hefyd yn arwain at deithiau mwy dibynadwy a phrydlon ar y llwybr rhwng Crewe, Warrington, Caer, Llandudno a Chaergybi. Mae hyn yn newyddion gwirioneddol dda i Gymru, Lywydd.

Photo of Llyr Gruffydd Llyr Gruffydd Plaid Cymru

(Cyfieithwyd)

A wnewch chi dderbyn ymyriad?

Photo of Natasha Asghar Natasha Asghar Ceidwadwyr

(Cyfieithwyd)

Dim rhagor, os gwelwch yn dda, fe hoffwn barhau. Dro ar ôl tro, mae arweinydd Llafur Keir Starmer wedi gwrthod ymrwymo i roi arian ychwanegol i Gymru am HS2 pe bai ef—a dyma syniad gwirioneddol frawychus—yn dod yn Brif Weinidog yn yr wythnosau nesaf. Gobeithio na fydd byth yn cael ei fachau ar allweddi 10 Stryd Downing, ond os caiff, mae wedi dweud yn glir na fydd unrhyw arian ar gael i Gymru. Felly, byddwn yn awyddus i wybod pa drafodaethau y mae Gweinidogion Llafur yma wedi'u cael gyda Keir Starmer a'i dîm yn Llundain, a beth oedd eu hymateb hyd yma. Ac mewn gwirionedd, a yw'r Prif Weinidog wedi codi'r mater hwn yn uniongyrchol gydag ef ar ôl eu cyfarfod yr wythnos diwethaf? Efallai y gallai Ysgrifennydd y Cabinet dros drafnidiaeth daflu ychydig o oleuni ar y mathau o drafodaethau y mae'r Llywodraeth wedi'u cael gyda Keir Starmer pan fydd yn ymateb i'r ddadl hon ychydig yn nes ymlaen.

Lywydd, er y gallai fod rhywfaint o anghysondeb ynghylch y modd yr hoffem weld yr arian yn cael ei weinyddu, mae'n deg dweud ein bod i gyd yn gytûn y dylai Cymru gael cyllid ychwanegol ar gyfer HS2. Ni waeth beth sy'n digwydd ar 4 Gorffennaf, rhaid i bob un ohonom barhau i bwyso i sicrhau ei fod yn digwydd a bod y cyhoedd yng Nghymru yn cael yr hyn sy'n ddyledus iddynt. I'r perwyl hwnnw, byddwn yn cefnogi'r cynnig y prynhawn yma. Diolch.

Photo of Rhun ap Iorwerth Rhun ap Iorwerth Plaid Cymru 4:55, 5 Mehefin 2024

Buaswn i'n licio dechrau yn yr ysbryd o ymhyfrydu yn y ffaith bod yna rai pynciau yn y Senedd yma lle mae gennym ni fwy yn gyffredin ar draws pleidiau na sydd yn ein gwahanu ni. Mae hi'n fater o falchder gwirioneddol ein bod ni fel Senedd wedi datgan efo un llais, ychydig dros flwyddyn yn ôl, y dylid ailddynodi cynllun HS2 yn brosiect Lloegr yn unig. Does yna ddim posib celu y ffaith bod yna anghyfiawnder cwbl sylfaenol yn y ffaith bod trethdalwyr Cymru i bob pwrpas yn talu am reilffordd yn Lloegr sydd nid yn unig ddim yn dod â budd i Gymru ond sydd, yn ôl astudiaethau, yn niweidiol i economi Cymru. Ond â ninnau wedi adnabod yr anghyfiawnder hwnnw a chytuno arno fo, dydy'r cwestiwn, 'Beth nesaf?' dal ddim wedi cael ei ateb.

Photo of Rhun ap Iorwerth Rhun ap Iorwerth Plaid Cymru

(Cyfieithwyd)

Pan wnaethom drafod HS2 fis Ebrill diwethaf, dywedodd y dirprwy Weinidog newid hinsawdd ar y pryd, Lee Waters, ei bod yn sgandal nad oedd Cymru'n cael ei chyfran deg o gyllid canlyniadol. Ond gellid dadlau mai'r sgandal fwyaf yw'r ffaith nad ydym, hyd yn oed mewn ymgyrch etholiad cyffredinol—sydd yn draddodiadol yn amser lle ceir addewidion a rhoddion mawr—wedi clywed unrhyw beth gan y Ceidwadwyr na'r Blaid Lafur ar unioni camwedd HS2. Byddwn i'n dadlau bod ymrwymo i symiau canlyniadol HS2 yn un o'r profion litmws mwyaf amlwg ar gyfer unrhyw ddarpar Lywodraeth y DU o ran bod o ddifrif ynglŷn â thegwch i Gymru, oherwydd nid oes unrhyw beth yn deg am gyflwr presennol ein rheilffyrdd. Cafodd y rheilffordd rhwng Glasgow a Llundain ei thrydaneiddio hanner canrif yn ôl, ac eto mae prif reilffordd gogledd Cymru yn dal i aros i gael ei thrydaneiddio, ac nid yw prif reilffordd de Cymru ond wedi cael ei thrydaneiddio cyn belled â Chaerdydd.

