1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a’r Gymraeg – Senedd Cymru am 1:39 pm ar 5 Mehefin 2024.
Cwestiynau nawr gan lefarwyr y pleidiau. Llefarydd y Ceidwadwyr, Samuel Kurtz.
Diolch, Lywydd. Ysgrifennydd y Cabinet, rwy'n siŵr fod pob un ohonom am i Gymru gael economi gref a ffyniannus. Mae economi ffyniannus yn golygu mwy o bobl â swyddi, gan eu galluogi i gynnal eu hunain a'u teuluoedd. Mae hefyd yn sicrhau bod ein gwasanaethau cyhoeddus yn cael eu hariannu’n briodol. Er mwyn i'n heconomi dyfu, mae arnom angen mwy o bobl mewn gwaith. Mae cyflogaeth yn rhoi sefydlogrwydd ac yn galluogi unigolion i gynllunio ar gyfer eu dyfodol. Yn anffodus, mae record Llafur yma yng Nghymru yn druenus. Ar hyn o bryd, mae ein cyfradd anweithgarwch economaidd yn 28 y cant. Nid yw mwy na chwarter ein poblogaeth yn gyflogedig nac yn chwilio am waith. Dyma’r gyfradd uchaf ymhlith y pedair gwlad, ac mae’n gwbl annerbyniol. Felly, er imi gychwyn drwy ddweud fy mod yn siŵr fod pob un ohonom am i Gymru gael economi gref a ffyniannus, pam fod Llywodraethau Llafur olynol wedi bod yn fodlon â lefelau mor uchel o anweithgarwch economaidd?
Wel, nid wyf yn derbyn bod Llywodraethau Llafur olynol wedi bod yn fodlon â hynny, ac fel y gŵyr, o ystyried ei sylw manwl i'r ystadegau, y patrwm a welwyd dros gyfnod datganoli oedd gostyngiad mewn anweithgarwch economaidd, a chau'r bwlch rhwng Cymru a rhannau eraill o’r DU. Fe fydd hefyd yn gwybod bod nifer o’r rhaglenni rydym ni yng Nghymru wedi’u defnyddio i gefnogi cyflogadwyedd dros y blynyddoedd, gyda’r math o lwyddiant rwyf newydd sôn amdano, wedi cael eu hariannu gan arian yr Undeb Ewropeaidd, rhywbeth yr oedd ei blaid yn fodlon inni beidio â'i gael yn y dyfodol. Felly, bydd hynny’n rhwystr sylweddol i ni wrth fynd i’r afael ag anweithgarwch economaidd, ac mae hynny’n rhywbeth rydym am ei wneud. Rydym yn awyddus i sicrhau bod potensial pob unigolyn yng Nghymru i weithio yn cael ei wireddu. Dyna pam ein bod yn ei ystyried mor bwysig. Credaf mai ffigurau diweddar y Swyddfa Ystadegau Gwladol yw’r ffigurau y cyfeiria atynt, ac fe fydd yn gwybod o drafodaethau blaenorol yn y Siambr hon fod gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol ei hun bryderon ynghylch dibynadwyedd y data a gasglwyd ar wahân i ffynonellau data eraill. Felly, mae’n ddarlun mwy cymhleth. Rwy'n derbyn ei bwynt sylfaenol. Nid wyf yn derbyn nad oes gennym record dda o gau’r bwlch.
Wel, rydym yn sôn am ystadegau. Y gyfradd ddiweithdra ymhlith pobl ifanc yng Nghymru yn y flwyddyn a ddaeth i ben ym mis Rhagfyr 2023 oedd 9.4 y cant—cynnydd o 1.5 pwynt canran. Mae sicrhau bod pobl yn cael gwaith yn hanfodol bwysig, ond mae’r math o waith a wnânt yr un mor allweddol. Credaf yn gryf y dylem fod yn anelu at economi sy’n galw am weithlu medrus ac addysgedig, ac un sy’n rhoi cyfle i bawb. Fodd bynnag, Ysgrifennydd y Cabinet, beth mae’r record yn ei ddangos ar ôl 25 mlynedd o reolaeth Lafur? Gweithwyr Cymru sydd â'r pecyn cyflog lleiaf ymhlith pedair gwlad y DU. Felly, mae'r Llywodraeth Lafur hon nid yn unig yn fodlon â'r lefelau uchaf o anweithgarwch economaidd, Lywydd, mae hi hefyd yn barod i gadw gweithlu Cymru yn dlotach. Pam?
