Part of 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a’r Gymraeg – Senedd Cymru am 1:48 pm ar 5 Mehefin 2024.
Gŵyr yr Aelod yn iawn nad wyf yn cwestiynu unrhyw benderfyniad i gymryd y mathau o gamau y mae’n eu hargymell yn ei gwestiynau, fel y gwnaeth ddoe, gyda grym neu ewyllys da—nid yw'r penderfyniadau hynny yn benderfyniadau y gall Llywodraeth Cymru eu gwneud oherwydd maint y buddsoddiad sydd ei angen i wireddu hynny fel canlyniad. Dyna’r realiti o ran cydbwysedd pŵer a chyllid rhwng Llywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru. O ystyried y gwnaed ymrwymiad ar gyfer cyllid ychwanegol sylweddol yn uniongyrchol i gynhyrchiant dur, yr hyn a wnawn ni yw dadlau dros archwilio model gwahanol yn erbyn y cefndir hwnnw. Mae’n gwneud y pwynt ynglŷn â dull gweithredu gwahanol ar ran Llywodraeth y DU. Mater i Lywodraeth y DU fyddai hynny. Mae ganddi’r pwerau i wneud hynny, nid yw’r pwerau hynny gennym ni yng Nghymru.