Mae Cymru'n gartref i tua 12 y cant o seilwaith rheilffyrdd y DU. Rydym yn cael 2 y cant o fuddsoddiad rheilffyrdd y DU. Eto'i gyd, roedd gwasanaethau trên Trafnidiaeth Cymru yn gyfrifol am fwy na 1 filiwn o funudau o oedi yn 2023. Nawr, mae £4 biliwn yn amcangyfrifiad da o'r gyfran deg o'r prosiect hwn a ddylai fod yn dod i Gymru—prosiect na fydd yn gweld yr un filltir o drac yn cael ei adeiladu yma. Beth bynnag yw'r union ffigur, gellid ei ddefnyddio i drawsnewid ein rhwydwaith trafnidiaeth gyhoeddus: bysiau, ac rydym yn gwybod faint y maent hwy wedi'i ddioddef; rheilffyrdd; gwella cysylltiadau ffyrdd rhwng y gogledd a'r de, y dwyrain a'r gorllewin. Gallai hynny wneud cymaint i ddechrau gwneud iawn am ddegawdau o danariannu cronig gan Lywodraethau Torïaidd a Llafur olynol y DU.

Yn ôl ym mis Hydref, honnodd Ysgrifennydd Gwladol yr wrthblaid Lafur yn Llywodraeth y DU, Jo Stevens, na allai Llafur ymrwymo nawr i gyllid HS2 i Gymru, gan ddweud y byddai'n rhaid i Lywodraeth Lafur yn y DU ystyried beth yw'r anghenion i Gymru o ran trafnidiaeth ar ôl buddugoliaeth etholiadol, ac nad ydynt wedi gweld y llyfrau. Wrth gwrs, yr wythnos hon, llwyddodd Keir Starmer i wneud addewid cadarn i adnewyddu Trident, unwaith eto heb weld y llyfrau, felly pam na allai wneud hynny i unioni'r anghyfiawnder hwn? Dyna pam mae'r cynnig sydd o'n blaenau heddiw mor bwysig. Mae'n ffordd i'r Senedd allu anfon neges glir ac unedig at Lywodraeth nesaf y DU, ac mae'r Llywodraeth honno bron â bod yn sicr o fod yn Llywodraeth Lafur, ni waeth sut mae Cymru'n pleidleisio, a dyna pam fod pleidlais i Blaid Cymru yn yr etholiad hwn mor hynod o werthfawr. Ond y neges yn y bleidlais hon heddiw yw bod Cymru'n haeddu'r tegwch hwnnw a'r cyllid sydd ei angen arnom i adeiladu cysylltedd a rhwydwaith rheilffyrdd sy'n addas ar gyfer yr unfed ganrif ar hugain. Rwy'n annog yr holl Aelodau sy'n rhannu'r farn honno i gefnogi'r cynnig heddiw.

Photo of Carolyn Thomas Carolyn Thomas Llafur 4:59, 5 Mehefin 2024

(Cyfieithwyd)

Mae HS2 wedi bod yn drychineb llwyr gan Lywodraeth y DU: mae wedi diffeithio cefn gwlad, dinistrio cartrefi, a chostio biliynau i'r trethdalwr. Cyfarfûm â rhywun sydd bellach yn byw yn sir y Fflint y prynwyd ei gartref yn orfodol. Roedd mor flin gyda'r cynllun a'r dinistr a achosodd, ynghyd â'r costau enfawr hefyd.

Yn 2011, cafwyd rhagamcan y byddai'r costau'n £32 biliwn, ond erbyn 2020, y rhagamcan oedd y byddent yn £106 biliwn, ac rwy'n credu y bydd y cam cyntaf o Lundain i Birmingham bellach yn costio £66 biliwn. Mae'n eliffant gwyn hynod o ddrud, ac mae'n tynnu sylw oddi wrth realiti'r buddsoddiad mawr ei angen yn y seilwaith rheilffyrdd Fictoraidd ledled y DU, ac yn enwedig yng Nghymru. Ac mae'r seilwaith rheilffyrdd yn bennaf dan reolaeth Llywodraeth y DU drwy Network Rail. Bydd HS2 nawr yn arbed ychydig funudau'n unig i fynd o Birmingham i Lundain—dyna'r cyfan, ar ôl yr holl fuddsoddiad. Ac mae'r penderfyniad i labelu HS2 yn brosiect Cymru a Lloegr yn hurt. Mewn gwirionedd, gallai gael effaith economaidd negyddol o hyd at £200 miliwn ar Gymru, a chredaf ei fod yn gam sinigaidd i dwyllo Cymru rhag cael buddsoddiad mawr ei angen drwy symiau canlyniadol. 

Cafodd tri chais seilwaith rheilffyrdd eu cyflwyno i Lywodraeth y DU am gyllid ffyniant bro, ac fe gafodd y tri eu gwrthod, ac roedd y blaenoriaethau hyn yn sir y Fflint yn cynnwys gorsaf Parc Diwydiannol Glannau Dyfrdwy i greu miloedd o swyddi a chludo nwyddau oddi ar y rheilffordd yn Hanson Cement yn Padeswood. Hefyd, cafodd prosiect porth Wrecsam ei wrthod deirgwaith. Roeddent yn geisiadau cynhwysfawr a chafodd llawer o amser ei dreulio a llawer o arian ei wario arnynt. Yr adborth oedd, er bod y prosiectau'n dda, roedd y cyllid ffyniant bro a oedd ar gael yn y DU yn gyfyngedig. Ond wedyn, eleni, rhoddwyd mwy o gyllid ffyniant bro i Canary Wharf yn Llundain nag a roddwyd i Gymru gyfan gyda'i gilydd, ac nid wyf yn deall y diffyg tegwch i Gymru o gwbl. 