Wel, mae hynny braidd yn haerllug gan rywun sy’n cynrychioli plaid a welsom yn dinistrio economi’r DU o dan eu goruchwyliaeth fel rhan o Lywodraeth y DU. Yr hyn sydd ei angen arnom yng Nghymru—yr hyn sydd ei angen ar bob rhan o’r DU, mewn gwirionedd—yw Llywodraeth Lafur yn San Steffan sy’n barod i fuddsoddi yn yr economi ledled y DU, a bydd ganddynt bartner ynom ni yma yng Nghymru i wneud hynny. A dweud y gwir, mae'r darlun mewn perthynas â chyflogaeth ieuenctid yn fwy cadarnhaol nag y mae'r Aelod yn ei ddisgrifio. Bydd yn gwybod am y llwyddiant a gawsom drwy'r warant i bobl ifanc, a byddai ei blaid ef wedi gwneud yn dda i efelychu rhaglen o'r fath ledled y DU.
Wel, fe glywsom yn gwbl glir gan arweinydd y Blaid Lafur ddoe y bydd trethi’n codi o dan Lywodraeth Lafur. Ac mae’n amlwg fod mynd i’r afael â lefelau cyflogaeth ac ansawdd swyddi yn hanfodol ar gyfer twf economaidd Cymru. Fodd bynnag, er ein bod wedi cael chwarter canrif o Lywodraethau Llafur, mae Cymru yn dal i wynebu’r gyfradd uchaf o anweithgarwch economaidd a’r cyfraddau cyflog isaf ymhlith pedair gwlad y DU. Yn ogystal, mae gennym y gyfradd oroesi isaf i fusnesau ymhlith pob un o wledydd y DU, problem sy'n cael ei dwysáu gan benderfyniad Llywodraeth Cymru i dorri rhyddhad ardrethi busnes o 75 y cant i 40 y cant, gan effeithio ar fusnesau ledled Cymru. Rydym ni y Ceidwadwyr Cymreig yn gweld dyfodol cyffrous i’n heconomi, a fydd yn arwain at ffyniant ledled Cymru, drwy fentrau fel parth buddsoddi Caerdydd a Chasnewydd a pharth buddsoddi Wrecsam a sir y Fflint, y porthladd rhydd Celtaidd a phorthladd rhydd Ynys Môn, a’r cyfle trawsnewidiol a ddaw gyda'r môr Celtaidd drwy ffermydd gwynt arnofiol ar y môr, a phrosiectau ynni eraill, megis ynni niwclear newydd yn Wylfa a Thrawsfynydd. Ac eto, ymddengys bod Llafur yn dal Cymru yn ôl. Felly, o ystyried y problemau parhaus hyn ynghylch anweithgarwch economaidd, y cyfraddau cyflog isaf a'r cyfraddau goroesi isaf i fusnesau, pa gamau pendant y byddwch yn eu cymryd, fel Gweinidog yr economi, i wella economi Cymru?
Mae gennym y lefelau uchaf erioed o chwyddiant, y lefelau llog uchaf erioed, a'r lefelau uchaf erioed o fusnesau'n mynd i'r wal ledled y DU o dan oruchwyliaeth Llywodraeth Geidwadol sydd wedi esgeuluso economi’r DU, a chredaf y byddai mwy o rym i ddadleuon yr Aelod pe baent yn glynu wrth y ffeithiau. Nid yw'n wir o gwbl fod Keir Starmer wedi dweud y bydd y baich treth yn cynyddu. Y rheswm pam na fydd hynny’n digwydd yw am fod aelwydydd o dan y Ceidwadwyr yn wynebu’r lefelau treth uchaf ers degawdau. Dyna’r record y bydd pobl Cymru yn pleidleisio arni ymhen pum wythnos.
Llefarydd Plaid Cymru, Luke Fletcher.
