– Senedd Cymru am 3:15 pm ar 5 Mehefin 2024.
Eitem 5 yw dadl ar adroddiad y Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a Seilwaith, 'Gwaith craffu blynyddol ar Gomisiwn Seilwaith Cenedlaethol Cymru: 2023', a galwaf ar Gadeirydd y pwyllgor i wneud y cynnig—Llyr Gruffydd.
Diolch yn fawr iawn, Dirprwy Lywydd. Mae’n bleser gen i allu cyfrannu at y ddadl yma heddiw ar adroddiad blynyddol y pwyllgor ar Gomisiwn Seilwaith Cenedlaethol Cymru. Mae ein hadroddiad ni, a gafodd ei gyhoeddi ym mis Ebrill, yn edrych yn ôl ar waith y comisiwn yn 2022-23 ac yn ystyried cynnydd tuag at ei raglen waith ehangach. Nawr, mae hefyd yn ystyried, wrth gwrs, dyfodol y comisiwn yng nghyd-destun ymrwymiad Llywodraeth Cymru i adolygu statws, cylch gwaith ac amcanion y corff. Rŷn ni wedi gwneud naw argymhelliad fel pwyllgor. Mae tri ohonyn nhw yn argymhellion i'r comisiwn, sydd wedi ymateb yn gadarnhaol i bob un, ac mae chwech o'r argymhellion i Lywodraeth Cymru. Mae'r Llywodraeth wedi derbyn pedwar o'r rheini yn llawn ac wedi derbyn dau arall mewn egwyddor.
2022-23 oedd yr ail flwyddyn yn nhymor tair blynedd y comisiwn. Pan gafodd cylch gwaith newydd y comisiwn ei osod yn 2022, ei dasg oedd ymchwilio a gwneud argymhellion i Lywodraeth Cymru ar bolisi ynni adnewyddadwy ar gyfer y dyfodol. Fe wnaeth y comisiwn ddechrau gweithio ar ynni adnewyddadwy yn gynnar yn 2022, ac fe gyhoeddodd ei adroddiad i Lywodraeth Cymru ym mis Hydref 2023. Ac roedd hi'n galonogol gweld bod nifer o argymhellion y comisiwn yn cyd-fynd, a dweud y gwir, â'r rhai yr oedd y pwyllgor eisoes wedi'u gwneud yn ein hadroddiadau ni ar bolisïau ynni adnewyddadwy a rheoli morol.
Nawr, ar adeg ysgrifennu ein hadroddiad ar waith y comisiwn, roedd ymateb Llywodraeth Cymru i’r adroddiad ynni adnewyddadwy gan y comisiwn yn hwyr, ar ôl cael ei addo erbyn diwedd mis Ionawr. Fe wnaethom ni argymell bod Llywodraeth Cymru yn rhoi blaenoriaeth i ymateb i’r comisiwn, ac o’r diwedd fe gafodd ymateb hwyr ei gyhoeddi y mis diwethaf. Er bod y pwyllgor heb gael cyfle i fynd ati ar y cyd i drafod ymateb Llywodraeth Cymru, dwi yn gobeithio na fydd ots gan aelodau'r pwyllgor fy mod i efallai yn manteisio ar y cyfle, os caf i, i wneud rhai sylwadau cyffredinol sy'n berthnasol i'n rôl ni o graffu ar y comisiwn.
Fel pwyllgor, rŷn ni’n awyddus i ddeall effaith gwaith y comisiwn, gan edrych ar sut y mae'n dylanwadu ar syniadau a phenderfyniadau Llywodraeth Cymru. Y ffordd amlwg o wneud hyn, wrth gwrs, yw drwy ystyried faint o argymhellion y comisiwn y mae Llywodraeth Cymru wedi’u mabwysiadu ac yna eu gweithredu. Ysgrifennydd y Cabinet, mae cylch gorchwyl y comisiwn yn ymrwymo Llywodraeth Cymru i, a dwi'n dyfynnu, nodi'n glir a yw'n derbyn neu'n gwrthod argymhellion y comisiwn. Mae arnaf ofn eich bod wedi methu â chyflawni'r ymrwymiad hwnnw yn yr ymateb i adroddiad y comisiwn ar ynni adnewyddadwy. A dweud y gwir, mae'n anodd gweld o'r ymateb pa rai o'r argymhellion y byddai Llywodraeth Cymru yn bwrw ymlaen â nhw, os yn wir y byddan nhw yn bwrw ymlaen ag unrhyw un ohonyn nhw o gwbl. Hoffwn i felly ofyn i Ysgrifennydd y Cabinet a’i chyd-aelodau o’r cabinet, a dweud y gwir, feddwl am hyn wrth ymateb i adroddiadau’r comisiwn yn y dyfodol.