Mae 14 blynedd o danfuddsoddi ar drywydd cyni wedi arwain at doriadau mewn termau real ar gyfer cynnal a chadw rheilffyrdd, a fydd yn arwain at ostyngiad difrifol mewn tasgau cynnal a chadw wedi'u trefnu, sy'n peri gofid pellach. Er mwyn gwneud rheilffyrdd yn ddiogel, mae angen y buddsoddiad hwnnw arnom. Bydd Network Rail yn torri 1,850 o swyddi cynnal a chadw fel rhan o'r rhaglen i foderneiddio gwaith cynnal a chadw, ac mae angen i ni bryderu am hynny. Daw hyn ar adeg pan ddylem fod yn buddsoddi mewn atal llifogydd, gan fod yr achosion o dywydd garw'n dwysáu. Ac rwy'n fwyfwy pryderus am hyfywedd prif reilffordd gogledd Cymru yn y dyfodol, wrth i'r bygythiad o dywydd newidiol a newid hinsawdd hofran uwch ein pennau. Rwy'n gwybod ein bod wedi cael llanw uchel pan fu bron i'r llanw ddod dros y rheilffordd yn ddiweddar. 

Rwyf eisiau gweld Llywodraeth newydd yn y DU sy'n deall pwysigrwydd tryloywder ac sy'n gallu rhoi diwedd ar adrannau yn San Steffan yn dod o hyd i arian i lawr cefn y soffa fel nad oes rhaid iddynt drosglwyddo'r cyllid canlyniadol i Gymru. Mae arnom angen Llywodraeth Lafur yn y DU sy'n parchu pwysigrwydd datganoli ac sy'n barod i gydweithio â Llywodraeth Lafur Cymru i sicrhau newid cadarnhaol i Gymru, wrth symud ymlaen, gyda gwir dryloywder. Ac fe fydd hyn yn gwbl groes i'r Torïaid, sydd wedi ceisio osgoi a thanseilio Llywodraeth Cymru a'r Senedd ar bob cyfle posibl. Diolch. 

Photo of Cefin Campbell Cefin Campbell Plaid Cymru 5:02, 5 Mehefin 2024

Diolch am y cyfle i gyfrannu at y ddadl. Dwi am ganolbwyntio ar sut y gallai mwy o fuddsoddiad drawsnewid y ddarpariaeth trafnidiaeth gyhoeddus mewn cymunedau gwledig, fel yr ardaloedd dwi’n eu cynrychioli yng Nghanolbarth a Gorllewin Cymru—cymunedau sy’n dioddef oherwydd trafnidiaeth gyhoeddus wael. 

Pan fyddaf yn mynd mas i gwrdd ag etholwyr ar draws y rhanbarth—a dwi wedi gwneud tipyn o hynny dros yr wythnosau diwethaf—un o'r materion sy'n effeithio fwyaf arnyn nhw, ac maen nhw'n dweud hyn wrthyf i ar stepen y drws, yw diffyg trafnidiaeth gyhoeddus. Ac mae hyn yn arbennig yn effeithio ar bobl ifanc a phensiynwyr. Mae absenoldeb opsiynau trafnidiaeth gyhoeddus ymhlith y materion pennaf y maen nhw'n poeni amdanynt.

I ormod o gymunedau gwledig, mae'r syniad o gyswllt rheilffordd cyfleus yn ddim byd mwy na breuddwyd gwrach. Ac yn aml iawn, dyma’r un cymunedau sy’n wynebu colli eu gwasanaethau bws hefyd.

Photo of Cefin Campbell Cefin Campbell Plaid Cymru 5:03, 5 Mehefin 2024

(Cyfieithwyd)

Mae diffyg mynediad at drafnidiaeth gyhoeddus yn un o achosion tlodi gwledig ac allgáu cymdeithasol. Mae'n ei gwneud yn anoddach gwneud busnes, ac yn anoddach i bobl gael mynediad at addysg, hyfforddiant a gwasanaethau hanfodol eraill fel meddygon, deintyddion a fferyllfeydd. Lle mae gwasanaethau rheilffyrdd yn bodoli yng nghefn gwlad Cymru, yn aml cânt eu heffeithio gan oedi a chanslo gwasanaethau. Mae gan reilffordd Calon Cymru yr anrhydedd amheus o fod â’r cyfraddau gwaethaf o fodlonrwydd cwsmeriaid yn y DU gyfan. Ac yn ddiweddar, rydym wedi gweld toriadau i wasanaethau ar y rheilffordd hon a rheilffordd y Cambrian.

Ond nid oes yn rhaid i bethau fod fel hyn. Gallai’r cyllid canlyniadol sy'n briodol ddyledus i Gymru oherwydd HS2 helpu i drawsnewid y ddarpariaeth reilffyrdd. Drwy fuddsoddi yn ein rheilffyrdd, gallem wella effeithlonrwydd ac effeithiolrwydd ein gwasanaethau, gan ddarparu cysylltiadau cyflymach, amlach a mwy dibynadwy ar draws y rhanbarth. A gallai agor llwybr ar gyfer ailgysylltu gogledd a de Cymru drwy'r rheilffyrdd, gan gau’r bwlch a adawyd yn sgil toriadau Beeching i'n seilwaith trafnidiaeth cenedlaethol. Byddai gwella cysylltedd yn y gogledd a’r gorllewin yn cefnogi busnesau ac yn eu helpu i oresgyn rhwystrau allweddol i fuddsoddiad, ac mae buddsoddi yn ein trafnidiaeth gyhoeddus, wrth gwrs, yn hollbwysig yn y frwydr yn erbyn newid hinsawdd. Yn syml iawn, nid oes unrhyw ffordd o wneud y newid sydd ei angen i ddulliau teithio os yw trafnidiaeth gyhoeddus yn parhau i fod mor annibynadwy ac anghyfleus—a hynny lle mae'n bodoli o gwbl.

