Ynni Adnewyddadwy

Part of 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a’r Gymraeg – Senedd Cymru am 2:06 pm ar 5 Mehefin 2024.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Elin Jones Elin Jones Plaid Cymru 2:06, 5 Mehefin 2024

(Cyfieithwyd)

Cyn imi alw ar John Griffiths i ofyn cwestiwn 7, mae angen imi atgoffa’r Aelodau, os oes gennych gwestiwn a gyflwynwyd neu gwestiwn atodol rydych eisiau ei ofyn, fod angen ichi fod yn y Siambr drwy gydol y sesiwn gwestiynau i wrando ar atebion y Gweinidogion ac unrhyw gwestiynau a ofynnwyd ymlaen llaw. Mae sawl un yn euog o hyn yn y Siambr heddiw, felly rwyf am alw ar bawb am heddiw, ond nid wyf yn disgwyl i hyn ddigwydd eto o heddiw ymlaen. Felly, cwestiwn 7—John Griffiths.