Ar y cyfan, mae’r ymateb yn nodi’r camau y mae Llywodraeth Cymru eisoes yn eu cymryd i gyflymu’r broses o ddefnyddio ynni adnewyddadwy. Does dim synnwyr ynghylch a fydd argymhellion y comisiwn yn helpu i gyflawni newid, na sut y bydd yn gwneud hynny. Mae hynny yn gwneud i ni wedyn gwestiynu pa effaith mae adroddiad y comisiwn wedi'i chael, te, neu a yw wedi cael unrhyw effaith o gwbl. Wrth gwrs, rwy'n siŵr y bydd gan y comisiwn ei farn ei hun am hyn hefyd, ac rwy’n gwybod y bydd y pwyllgor yn awyddus i archwilio'r safbwyntiau hynny yn ystod ein sesiwn graffu nesaf ni gyda'r comisiynwyr.
Cyn symud ymlaen, mae'n werth sôn bod yr ad-drefnu diweddar ar bortffolios y cabinet yn golygu, wrth gwrs, er bod Ysgrifennydd y Cabinet yn gyfrifol am y comisiwn, ei chyd-aelodau hi yn y cabinet fydd yn gyfrifol am ymateb i wahanol argymhellion sy’n cael eu gwneud gan y comisiwn ar faterion penodol i bolisi fel ynni adnewyddadwy, llifogydd, gwrthsefyll newid hinsawdd ac yn y blaen. Ac efallai y gall Ysgrifennydd y Cabinet wrth ymateb ddweud ychydig eiriau wrthym ni ynglŷn â sut y bydd hi’n gweithio gyda’ch cyd-aelodau o’r cabinet i sicrhau bod gwaith y comisiwn yn cael blaenoriaeth briodol.
Gan droi at y mater ehangach o'r hyn sy’n dod nesaf i'r comisiwn, mae'r comisiwn yn cyflawni swyddogaeth bwysig, wrth gwrs, gan roi persbectif allanol i Lywodraeth Cymru ar anghenion seilwaith Cymru. Mae'r comisiwn presennol yn cynnwys arbenigwyr sy'n dangos ymroddiad i’w gwaith, ac angerdd am y gwaith hwnnw hefyd. Fodd bynnag, mae'r comisiwn yn fach o ran maint, ac mae ei adnoddau yn gyfyngedig, yn enwedig o'i gymharu, efallai, â chyrff â swyddogaethau tebyg, fel Comisiwn Seilwaith Cenedlaethol y Deyrnas Unedig.
Fe sefydlwyd y comisiwn bron i chwe blynedd yn ôl, felly, yn enwedig wrth edrych ar y cyfnod mwy diweddar yma, bydden ni'n gallu dadlau ei fod e mewn cyfnod eginol yn dal i fod. Wedi dweud hynny, mae'r pwyllgor yn credu bod hwn yn amser da i bwyso a mesur ac ystyried a yw'n cyflawni disgwyliadau. Dwi eisiau dweud yn glir nid beirniadaeth o'r comisiynwyr yw hyn; yn hytrach, mae’n fater o sicrhau bydd y model presennol yn galluogi'r comisiwn i gyflawni ei botensial llawn dros y blynyddoedd sydd i ddod.
