Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau

Part of 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a’r Gymraeg – Senedd Cymru am 1:44 pm ar 5 Mehefin 2024.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Jeremy Miles Jeremy Miles Llafur 1:44, 5 Mehefin 2024

(Cyfieithwyd)

Mae gennym y lefelau uchaf erioed o chwyddiant, y lefelau llog uchaf erioed, a'r lefelau uchaf erioed o fusnesau'n mynd i'r wal ledled y DU o dan oruchwyliaeth Llywodraeth Geidwadol sydd wedi esgeuluso economi’r DU, a chredaf y byddai mwy o rym i ddadleuon yr Aelod pe baent yn glynu wrth y ffeithiau. Nid yw'n wir o gwbl fod Keir Starmer wedi dweud y bydd y baich treth yn cynyddu. Y rheswm pam na fydd hynny’n digwydd yw am fod aelwydydd o dan y Ceidwadwyr yn wynebu’r lefelau treth uchaf ers degawdau. Dyna’r record y bydd pobl Cymru yn pleidleisio arni ymhen pum wythnos.