Diolch, Lywydd. Ysgrifennydd y Cabinet, hoffwn ymateb i ddadl y Llywodraeth ddoe ar ddur a mynegi fy siom fod gwelliannau Plaid Cymru i’r cynnig wedi eu gwrthod. Ni chredaf y gall y Llywodraeth, na’r Torïaid o ran hynny, honni gydag unrhyw hygrededd eu bod yn dymuno gwneud rhywbeth ynglŷn â hyn os nad ydynt hyd yn oed yn fodlon ymrwymo i archwilio'r opsiynau eraill a gynigiwyd. Mae’r hyn y mae Plaid Cymru wedi’i awgrymu yn rhywbeth y gallai Llywodraeth Cymru ei wneud yn hawdd. Ac fel y gwnaeth Adam Price ein hatgoffa neithiwr, y Senedd yw’r cyfan sydd ar ôl o ganlyniad i’r etholiad cyffredinol. Y lle hwn yw'r amddiffynfa olaf. Ac er fy mod yn gwerthfawrogi ei gydnabyddiaeth mai Plaid Cymru sydd wedi bod yn cynnig yr atebion hyn, ei Lywodraeth ef sydd â'r adnoddau i wneud y gwaith a darparu atebion i weld a yw'r atebion posibl hyn yn ymarferol. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet gydnabod hynny o leiaf?
Nid wyf yn dymuno bod yn anghwrtais—rwy’n deall grym rhethregol dadl yr Aelod, ond credaf ei bod yn bwysig iawn, wrth ymdrin â’r sefyllfa sy’n datblygu yn Tata, ein bod yn ymdrin â’r hyn sy’n digwydd ar lawr gwlad a’r hyn y dywed y gweithlu wrthym sy'n realistig yn eu barn nhw. Nid yw’r dadleuon a wnaed yn y ddadl ddoe ynghylch diogelwch cynllunio i un ased mewn cyfleuster dur integredig—wedi’i gymryd i feddiant corff nad oedd ganddo weithlu i’w gynnal, gellid tybio, ymhlith heriau eraill—yn teimlo i mi fel ateb ymarferol i'r her a wynebir gan y gweithlu yn Tata. Felly, dyna pam ein bod wedi bod yn dweud—. Gwyddom fod cynllun gwahanol i'w gael, a gwn fod ei blaid ef, fel ninnau, yn cefnogi’r cynllun amgen hwnnw. Y ddadl yr oeddwn yn ei gwneud ddoe yw bod gennym y posibilrwydd nawr o lywodraeth newydd gydag ymrwymiad gwirioneddol, wedi’i hategu gan gyllid, i weledigaeth wahanol ar gyfer dur. Ymddengys i mi mai dyna’r ddadl y mae angen inni barhau i’w datblygu, gan fod y dirwedd ar fin newid.
Fel roeddwn yn ei ddweud ar ddiwedd fy araith ddoe, mae'r Llywodraeth wedi ymrwymo i strategaeth ddiwydiannol a fydd yn cynyddu’r galw am ddur ledled y DU, buddsoddiad yn y sector ynni adnewyddadwy, a fydd yn creu galw pellach, buddsoddiad yn y grid, ac ymrwymiad penodol, yn hollbwysig, i gynhyrchu dur. Ymddengys i mi mai dyna'r dirwedd well ar gyfer dadlau dros set wahanol o benderfyniadau gan Tata.
Mae'n rhaid imi ddweud, cefais fy synnu ddoe gan sylw Ysgrifennydd y Cabinet pan ddywedodd nad yw'r atebion yr wyf i ac Adam Price wedi'u hyrwyddo wedi'u gwreiddio mewn realiti. Mae wedi ailadrodd hynny yma nawr. Ond y realiti fel y'i gwelaf yw bod y cau ar fin digwydd, mae Tata yn gwrthod newid eu trywydd, a hyd yn oed yn ystyried cyflymu'r broses o bosibl mewn ymateb i weithwyr yn sefyll dros eu hawliau, ac mae mwy a mwy o alw am berchnogaeth gyhoeddus gan bob rhan o gymdeithas—gan gynnwys y Gynghrair Cymunedau Diwydiannol. Hynny yw, os yw'r hyn a ddywedir ynglŷn â gwasanaeth sifil y DU yn ystyried gwladoli yn opsiwn posibl yn wir, yna byddai hynny'n arwyddocaol. Nawr, gadewch inni ystyried yr ateb sydd wedi'i wreiddio mewn realiti yn ôl Ysgrifennydd y Cabinet: aros am Lywodraeth Lafur y DU. Ai dyna mae’r Llywodraeth wedi bancio popeth arno? Oherwydd mae honno'n strategaeth beryglus. Ac yn y realiti rwyf newydd ei disgrifio, nid yw hynny'n argoeli'n dda ar gyfer y strategaeth honno.