Mae argymhelliad 1 yn ein hadroddiad ni wedi gwneud yr hyn efallai yr oeddem ni'n bwriadu iddo fe ei wneud, sef rhoi hergwd bach i sicrhau bod Llywodraeth Cymru yn cyflawni ei hymrwymiad i gynnal adolygiad cynhwysfawr o’r comisiwn cyn diwedd y flwyddyn hon. Ac rŷn ni'n falch o glywed gan Ysgrifennydd y Cabinet fod gwaith cwmpasu ar gyfer yr adolygiad yna wedi dechrau. Hoffwn i ofyn i Ysgrifennydd y Cabinet rannu'r cylch gorchwyl, yr amserlen, ac, yn wir, unrhyw fanylion pellach am y broses adolygu yna, gyda'r pwyllgor cyn gynted ag y byddan nhw ar gael.
Mae’r argymhellion eraill yn yr adroddiad yn galw ar Lywodraeth Cymru i ystyried materion amrywiol yn yr adolygiad, wrth gwrs. Yn gyntaf, mae cyfnod penodi comisiynwyr. Tair blynedd yw’r cyfnod ar hyn o bryd, sydd yn fyr o ystyried rôl a chylch gorchwyl y comisiwn ac o'i gymharu hefyd, wrth gwrs, â rhai aelodau eraill sy’n cael eu penodi’n gyhoeddus, fel Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol Cymru, er enghraifft. Yn ail, yw'r amserlen i Lywodraeth Cymru ymateb i adroddiadau'r comisiwn. Mae'r amserlen bresennol o chwe i 12 mis, yn ein barn ni, yn ormodol. Rŷn ni wedi argymell amserlen ar gyfer ymateb rhwng chwe wythnos a thri mis, yn unol, wrth gwrs, â'r amserlen ar gyfer adroddiadau gan bwyllgorau'r Senedd a gan, gyda llaw, Asesydd Interim Diogelu'r Amgylchedd Cymru.
Yn olaf, rŷn ni wedi argymell, fel rhan o’r adolygiad, y dylai Llywodraeth Cymru ystyried a yw o werth gofyn i'r comisiwn gynnal asesiad seilwaith cenedlaethol sy’n debyg i'r asesiadau pum mlynedd y mae Comisiwn Seilwaith Cenedlaethol y Deyrnas Unedig yn eu cynnal. O ystyried y cyfyngiadau, wrth gwrs, y mae'r comisiwn presennol yn gweithredu ynddyn nhw, mi fyddai’n afresymol disgwyl iddo wneud hyn, ond, wrth i'r comisiwn esblygu, mae'n sicr yn rhywbeth rŷn ni fel pwyllgor yn credu y gallai fod yn ymarfer gwerth chweil.
Dwi'n falch bod Ysgrifennydd y Cabinet wedi cytuno i ystyried yr holl faterion dwi i wedi cyfeirio atyn nhw fel rhan o'r adolygiad. Hoffwn i ofyn i Ysgrifennydd y Cabinet adrodd yn ôl i’r pwyllgor ar ganlyniad yr adolygiad, wrth gwrs, cyn gynted ag y bydd hynny ar gael. Dwi’n gweld dadl heddiw fel ymarfer gwrando, efallai, o ryw fath, a fydd yn helpu i lywio gwaith craffu’r pwyllgor ar y comisiwn yn y dyfodol. Ond, heb amheuaeth, mi fydd hefyd yn rhoi rhywbeth i Ysgrifennydd y Cabinet gnoi cil yn ei gylch wrth fwrw ymlaen â'r adolygiad, a dwi'n edrych ymlaen at glywed cyfraniadau gan yr holl Aelodau. Diolch.
Diolch, Dirprwy Lywydd, a diolch hefyd i’r tîm pwyllgor a’n Cadeirydd am eu gwaith gyda hyn. Hoffwn ddechrau trwy gydnabod y gwaith pwysig, wrth gwrs, mae’r comisiwn isadeiledd wedi’i wneud yng Nghymru. Wrth asesu’r anghenion isadeiledd o safbwynt amgylcheddol ac economaidd, mae’n waith fydd o fudd i’n cenedl am flynyddoedd i ddod, ac mae eu ffocws nhw ar ynni adnewyddol a gwytnwch ein gwlad yn erbyn llifogydd mor eithriadol o bwysig, ac mae hynny'n bwysig ar gyfer, ie, ymateb i’r argyfwng hinsawdd, ond hefyd ar gyfer ein dyfodol ni.
