2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol – Senedd Cymru am ar 5 Mehefin 2024.
7. Sut mae Llywodraeth Cymru yn monitro cyllid Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan? OQ61208
Mae pob sefydliad GIG yn cyflwyno ei gynllun ariannol yn rhan o broses y cynllun tymor canolig integredig. Yna cynhelir monitro misol ffurfiol gan fy swyddogion drwy gydol y flwyddyn, gyda chefnogaeth ychwanegol gan weithrediaeth y GIG. Cefnogir hyn ymhellach drwy gyfarfodydd rheolaidd rhwng fy swyddogion ac uwch staff cyllid o'r bwrdd iechyd.
Diolch. Ac fe ailadroddaf, Ysgrifennydd y Cabinet, fod Robert Holcombe, pennaeth cyllid Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan, wedi dweud wrth brif gyfarfod y bwrdd fod ganddo senario waethaf o ddiffyg o £60 miliwn a senario orau o ddiffyg o £48.9 miliwn. Yna aeth ymlaen i fanylu ar adroddiad mis un y bwrdd o ychydig o dan £5 miliwn, sy'n cyfateb i'r sefyllfa waethaf bosibl. Ysgrifennydd y Cabinet, bydd cyflwr ariannol bwrdd iechyd Gwent, gyda'i holl waddol diwydiannol a'i ddemograffeg poblogaeth acíwt, yn peri pryder i fy etholwyr yn Islwyn. Un agwedd a amlygwyd gan y bwrdd iechyd yw nifer y cleifion sy'n gaeth mewn gwelyau ysbyty am nad oes cynlluniau gofal ar waith iddynt ddychwelyd adref. Mae hwn yn fater endemig hirsefydlog ledled y DU, a achosir gan ddiffyg ffocws y DU ar ofal cymdeithasol, ond ar draws Gwent, roedd 289 o gleifion ddiwedd mis Ebrill, gan gostio mwy na £1 filiwn y mis a thua £15 miliwn dros y flwyddyn. Ysgrifennydd y Cabinet, rwy'n gwybod bod hyn yn ffocws cryf i Lywodraeth Cymru, ond pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu eu cymryd nawr i leddfu problem ddybryd oedi cyn trosglwyddo gofal? Pa welliannau brys i ofal cymdeithasol y gellir eu cyflawni nawr mewn cyd-destun datganoledig i leddfu'r pwysau ar ysbytai, ac a wnaiff hi ymrwymo i archwilio model gofal adsefydlu canolraddol Sgandinafaidd nawr?
Diolch yn fawr iawn. Rydych chi'n llygad eich lle o ran lle mae'r broblem. Yn sicr, mae oedi cyn trosglwyddo gofal yn rhywbeth rwy'n ei ystyried yn gyson, fel y mae i Dawn fel y Gweinidog sy'n gyfrifol am ofal cymdeithasol. Felly, rydym yn cydweithio llawer ar hynny, ac rydym hefyd yn siarad â'r Gweinidog sy'n gyfrifol am lywodraeth leol. Nid oedi cyn rhyddhau cleifion o'r ysbyty yw'r unig ffactor sy'n effeithio ar fynediad at wasanaethau, ond mae'n sicr yn un o'r materion allweddol. Asesiadau gofal cymdeithasol yw un o'r rhesymau mwyaf am oedi cyn i gleifion adael ysbytai. Mae gennym gronfa ddata gynhwysfawr iawn nawr sy'n dweud wrthym yn union pam mae pobl yn yr ysbyty, pam eu bod yn dal i fod yno, pwy sy'n ymdrin â nhw, pwy sy'n gyfrifol am hynny, fel y gallwn ddwyn pobl i gyfrif am hynny.
Y gwir amdani yw ein bod wedi gweld gostyngiad sylweddol yn y ffigurau hyn dros y flwyddyn ddiwethaf, ond mae'n rhaid inni fynd ymhellach. Felly, yr hyn sydd ei angen arnom yw dull o weithredu ar y cyd ar hyn, ac rydych chi'n gwybod bod llywodraeth leol hefyd yn teimlo'r wasgfa, yn ogystal â'r GIG, ond mae'n bwysig, rwy'n credu, nad ydym yn tynnu ein llygad oddi ar y broblem hon. Gallaf eich sicrhau bod hyn ymhlith ein pedair prif flaenoriaeth, ac yn sicr nid yw perfformiad gofal brys ac argyfwng yn ysbyty'r Faenor lle dylai fod. Mae rhywfaint o hynny'n deillio o oedi wrth drosglwyddo gofal.
Ar y model canolraddol, nid wyf yn gwybod beth yw'r model Sgandinafaidd, ond gallaf eich sicrhau bod gennym lawer iawn o enghreifftiau o ofal canolraddol. Mae gennym gronfa gwerth £144 miliwn y gellir ond ei defnyddio os yw'r byrddau iechyd yn cydweithredu ac yn gweithio nid yn unig gydag awdurdodau lleol, ond y trydydd sector hefyd. Felly, rydym yn sicr yn y gofod hwnnw eisoes.
Cwestiwn gwych gan fy nghyd-Aelod ar draws y llawr, a dweud y gwir—rwy'n falch eich bod wedi gofyn hynny. Hoffwn ofyn cwestiwn mwy cyffredinol i chi, Ysgrifennydd y Cabinet, os yw hynny'n iawn. Yn amlwg, ni allwn gael dull un maint i bawb o fonitro a chynorthwyo byrddau iechyd. Hoffwn ofyn i chi: sut ydych chi a Llywodraeth Cymru yn cydnabod anghenion penodol byrddau iechyd unigol sy'n aml yn amrywio ac yn wahanol iawn i'w gilydd?
Rydym yn monitro pob bwrdd iechyd drwy'r amser. Felly, mae gennym dîm o arbenigwyr, mae gennym weithrediaeth y GIG, ac rydym yn gwneud hynny'n rheolaidd. Rydym yn meincnodi, rydym yn gwneud cymariaethau ar ystod eang o feysydd. Rwy'n cael cyfarfodydd misol gyda chadeiryddion y byrddau iechyd bellach i'w dwyn i gyfrif am ystod eang o bethau, lle gallant weld sut maent yn perfformio mewn perthynas â'r lleill ledled Cymru. Nid dim ond fi sy'n gwneud hynny, wrth gwrs; mae prif weithredwr y GIG yng Nghymru yn gwneud yr un peth gyda phrif weithredwyr y byrddau iechyd eu hunain. Ac yna, mae swyddogion yn gwneud hynny ar lefel weithredol hefyd. Felly, mae llawer o fonitro'n digwydd ac rydym yn gweld rhywfaint o symud. Mae angen inni weld ychydig o foderneiddio, a dweud y gwir, mewn rhai amgylchiadau. Mae angen i bobl ddilyn y llwybrau clinigol gorau posibl a pheidio â chadw at yr un hen ffordd â'r arfer o wneud pethau; mae pethau'n symud ymlaen mewn meddygaeth ac mae angen iddynt symud gyda'r amseroedd. Felly, mae'n golygu monitro a sicrhau bod hynny'n digwydd. A'r hyn sy'n amlwg yw ein bod ni'n gweld amrywio go iawn ar draws Cymru, ac nid yw hynny'n dderbyniol. Nid yw'n dderbyniol i'r cleifion ac ni ddylai fod yn fater o god post, yn ôl ble rydych chi'n byw, a dyna pam mae cyfrifoldeb arnom ni, yn y canol, i sicrhau bod pob un o'r byrddau iechyd hynny'n perfformio hyd eithaf eu gallu.