Gŵyr yr Aelod yn iawn nad wyf yn cwestiynu unrhyw benderfyniad i gymryd y mathau o gamau y mae’n eu hargymell yn ei gwestiynau, fel y gwnaeth ddoe, gyda grym neu ewyllys da—nid yw'r penderfyniadau hynny yn benderfyniadau y gall Llywodraeth Cymru eu gwneud oherwydd maint y buddsoddiad sydd ei angen i wireddu hynny fel canlyniad. Dyna’r realiti o ran cydbwysedd pŵer a chyllid rhwng Llywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru. O ystyried y gwnaed ymrwymiad ar gyfer cyllid ychwanegol sylweddol yn uniongyrchol i gynhyrchiant dur, yr hyn a wnawn ni yw dadlau dros archwilio model gwahanol yn erbyn y cefndir hwnnw. Mae’n gwneud y pwynt ynglŷn â dull gweithredu gwahanol ar ran Llywodraeth y DU. Mater i Lywodraeth y DU fyddai hynny. Mae ganddi’r pwerau i wneud hynny, nid yw’r pwerau hynny gennym ni yng Nghymru.
Rwyf wedi derbyn o'r cychwyn fod Llywodraeth Cymru yn gyfyngedig o ran yr hyn y gall ei wneud, ond nid yw hynny'n eich atal rhag galw ar Lywodraeth y DU i wneud y penderfyniadau hyn ynglŷn â gwladoli, neu hyd yn oed cadwraeth. Nawr, mae'r Llywodraeth wedi bod yn gyndyn i wneud hynny hyd yn hyn. Ymddengys ei bod yn dal yn y sefyllfa honno. Yr hyn sy'n peri pryder mawr yw'r diffyg manylion ynghylch sut mae'r fargen £3 biliwn a gyflwynwyd gan Lafur—sut y caiff ei defnyddio mewn gwirionedd. Mae'r diffyg manylion—. Gyda phob parch, fe wnaethom alw am fanylion—a gellir dweud yr un peth am y polisi hwn. Ymddengys nad oes unrhyw un yn gallu rhoi atebion manwl i'r hyn y mae'n ei olygu. A chyda Tata yn bygwth cyflymu'r amserlen ar gyfer cau, mae'r manylion yn hollbwysig. Pa drafodaethau a gafwyd gyda Llywodraeth Lafur newydd bosibl yn y DU ynghylch y fargen honno? Rwy’n gofyn cwestiynau tebyg i'r rhai a ofynnwyd i ni. Sut y bydd yn gweithio'n ymarferol? Pa warantau sydd ar waith? Sut y byddai unrhyw fuddsoddiad sy'n arwain at linell gynhyrchu newydd, er enghraifft, yn gweithio, ac a fyddai'n ymarferol. Fe fyddaf yn onest, rwyf eisiau credu y bydd newid Llywodraeth yn arwain at bontio teg ac at ddiogelu ein diwydiant dur, ond hyd yn hyn, fe ofynnir i mi, fel llawer o rai eraill, gynnig fy ffydd yn ddall.
Wel, credaf y byddai’n ddefnyddiol pe bai'r Aelod yn cydnabod y ffaith bod lefel yr ymrwymiad y mae Llywodraeth Lafur newydd yn ei haddo yn newid sylweddol o’r hyn sydd ar y bwrdd ar hyn o bryd. [Torri ar draws.] Ac rwy'n ddiolchgar i'r Aelod am wneud hynny a'i ailadrodd eto yma heddiw. Mae’r cyllid—ac mae trafodaethau wedi bod, yn amlwg—ynghylch sut y caiff ei ddefnyddio yn fater y bydd angen gweithio arno ar y cyd â chwmnïau cynhyrchu dur yn y DU, ond nid yw hynny’n rhywbeth y gall gwrthblaid ei wneud. Y pwynt rwy'n ei wneud i chi, a chredaf fy mod wedi gwneud y pwynt yn y drafodaeth hon, os caf ddweud, yw bod hynny'n newid sylweddol o’r dirwedd bresennol, ac felly fod angen edrych eto ar benderfyniadau sy’n cael eu gwneud heddiw yng nghyd-destun yr hyn a fyddai’n Llywodraeth y DU lawer mwy cefnogol, un sydd wedi ymrwymo go iawn i gynhyrchu dur, ond hefyd i greu’r galw yn yr economi am gynhyrchu mwy o ddur.