Rhaid, wrth gwrs, cydnabod yr anesmwythder sydd wedi codi o ran cysylltiad comisiynydd gydag asiantaeth materion cyhoeddus sydd yn cyfrif ymysg eu cleientiaid datblygwyr ynni adnewyddol. Mae tryloywder yn hollbwysig er mwyn cadw ymddiriedaeth cyhoeddus, ac rydyn ni fel pwyllgor wedi galw am fesurau i reoli unrhyw wrthdaro buddiannau tu mewn i’r comisiwn. Nawr, rhaid i’r comisiwn, wrth gwrs, fod yn cael ei weld hefyd yn hollol annibynnol. Mae hwnna'n rhywbeth mae Dr David Clubb wedi’i ddweud, a dŷn ni'n gwybod bod hwnna yn rhywbeth mai'r comisiwn yn ymwybodol iawn ohono fe.
Hoffwn bwysleisio bod Plaid Cymru wedi chwarae rôl bwysig wrth mynnu bod NICW yn cael ei sefydlu. Cytunwyd i’r sefydliad trwy negodi cyllidol. Nawr, mae rhai problemau wedi bod gyda sut neu ym mha ffyrdd y mae e wedi’i sefydlu, trwy roi cap ar yr adnoddau a’r annibyniaeth sydd ar gael i'r sefydliad. Saif hwn mewn cyferbyniad llwyr â’r comisiwn isadeiledd yn Denmarc, sy’n cael ymddiriedaeth trawsbleidiol ac sy’n cael cymaint o ddylanwad ar bolisi. Nid unrhyw adlewyrchiad ydy hwn ar aelodau NICW na'r cadeirydd; maen nhw'n gwneud gwaith eithriadol o bwysig dan amgylchiadau anodd. Erys y broblem gyda'r ffaith bod diffyg adnoddau ar gael a diffyg pwerau.
Nawr, yr hyn a ragwelodd Plaid Cymru fyddai corff a fyddai'n ganolbwynt ar gyfer ymgysylltu ledled y wlad, gan sicrhau bod dadleuon ar benderfyniadau dadleuol yn digwydd yn gynnar yn y broses. Byddai hefyd yn sicrhau sefydlogrwydd hirdymor y tu hwnt i gylchoedd etholiadol, ar draws gwahanol Lywodraethau.
Nawr, nid yw'n gyfrinach fod Plaid Cymru bob amser wedi hyrwyddo achos datganoli. Credwn y byddai datganoli pwerau dros seilwaith a'n hadnoddau naturiol i Gymru'n llawn yn caniatáu i benderfyniadau gael eu gwneud yn llawer mwy lleol ac effeithiol. Felly, rydym yn falch fod y comisiwn wedi cefnogi ein galwadau am ddatganoli Ystad y Goron yn llawn, ac y dylai fod yn nod i'r corff ailfuddsoddi pob cronfa yng Nghymru er budd hirdymor pobl Cymru mewn cronfa gyfoeth sofran. Byddai hynny'n ein galluogi i fynd i'r afael â heriau a chyfleoedd unigryw Cymru a sicrhau bod datblygiad ein seilwaith wedi'i deilwra i'n hanghenion penodol, gan elwa ar fanteision ariannol ein hadnoddau naturiol ein hunain ar yr un pryd wrth gwrs.
Nawr, rwy'n cydnabod bod yna waith, yn sicr, i'w wneud, ac, fel mae'r Cadeirydd wedi dweud yn barod, efallai ei fod e'n dal yn rhy gynnar i ni ddweud popeth byddwn ni ei eisiau. Dwi'n siŵr bydd ein pwyllgor ni'n cadw ymlaen i edrych ar fel mae NICW yn gweithio. Mae gen i fy ngobeithion y bydd mwy o adnoddau'n gallu bod ar gael, yn sicr, er mwyn galluogi NICW i wneud cymaint mwy o waith byth.
