Ynni Adnewyddadwy

Part of 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a’r Gymraeg – Senedd Cymru am 2:03 pm ar 5 Mehefin 2024.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Cefin Campbell Cefin Campbell Plaid Cymru 2:03, 5 Mehefin 2024

Diolch yn fawr iawn, Weinidog. Byddwch chi'n ymwybodol iawn o'r teimladau cryf iawn sydd yn y rhanbarth dwi'n ei gynrychioli am brosiectau ynni adnewyddadwy, ac yn arbennig ynni gwynt. Nant Mithil ym Maesyfed, Bryn Cadwgan yn sir Gaerfyrddin, Waun Maenllwyd yng Ngheredigion, ac Esgair Galed ym Maldwyn—enwau hyfryd ar gymdogaethau gwledig. Ond mae pob un o'r cynlluniau hyn, a rhai eraill dwi ddim wedi'u henwi, yn cael eu perchnogi gan ddatblygwyr o du fas i Gymru. Nawr, mae Plaid Cymru wrth gwrs yn gefnogol iawn i brosiectau ynni adnewyddadwy er mwyn mynd i'r afael â'r argyfwng newid hinsawdd, ond dyw'r angen dybryd am fwy o ynni gwyrdd ddim yn golygu y dylem ni dderbyn y green rush presennol yn ddi-amod. Nawr, fel rŷch chi'n gwybod, yr hyn sy'n pryderu pobl—ac mae'n rhan o'n hanes ni fel cenedl—yw bod elw o'n hadnoddau naturiol ni wedi llifo mas o Gymru i bocedi cwmnïau cyfalafol sy'n cyfrannu fawr ddim at economi Cymru. Felly, gan ystyried hyn i gyd, gaf i ofyn i chi beth yw'ch gweledigaeth chi er mwyn sicrhau bod cymunedau ledled Cymru'n medru sicrhau elw a budd go iawn o'r potensial enfawr sydd gyda ni yn y maes egni adnewyddadwy?