Photo of Cefin Campbell Cefin Campbell Plaid Cymru 5:05, 5 Mehefin 2024

Mae’n fater o anghyfiawnder dybryd nad yw Cymru yn derbyn yr hyn sydd yn ddyledus iddi o'r buddsoddiad yn HS2. A pham—pam—fel rŷn ni wedi clywed yn barod yn y Siambr, nad yw 'r Blaid Lafur o dan Starmer wedi ymrwymo i ddarparu’r cyllid hwn? Mae pob un ohonon ni—rŷn ni wedi clywed yn barod yn y Siambr hon—yn llythrennol, pob un ohonom ni, wedi galw am hyn i ddigwydd sawl gwaith. Mae yna gytundeb rhwng pob plaid a thu hwnt y dylai hyn ddigwydd. Mae hyd yn oed yr Ysgrifennydd Gwladol cysgodol—eto fel rŷn ni wedi ei glywed—Jo Stevens, wedi dweud yn gyhoeddus, fod hyn yn anghyfiawn, a'i fod yn amddifadu Cymru o fudd economaidd gwerth £150 o filiynau y flwyddyn. Pam nad yw hi yn gorfodi Starmer i roi'r arian dyledus yma i Gymru fel addewid maniffesto?

Mae pobl yng Nghymru yn haeddu gwasanaethau trên effeithlon, dibynadwy a chynaliadwy, sy’n eu cysylltu â’i gilydd. Maen nhw’n haeddu buddsoddiad yn eu heconomi leol sy’n creu swyddi ac yn lleihau tlodi. Ond yn hollbwysig, maen nhw’n haeddu’r arian sydd yn ddyledus iddyn nhw, sef tua £4 biliwn i £5 biliwn—biliwn—o arian HS2. Rŷn ni ym Mhlaid Cymru yn mynnu cyllid teg i Gymru, ac mae’n hen bryd i’r ddwy blaid yn San Steffan ymrwymo i gyflawni hyn, pwy bynnag fydd yn ennill yr etholiad cyffredinol.

Photo of Rhianon Passmore Rhianon Passmore Llafur 5:07, 5 Mehefin 2024

(Cyfieithwyd)

Rwyf innau hefyd yn fwy na pharod i gefnogi’r cynnig hwn. Byddai adeiladu rheilffordd HS2 wedi cysylltu Llundain a Birmingham; ni fyddai wedi dod yn agos at Gymru, ac ni fyddai o unrhyw fudd i deithwyr rheilffyrdd Cymru. Hyd at y flwyddyn nesaf, bydd Cymru wedi colli oddeutu £350 miliwn o ganlyniad i ddosbarthu HS2 yn anghywir fel prosiect Cymru a Lloegr, ac mae’r swm hwnnw’n debygol o gynyddu’n sylweddol mewn blynyddoedd i ddod hefyd. Ac yng Nghymru, mae gennym signalau o Oes Fictoria o hyd ar rai o’n llwybrau allweddol, a ddylai fod yn flaenoriaeth ar gyfer buddsoddi. Dim ond 2 y cant o’r rhwydwaith rheilffyrdd yng Nghymru o dan reolaeth Llywodraeth y DU sydd wedi'i drydaneiddio, o gymharu â 40 y cant o’r rheilffyrdd yn Lloegr. Mae Cymru’n haeddu gwell, ac mae'n haeddu ei darn o gacen drydaneiddio’r DU.

Pe bai Cymru’n cael ei chyfran deg o gyllid gan Lywodraeth Dorïaidd y DU, byddai’n gwneud gwahaniaeth sylweddol i’n gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru a’r penderfyniadau ariannol anodd iawn y mae’n rhaid i ni eu gwneud. Y gwir amdani yw bod y system gyllido bresennol yn ddiffygiol. Mae Llywodraeth Lafur Cymru wedi nodi cynigion yn 'Diwygio ein Hundeb' ar gyfer dull newydd o ariannu yn y DU sy'n seiliedig ar egwyddorion, dull sydd wedi'i ymgorffori mewn cytundeb cyllidol newydd a oruchwylir ac a weithredir gan gorff sy'n annibynnol ar Lywodraeth y DU.

Mae ar Gymru angen strwythur ariannu sy’n deg, sy’n seiliedig ar angen, ac sy’n cyflawni ar gyfer pobl mewn gwahanol rannau o’r Deyrnas Unedig. Ond er gwaethaf y diffyg cyllid rheilffyrdd a ddaw o San Steffan, mae Llywodraeth Lafur Cymru wedi buddsoddi £800 miliwn mewn fflyd newydd o drenau newydd sy’n golygu bod teithwyr ledled Cymru bellach yn dechrau elwa o fanteision capasiti uwch, gwell hygyrchedd a mwy o foethusrwydd, gyda chynlluniau hefyd i ehangu yn y dyfodol. Mae canlyniadau gwaith uwchraddio gwerth £1 biliwn gan Lywodraeth Lafur Cymru ar linell graidd y Cymoedd i’w gweld bellach, gyda threnau trydan newydd sbon yn dod i wasanaeth eleni. Mae’r buddsoddiad yn dangos yr hyn y gall Llywodraeth Cymru ei wneud lle mae ganddi bwerau a chyllid. Mae’n gwbl briodol mai uchelgais Llywodraeth Lafur Cymru yw datganoli rheilffyrdd yn llawn yng Nghymru, a rhoi diwedd ar y ddarpariaeth ddarniog a orfodwyd arnom. [Torri ar draws.] Iawn.