Felly, rydym yn croesawu adroddiad 2023 a gwaith y comisiwn. Rydym yn galw am dryloywder, am reoli gwrthdaro buddiannau cadarn a datganoli pwerau ymhellach, ac rydym yn ailddatgan ein hymrwymiad i fuddsoddi mewn seilwaith a gweithio tuag at ddyfodol cynaliadwy i Gymru. Diolch yn fawr iawn.
Galwaf ar Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol, Tai a Chynllunio, Julie James.
Diolch, Ddirprwy Lywydd, a diolch yn fawr iawn am y cyfle i ymateb ar ran Llywodraeth Cymru i'r ddadl hon heddiw i dynnu sylw at waith pwysig Comisiwn Seilwaith Cenedlaethol Cymru. Hoffwn ddiolch yn fawr i'r Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a Seilwaith am eu hadroddiad ar y comisiwn a'u gwaith craffu parhaus ar y prosiectau y mae'n eu cyflawni. Mae'r comisiwn, fel y dywedodd y ddau siaradwr, wedi sefydlu ei hun yn gadarn fel llais awdurdodol yn y sector sy'n cael ei barchu ac y mae rhanddeiliaid yn mynd ati'n weithredol i geisio ei farn, ac rwy'n credu bod hyn yn arwydd o aeddfedrwydd i'r sefydliad ac rydym yn gweld gwahaniaeth gwirioneddol yn sgil ei waith.
Mae adroddiad blynyddol diweddaraf y comisiwn yn tynnu sylw at yr amrywiaeth o weithgareddau y mae Comisiwn Seilwaith Cenedlaethol Cymru wedi'i chyflawni yn ei flwyddyn lawn gyntaf o waith, ac maent i'w llongyfarch ar ehangder y materion y mae'r tîm cymharol fach hwn wedi ymdrin â nhw. Arweiniodd blwyddyn gyntaf y comisiwn at adroddiad manwl ar ynni adnewyddadwy, a gyhoeddwyd y llynedd. Roedd hwn yn ymdrin ag amrywiaeth o agweddau'n ymwneud â strategaeth ynni, y grid, cynllunio, buddion cymunedol ac Ystad y Goron. Ddirprwy Lywydd, roeddwn yn disgwyl i'r argymhellion fod yn feiddgar, yn arloesol ac i helpu Cymru i symud ymlaen tuag at gyrraedd ein targedau ynni adnewyddadwy a thargedau lleihau carbon ehangach, ac rwy'n credu ei bod yn deg dweud eu bod yn sicr wedi gwireddu'r disgwyliad hwnnw.
Yn ein hymateb, er na allem gytuno â'r holl awgrymiadau a gyflwynwyd, a'r rheini'n awgrymiadau radical weithiau, maent yn helpu i roi siâp i'n rhaglenni gwaith yn y dyfodol yn y maes hwn. Mae fy nghyd-Aelod—. Fel y nododd Cadeirydd y pwyllgor, mae fy nghyd-Aelod, Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a'r Gymraeg bellach yn gyfrifol am ynni adnewyddadwy yn Llywodraeth Cymru, a bydd yn cyfarfod â Chomisiwn Seilwaith Cenedlaethol Cymru i drafod sut y gallwn integreiddio eu hargymhellion yn ein rhaglenni gwaith yn y dyfodol. Mae hefyd yn destun trafod yn y cyfarfodydd rheolaidd rhyngddo ef a minnau fel rhan o'n gwaith parhaus.
Rwy'n falch iawn o ddweud bod gwaith y comisiwn seilwaith ar lifogydd hefyd yn dod i derfyn. Cam ymchwil y prosiect yw edrych ar leihau'r risg o lifogydd erbyn 2050, ac mae hwnnw bellach wedi'i gwblhau. Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig a minnau'n edrych ymlaen at gael yr adroddiad gan Gomisiwn Seilwaith Cenedlaethol Cymru tuag at ddiwedd y flwyddyn hon, ac rydym yn disgwyl y bydd eu hargymhellion yn gwneud inni gnoi cil ar ffyrdd newydd o feddwl am ein hymateb i reoli llifogydd—
A gaf i—? Mae'n ddrwg gennyf, Ysgrifennydd y Cabinet, ond mae ychydig o sŵn yn y Siambr ac ni all y Cadeirydd glywed yr hyn rydych chi'n ei ddweud, felly, a wnewch chi ailadrodd y frawddeg ddiwethaf efallai, ac a all Aelodau yn y Siambr sicrhau eu bod yn dawel fel y gellir clywed yr ymateb?
