Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan

Part of 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol – Senedd Cymru am 2:53 pm ar 5 Mehefin 2024.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Laura Anne Jones Laura Anne Jones Ceidwadwyr 2:53, 5 Mehefin 2024

(Cyfieithwyd)

Cwestiwn gwych gan fy nghyd-Aelod ar draws y llawr, a dweud y gwir—rwy'n falch eich bod wedi gofyn hynny. Hoffwn ofyn cwestiwn mwy cyffredinol i chi, Ysgrifennydd y Cabinet, os yw hynny'n iawn. Yn amlwg, ni allwn gael dull un maint i bawb o fonitro a chynorthwyo byrddau iechyd. Hoffwn ofyn i chi: sut ydych chi a Llywodraeth Cymru yn cydnabod anghenion penodol byrddau iechyd unigol sy'n aml yn amrywio ac yn wahanol iawn i'w gilydd?