Photo of Andrew RT Davies Andrew RT Davies Ceidwadwyr 5:09, 5 Mehefin 2024

(Cyfieithwyd)

Rwy'n ddiolchgar iawn. Mae’r metro’n cael ei ariannu ar y cyd â Llywodraeth y DU. A wnewch chi gydnabod y pwynt hwnnw? Oherwydd mae'n digwydd drwy'r fargen ddinesig, ac rwy'n credu bod bron i 50 y cant o'r arian yn dod gan Lywodraeth y DU.

Photo of Rhianon Passmore Rhianon Passmore Llafur

(Cyfieithwyd)

Ydy, ond ni allwn anwybyddu'r record druenus o ran y gwaith trydaneiddio rheilffyrdd nad yw wedi digwydd yng Nghymru, ac ni allwn wadu'r diffyg gwariant ar reilffyrdd yng Nghymru, ac mae'n rhaid inni edrych ar hyn gydag eglurder.

Mae Llywodraeth Lafur Cymru wedi buddsoddi £160 miliwn pellach i uwchraddio’r rheilffordd sy’n rhedeg drwy gymunedau Islwyn. Dyma gyfrifoldeb buddsoddi i Lywodraeth y DU. Ail-agorwyd rheilffordd Glynebwy, sy’n rhedeg am oddeutu 13 milltir, yn 2008, ar ôl bod yn segur ers 40 mlynedd, ac mae’n drueni fod gan Gymru well seilwaith trafnidiaeth yn ystod Oes Fictoria nag sydd gennym heddiw. Mae Llywodraeth Lafur Cymru a’n hawdurdodau lleol yng Nghymru wedi bod yn buddsoddi, yn buddsoddi’n wirioneddol, yn rhwydwaith rheilffyrdd Cymru, er na chafwyd y nesaf peth i ddim o arian seilwaith ac arian cyfatebol gan y DU. Mae’n haeddu—rydym ni'n haeddu—cyllid teg a gwariant teg ar y rheilffyrdd yng Nghymru nawr.

Photo of Peredur Owen Griffiths Peredur Owen Griffiths Plaid Cymru 5:11, 5 Mehefin 2024

(Cyfieithwyd)

Hanes HS2 yng Nghymru yw un o’r anghyfiawnderau ariannol mwyaf, o blith nifer, a welsom ers amser maith gan San Steffan. Ni fydd yr un filltir o drac yn dod yn agos at Gymru, heb sôn am fynd drwyddi, ac eto, mae trethdalwyr yn y wlad hon yn gorfod talu amdani. Y rheswm am hyn yw bod y Llywodraeth Dorïaidd wedi'i ddosbarthu fel prosiect Cymru a Lloegr. Mae hyn yn cadarnhau eu bod nid yn unig yn anghymwys o ran yr economi, ond hefyd yn anghymwys o ran daearyddiaeth.

Mewn cyferbyniad, bydd Gogledd Iwerddon a’r Alban yn cael arian ychwanegol sy’n ddyledus iddynt o ganlyniad i brosiect ar gyfer Lloegr yn unig. Mae’r Trysorlys yn gwybod yn well nag amddifadu’r Alban neu Ogledd Iwerddon o arian sy'n briodol ddyledus iddynt. A yw Llywodraeth San Steffan wedi dod i’r casgliad na fydd Llywodraeth Lafur Cymru yn gwneud gormod o stŵr am hyn? Yn ôl eu hamcangyfrif eu hunain, mae’r Llywodraeth hon yn awgrymu y dylem gael oddeutu £5 biliwn yn seiliedig ar boblogaeth y wlad pe bai’r prosiect yn cael ei newid i fod yn brosiect Lloegr yn unig. Byddem yn cael yr arian ychwanegol hwnnw drwy fformiwla hynafol Barnett, sy’n cyfrifo faint o gyllid y mae’r gweinyddiaethau datganoledig yn ei gael gan y Trysorlys i’w wario ar feysydd datganoledig.

Nawr, efallai yr hoffai Natasha fyfyrio ychydig mwy ar oblygiadau rhoi’r arian yn uniongyrchol i Network Rail. Byddai’n erydu’r setliad datganoli a’r prosesau democrataidd yn y lle hwn.