Gallaf. Diolch yn fawr iawn, Ddirprwy Lywydd. Roeddwn yn dweud bod Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig a minnau'n edrych ymlaen at gael yr adroddiad gan Gomisiwn Seilwaith Cenedlaethol Cymru ar lifogydd tuag at ddiwedd y flwyddyn hon, ac rydym yn disgwyl y bydd eu hargymhellion yn gwneud inni gnoi cil ar ffyrdd newydd o feddwl am ein hymateb i reoli llifogydd ledled Cymru. Ac er bod yr adroddiadau arwyddocaol hynny'n bwysig iawn, ac y byddant yn ein cynorthwyo i fapio ffyrdd ymlaen ar faterion polisi mawr, rwy'n credu mai un o gryfderau mawr Comisiwn Seilwaith Cenedlaethol Cymru yw creu dadl a thrafodaeth ar faterion cymhleth iawn. Er enghraifft, ddiwedd y llynedd, ar y cyd â'r Sefydliad Cynllunio Trefol Brenhinol, cynhaliodd y comisiwn ddigwyddiad ar y Bil Seilwaith (Cymru), a arweiniodd at drafodaethau sylweddol ar gynnwys y ddeddfwriaeth ddrafft. Yn ei dro, fe wnaeth hyn helpu i lywio tystiolaeth i'r pwyllgor ar gyfer eu gwaith craffu ar y Bil.
Ac enghraifft arall o'r ffyrdd newydd y mae'r comisiwn seilwaith yn creu dadl yw trwy'r cyfryngau cymdeithasol yn gysylltiedig â blogiau i ysgogi'r meddwl y maent yn eu gwneud. Mae nifer cynyddol o'r rhain yn ymddangos ar wefan y comisiwn, a byddwn yn annog yr Aelodau i ddarllen yr erthyglau hyn sy'n ysgogi'r meddwl. Ac unwaith eto, rwy'n credu bod hyn yn brawf go iawn nad yw'r comisiwn seilwaith yn ofni gofyn cwestiynau anodd a hyrwyddo trafodaeth a dadl weithredol.
Ddirprwy Lywydd, rwy'n falch iawn o ddweud nad yng Nghaerdydd yn unig y mae'r comisiwn yn cyfarfod, mae wedi bod i fyny yng nghanolbarth a gorllewin Cymru hefyd i edrych ar seilwaith ein porthladdoedd a'n heconomi wledig, gan siarad â rhanddeiliaid lleol a chael barn amrywiol ar y materion hyn. Mae gwir angen y cyfraniadau defnyddiol hyn arnom i dorri drwy'r holl gymhlethdod ac i ganiatáu argymhellion ac awgrymiadau synhwyrol a phragmataidd i Lywodraeth Cymru ar rai o'r materion amgylcheddol anoddaf sy'n effeithio arnom heddiw.
Mae adroddiad y pwyllgor a'r ddadl heddiw wedi bod o gymorth wrth asesu cynnydd y comisiwn newydd hyd yma. Mae argymhellion y pwyllgor yn cyfeirio'n aml at adolygiad Comisiwn Seilwaith Cenedlaethol Cymru, sydd i'w gynnal eleni, ac yn wir, mae'r cadeirydd newydd ofyn i mi'n benodol amdano, felly rwy'n falch o allu dweud bod fy swyddogion yn gweithio gyda gwasanaeth archwilio mewnol Llywodraeth Cymru i gynnal yr adolygiad hwnnw, a fydd wedi ei gwblhau erbyn diwedd 2024.
