Part of 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a’r Gymraeg – Senedd Cymru am 1:39 pm ar 5 Mehefin 2024.
Diolch, Lywydd. Ysgrifennydd y Cabinet, rwy'n siŵr fod pob un ohonom am i Gymru gael economi gref a ffyniannus. Mae economi ffyniannus yn golygu mwy o bobl â swyddi, gan eu galluogi i gynnal eu hunain a'u teuluoedd. Mae hefyd yn sicrhau bod ein gwasanaethau cyhoeddus yn cael eu hariannu’n briodol. Er mwyn i'n heconomi dyfu, mae arnom angen mwy o bobl mewn gwaith. Mae cyflogaeth yn rhoi sefydlogrwydd ac yn galluogi unigolion i gynllunio ar gyfer eu dyfodol. Yn anffodus, mae record Llafur yma yng Nghymru yn druenus. Ar hyn o bryd, mae ein cyfradd anweithgarwch economaidd yn 28 y cant. Nid yw mwy na chwarter ein poblogaeth yn gyflogedig nac yn chwilio am waith. Dyma’r gyfradd uchaf ymhlith y pedair gwlad, ac mae’n gwbl annerbyniol. Felly, er imi gychwyn drwy ddweud fy mod yn siŵr fod pob un ohonom am i Gymru gael economi gref a ffyniannus, pam fod Llywodraethau Llafur olynol wedi bod yn fodlon â lefelau mor uchel o anweithgarwch economaidd?