Mae’r Llywodraeth Dorïaidd yn honni'n gwbl hurt fod HS2 yn brosiect sydd o fudd i’r ddwy wlad, ac yn dweud bod Cymru wedi elwa’n uniongyrchol o unrhyw gynnydd yng nghyllideb yr Adran Drafnidiaeth sydd wedi’i ysgogi gan HS2. Wrth roi tystiolaeth i Bwyllgor Cyllid y Senedd yn ystod y pythefnos diwethaf, yn ein hymchwiliad presennol i gysylltiadau cyllidol rhynglywodraethol, datganodd yr arbenigwr cyfansoddiadol uchel ei barch Paul Silk fod y cyfiawnhad fod HS2 o fudd i Gymru 'braidd yn denau'. Nid yw’n iawn fod Llywodraeth y DU yn gallu gwneud y penderfyniadau anghyfiawn hyn yn fympwyol. Nid yw'n rhywbeth sydd wedi digwydd unwaith, maent wedi gwneud hyn ddwywaith. Mae rheilffordd Pwerdy Gogledd Lloegr yn rhaglen reilffordd fawr arfaethedig a fydd yn sicrhau gwelliannau mawr i gysylltedd gogledd Lloegr. Yn wreiddiol, y bwriad oedd adeiladu rheilffordd newydd i gysylltu ardaloedd fel Manceinion a Leeds, ond mae'r prosiect wedi'i leihau ers hynny. Bydd yn dal i gynnwys gwelliannau sylweddol i reilffyrdd yng ngogledd Lloegr, gan gynnwys Lerpwl, Manceinion, Leeds, Bradford ac Efrog. Mae rheilffordd Pwerdy Gogledd Lloegr, fel HS2, hefyd wedi’i ddosbarthu gan Lywodraeth y DU fel prosiect Cymru a Lloegr, er ei fod wedi'i leoli yn gyfan gwbl yn Lloegr. Mae hyn yn golygu y bydd Cymru ar ei cholled eto, o werth mwy na £1 biliwn o gyllid ar gyfer trafnidiaeth y tro hwn. Dylai cymudwyr yng Nghymru gofio hynny yn y blwch pleidleisio ym mis Gorffennaf, ond hefyd yn 2026 yn etholiadau nesaf y Senedd, gan ei bod yn ymddangos bod arweinydd Llafur Keir Starmer wedi rhoi sêl bendith ar y penderfyniadau anghyfiawn hyn drwy wrthod ymrwymo i’w gwrthdroi pe bai'n cael ei ethol yn Brif Weinidog, ond wrth gwrs, efallai y cawn ymrwymiad maniffesto hwyr gan Ysgrifennydd y Cabinet ar ei ran heno. Diolch.

Photo of Elin Jones Elin Jones Plaid Cymru 5:14, 5 Mehefin 2024

Yr Ysgrifennydd Cabinet dros gyllid nawr i gyfrannu i'r ddadl. Rebecca Evans.

Photo of Rebecca Evans Rebecca Evans Llafur

(Cyfieithwyd)

Diolch. Felly, mae ffeithiau'r mater hwn yn syml iawn. Rheilffordd rhwng Llundain a Birmingham yw HS2, ac ni fydd modfedd o drac yn cael ei adeiladu ar bridd Cymru. Nid yw o fudd i Gymru, a dylid ei ailddosbarthu fel prosiect Lloegr yn unig.

Photo of Rebecca Evans Rebecca Evans Llafur 5:15, 5 Mehefin 2024

(Cyfieithwyd)

Hyd at ddiwedd 2024-25, bydd Cymru wedi colli oddeutu £350 miliwn o ganlyniad i ddosbarthu HS2 yn anghywir fel prosiect Cymru a Lloegr. Mae’r swm hwnnw’n debygol o gynyddu’n sylweddol yn y blynyddoedd i ddod. Mae Llywodraeth Cymru wedi bod yn pwyso am gymharedd â HS2 yn y dyfodol ac am y cyllid a fyddai wedi dod i Gymru hyd yma, pe bai’r cymharedd hwnnw wedi bod ar waith yn y gorffennol. Wrth edrych ymlaen, bydd gwerth cymharedd yn dibynnu ar gynlluniau gwariant Llywodraeth y DU ar drafnidiaeth yn y dyfodol, ond byddai’n debygol o ddarparu adnoddau ychwanegol sylweddol i Lywodraeth Cymru, a gallai hyn fod rhwng £60 miliwn a £70 miliwn y flwyddyn. Hefyd, dylai Llywodraeth y DU gynnal adolygiad ehangach o gymharedd gyda’r Adran Drafnidiaeth i sicrhau mwy o wrthrychedd mewn penderfyniadau ariannu ac i fynd i’r afael ag effaith dosbarthu prosiectau rheilffyrdd yn y dyfodol.

Pe bai Cymru’n cael ei chyfran deg o gyllid gan Lywodraeth y DU, byddai’n gwneud gwahaniaeth sylweddol i’n gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru, a gallai leddfu rhai o’r dewisiadau anodd y mae'n rhaid i ni eu gwneud. Nid yn unig fod ein setliad eleni'n werth hyd at £700 miliwn yn llai mewn termau real na'r disgwyl ar adeg yr adolygiad o wariant yn 2021, ond mae hefyd £3 biliwn yn is na phe bai wedi tyfu yn unol â chynnyrch domestig gros ers 2010. Mae ein cyllideb gyfalaf gyffredinol eleni'n werth hyd at 8 y cant yn llai mewn termau real na’r disgwyl ar adeg yr adolygiad o wariant yn 2021.