Bydd yr adolygiad yn cynnwys asesiad o gadernid trefniadau'r Llywodraeth, gwerthusiad o ystyriaethau mewnol a wneir gan y comisiynwyr, ymgysylltiad allanol â rhanddeiliaid ac ymarfer meincnodi ar draws sefydliadau tebyg. Bydd yr adolygiad hefyd yn edrych ar gylch gwaith, ffurf a swyddogaeth Comisiwn Seilwaith Cenedlaethol Cymru, a bydd yn gymesur o ran maint i faint y comisiwn, gan geisio amrywiaeth o safbwyntiau cyn gwneud sylwadau. Bydd y comisiwn, wrth gwrs, yn cymryd rhan lawn trwy gydol y broses hon. Ac rwyf am fod yn eglur iawn wrth ddweud y bydd hynny, wrth gwrs, yn cynnwys tymor y swydd i'r comisiynwyr, fel y soniodd y ddau Aelod a gyfrannodd.
Pan dderbyniodd y comisiwn seilwaith ei gylch gwaith newydd yn 2022, roedd yn cynnwys rhoi gorwel 80 mlynedd iddo, ymgorffori'r argyfyngau hinsawdd a natur o fewn ystyriaethau seilwaith a gwneud nodau Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015 yn egwyddor ysgogol i'r gwaith. Roeddem am iddo fod yn feiddgar, i fynd â'r ddadl yn rhan o feddwl arloesol a chreadigol, a gofyn cwestiynau lletchwith i'r Llywodraeth a rhanddeiliaid eraill. Rwy'n credu ei bod yn deg dweud, Ddirprwy Lywydd, fod y comisiwn wedi cofleidio'r cylch gwaith hwn gyda brwdfrydedd. Maent wedi mynd ar ei drywydd yn egnïol ac yn arloesol yn eu syniadau. Ac rwy'n edrych ymlaen at weithio gyda'r pwyllgor yn ei rôl o graffu ar waith y comisiwn ac yn rhoi croeso cynnes i adroddiad y pwyllgor y buom yn ei drafod yma heddiw. Diolch.
Galwaf ar Llyr Gruffydd i ymateb i'r ddadl.
Wel, diolch, Dirprwy Lywydd. Dwi ddim yn siŵr a ydw i'n siomedig mai dim ond un Aelod sydd wedi cyfrannu at y ddadl yma, ond efallai gallwn ni gymryd hwnna fel pleidlais o hyder yn y comisiwn, yn hytrach efallai na diffyg diddordeb.
Diolch i Delyth am amlygu tryloywder. Mae hwnna'n rhywbeth y gwnaethon ni fel pwyllgor roi gryn bwysau arno fe, oherwydd mi gawsom ni sicrwydd gan y cadeirydd fod yna brosesau yn eu lle, ond mae hwnna'n rhywbeth y mae'n rhaid i ni'n barhaus ei warchod, neu fod yn warchodol ohono fe.
Mi edrychwn ymlaen fel pwyllgor at weld canlyniad yr adolygiad o waith a rôl y comisiwn, yn enwedig yr elfen lywodraethiant, a’r engagement allanol yr oedd y Gweinidog, neu'r Ysgrifennydd, yn sôn amdano fe. Dwi yn meddwl bod yna efallai le i wella yn fanna. Dwi'n meddwl bod hwnna'n rhywbeth y mae'r comisiwn ei hun yn ei gydnabod a byddem yn awyddus iawn i ddeall sut, yn symud ymlaen, y mae hynny am gael ei gryfhau.
Mi soniodd y Gweinidog dipyn am sut y mae gwaith y comisiwn yn sbarduno trafodaeth. Y cwestiwn, wrth gwrs, rŷn ni fel pwyllgor yn ei ofyn yw: sut y mae gwaith ac argymhellion y comisiwn yn arwain at newid ym mholisi’r Llywodraeth? Mae hynny’n rhywbeth y byddwn ni'n parhau i gadw golwg barcud arno fe. Diolch.
Y cwestiwn yw: a ddylid nodi adroddiad y pwyllgor? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Nac oes, does yna ddim gwrthwynebiad, ac felly mae'r cynnig yna wedi ei dderbyn.