Strategaethau Ymateb i Alwadau am Ambiwlans

Part of 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol – Senedd Cymru am 2:46 pm ar 5 Mehefin 2024.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Baroness Mair Eluned Morgan Baroness Mair Eluned Morgan Llafur 2:46, 5 Mehefin 2024

(Cyfieithwyd)

Diolch yn fawr iawn, ac mae'n ddrwg iawn gennyf glywed am yr enghraifft honno, Hefin. Rwy'n gobeithio y gwnewch chi anfon fy nghydymdeimlad at y teulu. Yn amlwg, ni allaf wneud sylw ar achos unigol, ond rwy'n credu bod egwyddor yr alwad les yn rhywbeth y byddaf yn ymchwilio iddo a darganfod yn union sut mae hynny'n cyd-fynd â'r blaenoriaethu sydd eisoes yn digwydd.