Rydym hefyd yn wynebu cyfyngiadau cadarn ar ein gallu i fenthyca a chario arian ymlaen neu dynnu arian i lawr o’n cronfeydd wrth gefn ein hunain, ac eto mae ein strategaeth buddsoddi yn seilwaith Cymru yn nodi cyfres o brosiectau y gallem fuddsoddi ynddynt i roi hwb i economi Cymru pe bai gennym y dulliau a'r adnoddau. Y gwir amdani yw bod y system gyllido bresennol yn ddiffygiol. Rydym wedi nodi cynigion yn 'Diwygio ein Hundeb' ar gyfer dull newydd o ariannu yn y DU sy'n seiliedig ar egwyddorion ac sydd wedi'i ymgorffori mewn cytundeb cyllidol newydd a oruchwylir ac a weithredir gan gorff sy'n annibynnol ar Lywodraeth y DU. A byddai hyn yn galluogi dyraniad gwariant cyhoeddus sy'n fwy rhesymegol a thryloyw ar draws y DU ac yn sicrhau bod penderfyniadau ynglŷn ag a yw rhaglen yn gymaradwy ai peidio yn cael eu gwneud ar sail wrthrychol. Mae arnom angen strwythur ariannu sy'n deg, sy'n seiliedig ar angen ac sy'n cyflawni ar gyfer pobl mewn gwahanol rannau o'r Deyrnas Unedig.

Mae’r Llywodraeth Geidwadol wedi methu cefnogi blaenoriaethau yng Nghymru. Mae Llywodraeth y DU yn cyfarwyddo dirywiad a reolir yn seilwaith rheilffyrdd Cymru y mae’n gyfrifol amdano. Bydd eu cynlluniau ar gyfer Network Rail yng Nghymru ar gyfer y pum mlynedd nesaf yn arwain at ostyngiad yn yr arian parod sydd gan Network Rail i ofalu am seilwaith hanfodol. Y canlyniad fydd llai o ddibynadwyedd asedau a mwy o broblemau seilwaith, gan achosi oedi i wasanaethau rheilffyrdd yng Nghymru. Mae Llywodraeth Cymru wedi gwrthod eistedd yn ôl a gwylio’r argyfwng hwn yn datblygu. Rydym wedi ymyrryd gyda buddsoddiad o £800 miliwn mewn fflyd newydd o drenau, sy’n golygu bod teithwyr ledled Cymru bellach yn elwa o fanteision capasiti uwch, gwell hygyrchedd a moethusrwydd. Ond mae costau cyfle i hyn, ac mae wedi golygu penderfyniadau anodd mewn mannau eraill yn ein cyllideb.

Yr her sy’n wynebu Llywodraeth nesaf y DU yw bod yr un bresennol wedi camreoli’r economi yn llwyr dros y 14 mlynedd diwethaf, gan roi mwy na degawd o gyni i ni, mini-gyllideb fyrbwyll, argyfwng costau byw a'r lefelau chwyddiant uchaf erioed. Er gwaethaf y sefyllfa heriol o ran cyllid cyhoeddus, mae pobl yng Nghymru yn deall y byddai cael dwy Lywodraeth Lafur sydd wedi ymrwymo i gydweithio ar gyfer dyfodol Cymru yn beth da, a gallem wneud cynnydd gwirioneddol yn y maes hwn a chymaint o feysydd eraill. Yng Nghymru, lle rydym yn gyfrifol am linell graidd y Cymoedd, rydym eisoes wedi dangos y trawsnewidiad y gallwn ei gyflawni. Mae canlyniadau ein gwaith uwchraddio gwerth £1 biliwn ar linell graidd y Cymoedd bellach i'w gweld, gyda threnau trydan newydd sbon yn dod i wasanaeth eleni. Mae’r newid i'r amserlen yr wythnos hon yn gam sylweddol tuag at y gwasanaeth ‘cyrraedd a theithio’ y bydd y metro yn ei gynnig, gan ddarparu teithiau amlach i deithwyr, gwella cysylltedd a chreu cyfleoedd. Mae ein buddsoddiad yn dangos yr hyn y gallwn ei gyflawni lle mae gennym bwerau a chyllid. Mae’n parhau i fod yn uchelgais gan Lywodraeth Cymru i ddatganoli rheilffyrdd Cymru'n llawn er mwyn ein galluogi i ddarparu system drafnidiaeth gwbl integredig ac effeithlon sy’n diwallu anghenion teithwyr a chludwyr nwyddau yng Nghymru.

Lywydd, mae Cymru’n haeddu cael ei thrin yn deg ac yn barchus gan Lywodraeth y DU, a dylai fod gan Lywodraeth Cymru y pwerau cyllidol a’r adnoddau sydd eu hangen arnom i gyflawni ein huchelgeisiau ar gyfer Cymru lewyrchus, werdd ac iach. Diolch.

Photo of Delyth Jewell Delyth Jewell Plaid Cymru

Diolch, Lywydd, a diolch i bawb sydd wedi cymryd rhan yn y ddadl bwysig hon.

Photo of Delyth Jewell Delyth Jewell Plaid Cymru

(Cyfieithwyd)

Natasha, diolch am nodi eto eich cefnogaeth i ailddosbarthu HS2. Y pwynt y mae Natasha yn ei wneud ynglŷn â Network Rail, sy'n codi’r pwynt, wrth gwrs, ynglŷn â pham fod angen datganoli’r pwerau dros y seilwaith trafnidiaeth i Gymru, neu fel arall, byddwn yn brin o arian ac yn brin o draciau am byth. Diolch am eich cyfraniad.

Photo of Delyth Jewell Delyth Jewell Plaid Cymru

Ie wir, Rhun, dyma un pwnc sydd yn ein huno fel Senedd. Am bwerus a sarhaus, felly, y mae hi fod San Steffan, a phleidiau San Steffan, yn ein hanwybyddu—cymaint yn ddyfnach mae'r sarhad.

Photo of Delyth Jewell Delyth Jewell Plaid Cymru

(Cyfieithwyd)

Credaf fod ymrwymo i gyllid canlyniadol yn sgil HS2 yn brawf litmws yn wir i Mr Sunak a Mr Starmer, prawf y maent yn ei fethu. Maent yn ein hanwybyddu naill ai am nad oes ots ganddynt neu am nad ydynt yn trafferthu sylwi arnom. Mae Mr Starmer, yn wir, wedi ymrwymo i wariant ar Trident. Beth am roi'r biliynau sy'n ddyledus i ni?

Nawr, nododd Carolyn y symiau syfrdanol o arian sy'n cael eu gwario ar HS2. Rwy'n croesawu—rwy'n croesawu'n fawr—y ffaith bod rhannau o Loegr yn cael y buddsoddiad hwnnw ac y bydd dinasyddion yn Lloegr yn elwa o hynny. Rwy’n ei groesawu iddynt, ond mae esgus bod y prosiect hwn o fudd i Gymru yn gwyrdroi realiti moesoldeb a mapiau.

Photo of Delyth Jewell Delyth Jewell Plaid Cymru 5:21, 5 Mehefin 2024

Soniodd Cefin am yr effaith ar drigolion Cymru o safon wael ein trafnidiaeth gyhoeddus—y gwasanaethau hynny byddent yn elwa cymaint o fuddsoddiad biliynau o arian HS2. Fel yr oedd Cefin yn sôn, cwestiwn o degwch cymdeithasol ydy hwn. Mae ein tlodi ni fel gwlad yn benderfyniad sy'n cael ei wneud yn San Steffan, a, ie, cwestiwn o hawliau ydy hynny hefyd, rwy'n cytuno. Pam nad oes gennym ni yng Nghymru yr hawl am wasanaethau gwell?

Photo of Delyth Jewell Delyth Jewell Plaid Cymru 5:22, 5 Mehefin 2024

(Cyfieithwyd)

Nawr, mynegodd Rhianon ei chefnogaeth hefyd i ailddatgan realiti, bron, drwy nodi na fydd HS2 yn dod i mewn i Gymru. Ni ddylai fod yn werth nodi bod Aelod ar ôl Aelod wedi bod yn ailddatgan gwirioneddau amlwg daearyddiaeth, ond mae San Steffan yn benderfynol o anwybyddu hynny, yn ôl pob golwg. Nid ydym yn bwysig iddynt. Nawr, rwy'n cytuno â Rhianon ynglŷn â'r cyllid. Ni allaf ddeall pam na all arweinydd Llafur y DU weld hyn hefyd.

Soniodd Peredur am yr anghyfiawnder ariannol sydd wrth wraidd y sgandal hon. Fel y nododd Peredur, bydd yr Alban a Gogledd Iwerddon yn cael y cyllid hwn. Pam ar y ddaear y dylai Cymru fod yn llai pwysig? A chyda Pwerdy Gogledd Lloegr, gyda phob un o'r prosiectau eraill hyn, bydd yr anghyfiawnderau hyn yn parhau hyd nes y bydd gan Gymru bwerau dros ein seilwaith trafnidiaeth ein hunain.

Nawr, fel y dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet, mae'r ffeithiau'n glir. Unwaith eto, maent yn glir i bob un ohonom, ond mae San Steffan yn gweld y mater drwy lens arall lle nad yw Cymru'n bwysig. Nawr, rwy'n croesawu'r ffaith bod Llywodraeth Cymru wedi dadlau o blaid ailddosbarthu, ac ydy, mae ein system ariannu yn ddiffygiol. Am feirniadaeth ddamniol o'n setliad datganoli fod San Steffan yn gallu penderfynu yn ôl ei mympwy ei hun a yw am ufuddhau i'r hyn sy'n iawn—beth sy'n realiti—ai peidio.

Nawr, dylai’r hyn y mae’r Senedd hon yn ei ddweud fod o bwys i San Steffan, gan fod a wnelo rheilffordd â mwy na thraciau a threnau; mae a wnelo â phennu cyfeiriad ar gyfer y dyfodol. Nid cwestiwn damcaniaethol sydd eto i'w ateb yw hwn, na rhywbeth ar gyfer y blynyddoedd i ddod. Mae'n gwestiwn o gywiro anghyfiawnder sydd wedi digwydd, camgymeriad sydd eisoes wedi'i wneud, tric sydd eisoes wedi'i chwarae. Nawr yw ein cyfle i ddweud wrth Lywodraeth nesaf San Steffan, beth bynnag fo’i lliw, nad yw Cymru am aros mwyach. Dim mwy o 'y tro nesaf efallai' i Gymru; dim mwy o ddweud wrthym am aros ein tro, tro nad yw byth yn dod. Mae’r biliynau hyn yn ddyledus i Gymru, mae eu hangen yn daer i helpu ein cymunedau ac rydym ni, yn y Senedd hon, yn mynnu ein bod yn eu cael.

Photo of Elin Jones Elin Jones Plaid Cymru 5:24, 5 Mehefin 2024

Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Na, does yna ddim gwrthwynebiad. Ac felly mae'r cynnig yna wedi ei dderbyn.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.